Neidio i'r prif gynnwy

Hawlia dy arian

Bob blwyddyn, mae dros £1 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru.

O’r Credyd Pensiwn a’r Lwfans Gofalwyr, i’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a chymorth i dalu dy fil Treth y Cyngor.

Fe allet ti gael mwy o arian i helpu gyda chostau byw, hyd yn oed os wyt ti’n hawlio budd-daliadau’n barod.

Paid colli allan, gall Advicelink Cymru dy helpu i checio a hawlio dy arian.

Ffonia linell gymorth Advicelink Cymru am ddim

Pan fyddi'n ffonio Advicelink Cymru, ar 0800 702 2020, cei gyngor cyfrinachol am ddim.

Gallai Advicelink Cymru dy helpu i hawlio:

  • Credyd Pensiwn: £1,800 (ar gyfartaledd)
  • Gostyngiad Treth y Cyngor: arbedion o £800 (ar gyfartaledd)
  • Mwy o arian os wyt ti'n ofalwr neu'n astudio

Fe allan nhw hefyd drefnu i ti gael help gyda dyledion a chyllid personol.

Mae'r llinell gymorth ar agor o 8am i 7pm, dydd Llun i ddydd Gwener, a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn. Mae croeso i ti ffonio yn Gymraeg.

Beth sy'n digwydd pan fydda i’n ffonio'r llinell gymorth?

Pan fyddi'n cysylltu ag Advicelink Cymru, bydd cynghorydd hyfforddedig yn siarad â ti i drafod dy amgylchiadau a dy helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau a allai fod ar gael i ti.

Bydd y cynghorydd yn dy gefnogi trwy gydol y broses o hawlio dy arian ac yn dy helpu i lenwi unrhyw ffurflenni perthnasol.

Gall y cynghorydd hefyd roi gwybod i ti pa dystiolaeth fydd ei hangen er mwyn cefnogi dy gais.

Am help a chefnogaeth gyda chostau byw

Darganfydda fwy am yr help a’r cyngor sydd ar gael i ti.