Neidio i'r prif gynnwy

Ar 21 Medi 2022, ymddangosodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus er mwyn trafod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caffael a gyflwynwyd gerbron y Senedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y sesiwn, holwyd y Gweinidog ar amryw o bynciau gan Aelod o’r Pwyllgor, gan gynnwys dull deddfwriaethol Llywodraeth Cymru o gaffael, effaith y Bil Caffael a sut y caiff ei weithredu, a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid Cymru.

Wrth ymateb i graffu'r Aelod, tynnodd y Gweinidog sylw at y manteision y byddai dull cydgysylltiedig a chyson o gaffael ar draws y gweinyddiaethau datganoledig yn ei gynnig i brynwyr a chyflenwyr. Mae'r Bil yn cefnogi Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh), a fydd yn elwa o brosesau ymgeisio symlach a mesurau gwell o ran tryloywder.

Fe wnaeth y Gweinidog hefyd ymateb i’r pryder y byddai cael dau ddarn o ddeddfwriaeth caffael yng Nghymru yn arwain at ddryswch. Ategodd y Gweinidog fod y Biliau yn anelu at gyflawni gwahanol bethau:

  • Mae'r Bil Caffael yn canolbwyntio ar y prosesau sy'n gosod y sylfeini ar gyfer caffael
  • Mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn canolbwyntio ar nodau polisi allweddol Cymru, a hynny trwy sicrhau bod ein gweithgareddau caffael yn arwain at ganlyniadau sy’n gymdeithasol gyfrifol.

Wrth i'r ddau Fil barhau ar eu taith trwy'r Seneddau priodol, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n rhanddeiliaid yn ein cylchlythyr misol ac ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol. I danysgrifio i'n cylchlythyr, cliciwch yma. Fel arall, dilynwch ni ar LinkedIn a Twitter.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru