Sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford.
"Mae'r hyn rydyn ni'n ei weld heddiw yn galonogol i Gymru. Mae'r darlun economaidd byd-eang yn dal i fod yn anodd – nid oes neb yn esgus fel arall – ond mae cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio. Mae'r economi yn sefydlogi, mae hi'n tyfu, a bydd pobl yng Nghymru yn teimlo budd hynny.
"Gallwn fod yn falch bod cynhyrchiant yng Nghymru yn tyfu ar gyfradd gyflymach na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, gan wneud cyfraniad gwirioneddol i'r economi.
"Mae'r buddsoddiad sy'n dod i Gymru yn brawf o hynny. Dwy Ardal Twf AI, buddsoddiad gwerth £14 biliwn yn ein rheilffyrdd, a bargen twf amddiffyn — mae Cymru ar agor i fusnes, ac mae buddsoddwyr a busnesau yn sylwi ar hynny.
"Heddiw, mae'r Canghellor wedi ychwanegu at yr hyn sydd eisoes wedi bod yn gyfnod o gyllid cynyddol i Gymru. Hanner biliwn o bunnoedd yn fwy, ar ben yr hyn rydyn ni eisoes wedi'i sicrhau – dyna'r gwahaniaeth a wna, pan fydd dwy lywodraeth yn rhannu'r un gwerthoedd ac yn gweithio gyda'i gilydd o ddifrif. Bydd pobl yng Nghymru yn teimlo hynny yn eu gwasanaeth iechyd, yn eu hysgolion, ac yn eu cymunedau.
"Ar ôl 14 mlynedd o doriadau a phenderfyniadau anodd, rydyn ni'n symud yn amlwg i'r cyfeiriad cywir, gyda'r economi yn tyfu a chyfraddau llog yn gostwng, a bydd hyn oll yn cael effaith ar fywydau pobl."
