Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Addysg at Estyn ar gyfer 2021 i 2022, a gomisiynodd Estyn i ystyried y dulliau o asesu yn y dosbarth sy'n cefnogi dysgu.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig a gynhelir yn datblygu dulliau effeithiol o asesu a gwella addysgu a dysgu. Mae’r adroddiad yn rhan o gyfres o adroddiadau sy'n rhoi arweiniad yn ystod y cyfnod o newid mewn addysg i'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r adroddiad yn ystyried yn benodol y cynllunio ar gyfer asesu, defnyddio asesu i gefnogi addysgu ymatebol a datblygu dulliau cydweithredol o asesu yn yr ystafell ddosbarth.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Canfu Estyn bod yr arweinwyr yn y rhan fwyaf o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw wedi ystyried yn ofalus sut y gellir datblygu dulliau o asesu i adlewyrchu cyd-destun y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r ysgolion sydd â threfniadau asesu effeithiol wedi ystyried rôl asesu yn y Cwricwlwm i Gymru ac wedi datblygu polisïau ac arferion clir a defnyddiol sy'n cyd-fynd ag egwyddorion a dibenion asesu, fel y nodir yng nghanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr, canllawiau asesu’.

Nododd Estyn fod arferion asesu yn effeithiol pan roddir blaenoriaeth i rôl asesu ffurfiannol mewn addysgu a dysgu, gydag ymarferwyr yn meddu ar ddealltwriaeth glir o bwrpas asesu, sut mae'n cefnogi dysgu, a'i rôl o ran mireinio addysgu.

Nododd Estyn fod arferion yn effeithiol pan fydd arweinwyr yn deall yr angen i athrawon fod yn rhan o’r broses o ddatblygu polisïau ac arferion ar gyfer asesu, a phan fyddant yn buddsoddi mewn dysgu proffesiynol ac yn rhoi amser a lle i athrawon ddatblygu dealltwriaeth o asesu ffurfiannol gan roi amrywiaeth o strategaethau iddynt ddewis ohonynt i gefnogi orau anghenion disgyblion unigol. 

Nododd Estyn bwysigrwydd defnyddio'r wybodaeth sy'n llifo o asesu cynnydd dysgwyr i lywio addysgu a dysgu a dulliau o gynllunio'r cwricwlwm, gan nodi bod angen gallu defnyddio'r wybodaeth hon i fireinio'r addysgu.

Nododd hefyd ei bod yn bwysig i ddisgyblion fod â dealltwriaeth glir o'r dysgu bwriadedig a sut beth yw llwyddiant mewn sesiynau a chael adborth adeiladol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cyfoedion a hunanasesu, sy'n eu herio i fod yn gynyddol effeithiol ac annibynnol o ran symud eu dysgu eu hunain ymlaen.

Argymhellion

Mae cyfanswm o chwe argymhelliad yn cael eu cyflwyno yn yr adroddiad, ac mae pedwar ohonyn nhw ar gyfer ysgolion a dau ar gyfer Llywodraeth Cymru, consortia ac awdurdodau lleol.

Dylai ysgolion:

  1. Flaenoriaethu ymagweddau at asesu sy’n dyfnhau dealltwriaeth athrawon o ddysgu disgyblion a’u cynnydd.
  2. Datblygu dealltwriaeth athrawon ac arweinwyr o arferion asesu ffurfiannol effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.
  3. Sicrhau bod athrawon yn defnyddio gwybodaeth am asesu i addasu eu haddysgu i gefnogi a herio’r holl ddisgyblion yn briodol.
  4. Ymgorffori cyfleoedd systematig i ddisgyblion ddatblygu eu medrau mewn gwerthuso a gwella eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1 i 4

Nodi argymhellion 1 i 4

Bwriad yr argymhellion hyn yw gwreiddio dulliau asesu sy'n cefnogi egwyddorion asesu fel y'u nodir yng nghanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr, canllawiau asesu’. Nod yr argymhellion yw cefnogi blaenoriaethu dulliau asesu ffurfiannol sy'n hwyluso dealltwriaeth o gynnydd dysgwyr unigol ac yn helpu ymarferwyr i deilwra addysgu a dysgu i ddiwallu orau anghenion dysgwyr unigol. 

Yn ogystal â’r chanllawiau ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr, canllawiau asesu’, sy'n amlinellu'r egwyddorion a'r dulliau sydd eu hangen i gefnogi asesu effeithiol wrth gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi creu nifer o adnoddau ategol er mwyn ehangu dealltwriaeth a chefnogi'r gwaith o ddarparu asesiadau yn y Cwricwlwm i Gymru ymhellach. 

Cyhoeddwyd nifer o adnoddau yn yr adran Cwricwlwm i Gymru ar Hwb ym Mehefin 2022 i helpu i ennyn dealltwriaeth well o gynnydd, asesu a chynllunio’r cwricwlwm. Rhannwyd y rhain yn uniongyrchol gydag ysgolion a lleoliadau yn ogystal â’r consortia, i'w defnyddio ochr yn ochr â'u cynnig Dysgu Proffesiynol ehangach.

Cyhoeddwyd y gweithdai 'CAMAU: Asesu ar gyfer y Dyfodol' gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Cyfres o 6 gweithdy yw'r rhain a ddyluniwyd i'w defnyddio gan ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau i ddatblygu gallu a sgiliau sy'n gysylltiedig ag asesu yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r gweithdai'n dwyn ynghyd arbenigedd polisi, ymchwil ac ymarferwyr i feithrin gallu mewn ysgolion wrth iddynt ddefnyddio canllawiau asesu’r Cwricwlwm i Gymru a datblygu dulliau asesu sydd wedi'u cynllunio i wella cynnydd mewn dysgu. Mae’r 6 gweithdy wedi’u trefnu’n 3 pâr: cynnydd ac asesu; canolbwyntio ar y dysgwr; ac integreiddio’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg. Mae pob pâr o weithdai yn rhoi sylw i thema benodol sy’n hollbwysig o ran asesu a chynllunio cwricwlwm a themâu a godwyd yn adroddiad Estyn.

Wrth ddatblygu’r gweithdai ‘CAMAU: Asesu ar gyfer y Dyfodol’ sefydlwyd grŵp cynghori ar y cyd sy'n cynnwys aelodau o'r haen ganol. Cydnabyddwyd yn nhrafodaethau grŵp y byddai’n fuddiol cynhyrchu adnoddau dilynol i adeiladu ar y gweithdai Asesu ar gyfer y Dyfodol a chydgrynhoi arferion ystafell dosbarth ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r gwaith o gynhyrchu deunyddiau ychwanegol i gefnogi Dysgu Proffesiynol a fydd yn ceisio datblygu dealltwriaeth, gallu a sgiliau ymarferwyr o ran asesu a chynnydd er mwyn cefnogi eu harferion wrth iddynt ddefnyddio canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r deunyddiau ychwanegol hyn wrthi’n cael eu datblygu a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ystod tymor yr hydref.

Dylai Llywodraeth Cymru, consortia ac awdurdodau lleol:

  1. Ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol adeiladol i ysgolion wella’u dealltwriaeth a’u defnydd o arferion asesu ffurfiannol.
  2. Hwyluso a chefnogi cydweithio ar draws ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth arweinwyr ac athrawon o ddilyniant, a rhannu arfer effeithiol mewn asesu ffurfiannol.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 5 i 6

Derbyn argymhellion 5 i 6

Mae'r argymhellion hyn yn canolbwyntio ar rôl Llywodraeth Cymru, consortia/partneriaethau ac awdurdodau lleol o ran cefnogi ysgolion i ddeall yn well a gweithredu arferion asesu effeithiol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r pecyn o adnoddau ategol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac y cyfeirir atynt uchod, ynghyd â'r deunyddiau dysgu proffesiynol ychwanegol sy'n cael eu datblygu, yn ceisio gwella dealltwriaeth a defnydd ysgolion o arferion asesu ffurfiannol. Mae'r adnoddau hyn wedi'u datblygu ar y cyd â chonsortia er mwyn sicrhau bod y pecyn o ddeunyddiau'n targedu anghenion penodol ysgolion mewn perthynas ag asesu. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda chonsortia ac awdurdodau lleol i nodi ffyrdd o gefnogi anghenion dysgu proffesiynol.

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i hwyluso a chefnogi cydweithio ar draws ysgolion (argymhelliad 6) drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu'r Cwricwlwm. Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn dwyn ynghyd gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid galluogi, gan gynnwys consortia rhanbarthol ac Estyn, er mwyn nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau a'r cyfleoedd mewn perthynas â gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

Gan adeiladu ar y sgyrsiau ar gynnydd a gafwyd yn ystod hydref 2020, cynhaliwyd sgyrsiau Cynnydd ac Asesu yn ystod tymor y gwanwyn 2021 lle daeth y cyfranogwyr ynghyd o bob rhan o Gymru i rannu eu dealltwriaeth o gynnydd a sut y gellir ei asesu'n effeithiol. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ddeall a chynllunio ar gyfer cynnydd yng Nghwricwlwm ysgol a sut mae arferion asesu’n cael eu datblygu i gefnogi'r cynnydd hwnnw ar draws ehangder y Cwricwlwm, canolbwyntiodd sgyrsiau'r gwanwyn ar ddatblygu dealltwriaeth o ddulliau effeithiol o gyd-greu o fewn ac ar draws ysgolion er mwyn helpu i ddatblygu ymhellach arferion mewn perthynas â chynllunio cynnydd ac asesu. Mae'r adnoddau ar gyfer y sgyrsiau hyn ar-lein o hyd yn adran y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu'r Cwricwlwm ar wefan Hwb i gefnogi arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion i gynnal sgyrsiau yn eu hysgolion nhw.

Bydd y Sgwrs Genedlaethol yn nhymhorau’r hydref a gwanwyn 2022 i 2023 yn canolbwyntio ar Gynllunio’r Cwricwlwm ac Asesu, a bydd hyn yn helpu ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd fel y nodir yn y Cyfarwyddyd mewn perthynas â datblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac yn gyfle i gyd-greu dulliau gweithredu ac ysgogi newid mewn arferion asesu.   

Manylion cyhoeddi