Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am ddeddfwriaeth caffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Caffael

Mae’r Bil Caffael yng nghyfnod Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin, lle mae cyfle pellach i graffu ar y Bil. Cam nesaf y daith yw’r Cyfnod Adrodd, lle gall ASau ystyried gwelliannau pellach.

Yn ystod y cyfnod Pwyllgor, cytunwyd ar sawl gwelliant sy’n effeithio ar Gymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Diwygiad i’r diffiniad o awdurdod Cymreig datganoledig, sy’n ei gwneud yn glir bod rheolau Cymru yn gymwys i awdurdodau o’r fath os ydynt yn gweithredu neu’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.
  • Diwygio pwerau i wneud darpariaeth ganlyniadol, sy’n golygu y bydd angen i Weinidogion Llywodraeth y DU gael cydsyniad Gweinidogion Cymru wrth arfer y pŵer hwn mewn perthynas â meysydd datganoledig.
  • Gwelliant i sicrhau bod Gweinidog y Goron yn ceisio cydsyniad y Gweinidogion cyn dechrau’r Bil ar gyfer awdurdodau Cymreig datganoledig fel y’i diffinnir gan y Bil.

Mewn ymateb i’r gwelliannau hyn, gosododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach yn ddiweddar. Mae Rebecca Evans AS yn argymell cydsynio i elfennau caffael craidd y Bil. Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn fuan. 

Y diweddaraf ar Dryloywder

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cyhoeddi diweddariad Tryloywder Diwygio’r Broses Gaffael sy'n dilyn y diweddariad a gyhoeddwyd gennym ym mis Hydref.

Mae'r diweddariad yn rhoi manylion am gynnydd newidiadau system Llywodraeth Cymru a darpariaeth systemau Llywodraeth y DU ac yn awgrymu camau ymarferol y gall sefydliadau eu cymryd i baratoi ar gyfer y rheolau newydd. Mae'r diweddariad hefyd yn cynnwys manylion am rai o'r dysgu a'r datblygu a fydd ar gael i helpu defnyddwyr drwy'r drefn newydd. Mae rhagor o fanylion am arlwy dysgu a datblygu Llywodraeth y DU ar gael yma (dolen allanol – Saesneg yn unig). 

Byddwn ni’n parhau i ddarparu diweddariadau pellach wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, anfonwch e-bost at: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru