Neidio i'r prif gynnwy

Bwriedir i’r adroddiad hwn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyfer addysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghymru.

Diben yr Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth yw llywio gwaith Llywodraeth Cymru yn cynllunio darpariaeth y Gymraeg i ddysgwyr 3-16 oed, a hynny wrth iddi fynd ati i ddiwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru.

Mae’n asesu ymchwil ar arferion ac ymyriadau addysgu ail iaith a ddefnyddir mewn cyd-destunau rhyngwladol a chenedlaethol yr un fath â Chymru neu’n gyffelyb iddi, gan roi sylw i’r cwestiwn ymchwil canlynol:

‘Pa ymagweddau a dulliau addysgu sy’n effeithiol wrth ddatblygu cymhwysedd ail iaith dysgwyr ifanc, yn ôl tystiolaeth empirig o ansawdd uchel?’

Cyflwynir canfyddiadau’r astudiaeth mewn synthesisau o’r dystiolaeth, o dan chwe maes cymhwysedd iaith: geirfa, gramadeg, darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando, a chymhwysedd iaith gyffredinol. 

Mae’r adroddiad yna’n cyflwyno crynodeb o’r canfyddiadau wedi’u cymhwyso i gyd-destun Cymru. Mae hefyd yn nodi bod materion seicoieithyddol, cymdeithasol-ieithyddol, addysgol ac affeithiol allweddol, a hepgorwyd o gwmpas yr astudiaeth hon, sy’n berthnasol i ddyfodol addysg iaith Gymraeg effeithiol, ac yn nodi meysydd sydd yn haeddu sylw ymchwil pellach.

Adroddiadau

Ymagweddau a dulliau addysgu ail iaith effeithiol: asesiad cyflym o’r dystiolaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymagweddau a dulliau addysgu ail iaith effeithiol: asesiad cyflym o’r dystiolaeth (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 447 KB

PDF
447 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catrin Redknap

Rhif ffôn: 0300 025 5720

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.