Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer y cleifion cofrestredig a dosbarthiad oedran y gweithlu ar 30 Medi 2017.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn nata ffynhonnell y datganiad hwn. Ceir manylion llawn yn y datganiad ystadegol.  Cynghorir trin y niferoedd a gyflwynir yn y datganiad hwn â gofal.

Gostyngodd nifer y meddygon teulu yng Nghymru rhwng 2016 a 2017, ond ar y llaw arall bu cynnydd yn nifer y meddygon teulu locwm. Fodd bynnag, mae problemau ansawdd data yn golygu bod y cwymp yn nifer y meddygon teulu yn debygol o gael ei orbwysleisio. Yn gyffredinol, roedd cyfanswm nifer y meddygon teulu (gan gynnwys ymarferwyr locwm, cofrestryddion ac ymarferwyr wrth gefn) yn debyg iawn i'r nifer yn 2016.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,926 meddyg teulu yn 2017, 83 (neu 4.1%) yn llai nag yn 2016, fodd bynnag, mae ffynhonnell arall yn awgrymu y gallai'r gostyngiad hwn fod cyn lleied â 26.
  • Roedd 754 meddyg teulu locwm yn 2017, 70 (neu 10.2%) yn fwy nag yn 2016, sy'n parhau â’r duedd bod nifer y meddygon teulu locwm yn cynyddu.
  • Roedd 239 o gofrestryddion ymarferwyr cyffredinol(hyfforddeion) yn 2017, 7 yn fwy nag yn 2016.
  • I fesur meddygon teulu yn fwy cyflawn, dylid cynnwys pob meddyg teulu, staff locwm, ymarferydd wrth gefn a chofrestrydd. Y cyfanswm yn 2017 oedd 2,936, 8 yn llai nag yn 2016 (0.3%).
  • Mae dadansoddiad ychwanegol yn dangos bod ychydig dros hanner o'r 212 o feddygon teulu a adawodd y gweithlu rhwng 2016 a 2017 wedi ail-ymuno fel meddygon teulu locwm. Felly, ni ddylid defnyddio ffigurau’r rheiny sydd wedi gadael fel y rhai nad ydynt yn gweithio fel meddyg teulu bellach.
  • Mae llai o bractisau meddygon teulu nag yr oedd, ond y duedd yw bod mwy o feddygon teulu ym mhob practis.
  • Mae'r duedd o weld cynnydd yn nifer y meddygon teulu benywaidd wedi parhau.

Adroddiadau

Ymarferwyr meddygol cyffredinol, ar 30 Medi 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cleifion cofrestredig a nifer ymarferwyr meddygon teulu yn ôl practis, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 94 KB

ODS
Saesneg yn unig
94 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Poblogaethau practisau meddygon teulu yn ôl rhyw a grŵp oedran, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 223 KB

ODS
Saesneg yn unig
223 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymarferwyr meddygon teulu yn ôl oedran a chlwstwr, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 61 KB

ODS
Saesneg yn unig
61 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gweithlu meddygon teulu fesul clwstwr, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 146 KB

ODS
Saesneg yn unig
146 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cleifion cofrestredig yn ôl practis, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 146 KB

ODS
Saesneg yn unig
146 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.