Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg
Ein hymateb i adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Mae’r ymateb hwn i argymhellion adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gosod cyfeiriad clir: symud polisi iaith i gyfnod lle mae defnydd pob dydd o’r Gymraeg, profiadau cadarnhaol a ffordd newydd o feddwl ar draws y Llywodraeth a’r gymdeithas yn ganolog. Bydd y Gymraeg yn cael ei hystyried o’r cychwyn wrth lunio polisïau, cynllunio rhaglenni, gwneud penderfyniadau a gweithio gyda phartneriaid. Mae ein nodau wedi’u nodi isod:
Y Gymraeg o fewn cyrraedd pob un ohonon ni
Mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn teuluoedd, gwasanaethau, hybiau cymunedol, ysgolion, gweithleoedd a gweithgareddau hamdden, mewn ffyrdd sy’n hawdd, yn groesawgar ac yn berthnasol. Ein nod yw mynd â’r Gymraeg at bobl, lle maen nhw eisoes, wrthi’n gwneud beth maen nhw eisoes yn ei wneud.
Y Gymraeg lle mae pobl yn byw, creu a chwarae
Cryfhau’r Gymraeg mewn chwaraeon, gan wau’r Gymraeg drwy’r Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd fel ei bod yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn cynllunio, buddsoddi a chyflawni, ac ecosystem ddigidol gryfach sy’n meithrin creadigrwydd a gyrfaoedd, yn cynyddu cynnwys Cymraeg ac yn gwneud y Gymraeg yn haws ei defnyddio mewn technoleg a thrwy dechnoleg.
Y Gymraeg yn gyfrifoldeb i ni i gyd
Gwneud ystyried y Gymraeg yn arfer cyson ar draws y Llywodraeth, o ddechrau’r broses o lunio polisïau a rhaglenni hyd at fuddsoddi a chyflawni, gan weithio gydag awdurdodau lleol, partneriaid, cyflogwyr a sefydliadau cymunedol i greu’r amodau i’r Gymraeg gael ei dysgu, ei defnyddio a’i mwynhau bob dydd.
Rhagair gan y Gweinidog
Rwyf am weld Cymru lle mae’r Gymraeg o fewn cyrraedd pawb ym mhob cymuned, yn y teulu, yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn gwasanaethau, ar y cae chwarae ac ar-lein. Dyna’r weledigaeth sy’n llywio ymateb y Llywodraeth hon i adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad, ‘Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg’, ym mis Mawrth 2026. Mae ei 31 argymhelliad yn dangos sut y gallwn wneud defnyddio’r Gymraeg yn haws, yn fwy deniadol ac yn bleserus mewn cymunedau lle mae dwysedd y siaradwyr yn ganolig neu’n is. Rydym yn derbyn pob argymhelliad yn llawn neu mewn egwyddor.
Mae ei neges yn syml: yn hytrach na disgwyl i bobl chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, rhaid inni fynd â’r Gymraeg at bobl, lle maen nhw eisoes, wrthi’n gwneud yr hyn maen nhw eisoes yn ei wneud.
Mae cefnogaeth y cyhoedd i’r Gymraeg yn gryf. Drwy Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, bydd plant ledled Cymru yn datblygu eu sgiliau Cymraeg dros y degawdau nesaf. Bydd addysg yn creu mwy o siaradwyr, ein gwaith ni yw sicrhau bod ganddynt gyfle i ddefnyddio’r iaith bob dydd.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae lle yn ei stori i siaradwyr bob dydd, dysgwyr, pobl sy’n defnyddio ychydig o Gymraeg a’r rheini sy’n cymryd eu camau cyntaf. Mae pob cam yn bwysig. Ein nod yw creu mwy o brofiadau cadarnhaol sy’n helpu mwy o bobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn fwy hyderus, gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith, yn y gymuned ac yn eu bywydau digidol.
Rydym yn cyhoeddi’r ymateb hwn ar adeg o bwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus. Mae hynny’n gofyn inni fod yn glir ynghylch ble y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf: cydlynu ein hymdrechion, adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio a sicrhau bod penderfyniadau ehangach y Llywodraeth yn cyfrannu at ein huchelgais ar gyfer y Gymraeg. Nid yw’r cyd-destun yn lleihau’r uchelgais, mae’n cryfhau’r angen am ffocws, creadigrwydd a chydweithio.
Mae hyn yn gofyn am ffordd newydd o feddwl ar draws y Llywodraeth. Nid rhywbeth i’w ystyried ar ddiwedd y broses yw’r Gymraeg, nac un maes polisi ymhlith eraill. Byddwn yn ei hystyried o’r cychwyn, wrth lunio polisïau, cynllunio rhaglenni, gwneud penderfyniadau a gweithio gyda phartneriaid.
Bydd pob portffolio yn edrych ar sut y gall ei waith greu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Drwy wneud hyn yn arfer cyson ar draws y Llywodraeth, byddwn yn sicrhau bod yr iaith yn rhan o’r ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflawni.
Byddwn yn canolbwyntio ar weithredu ymarferol: gwneud y Gymraeg yn haws ei defnyddio mewn teuluoedd, cymunedau, gweithleoedd, gwasanaethau cyhoeddus, diwylliant, chwaraeon a thechnoleg. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid presennol a newydd, yn defnyddio tystiolaeth i ddeall beth sy’n gweithio ac yn rhoi blaenoriaeth i gamau sy’n creu cyfleoedd gwirioneddol i ddefnyddio’r iaith.
Bydd gwaith ac argymhellion y Comisiwn yn llywio ein Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg. Byddwn yn ymgynghori arni yn fuan cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol y flwyddyn nesaf. Bydd cynlluniau gweithredu ac adroddiadau blynyddol wedyn yn nodi’r camau ac yn rhoi cyfrif clir o’r cynnydd.
Rwyf yn ddiolchgar i Gadeiryddion y Comisiwn, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones a’r Dr Simon Brooks, i aelodau’r Comisiwn, ac i’r unigolion, y sefydliadau a’r cymunedau a rannodd o’u tystiolaeth a’u profiadau.
Mae’r cyfeiriad yn glir. Rydym am i’r genhedlaeth nesaf dyfu i fyny mewn Cymru lle nad profiad eithriadol yw defnyddio’r Gymraeg, ond rhan bob dydd o ddysgu, gweithio, creu, chwarae a pherthyn. Drwy wneud y Gymraeg yn rhan o’r ffordd mae’r Llywodraeth gyfan yn meddwl ac yn gweithredu, gallwn droi cefnogaeth eang i’r iaith yn arferion bob dydd, ac adeiladu dyfodol lle mae’r Gymraeg yn cyrraedd pob cymuned.
Anna Brychan
Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Cyflwyniad
Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i ystyried sut y gellir cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol ledled Cymru. Canolbwyntiodd cam cyntaf ei waith ar gymunedau â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Mae’r ail gam yn ymestyn y drafodaeth i gymunedau â dwysedd canolig neu is, gan gydnabod bod amgylchiadau, cyfleoedd a heriau ieithyddol yn amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol rannau o Gymru.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad ail gam, ‘Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg’, ym mis Mawrth 2026. Mae’r adroddiad yn cynnwys 31 o argymhellion sy’n ymwneud ag ystod eang o feysydd, gan gynnwys cynllunio ieithyddol cymunedol, teuluoedd a’r blynyddoedd cynnar, addysg, gweithleoedd, diwylliant, chwaraeon, technoleg, yr economi, cynllunio a chaffael.
Mae’r ddogfen hon yn ymateb i bob argymhelliad. Lle mae argymhellion yn ymdrin â materion sydd â chysylltiad agos, rydym wedi ymateb iddynt gyda’i gilydd er mwyn osgoi ailadrodd ac amlygu’r cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd polisi.
Mae’r ymateb hwn yn adeiladu ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad cam cyntaf y Comisiwn. Gyda’i gilydd, mae’r ddau ymateb yn ffurfio dull cenedlaethol sy’n cydnabod anghenion gwahanol gymunedau, gan gadarnhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac i bob rhan o Gymru. Er bod y ddau adroddiad yn cynnig ymatebion penodol ar gyfer gwahanol fathau o gymunedau, byddwn yn sicrhau bod unrhyw argymhellion neu syniadau sy’n berthnasol i Gymru gyfan yn cael eu datblygu a’u rhannu mewn ffordd sy’n cryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae rhai camau o fewn rheolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru. Bydd eraill yn dibynnu ar gydweithio ag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, cyflogwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid eraill. Ym mhob achos, byddwn yn gwneud ystyried y Gymraeg o’r cychwyn yn rhan gyson o’r ffordd rydym yn llunio polisïau, yn cynllunio rhaglenni, yn gwneud penderfyniadau ac yn cyflawni. Bydd cynlluniau gweithredu blynyddol Strategaeth y Gymraeg yn nodi’r camau cyflawni, a bydd adroddiadau blynyddol yn rhoi cyfrif o’r cynnydd.
Byddwn yn canolbwyntio ar y camau sydd fwyaf tebygol o wneud gwahaniaeth ymarferol i ddefnydd pobl o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Themâu cyffredinol ‘Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg’
Cyn ymateb i’r argymhellion unigol, mae’n ddefnyddiol nodi’r themâu ehangach sy’n dod i’r amlwg o’n darlleniad o adroddiad ail gam y Comisiwn, sef bod angen:
- symud y drafodaeth am y Gymraeg y tu hwnt i allu ieithyddol yn unig, a chanolbwyntio’n glir ar ddefnydd, hyder, perthyn a chyfranogiad
- creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, yn y cartref, yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn gwasanaethau cyhoeddus, mewn mannau cymunedol ac wrth hamddena
- mynd â’r Gymraeg at bobl, le maen nhw eisoes, wrthi’n gwneud beth maen nhw eisoes yn ei wneud, yn hytrach na disgwyl iddynt hwy fynd ati i chwilio am gyfleoedd i’w defnyddio
- rhoi cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth wrth wraidd y gwaith, fel bod y Gymraeg yn berthnasol ac yn agored i bobl o bob cefndir ac ym mhob rhan o Gymru
- cryfhau’r cysylltiad rhwng y Gymraeg a bywyd cymunedol, gan gydnabod bod cysylltiadau cymdeithasol, gweithgarwch lleol a sefydliadau cymunedol yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar fywiogrwydd yr iaith
- sicrhau bod defnyddio’r Gymraeg yn brofiad cadarnhaol, hawdd a gwerth chweil, gan greu amgylchiadau lle mae’r iaith yn gysylltiedig â mwynhad, cyfeillgarwch, hwyl, hunaniaeth a pherthyn
- defnyddio’r gwyddorau ymddygiadol i ddeall sut a pham y mae pobl yn dewis defnyddio’r Gymraeg, ac i gynllunio ymyriadau sy’n gwneud y dewis hwnnw’n haws
- gwerthfawrogi pwysigrwydd addysg ac ysgolion fel galluogwr i gysylltu ein plant a phobl ifanc â’u hiaith, eu gwlad a’u diwylliant, gan greu’r amodau i’r Gymraeg gael ei defnyddio y tu hwnt i ddysgu ffurfiol
- dysgu o brofiadau ieithoedd eraill, gan gynnwys y Fasgeg, yn enwedig mewn perthynas â defnydd iaith anffurfiol y tu allan i’r ysgol ac ar ôl i bobl adael addysg ffurfiol
- ystyried y Gymraeg fel rhan o system ehangach sy’n cysylltu addysg, economi, tai, iechyd, diwylliant, digidol, chwaraeon a datblygu cymunedol
- defnyddio tystiolaeth gymdeithasol, gwerthuso a mewnwelediadau ymddygiadol i ddeall beth sy’n gweithio, i bwy, ac ym mha gyd-destunau
Ymatebion i’r argymhellion
Argymhelliad 1
‘Iaith genedlaethol yw’r Gymraeg sy’n perthyn i bawb yng Nghymru yn ogystal ag i’w siaradwyr yng ngweddill y byd. Er mwyn cryfhau’r Gymraeg fel iaith genedlaethol fyw, mae angen ei chryfhau fel iaith gymunedol. Dylid grymuso cymunedau Cymraeg ledled Cymru, a chryfhau hefyd gynaliadwyedd y Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg, a dylai polisi cyhoeddus adlewyrchu’r nodau hyn yn llawn.’
Argymhelliad 2
‘Gan fod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, o bob cefndir, dylai’r Gymraeg gyrraedd pob cymuned. Ni ddylai neb fethu cyrraedd cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar sail amddifadedd cymdeithasol. Golyga hyn sicrhau amodau, adnoddau ac amgylchiadau priodol i’r iaith fod yn rhan o fywyd bob dydd i blant, pobl a chymunedau. Yn rhy aml mae’n rhaid i unigolion ymdrechu i gael cyrraedd y Gymraeg, yn eu cymunedau, eu gofodau cymdeithasol a digidol, mewn gweithleoedd ac mewn gweithgareddau ymarferol a hamdden. Dyma’r newid sydd angen ei roi ar waith o fewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd canolig ac is.’
Gan fod yr argymhellion hyn yn ymdrin â materion sydd â chysylltiad agos, rydym wedi ymateb iddynt gyda’i gilydd.
Derbyn
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac i bob rhan o Gymru. Ein nod yw sicrhau nad oes rhaid i bobl chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ond bod yr iaith yn eu cyrraedd yn y mannau lle maen nhw eisoes, yn eu teuluoedd, eu cymunedau, eu gweithleoedd, eu gwasanaethau, eu gweithgareddau hamdden a’u bywydau digidol.
Mae hyn yn gofyn am ffordd newydd o feddwl ar draws y Llywodraeth. Nid rhywbeth i’w ystyried ar ddiwedd y broses yw’r Gymraeg, nac un maes polisi ymhlith eraill. Byddwn yn ei hystyried o’r cychwyn, wrth lunio polisïau, cynllunio rhaglenni, gwneud penderfyniadau, buddsoddi a gweithio gyda phartneriaid.
Bydd pob portffolio yn edrych ar sut y gall ei waith greu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg. Byddwn yn meithrin gallu swyddogion, yn cryfhau ein prosesau cynllunio ac asesu effaith, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan gyson o’r ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflawni ar draws y Llywodraeth.
Byddwn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, cyflogwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid presennol a newydd. Drwy gydlynu ein hymdrechion, adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio a chanolbwyntio ar ble gallwn gael yr effaith fwyaf, byddwn yn creu mwy o gyfleoedd gwirioneddol i bobl ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, ym mhob cymuned ac ymhlith pobl o bob cefndir.
Argymhelliad 3
‘Mae’r gyllideb gyfredol ar gyfer adfywio’r Gymraeg ar y lefel gymunedol yn seiliedig ar gynsail hanesyddol, ac nid yw’n diwallu’r nod polisi tymor hir o greu Cymru ddwyieithog. Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu’r gyllideb a ddyrennir i’r gwaith hwn yn sylweddol fel ei bod yn gymesur â’r dasg dan sylw.’
Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn cydnabod bod angen buddsoddiad hirdymor a phwrpasol i gynyddu defnydd y Gymraeg mewn cymunedau. Ar adeg o bwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus, byddwn yn canolbwyntio ar ble y gall buddsoddiad wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan gryfhau’r hyn sy’n gweithio a sicrhau canlyniadau clir i’r Gymraeg.
Nid cyllidebau sydd wedi’u neilltuo’n benodol ar gyfer y Gymraeg yn unig fydd yn gwireddu ein huchelgais. Fel rhan o’r ffordd newydd o feddwl ar draws y Llywodraeth, bydd pob portffolio yn ystyried o’r cychwyn sut y gall ei benderfyniadau, ei raglenni a’i fuddsoddiadau greu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.
Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid presennol a newydd i gydlynu adnoddau, adeiladu ar arferion llwyddiannus a chanolbwyntio cymorth ar weithgarwch sy’n gallu dangos effaith glir ar ddefnydd pob dydd o’r iaith. Wrth i Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 gael ei gweithredu, bydd mwy o bobl yn datblygu eu sgiliau a’u hyder yn y Gymraeg.
Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i sicrhau bod gwasanaethau, profiadau a chyfleoedd economaidd yn tyfu ochr yn ochr â’r newid hwn. Drwy ddefnyddio buddsoddiad ehangach y Llywodraeth yn fwy cydlynol ac effeithiol, byddwn yn creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru.
Argymhelliad 4
‘Dylid cryfhau cynllunio ieithyddol cymunedol er mwyn ymestyn ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Dylai awdurdodau lleol mewn ardaloedd dwysedd canolig ac is gryfhau eu galluoedd cynllunio ieithyddol eu hunain, ochr yn ochr â galluoedd rhanddeiliaid y sector ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, i ddatblygu a gweithredu Strategaethau Hybu Iaith ymhellach.’
Derbyn
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cryfhau cynllunio ieithyddol cymunedol er mwyn estyn ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Comisiynydd y Gymraeg a phartneriaid allweddol eraill i ystyried sut y gellir datblygu Strategaethau Hybu’r Gymraeg fel offeryn mwy effeithiol ar gyfer cynllunio lleol, cydweithio a chyflawni. Dylai’r gwaith hwn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn tyfu mewn cymunedau, gan gefnogi partneriaid lleol i greu cyfleoedd sy’n teimlo’n berthnasol i’w hardaloedd. O dan Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, mae gofyniad ar Weinidogion Cymru i adolygu safonau penodol, gan gynnwys Safonau Hybu’r Gymraeg.
Bydd cyfle fel rhan o’r gwaith hwn i ystyried yr argymhelliad hwn ymhellach. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd clir, deniadol a chynaliadwy i ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd, ac ar sicrhau bod y strategaethau’n rhoi pwyslais ar ddeilliannau clir o ran defnydd iaith. Wrth i niferoedd siaradwyr ifanc godi ar hyd y degawdau nesaf, byddwn yn cydweithio ar draws y Llywodraeth a gyda’n hawdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ar draws pob maes yn adlewyrchu ac yn ymateb mewn ffyrdd sy’n gymesur â’r twf hwn.
Fel rhan o’n rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog, byddwn yn hwyluso gwaith i feithrin gallu arweinwyr i gynllunio’n systemig ar gyfer y Gymraeg ac i newid diwylliant eu sefydliadau. Byddwn hefyd yn defnyddio lens yr Eisteddfod Genedlaethol i gefnogi cynllunio ieithyddol cymunedol ac i wella cynllunio ieithyddol systemig yn yr ardaloedd lle cynhelir yr Eisteddfod.
Argymhelliad 5
‘Wrth sefydlu grŵp tasg a gorffen ym maes amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas â’r Gymraeg dylai Llywodraeth Cymru ehangu cylch ei orchwyl i gynnwys ardaloedd o ddwysedd canolig ac is.’
Derbyn
Gweler hefyd ein hymatebion i argymhellion 1 a 2 (a’n hymateb i argymhelliad 37 cam cyntaf y Comisiwn). Rydym yn credu’n gadarn bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd yng Nghymru, a bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i’r gwaith o gynyddu ei defnydd ym mhob cymuned.
Byddwn yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas â’r Gymraeg ac yn sicrhau bod ei gylch gwaith yn cynnwys Cymru gyfan.
Byddwn yn rhoi profiadau pobl o grwpiau sydd yn draddodiadol wedi’u tangynrychioli, wrth galon y gwaith hwn. Bydd y grŵp yn:
- adeiladu ar ymdrechion cyfredol mewn cydraddoldeb, hawliau dynol, a chydlyniant cymunedol
- archwilio sut mae’r Gymraeg yn cysylltu â hunaniaethau gwahanol ac undod cymunedol
- awgrymu ffyrdd o hyrwyddo’r Gymraeg sy’n adlewyrchu gobeithion ac anghenion cymunedau ledled Cymru
- canolbwyntio ar sut y gall technoleg hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau bod pobl sy’n wynebu rhwystrau hygyrchedd yn gallu cael mynediad at y Gymraeg a’i defnyddio
Argymhelliad 6
‘Dylai Llywodraeth Cymru, cyrff priodol eraill, ar y cyd â sefydliadau ymbarél datblygu cymunedol, lunio canllaw i’r sector datblygu cymunedol ymgorffori cymdeithasoli iaith yn eu gwaith mewn ardaloedd dwysedd canolig neu is.’
Derbyn
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn ac yn nodi’r cyswllt rhyngddo a cham cyntaf y Comisiwn (Argymhelliad 21). Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r sector datblygu cymunedol i chwarae rhan systematig ac effeithiol wrth gryfhau defnydd y Gymraeg ar lawr gwlad.
Byddwn yn gweithio gyda chyrff perthnasol a sefydliadau ymbarél yn y maes datblygu cymunedol i ddatblygu canllawiau ymarferol ar gyfer y sector. Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi sefydliadau i ymgorffori cymdeithasoli iaith yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, gan helpu i gynyddu defnydd cynaliadwy o’r Gymraeg. Wrth wneud hyn, byddwn yn tynnu ar arferion llwyddiannus a ddatblygwyd mewn mannau eraill yng Nghymru ac yn ehangach er mwyn lledaenu modelau effeithiol a chefnogi eu mabwysiadu’n ehangach. Byddwn hefyd yn cefnogi gweithgarwch sydd wedi’i wreiddio’n lleol, sy’n adeiladu ar yr hyn y mae cymunedau eisoes yn ei wneud ac sy’n helpu’r Gymraeg i deimlo’n berthnasol i fywyd bob dydd.
Fel cam cyntaf, byddwn yn lansio platfform digidol a chanllawiau newydd drwy waith Ein Cymraeg i gefnogi partneriaid i wella’r ffordd y maent yn siarad am y Gymraeg. Bydd hyn yn ategu’r canllawiau datblygu cymunedol a nodir yn yr argymhelliad hwn, gan helpu i greu mwy o gysondeb mewn negeseuon ac ymgysylltu ar draws Cymru. Byddwn hefyd yn edrych i weld pa waith pellach y gellir ei wneud er mwyn estyn effaith Cynllun Llysgenhadon Diwylliannol y Gymraeg.
Argymhelliad 7
‘Yn yr adroddiad hwn, rydym yn cyfeirio at y cyfraniad y gall y gwyddorau ymddygiadol ei roi i’r maes hwn. Dylai Llywodraeth Cymru integreiddio modelau newid ymddygiad yr ydym yn eu hamlinellu (megis CAM-Y a HAPUS) ar draws polisi a chynllunio iaith.’
Derbyn
Mae’r gwyddorau ymddygiadol yn werthfawr wrth ddatblygu polisi iaith a chynllunio ieithyddol. Gall modelau fel y rhai mae’r adroddiad yn eu nodi er enghraifft, CAM-Y (Cymhelliant, Amgylchiadau a Medr fel sail i Ymddygiad), a HAPUS (Hawdd, Amserol, Pleserus, Undod a Sbort) ein helpu i ddeall yn well beth gallai helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar sail ei defnyddio, magu rhagor o hyder.
Byddwn yn defnyddio’r egwyddorion hyn wrth lunio fersiwn nesaf ein strategaeth ar gyfer y Gymraeg ac wrth ddatblygu rhaglenni a dulliau cyflawni sy’n ymwneud â chynyddu defnydd y Gymraeg. Bydd hyn yn ein helpu I gynllunio ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n gwneud defnyddio’r Gymraeg yn haws, yn hwyl, yn ddeniadol ac yn berthnasol.
Byddwn yn datblygu ein sail dystiolaeth yn y gwyddorau ymddygiadol ac yn defnyddio’r dysgu hwn i gryfhau’r ffordd rydym yn cynllunio, marchnata ac ymgysylltu er mwyn cynyddu defnydd o’r Gymraeg. Byddwn yn cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru i rannu profiadau ac arferion da yn y maes hwn, gan anelu at fod yn arloesol yn y ffordd rydym yn defnyddio’r gwyddorau ymddygiadol mewn polisi iaith.
Byddwn hefyd yn ystyried pa hyfforddiant, cymorth ymarferol a rhannu dysgu all helpu ein partneriaid a’r sector ehangach i ddefnyddio’r dulliau hyn yn hyderus. Drwy wneud hynny, gallwn wella profiadau pobl o ddefnyddio’r Gymraeg, a phroffesiynoli dulliau marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu o fewn y sector.
Argymhelliad 8
‘Dylai Llywodraeth Cymru gynnal a chomisiynu ymchwil gymdeithasol leol fanwl i ddeall cyfansoddiad, dynameg a phatrymau defnydd iaith mewn cymunedau. Dylai hyn hefyd gynnwys sefydlu arolwg defnydd iaith hydredol ar gyfer y Gymraeg.’
Derbyn
Byddwn yn cryfhau ein sail dystiolaeth drwy raglen gydlynol o ymchwil gymdeithasol ar ddefnydd y Gymraeg. Byddwn yn ystyried gyda’i gilydd dystiolaeth o arolygon cyfredol, data gweinyddol, ymchwil a gomisiynir ac astudiaethau ar lefel gymunedol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall cyfansoddiad a deinameg cymunedau, ble mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn bodoli, ble mae bylchau, a pha gamau ymarferol sydd fwyaf tebygol o gynyddu defnydd iaith mewn gwahanol gyd-destunau.
Byddwn hefyd yn defnyddio ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg i annog ymchwil ehangach, cyfnewid gwybodaeth a chydweithio â’r gymuned ymchwil ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Bydd hyn yn helpu i nodi gwaith ymchwil sydd wedi’i gwblhau, sydd ar y gweill neu sydd wedi’i gynllunio, annog dulliau arloesol, cynyddu effaith ymchwil ar bolisi a chefnogi cydweddu â chyfleoedd cyllido ymchwil allanol.
Byddwn yn cynnal Arolwg Cenedlaethol o Ddefnydd y Gymraeg dros y ddwy flynedd ariannol nesaf. Yn amodol ar benderfyniadau cyllido yn y dyfodol, ein bwriad yw ailadrodd yr arolwg unwaith bob pum mlynedd wedi hynny.
Argymhelliad 9
‘Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o sut mae (a sut y gallai) Awdurdodau Lleol a sefydliadau perthnasol eraill ymgorffori’r Gymraeg (mewn ffordd briodol i’r cyd-destun, ac ar ben dyletswyddau statudol) fel rhan o wasanaethau lles, cymdeithasol neu gymunedol mewn ardaloedd o ddwysedd canolig neu is, mewn ffordd sy’n ychwanegu gwerth i’r gwasanaethau hynny ac i brofiad eu defnyddwyr.’
Derbyn
Rydym yn cytuno bod gwasanaethau lles, cymdeithasol a chymunedol yn gallu chwarae rhan bwysig wrth greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd lle nad yw cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg bob amser yn amlwg neu’n hawdd eu cyrraedd. Byddwn yn cynnal adolygiad gyda phartneriaid perthnasol o arferion presennol awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, gan gynnwys byrddau iechyd, y trydydd sector a darparwyr gwasanaethau cymunedol.
Bydd yr adolygiad yn nodi arferion da, rhwystrau a chyfleoedd, ac yn ystyried sut y gellir ymgorffori’r Gymraeg mewn ffordd briodol i’r cyd-destun sy’n ychwanegu gwerth at wasanaethau ac at brofiad eu defnyddwyr. Byddwn yn sicrhau bod holl Gynlluniau Strategol Gwaith Ieuenctid Awdurdodau Lleol yn cydnabod sut all waith ieuenctid gefnogi defnydd pobl ifanc o’r Gymraeg. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried sut y gall y Gymraeg gefnogi llesiant, perthyn a chysylltiad cymunedol, a byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio camau ymarferol gyda phartneriaid ac i rannu dysgu am ddulliau sy’n gweithio mewn gwahanol gymunedau.
Argymhelliad 10
‘Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn mannau cymunedol, fel llyfrgelloedd, hybiau cymunedol a mannau cyfarfod eraill. Drwy Strategaethau Hybu’r Gymraeg, a thrwy bartneriaethau lleol rhwng rhanddeiliaid allweddol, dylai, o fewn ardaloedd o ddwysedd canolig ac is, fod o leiaf un gofod cymdeithasol, ac eithrio ysgolion, o fewn cyrraedd hawdd lle gall y gymuned ddefnyddio’r Gymraeg.’
Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn derbyn bod angen mwy o ofodau lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg yn hawdd ac yn hyderus. Byddwn yn cryfhau ac yn adeiladu ar y cymorth sydd eisoes ar gael drwy raglenni megis y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol a Chronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol, er mwyn helpu sefydliadau a chymunedau i gynnal a datblygu mannau cymunedol sy’n cyfrannu at fywiogrwydd y Gymraeg.
Byddwn yn cefnogi gweithgarwch a arweinir yn lleol sy’n tyfu o gymunedau ac sy’n creu mannau lle mae’r Gymraeg yn teimlo’n gyfarwydd, yn ddefnyddiol ac yn groesawgar.
O fewn y cynlluniau hyn, byddwn yn ystyried sut y gellir rhoi mwy o bwys i gyfraniad prosiectau at nodau ein Strategaeth ar gyfer y Gymraeg, gan gynnwys creu cyfleoedd ymarferol i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymunedau. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a sefydliadau cyllido eraill i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’u Cymraeg yn y mannau hyn.
Bydd hyn yn cael ei ddatblygu mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r cyd-destun ariannol ehangach. Ein bwriad yw osgoi dyblygu trefniadau cyllido presennol, a chanolbwyntio yn lle hynny ar sut y gellir defnyddio rhaglenni, partneriaethau a chronfeydd perthnasol yn fwy effeithiol i greu mwy o gyfleoedd Cymraeg lleol.
Byddwn yn cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru ac yn ehangach, gan gynnwys drwy ein Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd, i gefnogi’r gwaith hwn. Er enghraifft, fel rhan o’r broses o adnewyddu Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, byddwn yn ystyried y rôl y gall llyfrgelloedd ei chwarae fel gofodau Cymraeg. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid grant i sicrhau bod llyfrgelloedd yn cael gwybodaeth am weithgareddau a chyfleoedd Cymraeg, y rhai y gellid eu darparu drwy lyfrgelloedd a’r rhai sy’n digwydd yn y gymuned ehangach, fel eu bod mewn sefyllfa dda i gefnogi a hyrwyddo gweithgareddau o’r fath.
Argymhelliad 11
‘Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ei hymyriadau strategol wrth gymdeithasoli newydd-ddyfodiaid i Gymru o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig yn caniatáu digon o gyfleoedd i gael mynediad i’r Gymraeg ac i ennill sgiliau yn yr iaith. Dylai hyn gynnwys cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid o’r tu allan i’r DU ddysgu Cymraeg (WSOL neu Gymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ochr yn ochr â’r ddarpariaeth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) bresennol. Dylai’r Ganolfan Ddysgu Cymraeg Genedlaethol (a’r Athrofa Dysgu Cymraeg genedlaethol sydd i’w sefydlu yn 2027) sefydlu rhaglenni wedi’u hanelu at newydd-ddyfodiaid i’r Deyrnas Unedig, a allai gynnwys ategu’r cynllun ‘Siarad’ presennol. Dylent hefyd ystyried sut y gallai’r cynlluniau hyn gysylltu â’r Cynllun Llysgenhadon Diwylliannol.’
Derbyn
Rydym yn cytuno y dylai pobl sy’n dod i fyw yng Nghymru o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig gael cyfleoedd priodol i ddod i gysylltiad â’r Gymraeg ac i ddatblygu sgiliau yn yr iaith. Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd Cymru, ac mae sicrhau mynediad croesawgar a phriodol iddi yn rhan o helpu pobl i ddeall, mwynhau a chymryd rhan ym mywyd eu cymunedau newydd. Mae ffocws adroddiad y Comisiwn ar newydd-ddyfodiaid o’r tu allan i Brydain a dyna fyrdwn ein hymateb ni yn y fan hon. Ond, mae’n hollbwysig hefyd gydnabod pwysigrwydd cydweithio er mwyn darparu cyfleoedd i bob newydd-ddyfodiad i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg ac mae hon yn parhau’n ffocws cyffredinol i’r Llywodraeth a’n partneriaid.
Byddwn yn asesu’r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael, gan weithio gyda phartneriaid perthnasol, gan gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a fydd yn weithredol o 1 Awst 2027 ac yn ymgymryd â dyletswyddau presennol y Ganolfan yn ogystal â galluogi cynllunio cryfach a mwy diogel er mwyn cefnogi pobl o bob oed i ddysgu Cymraeg. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda, ble mae bylchau, a sut y gellir cryfhau’r cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid gael mynediad i’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol, berthnasol a chroesawgar.
Byddwn hefyd yn ystyried sut y gall y Gymraeg gael ei chyflwyno fel rhan awtomatig o wybodaeth, croeso a chymorth i bobl sy’n ymgartrefu yng Nghymru, gan gynnwys mewn gwasanaethau cymunedol, addysg, gwaith ieuenctid a gweithgareddau lleol.
Mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, byddwn yn ystyried sut y gall darpariaeth trochi hwyr gefnogi’r rhai sy’n ymuno â’r system addysg yng Nghymru ar wahanol adegau.
Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn yn llywio camau nesaf gyda phartneriaid, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnig fel rhan gadarnhaol, gynhwysol ac ymarferol o’r profiad o fyw yng Nghymru.
Argymhelliad 12
‘Dylai Llywodraeth Cymru rannu canfyddiadau’r ymchwil mae’n ei chynnal ar sail y gwyddorau ymddygiadol i drosglwyddo’r Gymraeg er mwyn hysbysu polisi a’r drafodaeth gyhoeddus. Dylai hefyd roi’r canfyddiadau ar waith fel rhan o’r ‘Polisi Cenedlaethol ar Drosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd.’ Dylid gwneud hyn drwy bob derbynnydd grant a phartner perthnasol.’
Argymhelliad 13
‘Dylai Llywodraeth Cymru ddadansoddi arfer gorau trosglwyddo’r Fasgeg ymhellach a mabwysiadu, lle bo hynny’n briodol, ddulliau tebyg, sy’n benodol i’r cyd-destun, ar gyfer y Gymraeg.’
Gan fod yr argymhellion hyn yn ymdrin â materion sydd â chysylltiad agos, rydym wedi ymateb iddynt gyda’i gilydd.
Derbyn
Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r ymchwil ar sail y gwyddorau ymddygiadol i drosglwyddo’r Gymraeg, er mwyn llywio polisi, ymarfer a’r drafodaeth gyhoeddus. Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth hon i ddeall yn well beth sy’n dylanwadu ar ddefnydd pobl o’r Gymraeg, gan gynnwys hyder, arferion, cyfleoedd, cymhelliant, normau cymdeithasol a’r cyd-destun ymarferol o’u cwmpas.
Byddwn yn gweithio gyda derbynwyr grant a phartneriaid perthnasol yn y sector Cymraeg ac yn ehangach i droi’r dysgu hwn yn rhaglenni ymarferol ar y cyd. Bydd y rhaglenni hyn yn defnyddio mewnwelediadau ymddygiadol i wneud defnyddio’r Gymraeg yn haws, yn fwy deniadol, yn fwy cymdeithasol ac yn fwy pleserus mewn teuluoedd, rhwng plant a phobl ifanc, rhwng cyfoedion, mewn rhwydweithiau cymunedol ac mewn bywyd bob dydd.
Byddwn hefyd yn dadansoddi arferion perthnasol o gyd-destun y Fasgeg ac yn mabwysiadu dulliau tebyg, lle bo hynny’n briodol i Gymru. Ein nod yw symud o dystiolaeth i weithredu: rhannu’r dysgu, cynllunio rhaglenni ar sail yr hyn sy’n gweithio, a helpu mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.
Argymhelliad 14
‘Dylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gefnogi ysgolion a’u cymunedau o rieni a gofalwyr i chwarae rôl ganolog mewn cymdeithasoli ieithyddol y tu hwnt i addysg ffurfiol. Dylai rhaglenni Ysgolion Bro a Chymunedau Dysgu Cynaliadwy fod yn ganolog i’r gwaith hwn. Dylai hyn gynnwys:
- clustnodi arian cyfalaf a refeniw ar gyfer cymdeithasoli iaith
- swyddogion ymgysylltu â theuluoedd (sydd yn aml yn gweithio o ysgolion a (neu) hybiau cymunedol) yn derbyn hyfforddiant cymdeithasoli iaith sy’n berthnasol i’w cymunedau
- cymunedau o rieni a gofalwyr yn cael cefnogaeth i fod yn ‘gynllunwyr iaith in situ’ drwy ddarparu offer ymarferol iddynt, felly hefyd adnoddau digidol, a rhwydweithiau cymheiriaid i gymdeithasoli eu plant yn Gymraeg (p’un a ydynt hwythau’n medru’r Gymraeg ai peidio)’
Derbyn mewn egwyddor
Mae ysgolion a’u cymunedau yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i addysg ffurfiol. Mae ysgolion yn aml yn ganolbwynt i fywyd cymunedol, ac mae rhaglenni fel Ysgolion Bro a’r rhaglen gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn cynnig cyfleoedd i gryfhau’r cysylltiad rhwng dysgu, teuluoedd a defnydd cymunedol o’r Gymraeg drwy fuddsoddi mewn lleoliadau aml ddefnydd mewn ysgolion y gellir eu defnyddio tu allan i oriau ysgol arferol.
Mae gwaith Ysgolion Bro eisoes yn cefnogi ysgolion i gryfhau eu cysylltiadau â dysgwyr, teuluoedd a’r gymuned ehangach. Rydym yn ymwybodol o enghreifftiau lleol lle mae awdurdodau yn defnyddio dull Ysgolion Bro i gefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion eraill i ymgysylltu’n well â dysgwyr Cymraeg, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn cynnwys meithrin gallu penodol, megis swyddogaethau sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg, i helpu i arwain a chydlynu’r gwaith hwn ar lefel leol.
Byddwn yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol i ddeall sut mae dulliau o’r fath yn datblygu, gan gynnwys drwy rwydweithiau Ysgolion Bro lle bo’n briodol. Drwy’r Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, byddwn yn edrych ar gyfleoedd i gryfhau ein cefnogaeth i rieni a gofalwyr yn sylweddol dros amser, gan eu helpu i greu mwy o gyfleoedd anffurfiol a lleol i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg.
Ein nod yw cefnogi ysgolion a’u cymunedau i gyfrannu at gymdeithasoli iaith y tu hwnt i addysg ffurfiol, gan adeiladu ar raglenni a threfniadau presennol. Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn cyflwyno dull newydd o ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, sy’n ein symud oddi wrth ystyried pobl fel naill ai’n gallu neu ddim yn gallu siarad Cymraeg, tuag at gydnabod a dathlu sgiliau Cymraeg pob unigolyn, dysgwyr, oedolion a’r gymdeithas ehangach. Mae ysgolion yn greiddiol i wireddu’r uchelgais hon, gan agor drysau i ddysgu, perthyn a chyfleoedd yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i gydweithio â’r sector a’i gefnogi wrth iddo baratoi Cynlluniau Cyflawni Ysgolion a fydd yn rhoi sylw i ymdrechion ysgolion i gyflwyno mwy o Gymraeg, mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol.
Byddwn hefyd yn parhau i’w gwneud hi’n haws i rieni a gofalwyr plant ysgol ddefnyddio mwy o’u Cymraeg drwy ddarparu adnoddau digidol defnyddiol. Byddwn yn gweithio gyda Hwb i rannu adnoddau ac offer ar y wefan honno, ac ar ein rhestr offer ac adnoddau Helo Blod, o dan adran benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Argymhelliad 15
‘Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Gymraeg wedi’i hymgorffori yn ei rhaglenni sy’n darparu gofal plant neu addysg cyn-ysgol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector i sicrhau bod plant a theuluoedd ledled Cymru yn cael mynediad teg i’r Gymraeg yn eu cymunedau yn ystod y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.’
Derbyn
Mae’r daith iaith yn dechrau cyn i blant gyrraedd yr ysgol. Mae darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn gallu chwarae rhan bwysig wrth gyflwyno’r Gymraeg i blant a theuluoedd mewn ffordd gadarnhaol a chroesawgar, gan greu llwybrau tuag at addysg Gymraeg ac agor drysau i ddysgu, perthyn a chyfleoedd yn y dyfodol.
Mae’r dystiolaeth yn dangos pwysigrwydd y cam cynnar hwn. Mae 89% o blant sy’n mynychu Cylch Meithrin cyfrwng Cymraeg yn mynd ymlaen i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Dyna pam byddwn yn parhau i gefnogi’r sector meithrin cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys drwy fuddsoddi £3.3 miliwn dros dair blynedd yn rhaglen Cam wrth Gam Mudiad Meithrin.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod y Gymraeg, drwy’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg ac ymyriadau eraill yn y maes blaenoriaeth hwn, yn rhan greiddiol o’n gwaith ehangach ar ofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Bydd hyn yn helpu i gryfhau’r ddarpariaeth sydd ar gael i blant a theuluoedd, ac yn cefnogi mynediad mwy teg at gyfleoedd Cymraeg mewn cymunedau ledled Cymru.
Wrth ddatblygu’r cynnig gofal plant, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector i ystyried sut y gall rhaglenni a darpariaeth blynyddoedd cynnar barhau i gefnogi defnydd o’r Gymraeg o’r cyfnod cynharaf, gan adlewyrchu anghenion lleol ac amgylchiadau teuluoedd. Ein nod yw sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd y cynnig hwnnw, fel rhan o brofiad cadarnhaol a hygyrch i blant a theuluoedd.
Argymhelliad 16
‘Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa i gryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn mannau digidol ac o fewn cynnwys cyfryngau cymdeithasol i adlewyrchu’r defnydd cymdeithasol cyfoes o’r Gymraeg. Dylai hyn gynnwys canolbwyntio ar (a) gwella cynhyrchu a gwelededd cynnwys Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, (b) datblygu sgiliau cynhyrchu digidol yn Gymraeg ymhlith pobl ifanc a grwpiau targed eraill (c) cefnogi cyfraniad dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i’r ecosystem ddigidol Gymraeg.’
Derbyn mewn egwyddor
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu creadigrwydd digidol Cymraeg. Byddwn ni’n dechrau gwaith cwmpasu a datblygu opsiynau ar unwaith gyda’r nod o ddod i gasgliadau ac argymhellion clir erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Ein nod fydd meithrin talent, cysylltu partneriaid a chefnogi cymuned hyderus o grewyr cynnwys.
Bydd y gwaith yn helpu pobl ifanc a chrewyr newydd i ddatblygu sgiliau, cyrraedd cynulleidfaoedd a throi eu creadigrwydd yn yrfa, er enghraifft fel cynhyrchwyr fideo a phodlediadau, cyflwynwyr, dylanwadwyr, ffrydwyr byw, animeiddwyr, dylunwyr, golygyddion, rheolwyr cyfryngau cymdeithasol neu ddatblygwyr gemau. Byddwn yn ystyried cymorth ymarferol megis hyfforddiant, mentora, rhwydweithiau a chyfleoedd comisiynu, cydweithio a nawdd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid a llwyfannau i helpu pobl i ddarganfod, rhannu a mwynhau mwy o’r cynnwys Cymraeg sydd eisoes ar gael, drwy ddulliau sy’n gwella ei weladwyedd i gynulleidfaoedd newydd.
Mae’r byd digidol yn ganolog i’r ffordd y mae pobl yn cyfathrebu, yn creu ac yn mwynhau cynnwys. Ein huchelgais yw datblygu ecosystem greadigol ddigidol Gymraeg sy’n weladwy, yn gynaliadwy ac yn llawn cyfleoedd, gan wneud creu, cyfathrebu a datblygu gyrfa drwy’r Gymraeg mor hawdd â phosibl. Mae hyn yn rhan o’n huchelgais ehangach ar gyfer Cymru fodern, ddwyieithog a digidol, lle mae’r Gymraeg yn bresennol yn y technolegau y mae pobl yn eu defnyddio bob dydd. Byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn gryfhau ffynonellau gwybodaeth a data Cymraeg ar-lein i helpu sicrhau bod y Gymraeg yn weladwy ac yn ddarganfyddadwy mewn technolegau a systemau deallusrwydd artiffisial. Bydd hyn yn cefnogi nid yn unig y gwaith o greu cynnwys Cymraeg, ond hefyd y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei chanfod, ei defnyddio a’i chynrychioli yn yr oes ddigidol.
Bydd y gwaith cwmpasu hefyd yn ystyried sut i wneud defnydd gorau o adnoddau a phartneriaethau presennol, a ble y gall cymorth wedi’i dargedu gael yr effaith fwyaf ar weladwyedd, sgiliau a chyrhaeddiad cynnwys Cymraeg.
Bydd tystiolaeth a phrofiadau partneriaid, gan gynnwys y trafodaethau bwrdd crwn a gynhaliwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn llywio’r gwaith.
Argymhelliad 17
‘Dylai Llywodraeth Cymru ddwysáu ei thrafodaethau strategol gyda chwmnïau technoleg perthnasol a rhanddeiliaid allweddol eraill gyda’r nod o wneud y Gymraeg mor hawdd i’w defnyddio â phosibl i’r defnyddiwr.’
Derbyn
Mae technoleg yn bwysig er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhwydd yn eu bywydau bob dydd. Ein ffon mesur fydd a yw’r Gymraeg yn haws ei defnyddio i bobl, wrth gyfathrebu, gweithio, dysgu, creu cynnwys a defnyddio gwasanaethau digidol.
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg eisoes wedi ysgrifennu at gwmnïau technoleg mawr i sbarduno trafodaethau strategol ac ystyried beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd. Hynny yw, sut gall technoleg ein helpu i wneud hi’n haws i bobl gyfathrebu, cefnogi ei gilydd, a mwynhau’r iaith fel rhan o fywyd bob dydd. Rydym eisoes, er enghraifft, yn trafod gyda Microsoft sut y mae offer megis Copilot yn prosesu’r Gymraeg. Bydd y trafodaethau hyn yn canolbwyntio ar faterion megis rhyngwynebau Cymraeg, offer testun a llais, gosodiadau iaith, gwelededd y Gymraeg ar lwyfannau digidol, a’r ffordd y mae technolegau newydd yn cefnogi ieithoedd llai eu defnydd, yn arbennig ym maes deallusrwydd artiffisial (AI). Rydym hefyd bellach mewn partneriaeth â Cosine AI i helpu i wella sut mae AI yn gweithio yn Gymraeg, a sicrhau bod technolegau newydd yn cydnabod, deall a chefnogi dwyieithrwydd, gan adlewyrchu sut mae cymunedau amlieithog ledled y byd yn defnyddio AI bob dydd.
Mae hyn yn rhan o’r dull systemig a nodir yn ein hymateb i argymhelliad 16: nid dim ond cynyddu cynnwys Cymraeg ar-lein, ond cryfhau’r amodau technolegol sy’n galluogi pobl i greu ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn hawdd. Byddwn hefyd yn gweithio gydag UNESCO, y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD) a chymunedau ieithyddol eraill i rannu profiadau, dysgu o ddulliau eraill, a chryfhau’r achos dros gefnogaeth well i ieithoedd llai eu hadnoddau mewn technoleg ac AI.
Bydd y gwaith hwn yn llywio ein gwaith ar gyfer technoleg ac AI Cymraeg ac yn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys yn gynnar ac yn ymarferol wrth i offer a gwasanaethau digidol ddatblygu.
Argymhelliad 18
‘Mae diwylliant, a cherddoriaeth yn benodol, yn weithgareddau cymdeithasol pwysig lle gall cynulleidfaoedd eang fwynhau’r Gymraeg. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ei strategaethau a’i rhaglenni i gefnogi diwylliant yn cydnabod y rôl bwerus sydd gan y sectorau hyn yn y defnydd cymdeithasol o’r iaith ymhlith pobl ifanc yn arbennig. Mae hyn yn cynnwys gwneud darpariaeth newydd lle bo angen ar gyfer seilwaith priodol (fel lleoliadau hygyrch, rhaglenni datblygu talent, ymgysylltu ag ysgolion ac ati) fel y gall mwy o gymunedau gael mynediad at ddiwylliant yn y Gymraeg.’
Derbyn
Rydym yn cydnabod y rôl bwerus y gall diwylliant, cerddoriaeth a chreadigrwydd ei chwarae wrth wneud y Gymraeg yn weladwy, yn berthnasol ac yn bleserus. Dyma feysydd lle gall pobl glywed, rhannu a defnyddio’r Gymraeg yn naturiol, fel rhan o brofiadau cymdeithasol a diwylliannol cyfoes.
Byddwn yn gwau’r Gymraeg drwy’r Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd, fel ei bod yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn cynllunio, buddsoddi a chyflawni ym maes diwylliant a’r diwydiannau creadigol.
Byddwn yn rhoi pwyslais arbennig ar bobl ifanc. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i greu mwy o gyfleoedd iddynt brofi, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg drwy gerddoriaeth fyw, gwyliau, lleoliadau lleol, ysgolion, gweithgareddau creadigol, cynnwys digidol a llwyfannau cymdeithasol. Ein nod fydd mynd â’r Gymraeg at bobl ifanc, yn y mannau lle maen nhw eisoes ac fel rhan o’r diwylliant maen nhw eisoes yn ei fwynhau.
Byddwn yn cydweithio â Chymru Greadigol, sefydliadau diwylliannol a threftadaeth, y sector addysg, yr Eisteddfod Genedlaethol a phartneriaid eraill i gryfhau darpariaeth Gymraeg ac i gefnogi llwybrau i artistiaid, perfformwyr a chrewyr cynnwys ddatblygu eu gwaith a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Byddwn hefyd yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau, gwyliau a llwyfannau presennol i normaleiddio presenoldeb y Gymraeg mewn diwylliant poblogaidd ledled Cymru.
Drwy wau’r Gymraeg drwy ein gwaith ehangach ar ddiwylliant, creadigrwydd, addysg a digidol, byddwn yn creu mwy o fannau lle mae’r iaith yn fyw, yn gyfoes ac yn rhan naturiol o fywyd pob dydd. Bydd pwyslais mawr ar gerddoriaeth.
Byddwn yn ystyried sut gallwn ni ddatblygu digwyddiadau Cymraeg-ganolog fel rhan o hyn, gan gynnwys Dydd Miwsig Cymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol a phartneriaid eraill i gefnogi’r rôl y mae Maes B a llwyfannau tebyg yn ei chwarae wrth gynnig profiadau Cymraeg i bobl ifanc. Byddwn yn cefnogi digwyddiadau cynhwysol Cymraeg ar lawr gwlad a gweithio gyda phartneriaid i greu mwy o gyfleoedd i glywed a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg mewn lleoliadau, gwyliau a digwyddiadau ar draws Cymru.
Y nod fydd normaleiddio’r Gymraeg mewn lleoliadau, gwyliau a digwyddiadau poblogaidd o bob math, gan adeiladu ar lwyddiant gwyliau fel Y Dyn Gwyrdd a Sŵn i fynd â’r Gymraeg yn rhagweithiol at bobl ifanc, lle bynnag y mae’r bobl ifanc hynny.
Bydd hyn yn cysylltu â’n gwaith o gryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn mannau cyfryngol a digidol, gan gydnabod bod cerddoriaeth, cynnwys creadigol a chyfryngau cymdeithasol yn aml yn rhan o’r un profiad i bobl ifanc. Ein nod yw cryfhau’r berthynas rhwng diwylliant, creadigrwydd a defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, gan helpu i greu mwy o ofodau lle mae’r iaith yn teimlo’n fyw, ac yn perthyn i fywyd bob dydd.
Argymhelliad 19
‘Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol, i ddatblygu strategaeth i wella’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob camp ac i hyrwyddo cyfraniad chwaraeon at gymdeithasoli iaith ledled Cymru.’
Derbyn
Gall chwaraeon greu cyfleoedd anffurfiol, cadarnhaol a phleserus i blant, pobl ifanc ac oedolion ddefnyddio’r Gymraeg. Mae clybiau, digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yn mynd â’r iaith at bobl, yn y mannau lle maen nhw eisoes ac wrth iddynt wneud y pethau maen nhw eisoes yn eu gwneud. Drwy gryfhau’r Gymraeg mewn chwaraeon, gallwn helpu’r iaith i fod yn rhan fyw o brofiadau cymdeithasol, perthyn a mwynhad.
Byddwn yn adeiladu ar y trafodaethau bwrdd crwn diweddar a gynhaliwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r momentwm sydd eisoes i’w weld mewn nifer o chwaraeon, gan ganolbwyntio ar gamau ymarferol sy’n cynyddu defnydd a gwelededd y Gymraeg.
Byddwn yn gwau’r Gymraeg drwy’r Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd, fel ei bod yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn cynllunio, buddsoddi a chyflawni ym maes chwaraeon. Bydd hyn yn sicrhau bod cryfhau’r Gymraeg yn rhan o gyfeiriad strategol y sector.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n dull trawslywodraethol o ystyried y Gymraeg ym mhob maes polisi. Byddwn yn sicrhau bod penderfyniadau, rhaglenni a buddsoddiad ym maes chwaraeon yn cyfrannu’n glir at gynyddu defnydd pob dydd o’r Gymraeg ac at ein hamcanion cenedlaethol ar gyfer yr iaith.
Argymhelliad 20
‘Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn garreg filltir strategol bwysig ac yn gyfle hanfodol i drawsnewid mynediad i’r Gymraeg. Clywodd y Comisiwn am amseroedd teithio afresymol i gyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg a gweithgareddau allgyrsiol Cymraeg cysylltiedig. Felly, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol:
- fapio amseroedd teithio i weithgareddau allgyrsiol Cymraeg, gan gynnwys y rhai a ddarperir ar safleoedd ysgolion
- ystyried effaith amser teithio ar gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol cyfrwng Cymraeg, wedi’u lleoli mewn ysgolion neu wedi’u trefnu ganddynt
- gosod amser teithio rhesymol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a’r gweithgareddau allgyrsiol’
Argymhelliad 21
‘Pan fo’r amseroedd teithio presennol yn afresymol, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod addysg Gymraeg a’r gweithgareddau allgyrsiol cysylltiedig ar gael o fewn amser teithio rhesymol.’
Gan fod yr argymhellion hyn yn ymdrin â materion sydd â chysylltiad agos, rydym wedi ymateb iddynt gyda’i gilydd.
Derbyn mewn egwyddor
Gall amseroedd teithio ddylanwadu ar allu dysgwyr i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a chryfhau cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Byddwn yn ystyried sut y gellir adlewyrchu’r amseroedd teithio yn briodol o fewn y trefniadau cynllunio presennol a’r datblygiadau yn y dyfodol sy’n deillio o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut y gall Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) gefnogi dealltwriaeth gryfach o fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys effaith trefniadau teithio i ddysgwyr.
Rydym wedi cynnal adolygiad cyflym o’r CSCA sydd wedi ystyried canfyddiadau’r adolygiad o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth berthnasol ar fynediad at addysg ac effaith trefniadau teithio ar fynediad dysgwyr at addysg Gymraeg. Gyda’i gilydd, bydd y gwaith hwn yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol i lywio’r ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg a gynlluniwyd ar gyfer tymor yr hydref.
Disgwylir i’r Fframwaith Cenedlaethol felly gynnwys targedau i awdurdodau lleol eu gweithredu drwy eu CSCA. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid perthnasol i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ynghylch profiadau dysgwyr a theuluoedd, ac i sicrhau y gall y dystiolaeth hon lywio cynllunio lleol yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y wybodaeth a gasglwyd eisoes gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag a fyddai tystiolaeth ychwanegol yn cefnogi asesiad gwell o fynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg a gweithgareddau allgyrsiol.
Wrth i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 fynd rhagddo, byddwn hefyd yn ystyried a oes angen canllawiau pellach ar asesu amseroedd teithio a deall eu heffaith ar fynediad a chyfranogiad.
Argymhelliad 22
‘Dylai Llywodraeth Cymru ehangu rhaglen ‘Arwain Mewn Gwlad Ddwyieithog’ yn sylweddol fel ei bod yn cyrraedd mwyafrif arweinwyr Cymru, boed yn rheolwyr haen uwch neu’r haen ganol, o’r sector cyhoeddus, preifat a trydydd sector. Dylai hefyd bennu amserlen bendant a thargedau clir ar gyfer hyn.’
Derbyn mewn egwyddor
Mae Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog yn strategol bwysig o ran cefnogi arweinwyr i greu diwylliant sefydliadol lle mae’r Gymraeg yn gallu ffynnu. Rydym hefyd yn derbyn yr egwyddor y dylai mwy o arweinwyr, ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gael cyfle i ddatblygu’r ddealltwriaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain mewn cyd-destun dwyieithog.
O ystyried maint ac amrywiaeth y gweithlu ar draws y sectorau hyn, bydd angen ehangu’r rhaglen mewn ffordd raddol, gynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio. Byddwn yn blaenoriaethu’r meysydd lle gall y rhaglen gael yr effaith fwyaf, gan ystyried capasiti, adnoddau a chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth.
Bydd hyn yn ein helpu i ehangu’r rhaglen mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth parhaol: gan adeiladu capasiti, cryfhau ansawdd y ddarpariaeth, a thargedu’r arweinwyr a’r sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i ddylanwadu ar ddefnydd y Gymraeg o ddydd i ddydd.
Fel rhan o’r dull hwn, byddwn yn cynnal carfanau agored o Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn datblygu model hyfforddi’r hyfforddwr i greu rhwydwaith ehangach o hwyluswyr medrus, gan gynnwys o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynyddu’r gallu i gyflwyno’r rhaglen dros amser ac yn ei galluogi i dyfu’n gynaliadwy, gan gynnal ei hansawdd a’i heffaith.
Byddwn hefyd yn edrych ar fodelau cyflawni eraill a all gefnogi’r ehangu hwn, gan gynnwys cymunedau ymarfer a rhwydweithiau hwyluswyr. Un enghraifft yw rhaglen newydd Dysgu, Dysgu mewn Gwlad Ddwyieithog. Drwy’r rhaglen hon, bydd Dysgu’n gwreiddio’r Gymraeg a dwyieithrwydd ymhellach ar draws ei waith, yn cryfhau dealltwriaeth staff ac yn llywio’r cymorth, yr hyfforddiant a’r adnoddau a ddarperir. Bydd hyn yn creu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn cyfrannu at nodau 'Cymraeg 2050'.
Argymhelliad 23
‘Dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol eraill ddefnyddio dull ‘taith defnyddiwr’ i sicrhau, o fewn ardaloedd o ddwysedd canolig neu is, bod yr holl gymorth ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar gael fel un profiad, waeth pwy yw’r darparwr. Dylai’r gwaith hwn ganolbwyntio ar newid diwylliannol, datblygu sefydliadol, cynllunio’r gweithlu, newid ymddygiad a thechnoleg iaith.’
Derbyn
Rydym yn cydnabod gwerth dull ‘taith defnyddiwr’ wrth ystyried sut y gall cymorth i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle fod yn fwy cydgysylltiedig, clir a hawdd ei ddefnyddio i gyflogwyr a gweithwyr wrth ddatblygu gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pob math o wahanol gynulleidfaoedd. Mae’r gweithle yn un o’r mannau bob dydd lle gall y Gymraeg fod yn fwy gweladwy, yn fwy defnyddiol ac yn fwy naturiol fel rhan o fywyd dwyieithog modern. Byddwn yn rhoi pwyslais clir ar hyn yn ein Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg.
Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am osod y cyfeiriad polisi ar gyfer cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle, gan weithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg a phartneriaid eraill sy’n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi sefydliadau. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill drwy edrych ar sut y gellir gwneud y cymorth presennol yn haws i’w ddeall, i ddod o hyd iddo a’i ddefnyddio, gan gydnabod bod darparwyr gwahanol yn cynnig arbenigedd a chymorth mewn gwahanol ffyrdd.
Mae hyn yn cynnwys dysgu o ystod o fentrau sy’n cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Er enghraifft, prosiect technoleg iaith traws-lywodraethol newydd sy’n archwilio sut y gall technoleg ei gwneud hi’n haws i staff weithio’n ddwyieithog yn eu gwaith o ddydd i ddydd i Lywodraeth Cymru, ARFer, sy’n cefnogi mwy o ddefnydd o’r Gymraeg drwy ddulliau newid ymddygiad, a chynnig cymorth technoleg Helo Blod, gan gynnwys categori gweithle newydd o fewn rhestr dechnoleg Helo Blod a fydd yn helpu sefydliadau i nodi technolegau a all gefnogi gweithio dwyieithog.
Byddwn yn ystyried sut y gall partneriaid gydweithio’n fwy effeithiol i gefnogi newid diwylliannol, datblygu sefydliadol, cynllunio’r gweithlu, newid ymddygiad a defnydd ymarferol o dechnoleg iaith yn y gweithle. Gallai hyn gynnwys edrych ar sut y caiff cymorth ei ddisgrifio, ei gyfeirio a’i gydlynu, er mwyn helpu sefydliadau i ddewis y cymorth mwyaf priodol i’w hamgylchiadau.
Ein nod yw gwneud y system gymorth yn fwy eglur ac yn fwy ymarferol, fel bod mwy o sefydliadau yn gallu creu gofodau sy’n cefnogi defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Argymhelliad 24
‘Dylai Llywodraeth Cymru wneud adolygiad o swyddogaethau Busnes Cymru er mwyn gwneud y gorau o’i pherthynas a’i dylanwad ar y sector breifat er mwyn gosod y Gymraeg yn greiddiol i’w gwaith o ddatblygu busnesau Cymru.’
Derbyn mewn egwyddor
Mae perthynas Llywodraeth Cymru â’r sector preifat yn hanfodol wrth gefnogi defnydd ehangach o’r Gymraeg mewn busnesau. Mae’r Gymraeg yn fater traws-lywodraethol, ac mae polisi economaidd, sgiliau, cyflogaeth, datblygu rhanbarthol a datblygu cymunedol oll yn cyfrannu at greu’r amodau i’r iaith ffynnu.
Mae’r Gymraeg eisoes yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru wrth gefnogi datblygiad economaidd a busnesau yng Nghymru. Bydd sefydlu’r asiantaeth economaidd newydd, ochr yn ochr â gwaith Busnes Cymru, yn cynnig cyfle i ystyried sut y gall cymorth busnes ac economaidd fwrw ein strategaeth iaith yn ei blaen. Gall y Gymraeg helpu busnesau i gryfhau eu perthynas â chwsmeriaid, gweithwyr a chymunedau, ac i adlewyrchu hunaniaeth a hyder Cymru fodern.
Argymhelliad 25
‘Dylai Llywodraeth Cymru roi’r Gymraeg wrth wraidd rhaglen waith a rôl y Partneriaethau Twf a’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig.’
Derbyn
Mae gan Bartneriaethau Twf a Chyd-bwyllgorau Corfforedig rôl bwysig wrth greu’r amodau economaidd, cymdeithasol a rhanbarthol sy’n cefnogi defnydd o’r Gymraeg. Mae’r cyrff hyn eisoes yn gweithredu o fewn fframwaith statudol sy’n cynnwys dyletswyddau perthnasol mewn perthynas â’r Gymraeg. Mae’r cyd-bwyllgorau wedi bod yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg ers 2024, sy’n golygu eu bod o dan ddyletswyddau statudol mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau i’r cyhoedd ac i’w staff. Maent hefyd o dan ddyletswyddau statudol i asesu effaith polisïau maent yn eu datblygu ar y Gymraeg.
Byddwn yn gweithio gyda’r Partneriaethau Twf, y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, yr asiantaeth datblygu economaidd newydd a phartneriaid perthnasol eraill i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn briodol wrth ddatblygu blaenoriaethau economaidd a rhanbarthol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio’n adeiladol gyda’r sefydliadau perthnasol i ddeall yn well eu cyfraniad at nodau Strategaeth y Gymraeg ac i gefnogi cynnydd ymarferol dros amser.
Argymhelliad 26
‘Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei phrosesau caffael i sicrhau bod y gwasanaethau a’r nwyddau y maent yn eu darparu, lle bo hynny’n berthnasol, yn bwrw agenda Cymraeg 2050 yn ei blaen.’
Derbyn
Rydym yn derbyn bod caffael cyhoeddus yn gallu bod yn ffordd bwysig o gefnogi economi gryfach, fwy lleol a chynaliadwy yng Nghymru, ac o gyfrannu at nodau strategaeth y Gymraeg lle bo hynny’n berthnasol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r ymrwymiad ehangach i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau yng Nghymru, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chadw mwy o werth economaidd o fewn cymunedau Cymru.
Wrth i ni adolygu a datblygu ein dull o gaffael cyhoeddus, byddwn yn ystyried sut y gall prosesau caffael gefnogi blaenoriaethau ehangach i Gymru, gan gynnwys cyfleoedd i gyfrannu at nodau strategaeth y Gymraeg.
Byddwn yn ystyried sut y gall prosesau caffael Llywodraeth Cymru adlewyrchu’r Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar sut y gellir defnyddio trefniadau presennol, canllawiau ac arferion da i helpu swyddogion a chyflenwyr i ddeall pryd a sut y gall caffael gyfrannu at ddefnydd y Gymraeg.
Byddwn hefyd yn adnewyddu ac yn ehangu Pecyn Cymorth Technoleg Dwyieithog Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda phartneriaid i adlewyrchu datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial ac arfer gorau rhyngwladol. Bydd hyn yn helpu sefydliadau i ystyried y Gymraeg yn gynnar wrth gaffael a dylunio cynhyrchion a gwasanaethau digidol gan adlewyrchu dull dylunio dwyieithog o’r cychwyn cyntaf.
Ochr yn ochr â hyn, mae arweinwyr digidol a thechnoleg ledled Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn ystyried y Pecyn Cymorth fwyfwy drwy eu Grŵp Safonau a Phensaernïaeth fel rhan o’r Llywodraethiant Digidol, Data a Thechnoleg, sy’n defnyddio adnoddau caffael dwyieithog i gefnogi ystyriaeth fwy cyson o’r Gymraeg mewn caffael digidol.
Argymhelliad 27
‘Yn ei hymateb i adroddiad y Comisiwn ar gynllunio, dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid addasu cynlluniau datblygu lleol o fewn ardaloedd o ddwysedd canolig neu is i roi ystyriaeth briodol i sicrhau cyfleoedd a gofodau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg.’
Argymhelliad 28
‘Wrth weithredu ei hymateb i adroddiad y Comisiwn ar gynllunio, dylai Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol gymryd camau er mwyn cynyddu, yn sylweddol, bresenoldeb gweledol y Gymraeg ar y stryd fawr.’
Gan fod yr argymhellion hyn yn ymdrin â materion sydd â chysylltiad agos, rydym wedi ymateb iddynt gyda’i gilydd.
Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn derbyn yr egwyddor bod cynllunio lleol yn gallu chwarae rhan bwysig wrth greu’r amodau sy’n galluogi pobl i weld, clywed a defnyddio’r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn ardaloedd o ddwysedd canolig ac is, lle gall cyfleoedd a gofodau i ddefnyddio’r Gymraeg fod yn llai amlwg.
Mae gan awdurdodau cynllunio lleol eisoes fecanweithiau i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o arwyddion dwyieithog. Drwy Gynlluniau Datblygu Lleol, gall awdurdodau ddatblygu canllawiau i gefnogi gwelededd a defnydd y Gymraeg, a chymhwyso’r canllawiau hynny wrth benderfynu ar geisiadau perthnasol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag arwyddion a hysbysebion, yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru a 'TAN (nodyn cyngor technegol) 20: Cynllunio a’r Gymraeg'.
Byddwn yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru, gydag awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol, i ystyried sut y gall trefniadau presennol gryfhau cyfleoedd a gofodau i ddefnyddio’r Gymraeg ac i gynyddu ei phresenoldeb gweledol ar y stryd fawr. Bydd hyn yn cynnwys ystyried gwaith adfywio a datblygu canol trefi, canllawiau lleol, arwyddion, gwybodaeth leol a’r defnydd o’r Gymraeg mewn mannau cyhoeddus, mewn ffordd gymesur ac ymarferol.
Argymhelliad 29
‘Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad i weld i ba raddau y mae ei phrosesau dyfarnu grantiau yn cael eu defnyddio i wella’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn modd priodol a dylai weithredu ar sail canfyddiadau’r adolygiad hwnnw.’
Derbyn
Mae grantiau Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle gwerthfawr i greu mwy o ffyrdd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau, lle bo hynny’n berthnasol ac yn briodol i ddiben y grant.
Byddwn yn cynnal adolygiad o’r modd y gall cynlluniau grant perthnasol gyfrannu ymhellach byth at strategaeth y Gymraeg ac alinio â’i hamcanion.
Argymhelliad 30
‘Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am fewnbwn gan Senedd Ieuenctid Cymru, Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol a fforymau ieuenctid perthnasol eraill wrth iddi adolygu a (neu) adnewyddu Cymraeg 2050. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd sefydlu deialog barhaus gyda’r rhain er mwyn sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei hadlewyrchu o fewn cynllunio iaith ac wrth roi polisi iaith ar waith yng Nghymru.’
Derbyn
Gweler hefyd ein hymateb i Argymhelliad 5. Mae lleisiau pobl ifanc yn ganolog i ddyfodol y Gymraeg, ac felly’n hanfodol i’r gwaith o adnewyddu strategaeth y Gymraeg. Pobl ifanc fydd yn siapio dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw, ac mae’n bwysig bod y strategaeth ddiwygiedig yn adlewyrchu eu profiadau, eu dyheadau a’r cyd-destunau lle maent yn dysgu, yn gweithio, ac yn cymdeithasu.
Fel rhan o’r gwaith i ddatblygu strategaeth newydd i’r Gymraeg, byddwn yn rhoi pwyslais clir ar glywed gan bobl ifanc yn uniongyrchol, nid yn unig drwy strwythurau ffurfiol ond hefyd drwy’r mannau, y partneriaid a’r gweithgareddau sydd eisoes yn rhan o’u bywydau. Bydd trafodaethau Miliwn a Mwy yn gyfle pwysig i gasglu safbwyntiau pobl ifanc a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw am y cyfleoedd sydd ganddynt i ddefnyddio’r Gymraeg, y rhwystrau maent yn eu hwynebu, a’r hyn fyddai’n gwneud yr iaith yn fwy perthnasol a hygyrch yn eu bywydau bob dydd. Bydd y sgwrs hon hefyd yn cynnwys y sefydliadau hynny sy’n gweithio’n agos gyda phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Mudiad y Ffermwyr Ifanc, yn ogystal â llwyfannau digidol sy’n creu cynnwys i bobl ifanc megis Hansh gan S4C.
Byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn gryfhau cysylltiadau â Senedd Ieuenctid Cymru, Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol a fforymau ieuenctid perthnasol eraill, gan adeiladu ar berthnasau presennol a nodi lle y gallai partneriaethau newydd ein helpu i gyrraedd grwpiau o bobl ifanc nad ydym wedi clywed ganddynt yn ddigonol hyd yma.
Argymhelliad 31
‘Dylid defnyddio’r gwyddorau ymddygiadol i lunio argymhellion holl adroddiadau’r Comisiwn, yn ogystal ag adolygiad a (neu) ddiweddariad o Cymraeg 2050.’
Derbyn
Rydym yn cydnabod bod y gwyddorau ymddygiadol yn gallu cynnig mewnwelediadau gwerthfawr wrth ddeall sut, pryd a pham y mae pobl yn dewis defnyddio’r Gymraeg, a beth all wneud y dewis hwnnw’n haws ac yn fwy cadarnhaol mewn bywyd bob dydd.
Fel y nodir mewn mannau eraill yn yr ymateb hwn, byddwn yn defnyddio egwyddorion o’r gwyddorau ymddygiadol, lle bo hynny’n berthnasol, wrth lunio fersiwn ddiwygiedig o strategaeth y Gymraeg a (neu) ei chynlluniau gweithredu cysylltiedig. Gallai hyn gynnwys defnyddio fframweithiau fel CAM-Y (Cymhelliant, Amgylchiadau a Medr fel sail i Ymddygiad) a HAPUS (Hawdd, Amserol, Pleserus, Undod a Sbort) fel offer ymarferol i helpu i ddeall cymhelliant, gallu, cyfleoedd, rhwystrau a’r ffactorau sy’n gwneud defnyddio’r Gymraeg yn haws, yn ddeniadol ac yn gadarnhaol mewn gwahanol gyd-destunau.
Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu mabwysiadu un model penodol ym mhob achos, ond yn hytrach defnyddio’r gwyddorau ymddygiadol yn gymesur ac yn ymarferol, ochr yn ochr â thystiolaeth berthnasol ac ymgysylltu â phartneriaid a chymunedau. Bydd y dull hwn yn helpu i sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cynllunio o amgylch profiadau pobl, ac yn canolbwyntio ar wneud defnyddio’r Gymraeg yn haws, yn ddeniadol ac yn berthnasol i fywyd bob dydd.
Diweddglo
Gwneud y Gymraeg yn haws, yn fwy deniadol ac yn fwy perthnasol i’w defnyddio bob dydd, dyma un o negeseuon cliriaf adroddiad ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Mae’r adroddiad yn ein hatgoffa bod angen mwy na siaradwyr ar iaith fyw. Mae angen cyfleoedd, gofodau, gweithgareddau, perthnasau a chymunedau lle gall yr iaith anadlu, cael ei chlywed a chael ei defnyddio fel rhan o fywyd bob dydd.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar ardaloedd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg. Mae’n dangos bod angen gweithredu’n bwrpasol yn yr ardaloedd hynny er mwyn cryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Ond mae ysbryd yr adroddiad yn berthnasol i Gymru gyfan: er mwyn i’r Gymraeg ffynnu, rhaid iddi fod yn rhan hyderus, gadarnhaol a pherthnasol o fywyd pob dydd ym mhob cymuned.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Rydym am fynd â’r Gymraeg at bobl, lle maen nhw eisoes, wrthi’n gwneud beth maen nhw eisoes yn ei wneud, ar y cae chwarae, yn y gweithle, mewn clybiau, mewn gwasanaethau, mewn diwylliant, ar-lein ac mewn bywyd cymdeithasol.
Byddwn hefyd yn defnyddio mewnwelediadau o’r gwyddorau ymddygiadol. Fel y mae’r Comisiwn yn dweud wrthym, gall egwyddorion HAPUS, Hawdd, Amserol, Pleserus, Undod a Sbort, ein helpu i gynllunio camau sy’n gwneud defnyddio’r Gymraeg yn haws, yn fwy deniadol, yn fwy cymdeithasol ac yn fwy perthnasol mewn sefyllfaoedd go iawn. Nid polisi yn unig sydd dan sylw, ond deall sut mae pobl yn byw, yn defnyddio iaith ac yn ffurfio arferion bob dydd.
Bydd egwyddorion adroddiadau’r Comisiwn yn siapio ein Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg. Ond mae’r ymateb hwn hefyd yn nodi newid ehangach yn y ffordd y mae’r Llywodraeth yn gweithio. Byddwn yn ystyried y Gymraeg o’r cychwyn, wrth lunio polisïau, cynllunio rhaglenni, gwneud penderfyniadau, buddsoddi a gweithio gyda phartneriaid. Drwy wneud hyn yn arfer cyson ar draws pob portffolio, gall gwaith y Llywodraeth gyfan greu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.
Dechrau’r gwaith yw’r ymateb hwn. Drwy gydlynu ein hymdrechion, adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio a chanolbwyntio ar ble gallwn gael yr effaith fwyaf, byddwn yn troi uchelgais yn weithredu ymarferol. Dyna yw uchelgais yr ymateb hwn, nid disgwyl i bobl ddod at y Gymraeg, ond dod â’r Gymraeg at bobl, gan gryfhau’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn cyrraedd pob cymuned.
