Neidio i'r prif gynnwy

Parhau i wella y mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn erbyn ei dargedau ar gyfer ymateb i alwadau brys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymatebodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i 75.5% o alwadau ar gyfer pobl a oedd â salwch neu anaf a oedd yn bygwth eu bywydau’n uniongyrchol, sef galwadau coch, o fewn wyth munud ym mis Mai. Roedd y ganran hon cryn dipyn yn uwch na’r targed o 65%, ac roedd yn cymharu â 71.1% yn y mis blaenorol. Cafwyd y gwella pellach hwn ym mis Mai er gwaethaf y cynnydd o 5.4% yn nifer cyfartalog y galwadau dyddiol o gymharu â mis Ebrill.  

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon,

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhagori ar ei darged, sef ymateb i 65% o alwadau o fewn wyth munud, am yr wythfed mis yn olynol, er gwaethaf y ffaith bod nifer y galwadau’n codi’n gyson.  

“Roedd hanner y rheini yr oedd angen arnyn nhw gael ymateb ar frys wedi cael yr ymateb hwnnw mewn llai na phum munud, ac roedd pob ardal yng Nghymru wedi gwella ar ei berfformiad ym mis Ebrill er gwaethaf y cynnydd yn y galwadau.

“Hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, wrth i fwy o bobl gael y sylw brys y mae ei angen arnyn nhw mor gyflym.”