Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Tachwedd 2023 ar ddeddfwriaeth caffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deddf Gaffael 2023

Rheolau caffael cyhoeddus newydd yn dod yn gyfraith wrth i Gydsyniad Brenhinol gael ei roi i’r Bil Caffael ar 26 Hydref 2023.

Bydd y Ddeddf Gaffael yn disodli'r rheolau caffael sy'n rheoleiddio'r ffordd y caiff contractau cyhoeddus eu caffael ar hyn o bryd. Mae’r Ddeddf newydd hon yn darparu system symlach, hyblyg a mwy tryloyw, a fydd yn caniatáu mwy o ffocws ar werth cymdeithasol ac yn helpu i leihau rhwystrau i fynediad i fusnesau llai a mentrau cymdeithasol.

Bydd y ddeddfwriaeth bresennol yn gymwys hyd nes y bydd y drefn newydd yn mynd yn fyw. Rhagwelir y bydd hynny’n digwydd ym mis Hydref 2024, a bydd yn parhau i fod yn berthnasol i gaffaeliadau a ddechreuwyd o dan yr hen reolau.

Hoffem ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu hymdrechion i'n helpu i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon ac edrychwn ymlaen at barhau i drafod gyda chi wrth i ni baratoi ar gyfer gweithredu'r drefn newydd dros y misoedd nesaf.

Os hoffech dderbyn diweddariadau pellach cofrestrwch i gael ein cylchlythyr yma.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost at: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru

Is-ddeddfwriaeth y Bil Caffael

Mae'r ymateb i'r ymgynghoriad ar is-ddeddfwriaeth y Bil Caffael yn cael ei gwblhau a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Cyflawni caffael cymdeithasol gyfrifol

Mae’r ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol yn nodwedd bwysig o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio roi llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth wraidd eu gweithgarwch caffael.

Ddydd Iau 23 Tachwedd, bydd cangen CIPS De Cymru yn cynnal gweithdy hybrid yng nghampws Arloesedd Sparc yng Nghaerdydd. Bydd y gweithdy’n archwilio cysyniad caffael cymdeithasol gyfrifol a sut caiff ei ddefnyddio, ac yn rhannu arferion gorau, sylwadau ac offer ymarferol i integreiddio caffael cymdeithasol gyfrifol mewn modd cymesur.

Dan arweiniad Carl Thomas, Sue Hurrell ac Alun Richards, bydd y gweithdy'n rhoi cyfle i gyfranogwyr fyfyrio ar yr hyn y gallan nhw ei wneud yn ymarferol yn eu sefydliadau eu hunain i ymgorffori caffael cymdeithasol gyfrifol fel 'y ffordd rydym yn gwneud pethau', ac i helpu i gyflawni'r nodau a'r ffyrdd o weithio o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Am ragor o wybodaeth ac i archebu, cliciwch yma. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ddiwygio’r broses gaffael yng Nghymru, anfonwch e-bost at: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru