Ymateb i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cynllun LCA yng Nghymru (Chwefror 2025)
Adolygiad annibynnol o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Ym mis Tachwedd 2023, penodwyd OB3 Research gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad annibynnol o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yng Nghymru.
Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Gorffennaf 2024.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru barhau i weinyddu'r LCA, gan ei dargedu at bobl ifanc o aelwydydd incwm isel a pharhau i roi cymorth ariannol yn uniongyrchol ym mhocedi dysgwyr ôl-16.
Daeth yr adolygiad â'r wybodaeth ddiweddaraf i sylw Llywodraeth Cymru am yr hyn yr oedd dysgwyr a chanolfannau dysgu yn ei ddisgwyl o'r LCA, gan ddarparu tystiolaeth amlwg yn uniongyrchol gan bobl ifanc o fanteision y LCA.
Gwnaeth yr adolygiad ddeg argymhelliad. Ceir ymateb i bob un o'r argymhellion.
Argymhelliad
Argymhelliad 1
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weinyddu’r LCA yng Nghymru, a’i bod yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae'r LCA yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Bydd y polisi yn parhau i ganolbwyntio ar y rhai sydd mewn aelwydydd incwm isel.
Argymhelliad 2
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ehangu’r grwpiau sy'n esempt o'r LCA i gynnwys gofalwyr ifanc a'r rhai sydd wedi cael prydau ysgol am ddim yn y gorffennol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen dadansoddiad pellach o'r carfanau hyn i sefydlu sut y gellid darparu tystiolaeth ar gyfer esemptiad mewn perthynas ag asesiadau incwm aelwydydd heb greu baich diangen neu ychwanegol i'r dysgwyr a'r gwasanaethau ategol.
Argymhelliad 3
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, nawr yn cael ei adnabod fel Medr, yn ystyried sut i fynd i’r afael â’r annhegwch ehangach o ran mynediad i gymorth ar draws addysg bellach yng Nghymru, ac yn archwilio’n benodol sut y gallai ddarparu cludiant am ddim a phrydau am ddim i ddysgwyr o’r aelwydydd incwm isel ar draws lleoliadau ysgolion a cholegau AB. Dylai Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ddisgrifio'n fanylach pa gludiant sydd ar gael ar hyn o beth a fyddai costau mynd i'r afael â'r diffygion o ran y ddarpariaeth.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Medr mewn perthynas â'r cynnig trafnidiaeth ôl-16 presennol i ddeall bylchau mewn cymorth yn well. Gall dysgwyr o deuluoedd incwm isel mewn chweched dosbarth ledled Cymru gael prydau ysgol am ddim yn barod, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Medr i ddeall beth mae colegau yng Nghymru yn ei gynnig o ran cymorth bwyd i'w dysgwyr o deuluoedd incwm isel.
Argymhelliad 4
Pe bai adnoddau ariannol yn caniatáu, byddem yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r trothwyon incwm aelwydydd ar gyfer dyfarnu’r LCA, gan gadw’r model trothwy dwy haen sydd ar waith ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer amgylchiadau aelwydydd â niferoedd gwahanol o ddibynyddion. Byddem yn argymell bod y trothwy incwm aelwydydd yn cael ei gysoni â’r cyflog byw gwirioneddol, sydd ar hyn o bryd yn gyflog blynyddol o £23,400 os yw rhywun yn gweithio'n llawn amser (37.5 awr yr wythnos @ £12).
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu trothwyon incwm aelwydydd yr LCA ar gyfer dysgwyr cymwys newydd a pharhaus o flwyddyn academaidd 2025 i 2026, gan osod yr un aelwyd ddibynnol ar y gyfradd a argymhellir.
Argymhelliad 5
Rydym yn argymell na ddylid gwneud unrhyw newid i werth y lwfans ar hyn o bryd. Pe bai adnoddau ariannol yn caniatáu, byddem yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu symiau yn y dyfodol yn unol â'r cynnydd blynyddol mewn chwyddiant fel y nodir yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr neu yn unol â chodiadau canrannol mewn cymorth grant i fyfyrwyr addysg uwch.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal yr LCA ar £40 yr wythnos ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Byddwn yn cynnal gwaith dadansoddi a modelu pellach i ddeall effaith ariannol unrhyw gynnydd yn y dyfodol i gyfradd yr LCA.
Argymhelliad 6
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn sicrhau bod ysgolion a cholegau AB yn gwneud mwy o ymdrech i godi ymwybyddiaeth o'r LCA a'i hyrwyddo yn gynharach ymhlith dysgwyr Blwyddyn 11 a allai fod yn gymwys i'w gael, yn enwedig y rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim a grwpiau agored i niwed fel y rhai â phrofiad o fod mewn gofal.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i hyrwyddo a chyfeirio teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim at yr LCA. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth dysgwyr ym Mlwyddyn 11 o'r LCA gan ystyried ymgyrch wedi'i thargedu.
Argymhelliad 7
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’i sefydliadau rhanddeiliaid yn ymchwilio i sut y gellir gwella dealltwriaeth gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr allweddol o’r LCA fel eu bod mewn sefyllfa well i hysbysu dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gofalwyr ifanc am yr LCA, cefnogi eu cais a sicrhau bod gan y dysgwr fynediad uniongyrchol i'r arian ar ôl iddynt ei dderbyn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol fel Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu gwybodaeth a thaflenni ffeithiau clir i bobl ifanc am yr LCA.
Argymhelliad 8
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ystyried sut y gellid symleiddio’r iaith a’r derminoleg a ddefnyddir ar ffurflen gais LCA a’i gwneud yn fwy hygyrch i bobl ifanc.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud cynnydd i symleiddio'r ffurflen gais gan gyflwyno cais ar-lein ar gyfer yr LCA ers blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Mae'r ffurflen ar-lein yn ymateb i atebion yr ymgeisydd gan ddarparu cwestiynau perthnasol i'w hateb yn unig.
Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gyda'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i wella'r profiad o ymgeisio am yr LCA ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys iaith a therminoleg.
Argymhelliad 9
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn archwilio sut y gallai Canolfannau Dysgu fabwysiadu mwy o hyblygrwydd o fewn eu polisïau presenoldeb a’u gweithgarwch monitro i sicrhau nad yw derbynyddion yr LCA yn colli taliadau.
Efallai hefyd y byddai’n werth i Lywodraeth Cymru archwilio a fyddai model taliadau dyddiol, yn hytrach nag wythnosol, ar gyfer yr LCA yn achosi llai o straen a phryder i ddysgwyr.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae canolfannau dysgu yn gyfrifol am eu polisïau presenoldeb eu hunain ac am fonitro ac adrodd ar weithgarwch o'r fath. Fodd bynnag, i gefnogi canolfannau dysgu, mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn darparu canllawiau gydag enghreifftiau o absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig at ddibenion yr LCA, gan gynnwys annog canolfannau dysgu i ystyried amgylchiadau dysgwyr unigol a allai effeithio ar eu presenoldeb.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a'r partneriaid i ystyried darparu gwybodaeth i ddysgwyr pan ddyfernir eu LCA, gan dynnu sylw at bwysigrwydd trafod eu hamgylchiadau gyda'u canolfan ddysgu a'r manteision y gall hyn eu cynnig.
Argymhelliad 10
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu dadansoddiad meintiol o ffynonellau data eilaidd yn y dyfodol, er mwyn gwella’r dystiolaeth am effaith yr LCA yng Nghymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried comisiynu dadansoddiad meintiol o ffynonellau data eilaidd yn y dyfodol.
