Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn ymateb i ddata diweddaraf GIG Cymru o ran perfformiad a gweithgarwch.
Rydyn ni'n gwybod nad yw'r ffigyrau hyn yn ddigon da. Mae gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir am y driniaeth sydd ei hangen arnynt, ac nid yw hynny'n dderbyniol.
Mae lleihau'r rhestrau aros yn flaenoriaeth allweddol gan y llywodraeth hon, a fyddwn ni ddim yn osgoi'r her. Dyna pam rydyn ni wedi cymryd camau pendant i sicrhau gwelliannau parhaol i amseroedd aros, gydag ymrwymiad clir na ddylai neb aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
Bydd y cynlluniau hyn a arweinir yn glinigol, sydd wedi'u cefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol o £145 miliwn yn GIG Cymru, yn lleihau’r aros yn hirdymor ac mewn ffordd gynaliadwy.
Rwy'n disgwyl gweld cynnydd yn fuan. Rwyf wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd mai nhw sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau hyn i ailosod sut mae gofal a gynlluniwyd yn cael ei ddarparu yng Nghymru.
Rwy'n falch bod data dros dro ar gyfer mis Medi yn dangos gostyngiad yn yr arosiadau hiraf o fwy na dwy flynedd, ond rwyf am weld y niferoedd hyn yn gostwng yn gyson.
Roedd cyfleusterau gofal brys – gan gynnwys adrannau argyfwng – yn eithriadol o brysur gyda mwy na 98,700 o bobl yn bresennol ym mis Medi, yr uchaf erioed ar gyfer y mis hwnnw.
Mae perfformiad yn erbyn y targed pedair awr a'r amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau argyfwng wedi gwella ychydig o'i gymharu â'r mis blaenorol, ond rydym yn cydnabod bod gormod o bobl yn treulio'n rhy hir mewn ysbytai.
Byddaf yn lansio fframwaith polisi gofal argyfwng ac acíwt newydd fis nesaf sy'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer byrddau iechyd a phartneriaid.
Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i fod yn agored am yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau, a dyna pam rydym wedi dileu'r canllawiau ‘eithriadau clinigol’ hirsefydlog.
Bydd yr amseroedd aros ar gyfer cleifion nawr yn seiliedig ar gyfanswm yr amser a dreulir mewn adran argyfwng, gan gynnwys yr amser a dreulir yn cael eu harsylwi, yn adfer neu’n aros am gludiant.
Bydd hyn yn gwella ansawdd a hygrededd yr wybodaeth rydyn ni'n ei defnyddio i fonitro profiadau cleifion.
Rydym yn disgwyl diwedd heriol i'r hydref a gaeaf anodd o'n blaenau.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn rydym wedi rhoi cynlluniau parodrwydd y gaeaf ar waith yn gynt nag erioed o'r blaen ac yn symud tuag at ymagwedd blwyddyn gyfan o ran parodrwydd a gwydnwch y system, fel ein bod ni'n fwy parod ar gyfer cyfnodau o alw uchel ar wasanaethau.
Mae cynlluniau ar gyfer y gaeaf wedi cael eu rhoi ar waith gan fyrddau iechyd a phartneriaid i wella llif cleifion, cryfhau gwydnwch y system a chefnogi rhyddhau cleifion yn amserol o'r ysbyty.
Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, gwnaethpwyd cynnydd o ran lleihau'r llwybrau cleifion sy'n aros i ychydig dros 111,600 ym mis Awst, y ffigwr isaf ers mis Medi 2024, tra bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros am therapïau hefyd wedi gostwng i ychydig dros 65,600.
Cafodd mwy na 13,500 o bobl y newyddion da nad oedd canser arnynt a dechreuodd 2,000 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Awst.
Mae staff y GIG a gofal cymdeithasol yn gwneud gwaith anhygoel, yn aml o dan bwysau gwirioneddol, i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Rwyf am ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud, ac am y tosturi maen nhw'n ei ddangos bob dydd.
