Neidio i'r prif gynnwys

1. Ychwanegu manylion am eich lleoliad

Gallwch weld sut i ychwanegu eich manylion llety ar ein sianel Youtube.

Eich lleoliad yw cyfeiriad eich llety. Er enghraifft, cyfeiriad eich parc gwyliau sydd â phodiau glampio a lleiniau gwersylla. 

Byddwch yn gofyn i chi ychwanegu manylion canlynol eich lleoliad:

  • cyfeiriad
  • enw (fel Fferm Pen Bryn)

Os oes gennych fwy nag un lleoliad

Gallwch ychwanegu mwy o leoliadau a rhoi eu manylion.

2. Ychwanegu manylion am eich llety

Nodwch pa fath o lety rydych chi'n ei gynnig yn eich lleoliad, fel:

  • eich prif gartref i gyd 
  • ystafelloedd sbâr yn eich cartref 
  • llety hunanarlwyo (er enghraifft, bythynnod, tai, fflatiau neu gabannau) 
  • gwesty, gwely a brecwast neu dŷ llety 
  • lleiniau ar gyfer pebyll, carafannau, cartrefi modur neu faniau gwersylla
  • carafannau sefydlog neu gartrefi symudol 
  • glampio (er enghraifft, cytiau bugail, yurtiau, podiau neu debyg) 
  • hostel neu fyncws
  • arall (fel bothies)

Ar ôl i chi ddewis y math o lety, byddwn hefyd yn gofyn am y canlynol:

  • pryd fydd eich llety ar agor yn ystod y flwyddyn
  • nifer yr unedau llety, fel:
    • 50 o leiniau gwersylla
    • 3 bwthyn
    • 20 ystafell
    • 30 o welyau
  • enwau'r unedau os oes rhai (fel Bwthyn y Blodau)
  • y nifer mwyaf o bobl sy'n gallu aros yn y llety

Os oes gennych fwy nag un math o lety

Gallwch ychwanegu mwy o fathau o lety. 

Enghraifft o ychwanegu manylion llety os ydych yn cadw hostel

Mae Seren yn rhedeg hostel yng Nghaerdydd. Dim ond yn yr haf y mae ei hostel ar agor. Mae ei gwesteion yn gallu archebu gwelyau mewn ystafelloedd i’w rhannu. Mae ganddi 10 ystafell. Mae 6 gwely ym mhob ystafell. 

Dyma sut y byddai Seren yn ychwanegu manylion ei llety: 

  • math: hostel neu fyncws
  • ar agor ar gyfer archebion: 4 i 6 mis o'r flwyddyn
  • nifer yr unedau: 60 o welyau
  • nifer y bobl: 60

3. Gwirio’r manylion, cadw’r wybodaeth a gorffen eich cofrestriad

Gwiriwch fod y manylion yn gywir, cadwch y wybodaeth a gorffennwch eich cofrestriad. 

Byddwn yn anfon e-bost cadarnhau neu lythyr atoch gyda'ch rhif cofrestru.