Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 18 Awst).

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i leihau’r amseroedd aros hwyaf. Am y trydydd mis yn olynol, lleihaodd nifer y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd ac roedd 12% yn is ym mis Mehefin na’r uchafbwynt ym mis Mawrth.

Cynhaliwyd bron i 343,000 o ymgyngoriadau â chleifion gan y GIG yng Nghymru ym mis Mehefin o ran pobl yn mynd i adrannau achosion brys, cleifion allanol a chleifion mewnol/achosion dydd. Hefyd ym mis Mehefin caewyd ychydig dros 88,000 o lwybrau cleifion, sy’n gynnydd sylweddol o gymharu â chyfnodau cynnar y pandemig ac mae’n 4% yn uwch na’r ffigur ar gyfer yr un mis yn 2021. Yn ogystal, yn y mis diweddaraf, lleihaodd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion yn aros am driniaeth, o 22.6 wythnos i 21.6 wythnos.

O ran gwasanaethau diagnostig hefyd, roedd pobl yn aros llai o amser i gael eu gweld na’r mis blaenorol. Yr amser aros cyfartalog ym mis Mehefin ar gyfer profion diagnostig oedd 5.6 wythnos, sydd wedi gostwng o 5.7 wythnos yn y mis blaenorol.

Mae gwasanaethau diagnostig yn un o’r meysydd sydd wedi elwa o’r £1 biliwn a fuddsoddwyd yn yr adferiad ôl-bandemig. Lleihaodd nifer y llwybrau sy’n aros mwy na 14 wythnos am therapïau ym mis Mehefin hefyd.

Caewyd mwy o lwybrau canser ym mis Mehefin na’r mis blaenorol ar ôl i fwy o gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser. Hefyd, cynyddodd perfformiad rywfaint o ran y targed 62 diwrnod o gymharu â mis Mai. Mae gwelliannau sylweddol wedi bod mewn gwasanaethau’r fron dros y ddau fis diwethaf gyda ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys cyflwyno clinigau ar y penwythnos a byrddau iechyd yn cefnogi ei gilydd i weld cleifion.

Mae galw mawr o hyd am ofal mewn argyfwng, gyda bron i 92,000 yn mynychu adrannau achosion brys yng Nghymru, a’r lefel uchaf o alw erioed o ran galwadau am ambiwlans lle mae bywyd yn y fantol. Er hyn, mae’r mwyafrif o gleifion yn parhau i gael mynediad amserol at y gofal y mae arnynt ei angen, gyda’r amser cyfartalog y mae pobl yn aros i gael eu gweld yn lleihau.

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae cyllideb flynyddol gwerth £25 miliwn yn cefnogi’r Rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, a lansiwyd yn gynharach eleni, a gwnaethom gyhoeddi’n ddiweddar £3 miliwn ychwanegol i gynyddu capasiti ambiwlans argyfwng drwy recriwtio rhwng 100 a 150 o aelodau o staff rheng flaen ychwanegol. 

Yn sgil yr heriau sylweddol y mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi’u hwynebu, mae prif weithredwyr GIG Cymru wedi cytuno ar gynllun gwella cenedlaethol ar gyfer ambiwlansys i gymryd camau gweithredu amrywiol i roi cymorth gwell i reolaeth o’r galw am wasanaethau 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti o ran ambiwlansys, gwella’r ymateb i bobl â chwynion sensitif o ran amser a throsglwyddiadau cleifion ambiwlans. Rydym wedi dechrau gweld gwelliant mewn perfformiad o ran trosglwyddo cleifion ambiwlans mewn rhai ardaloedd. Bydd hyn yn helpu i wella profiad a chanlyniadau cleifion, a rhyddhau capasiti ambiwlansys i ymateb i alwadau brys yn y gymuned.