Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Mawrth 2024 ar ddeddfwriaeth caffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newidiadau i'r ddeddfwriaeth gaffael yng Nghymru - Amserlenni Dysgu a Datblygu

Er mwyn paratoi rhanddeiliaid ar gyfer cyflwyno Deddf Caffael 2023 newydd, a fydd yn rheoleiddio'r ffordd y mae caffael cyhoeddus yn cael ei wneud yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd ystod eang o gynigion Dysgu a Datblygu ar gael i randdeiliaid yn y cyfnod cyn i'r drefn newydd gael ei chyflwyno ym mis Hydref 2024.  

Nod y rhaglen Dysgu a Datblygu hon yw cefnogi pawb sy'n gweithredu o fewn y drefn newydd a bydd yn cynnwys: 

  • Fideos Diferion Gwybodaeth byr ar gyfer yr holl randdeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, Mentrau Gwirfoddol Cymunedol a Chymdeithasol a BBaChau
  • E-Ddysgu â Ffocws 
  • Dysgu Dwys a Manwl 

Mae’r cynigion Dysgu a Datblygu wedi eu cynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithredu mewn swyddogaeth gaffael neu fasnachol yn y sector cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at e-Ddysgu craidd Llywodraeth y DU gyda chwe modiwl e-Ddysgu ychwanegol a fydd yn canolbwyntio ar y dirwedd ddeddfwriaethol ehangach yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am yr amserlenni hyfforddi a’r cynigion ar gael isod.