Neidio i'r prif gynnwy

Yn gynharach eleni sefydlodd Llywydd yr Is-adran Teulu, Syr Andrew Macfarlane, weithgorau i ystyried arferion a phrosesau mewn cyfraith gyhoeddus a phreifat.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach eleni sefydlodd Llywydd yr Is-adran Teulu, Syr Andrew Macfarlane, weithgorau i ystyried arferion a phrosesau mewn cyfraith gyhoeddus a phreifat, i geisio nodi meysydd i’w gwella o ran y modd y caiff achosion eu rheoli a’r modd o ymateb iddynt yn ystod, a chyn, y prosesau llys. Mae Cafcass Cymru yn aelod o’r ddau weithgor.  Yn gynnar ym mis Gorffennaf 2019 cyhoeddodd y Llywydd adroddiadau interim y ddau grŵp yn nodi cynigion ar gyfer diwygio. 

Rydym ni, ynghyd â Cafcass yn Lloegr, yn croesawu mentergarwch y farnwriaeth i gynnal yr adolygiadau hyn a chydnabod bod y llysoedd teulu wedi profi cynnydd anghynaladwy yn nifer yr achosion sy’n cael eu dwyn ger eu bron. Mae’r gweithgorau yn iawn i gyfeirio at yr angen i gryfhau trefniadau cyn y llys i sicrhau bod y llysoedd dim ond yn gwneud penderfyniadau ynghylch bywydau plant pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol.  Rydym yn cefnogi’r angen i gymryd camau i wella cysondeb, symleiddio dulliau, a chryfhau prosesau rheoli achosion er mwyn gwella penderfyniadau a phrofiadau ar gyfer y teuluoedd y mae angen iddynt fod yn yr achosion.  Rydym wedi cydweithredu â chydweithwyr yn Cafcass Lloegr i gynhyrchu datganiad ar y cyd ar faterion sy’n gyffredin i gyfraith breifat a chyhoeddus. Mae Cafcass Cymru hefyd wedi cynhyrchu ymatebion unigol i’r adroddiadau cyfraith gyhoeddus a phreifat sydd ar gael yma. 

Mae’r grwpiau cyhoeddus a phreifat wedi ailymgynnull bellach i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac mae Cafcass Cymru yn parhau i fod yn aelod gweithredol o’r ddau grŵp.