Neidio i'r prif gynnwy

Dyma sylwadau am y pwysau cyfredol ar y GIG Cymru, a'r ymateb iddyn nhw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae ein GIG yn parhau i wynebu galw digynsail ac mae'n gweld miloedd o bobl bob dydd. Mewn ysbytai yn unig, cynhaliwyd dros 361,000 o ymgynghoriadau ym mis Medi.

Caewyd dros 99,000 o lwybrau cleifion ym mis Medi, sydd yn ôl i’r lefel cyn y pandemig a 6% yn uwch nag ym mis Awst a chafodd mwy o gleifion nag erioed (13,856) wybod nad oedd canser arnynt ym mis Medi.

Mae cynnydd yn parhau o ran yr amseroedd aros hiraf. Mae nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng am y chweched mis yn olynol, ac i lawr 19 y cant ers y brig ym mis Mawrth. Mae’r nifer sy’n aros mwy na 36 wythnos hefyd wedi gostwng ym mis Medi, 3% yn llai nag ym mis Awst.

Mae staff gofal sylfaenol, ambiwlans ac adrannau brys yn parhau i fod o dan bwysau dwys. Fel enghraifft, mis Hydref gwelwyd y nifer uchaf a'r gyfran uchaf o alwadau 'coch'/ ar unwaith sy'n bygwth bywyd ar gof a chadw.

Arwydd pellach o gymhlethdod anghenion cleifion yw nifer y cleifion sydd yn cael eu derbyn i'r un ysbyty neu ysbyty gwahanol ar ôl mynychu adran frys fawr, a oedd 27.1% yn uwch na Medi 2022. 

Er ein bod ni’n cydnabod nad yw perfformiad ambiwlansiau gystal ag yr ydyn ni, yn disgwyl iddo fod, rydym yn arwain gwelliant gan gynnwys ymestyn gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i fod ar gael saith diwrnod, rheoli galwadau i osgoi derbyn pobl i’r ysbyty a recriwtio staff ychwanegol. Heb yr ymyriadau hyn byddai’r pwysau ar y system yn fwy fyth.”