Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

Mae amseroedd aros hir yn parhau i ostwng – mae'r ffigurau hyn yn dangos eu bod wedi gostwng bob mis ers dwy flynedd a bod gostyngiad o 71% wedi bod mewn arosiadau hir ers eu huchafbwynt ar ôl y pandemig.

I waith caled ein staff yn y Gwasanaeth Iechyd y mae'r diolch am hyn, a hwythau'n gweithio'n ddiflino i roi gofal o ansawdd uchel.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros a'i gwneud yn haws i bobl ledled Cymru gael at ofal a gwasanaethau drwy'r Gwasanaeth Iechyd.

Er gwaethaf y galw uchel parhaus a’r pedwar diwrnod o weithredu diwydiannol cyn penwythnos Gŵyl y Banc, rydym hefyd wedi gweld gostyngiad yn yr amseroedd aros diagnostig. Mae’r niferoedd sy’n aros mwy nag 8 wythnos wedi gostwng i’r lefelau isaf ers mis Ebrill 2020.

Ac mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn perfformiad yn erbyn y targed 62 o ddiwrnodau ym maes canser ym mis Mawrth i 60.5%, o'i gymharu â 53.4% yn y mis blaenorol – dyma'r gyfradd uchaf ers mis Mawrth 2022. Serch hynny, mae angen inni weld rhagor o waith gan y Gwasanaeth Iechyd i gynnal a gwella'r perfformiad hwn.

Cofnododd adrannau brys eu mis Ebrill prysuraf ar gofnod. Er gwaethaf hyn, gwelwyd gwelliant yn eu perfformiad yn erbyn y targedau pedair awr a 12 awr ym mis Ebrill.

Ond nid yw perfformiad ambiwlansys yr hyn rydyn ni am iddo fod. Mae'r ymateb cyfartalog i alwadau oren wedi gwella, serch hynny, a chafodd dros 80% o alwadau 999 coch ymateb o fewn 15 munud. Rydym wedi bod yn glir gyda’r Byrddau Iechyd am yr angen i ryddhau criwiau ambiwlans o’r adrannau brys yn gyflym er mwyn lleihau’r ameroedd aros i’r rhai sydd yn yr angen mwyaf.