Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r targed wedi’i gyrraedd bob mis ers cychwyn cynllun peilot i dreialu model ymateb clinigol ym mis Hydref 2015.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Disgwylir i o leiaf 65% o’r ymatebion i alwadau coch gyrraedd o fewn wyth munud.  Mae’r targed wedi’i gyrraedd bob mis ers cychwyn cynllun peilot i dreialu model ymateb clinigol ym mis Hydref 2015. Nod y cynllun peilot yw gwella’r canlyniadau i gleifion trwy roi blaenoriaeth i bobl sydd mewn perygl mawr o farw.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething:

“Er bod y galw’n cynyddu’n gyson, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru unwaith eto wedi rhagori ar y targed o wyth munud ar gyfer ymateb i alwadau at bobl y mae eu bywydau yn y fantol.

“Llwyddwyd i gyrraedd o fewn llai nag wyth munud at fwy na saith o bob deg o bobl a oedd angen sylw brys, ac o fewn pum munud a hanner at hanner y cleifion o’r fath.”

“Rwy’n falch o weld bod y model ymateb clinigol newydd yn sicrhau bod pobl sydd angen sylw ar unwaith gan ein clinigwyr ambiwlans brys a’u partneriaid yn cael y gofal angenrheidiol. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio’n galed i wella’i berfformiad clinigol yn ogystal â’i allu i ymateb mewn ardaloedd gwledig fel Powys. Hoffwn i ddiolch i’r staff am eu hymdrechion.”