Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach i argymhellion adolygiad annibynnol

Mae'r adolygiad annibynnol o Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach (GDLlC (AB)) wedi nodi set eang o welliannau a allai gryfhau effeithiolrwydd, hygyrchedd a gweinyddiaeth y Cynllun GDLlC (AB).

Gyda'i gilydd, mae'r argymhellion hyn yn cyflwyno map ffordd cydlynol ar gyfer gwella cyrhaeddiad, tegwch ac effeithlonrwydd gweithredol y Cynllun, gan sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi dysgwyr mewn tirwedd addysgol drydyddol sy'n newid.

Disgwylir i'r cyfnod ymgeisio am GDLlC (AB) agor ddiwedd Ebrill 2026, a chyda llywodraeth newydd i ddechrau ar ei swydd ym mis Mai, mae ein gallu i gadarnhau diwygiadau sylweddol i'r Cynllun ar gyfer cylchoedd blynyddoedd i ddod wedi'i gyfyngu o reidrwydd nes bod y weinyddiaeth newydd wedi sefydlu ei chyfeiriad polisi.

Fodd bynnag, darperir ymateb, camau gweithredu arfaethedig ac amserlenni disgwyliedig ar gyfer pob argymhelliad isod:

Argymhellion a chamau gweithredu arfaethedig

Argymhelliad 1

Mae cyfle i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r GDLlC (AB) y tu hwnt i golegau a lleoliadau addysgol eraill. Gallai ymgysylltu'n ehangach drwy fannau cyhoeddus fel lleoliadau cymunedol, meddygfeydd teulu a llyfrgelloedd a phlatfformau digidol helpu i gyrraedd darpar ymgeiswyr yn gynharach yn y broses gwneud penderfyniadau.

Ymateb

Rydym yn cytuno y byddai gwerth archwilio dichonoldeb ehangu ymwybyddiaeth o'r GDLlC (AB) y tu hwnt i leoliadau addysg drydyddol traddodiadol. Mae potensial amlwg mewn ymestyn allgymorth i leoliadau cymunedol, meddygfeydd teulu, llyfrgelloedd a phlatfformau digidol i ymgysylltu â darpar ymgeiswyr yn gynharach yn eu taith i wneud penderfyniadau. Byddwn yn gweithio gyda'n partner cyflenwi, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, i archwilio sut y gellid gweithredu hyn yn ymarferol a pha adnoddau fyddai eu hangen i'w gefnogi.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2027 i 2028

Argymhelliad 2

Mae angen datblygu deunyddiau hyrwyddo mwy hygyrch, gan gynnwys adnoddau digidol a hawdd eu deall, i helpu Canolfannau Dysgu i egluro'n glir pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynlluniau, y broses ymgeisio a'r manteision 

Ymateb

Rydym yn cytuno y gallai datblygu deunyddiau hyrwyddo mwy hygyrch – gan gynnwys adnoddau digidol a fformatau hawdd eu deall – gryfhau ymgysylltiad Canolfannau Dysgu â darpar ymgeiswyr. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio'r ffordd orau o gynhyrchu a dosbarthu'r deunyddiau hyn.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2027 i 2028

Argymhelliad 3

Mae angen proses ymgeisio symlach, gan gynnwys cyfeirio dysgwyr at dudalen ymgeisio GDLlC (AB) ar ôl iddynt gofrestru ar-lein am gyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Ymateb

Efallai y bydd cyfyngiadau o fewn strwythur cyfredol y wefan a allai gyfyngu ar ba mor ddi-dor y gellir gweithredu'r ailgyfeiriad hwn. Fodd bynnag, byddwn yn archwilio gyda'n partner cyflenwi, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, beth sy'n dechnegol ymarferol ac yn nodi unrhyw welliannau posibl neu ddulliau amgen a allai gefnogi llif ceisiadau llyfnach. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027, mae deunyddiau hyrwyddo Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer y GDLlC (AB) bellach yn cynnwys cod QR a fydd, pan gaiff ei sganio, yn cyfeirio ymgeiswyr newydd yn uniongyrchol at y dudalen 'gwnewch gais yn awr'. Mae hyn hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer y Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 4

Byddai'n fuddiol pe gallai ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ddigidol fel rhan o'u cais a phe gallai Cyllid Myfyrwyr Cymru dderbyn mathau eraill o ddogfennau, fel 'cod rhannu' y Swyddfa Gartref ar gyfer ffoaduriaid.

Ymateb

Rydym yn cytuno â'r bwriad y tu ôl i'r argymhelliad hwn. Mae ymgeiswyr eisoes yn gallu uwchlwytho tystiolaeth ddigidol fel rhan o'u cais, ac mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn derbyn ffurfiau amgen o ddogfennau, gan gynnwys ‘cod rhannu’ y Swyddfa Gartref lle bo hynny'n briodol. Mae gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy'n darparu gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, raglen waith sefydledig sy'n edrych yn barhaus ar faich tystiolaeth i bob ymgeisydd ac yn ymdrechu i leihau'r baich hwnnw lle y gall heb gynyddu'r risg i'r pwrs cyhoeddus.

Argymhelliad 5

Byddai'n werth ystyried sut y gellid rhoi rhagor o adnoddau i Ganolfannau Dysgu sy'n cael nifer fawr o geisiadau gan ddysgwyr nad ydynt yn gallu siarad Saesneg er mwyn iddynt allu darparu'r cymorth angenrheidiol wedi'i deilwra sydd ei angen ar y garfan hon. 

Ymateb

Rydym yn cytuno bod hwn yn faes pwysig i'w archwilio. Er mwyn deall yn well sut y gellir cefnogi Canolfannau Dysgu, byddwn yn gofyn i'n partner cyflenwi, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, ymgysylltu'n uniongyrchol â'r canolfannau hynny sydd â nifer uwch o geisiadau gan ddysgwyr nad ydynt yn siarad Saesneg. Bydd hyn yn ein helpu i nodi'r rhwystrau penodol y maent yn eu hwynebu ac ystyried pa adnoddau neu arweiniad ychwanegol a allai fod eu hangen arnynt i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth wedi'i deilwra sydd ei angen.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 6

Dylai'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ddarparu hyfforddiant a (neu) sesiynau briffio amlach i staff Canolfannau Dysgu er mwyn sicrhau cysondeb o ran y ffordd y mae'r canllawiau'n cael eu cymhwyso mewn perthynas â phresenoldeb, dilyniant a meini prawf cymhwystra. 

Ymateb

Byddwn yn gweithio gyda'n partner cyflenwi, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, i adolygu'r amserlen bresennol ar gyfer digwyddiadau Canolfan Ddysgu AB ac archwilio opsiynau i ddarparu hyfforddiant gwell, gan sicrhau bod unrhyw newidiadau yn ymarferol ac yn gynaliadwy. Byddwn hefyd yn adolygu'r canllawiau presennol yn enwedig ynghylch presenoldeb, dilyniant a meini prawf cymhwystra, gan ddiweddaru fel y bo'n briodol.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2027 i 2028

Argymhelliad 7

Mae angen rhoi mwy o eglurhad ynghylch yr hyn y dylai dilyniant academaidd ei olygu fel rhan o'r canllawiau ac a yw dysgwyr sydd wedi astudio ar yr un lefel neu lefel uwch yn flaenorol yn gymwys i gael cymorth drwy'r GDLlC (AB) ai peidio.

Ymateb

Mae darparu canllawiau cliriach ar yr hyn sy'n gyfystyr â dilyniant academaidd yn hanfodol, yn enwedig wrth benderfynu ar gymhwysedd i fyfyrwyr sydd â blwyddyn flaenorol o gymorth y GDLlC (AB). Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn ystyried cyflwyno amodau cymhwyster lefel gyfatebol o fewn meini prawf cymhwystra y Cynllun, gyda'r bwriad o flaenoriaethu cymorth i'r rhai sy'n cael mynediad at addysg bellach am y tro cyntaf. Bydd hyn yn helpu i sicrhau dull mwy cyson, tryloyw a theg ar draws y Cynllun.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2027 i 2028

Argymhelliad 8

Dylid gwneud rhai agweddau ar y ffurflen gais ar-lein yn orfodol, yn enwedig y cwestiynau am brofiad o ofal a phlant dibynnol, er mwyn casglu data monitro gwell am gyfradd y deilliannau llwyddiannus i ddysgwyr sy'n agored i niwed. Yn eu tro, gellir defnyddio'r data hyn i lywio datblygiad y cynllun

Ymateb

Byddwn yn archwilio dichonoldeb y gwelliannau hyn fel rhan o ddiweddariadau system yn y dyfodol.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 9

Dylai'r ffurflen gais ofyn i ymgeiswyr nodi lefel a phwnc eu cwrs. Byddai modd casglu'r wybodaeth hon yn well drwy opsiynau caeedig yn hytrach na blychau testun agored er mwyn gwella'r data monitro sydd ar gael ar gyfer pynciau a lefel yr astudiaethau y mae derbynyddion GDLlC (AB) yn eu dilyn.

Ymateb

Byddwn yn archwilio gyda'n partner cyflenwi, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, y dichonoldeb o ddatblygu system rheoli cyrsiau tebyg i'r hyn a ddefnyddir mewn addysg uwch. Fodd bynnag, byddai unrhyw ddatblygiad o'r fath yn ddarostyngedig i gapasiti system a chostau cysylltiedig, y bydd angen eu hystyried yn ofalus.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 10

Dylid cadw gwerth presennol y GDLlC (AB) a rhoi prosesau ar waith i gynyddu gwerth y grant yn unol â chynnydd mewn chwyddiant a chostau byw, a hynny'n flynyddol, os bydd adnoddau ariannol yn caniatáu.

Ymateb

Byddwn yn ystyried strwythur cyffredinol y Cynllun i sicrhau tegwch yn y cynnig grant i ymgeiswyr, ac i sicrhau bod y Cynllun yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y blynyddoedd i ddod ochr yn ochr ag LCA a'n cymorth i fyfyrwyr addysg uwch.

Mae'r lefelau grant wedi'u cynnal ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: adolygu'n flynyddol drwy ragolygon cyllideb Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 11

Yn amodol ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael, dylid cynyddu'r trothwyon incwm aelwydydd ar gyfer cymhwystra'r GDLlC (AB). Dylai'r trothwy incwm aelwyd uchaf ar gyfer dysgwyr llawnamser gyd-fynd â'r trothwy incwm ar gyfer yr LCA, gan roi ystyriaeth i ddull yr LCA o osod trothwyon incwm gwahanol ar gyfer dysgwyr sy'n dod o aelwydydd â phlant dibynnol ychwanegol. At hynny, dylid codi'r trothwyon incwm aelwydydd a osodwyd ar gyfer symiau grant is y GDLlC (AB) ac ar gyfer dysgwyr rhan-amser mewn modd cymesur. Dylid adolygu trothwyon incwm aelwydydd yn flynyddol i adlewyrchu'r cynnydd mewn chwyddiant.

Ymateb

Mae'r GDLlC (AB) a'r LCA yn gweithredu'n wahanol iawn, ac ni fyddai'n briodol yn syml i ailadrodd trothwyon yr LCA ar gyfer y GDLlC (AB). Felly, byddwn yn archwilio dulliau amgen sy'n sicrhau bod strwythur y Cynllun yn targedu cymorth yn fwy effeithiol mewn ffordd deg yn y blynyddoedd i ddod, wrth hefyd ystyried codiadau cyfrannol ac adolygiadau blynyddol lle bo hynny'n briodol ac yn fforddiadwy. I ategu'r gwaith hwn, bydd rheolau'r Cynllun LCA yn cael eu hystyried i sicrhau bod pobl ifanc sy'n gorfod aros mewn addysg bellach yn hirach i gwblhau eu hastudiaethau yn cael eu cefnogi fel y bo'n briodol.

Mae'r trothwyon incwm cymwys wedi'u cadw yr un fath ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 12

Yn amodol ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael, dylid ymestyn y GDLlC (AB) i gynnwys dysgwyr addysg bellach sy'n ymgymryd â chymwysterau Lefel 4 nad ydynt yn gymwys am gymorth addysg uwch.

Ymateb

Gall ymestyn y GDLlC (AB) i gynnwys dysgwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau Lefel 4 nad ydynt â chymorth addysg uwch helpu i ehangu mynediad at addysg bellach. Cyn ystyried unrhyw newidiadau, byddwn yn gweithio i nodi graddfa'r mater, gan gynnwys faint o ddysgwyr allai gael eu heffeithio a beth fyddai'r goblygiadau cost posibl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gynaliadwy.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 13

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried lleihau nifer yr oriau cymwys ar gyfer dysgwyr rhan-amser cymwys.

Ymateb

Gall lleihau'r nifer cymwys o oriau ar gyfer dysgwyr rhan‑amser cymwys helpu i ehangu mynediad a chefnogi mwy o gyfranogiad. Byddwn yn archwilio hyn yn fanylach fel rhan o ddatblygu polisi yn y dyfodol ac yn ystyried yr ymatebion i'r opsiynau Galwad am Dystiolaeth Addysg Drydyddol. Bydd angen i ni sefydlu beth ddylai'r oriau cymwys priodol fod i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng annog cyfranogiad a chynnal fforddiadwyedd hirdymor y Cynllun.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 14

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu'r achos dros gynnwys dysgwyr sy'n dysgu o bell yng nghynllun GDLlC (AB).

Ymateb

Byddwn yn parhau i adolygu'r maes hwn; fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod cymhlethdodau sylweddol yn gysylltiedig â dysgu o bell ar Lefel 3 ac is, yn enwedig o ran y gallu i ddarparu'r cadarnhad presenoldeb angenrheidiol a'r heriau a achosir gan lefelau is posibl o ymgysylltu a darparu gwasanaethau i fyfyrwyr sydd, fel arfer, ar gael mewn colegau. Byddai angen ystyried y ffactorau hyn yn ofalus cyn y gellid bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau.

Amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu: blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Argymhelliad 15

Efallai yr hoffai Llywodraeth Cymru ymchwilio i a fyddai gweinyddu model talu mwy amserol, fel taliadau misol, yn opsiwn costeffeithiol.

Ymateb

Ni fyddwn yn bwrw ymlaen â'r cynnig hwn. Byddai symud i fodel talu amlach yn cynyddu'n sylweddol nifer y cadarnhadau presenoldeb y byddai angen i Ganolfannau Dysgu eu darparu i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, a thrwy hynny gynyddu'r costau gweinyddol i'r ddau barti. Y model talu fesul tymor presennol yw'r dull mwyaf ymarferol a chynaliadwy yn dal i fod.