Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 23 Rhagfyr).

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

Mae ein GIG yn wynebu ei aeaf anoddaf eto ac mae ein staff gweithgar yn parhau i ddangos ymrwymiad diflino i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gannoedd o filoedd o gleifion bob mis.

Rydyn ni wedi ymrwymo £1 biliwn yn ystod y Senedd hon i helpu’r GIG i adfer ar ôl y pandemig ac i drin cleifion cyn gynted ag sy’n bosibl. Yr wythnos hon, fe wnaethon ni hefyd ymrwymo cyllid i ddarparu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i weithwyr cymdeithasol, sy’n hanfodol ar gyfer helpu pobl i adael yr ysbyty a rhyddhau gwelyau.

Fodd bynnag, mae heriau cynyddol o ganlyniad i bwysau COVID, yn golygu bod amseroedd aros wedi cynyddu, ac yn parhau i wneud hynny.

Bydd Byrddau Iechyd yn parhau i helpu’r bobl sy’n aros am driniaeth, ac maen nhw’n sefydlu gwasanaethau i helpu unigolion i reoli unrhyw symptomau yn well.

Mae ein ffocws uniongyrchol nawr ar sicrhau ein bod yn delio â’r cyfnod anodd nesaf hwn o’r pandemig ac y gall cleifion dderbyn gofal brys pan fydd ei angen arnyn nhw.

Mae’n galonogol gweld bod gwelliant ym mherfformiad y gwasanaeth ambiwlans ar gyfer mis Tachwedd. Ond maen nhw ac adrannau achosion brys yn parhau o dan bwysau.

Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi £34 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ambiwlansys, gan gynnwys staff ychwanegol, gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydyn nhw’n rhai brys a rhagor o gymorth gan y fyddin.

Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein gwasanaethau gofal brys ac argyfwng a bydden ni’n annog pawb i’n Helpu Ni i’ch Helpu Chi y gaeaf hwn drwy ystyried sut y maen nhw’n cael gafael ar ofal.

Gall eich fferyllfa leol a’r gwasanaeth 111 ar-lein roi cyngor ar gyfer salwch ac anhwylderau ysgafn.