Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gafodd eu cyhoeddi heddiw (21ain Mawrth).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

Am y trydydd mis yn olynol, mae’r nifer sydd ar restrau aros yn gyffredinol wedi gostwng.

Gwnaeth nifer y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth hefyd ostwng eto, a hynny am yr ail fis ar hugain yn olynol.

O ystyried bod y ffigurau diweddaraf yn berthnasol i gyfnod pan welwyd gweithredu diwydiannol, a chan gadw mewn cof hefyd y pwysau arferol ar y system a welwyd ym mis Ionawr, mae hwn yn gyflawniad nodedig gan staff y GIG sy’n gweithio mor galed.

Roedd yr amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau lle mae bywyd yn y fantol (galwadau coch) 10 eiliad yn gyflymach o’u cymharu â’r mis blaenorol, a chafodd 80% ymateb ymhen 15 munud.

Roedd cyfran y galwadau coch yn gydradd drydydd ymhlith yr uchaf ar gofnod. Rydym yn disgwyl gweld byrddau iechyd yn rhoi blaenoriaeth i wella eu perfformiad wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans, er mwyn cefnogi ymatebion ambiwlans mwy amserol.

Yn yr adrannau achosion brys, roedd cleifion yn aros 18 a 58 munud ar gyfartaledd i gael eu brysbennu ac yna eu hasesu gan glinigydd, yn y drefn honno.

Rydym wedi herio byrddau iechyd i wella ar yr amseroedd hyn ac i wneud gwelliannau mewn perthynas â mesurau allweddol eraill hefyd fel rhan o’n 'Datganiad ansawdd ar gyfer gofal mewn adrannau achosion brys', a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf.

Mae hefyd yn braf gweld mwy o bobl yn dechrau ar eu triniaeth gyntaf ar gyfer canser ym mis Ionawr nag yn y mis blaenorol, a bod mwy o bobl wedi cael gwybod nad oes ganddyn nhw ganser.

Gwellodd yr amser aros cyfartalog am driniaeth hefyd, ac roedd gostyngiad am y trydydd mis yn olynol yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am brofion diagnostig ac am therapïau.

Fodd bynnag, mae’n siomedig gweld bod nifer y rhai sy'n aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu eto.

Ym mis Chwefror, gwnaethom ni hefyd weld cynnydd yng nghyfanswm yr oedi yn achos llwybrau gofal o’i gymharu â’r mis blaenorol, sy’n arwydd o’r anawsterau yn sgil effaith pwysau’r gaeaf ar ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod cyfanswm Cymru wedi cynyddu, rydym hefyd wedi gweld rhai gwelliannau calonogol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Ond mae’r tueddiad o ran y prif ystadegau yn symud i’r cyfeiriad cywir, ac mae hynny wedi ein calonogi.