Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall buddsoddiad o dramor chwarae rhan hollbwysig yn ein nod o haneru’r bwlch cynhyrchedd â gweddill y DU.

Mae’n galonogol gweld Cymru’n mynd yn groes i’r duedd fel yr unig ran o’r DU i weld cynnydd mewn prosiectau buddsoddi o dramor.

Ond i gyrraedd ein nod o ran cynhyrchedd, rhaid inni sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw’n creu swyddi cadarn sy’n talu’n dda, ac yn helpu economi Cymru i fod yn fwy cystadleuol ac yn gryfach yn y tymor hir.

Dylai buddsoddiad o dramor gryfhau busnesau Cymru, datblygu cadwyni cyflenwi, cefnogi ein meysydd economaidd blaenoriaeth, cynyddu allforion, dod â thechnoleg a gallu rheoli newydd i Gymru, a helpu i gadw mwy o werth yn economi Cymru.

Bydd asiantaeth arloesi a datblygu newydd i Gymru yn arwain ein gwaith ar fuddsoddi o dramor, gan wneud Cymru’r lle hawsaf yn y DU i gwmnïau fuddsoddi.

Yn y pen draw, rhaid i fuddsoddiad gyflawni dros bobl Cymru ac arwain at gynhyrchedd uwch a ffyniant sy’n cael ei rannu.