Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fis Ebrill y llynedd, gwnaethom osod targed i gael gwared â nifer y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn 2022. Roeddem yn gwybod y byddai’n heriol, ond roeddem am weld byrddau iechyd yn canolbwyntio eu hymdrechion ar hyn. Rydym yn siomedig na chafodd y targed uchelgeisiol hwn, na osodwyd yn Lloegr, ei gyflawni.

Byddwn yn parhau i bwyso ar fyrddau iechyd i ganolbwyntio ar yr achosion hynny sy’n aros hiraf, ar ôl delio â’r achosion brys.

Mis Rhagfyr oedd un o’r misoedd anoddaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda chyfraddau uchel o covid a’r ffliw, galw enfawr yn sgil pryderon am Strep A ac effaith gweithredu diwydiannol ar weithgarwch.

Er gwaetha’r pwysau, mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran gofal a gynlluniwyd a gofal mewn argyfwng yn y GIG yng Nghymru. Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod bron i 320,000 o ymgyngoriadau+ wedi’u cynnal ym mis Rhagfyr mewn ysbytai yn unig ac mewn un wythnos ym mis Rhagfyr cafodd gofal sylfaenol (meddygfeydd ac ati) gysylltiad â thros 400,000 o gleifion. Diolch i ymdrechion rhagorol ein staff yn y GIG, rydym yn falch o weld y gwnaeth nifer y llwybrau cleifion ostwng am y trydydd mis yn olynol, ond yn Lloegr bu'r rhain yn cynyddu.

Rydym hefyd yn falch bod cynnydd yn dal i gael ei wneud o safbwynt yr achosion sy’n aros hiraf ac mae nifer yr achosion sy’n aros dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng am y nawfed mis yn olynol – gostyngiad o 36% ers yr uchafbwynt ym mis Mawrth. Mewn sawl maes arbenigedd, llwyddwyd i gael gwared yn llwyr â’r achosion a oedd yn aros dwy flynedd, ond mae yna saith maes arbenigedd lle mae’r niferoedd sy’n aros yn annerbyniol o hir.

Rydym yn parhau i bwyso ar fyrddau iechyd i ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle ceir y rhestrau hiraf ac i egluro sut maent yn bwriadu cyrraedd safonau perfformiad a welir mewn mannau eraill yn y DU.

Er y methwyd â chyrraedd y targed cleifion allanol, gwnaeth nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf ostwng 12.1% ym mis Rhagfyr o gymharu â’r mis blaenorol, gan leihau am y pedwerydd mis yn olynol i’r nifer isaf ers mis Ionawr 2021. Rydym wedi gweld gostyngiad o 27% o’r uchafbwynt ym mis Awst 2022. Fel y sefyllfa gydag achosion sy’n aros yn hir am driniaeth, mae 9 o bob 10 o’r achosion sy’n aros dros 52 wythnos yn achosion mewn dim ond saith maes arbenigedd.

Rydym yn arbennig o falch o weld gwelliant ym mis Ionawr o ran faint o amser mae’n ei gymryd i gael mynediad at ofal mewn argyfwng, ond mae’r sefyllfa’n anwadal o hyd, yn enwedig yn sgil gweithredu diwydiannol parhaus a risgiau eraill yn y system.

Yn ffodus, bu lefelau is o alw ar wasanaethau ambiwlans ym mis Ionawr. Ynghyd â chamau pwrpasol a gymerwyd i gynyddu capasiti gan gynnwys darparu bron i 600 o welyau cymunedol, gwnaeth hyn arwain at welliant mewn amseroedd ymateb ar gyfer galwadau Coch ac Oren. Yn ogystal, bu gwelliant mewn perfformiad o ran y targedau amseroedd aros pedair awr a deuddeg awr mewn adrannau achosion brys. Gwnaeth yr amser cyfartalog a dreulir mewn adrannau achosion brys ostwng i ddwy awr tri deg pum munud, y gorau ers mis Ebrill 2021.

Er bod perfformiad gofal mewn argyfwng wedi gwella dros y mis diwethaf, nid yw ar y lefel y byddem yn ei disgwyl ac rydym yn dal i weld llawer gormod o bobl yn wynebu oedi ar draws y system. Rydym yn parhau i ysgogi gwelliannau i’r system, gan gynnwys estyn gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod i fod ar agor saith diwrnod yr wythnos, gwella'r ffordd y mae cleifion 999 yn cael eu rheoli dros y ffôn, a gweithredu canllawiau gweithredol i gefnogi’r llif drwy ysbytai.