Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r hwn yn ddatganiad ynghylch amseroedd aros cyfredol y GIG yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hiraf gyda nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth wedi lleihau am y pumed mis yn olynol. Mae hyn yn ostyngiad o 16 y cant ers y brig ym mis Mawrth.

Mae miloedd o bobl yn dal i gael eu gweld a’u trin gan GIG Cymru a chynhaliwyd mwy na 338,000 o ymgynghoriadau ym mis Awst. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i weld sut gallwn eu cefnogi orau i gwrdd â’n targedau gofal a gynlluniwyd. 

Gwelwyd ychydig yn fwy o bobl yn dechrau eu triniaeth canser ym mis Awst (1,691) nag yn y mis blaenorol. Caewyd cyfanswm o 13,534 o lwybrau ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd ganddo ganser, sy’n gynnydd o fwy na 12% o’i gymharu â’r mis blaenorol a’r lefel uchaf a gofnodwyd. Mae llawer iawn o waith, ffocws, buddsoddiad a newidiadau i wasanaethau ar y gweill i leihau nifer y bobl sy’n aros am driniaeth canser. Yn ddiweddar, cynhaliodd y Gweinidog Iechyd gyfarfod gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i glywed eu cynlluniau ynglŷn â sut y maent yn gweithio i leihau’r rhestrau aros.

Yn ystod mis Awst caewyd ychydig dros 93,000 o lwybrau cleifion, sy’n gynnydd sylweddol ers cyfnod cynnar y pandemig a 27 y cant yn uwch nag ar gyfer yr un mis yn 2021.

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gwelwyd lleihad yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros, i ychydig dros 107,000 ym mis Awst o 110,000 ym mis Gorffennaf. Ar gyfer therapïau, gwelwyd lleihad yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros i ychydig dros 67,500 ym mis Awst.

Mae staff gofal brys a gofal mewn argyfwng yn parhau i fod dan bwysau mawr, ac rydym yn gweithio gydag arweinwyr yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi gwelliannau. Rydym yn cydnabod nad yw perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd ein disgwyliadau ni yn GIG Cymru, na disgwyliadau’r cyhoedd, ac rydym yn arwain ymateb system gyfan i gefnogi gwelliant. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gymryd perchnogaeth a lleihau’r oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansiau, yn ogystal â gweithio gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella prydlondeb o ran anfon cleifion adref o’r ysbyty.

Mae perfformiad wedi gwella yn erbyn y safonau pedair awr a deuddeg awr a bu lleihad bychan yn yr amser cyfartalog (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau argyfwng. Ym mis Medi gwelwyd y perfformiad gorau yn erbyn y safon pedair awr ers mis Ionawr 2022 ac mae hyn yn tystio i waith caled staff yr adrannau argyfwng yn wyneb y pwysau parhaus ar y system.