Mae'r ffenest gais ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg 2025 i 2026 nawr ar agor.

Mae'r Lwfans yng Nghymru yn cynnig £40 yr wythnos i ddysgwyr cymwys rhwng 16 a 18 oed i helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig ag addysg fel cludiant, prydau bwyd a deunyddiau dysgu. Cynigir cyfradd is, sef £30, yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a daethpwyd ag ef i ben yn Lloegr yn 2011.
Erbyn hyn, gall mwy o ddysgwyr elwa o'r cynllun yn sgil codi'r trothwyon incwm:
- Mae aelwydydd sydd ag un plentyn dibynnol bellach yn gymwys os yw eu hincwm yn £23,400 neu lai.
- Mae aelwydydd sydd â dau neu fwy o blant dibynnol bellach yn gymwys os yw eu hincwm yn £25,974 neu lai.
Dywedodd Raonaq, dysgwr yn Ysgol Uwchradd Fitzalan:
"Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi fy helpu i ganolbwyntio llawer mwy ar yr ysgol, oherwydd heb y cymorth hwn byddai’n rhaid i mi gael swydd ran-amser. Byddai hyn wedi ei gwneud hi'n anoddach i mi astudio ac adolygu ar gyfer arholiadau. Mae wedi fy helpu gyda chostau deunyddiau ysgrifennu, cludiant i'r ysgol ac yn ôl adre, a chymryd rhan mewn cystadlaethau ysgrifennu. Dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu fforddio’r costau hyn heb y lwfans."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
"Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn system gymorth hanfodol sy'n helpu pobl ifanc i barhau â'u haddysg heb rwystrau ariannol. Mae dysgwyr wedi dweud wrtha i am yr effaith gadarnhaol y mae'r Lwfans wedi'i chael ar eu taith addysgol drwy eu helpu gyda chostau bob dydd.
"Roeddwn i wrth fy modd yn cael cyhoeddi yn gynharach eleni fod ystod y rhai sy'n gymwys yn cael ei ymestyn, gan sicrhau bod y cymorth hwn ar gael i fwy o fyfyrwyr. Dw i am annog pob person ifanc 16 i 18 oed a'u teuluoedd yn gryf i holi a ydyn nhw'n gymwys, hyd yn oed os nad oedden nhw o'r blaen."
Gall dysgwyr newydd a dysgwyr sy'n parhau wirio eu cymhwysedd a gwneud cais ar-lein ar wefan y Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu siarad â'u hysgol neu goleg am gymorth gyda cheisiadau.