Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, yn ymateb i'r data perfformiad diweddaraf GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Rwy'n falch o weld gostyngiad sylweddol yn yr amseroedd aros hiraf ac o weld bod maint cyffredinol y rhestr aros wedi gostwng am y trydydd mis yn olynol.

Mae hyn yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd byrddau iechyd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys triniaeth gyflymach a chynyddu capasiti'r GIG, drwy gofleidio ffyrdd newydd o weithio.

Mae'r ymdrechion hyn wedi cael eu cefnogi gan ein buddsoddiad ychwanegol o £50 miliwn.

Mae gennyn ni ragor o waith i'w wneud o hyd i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol, ond mae'n galonogol gweld amseroedd aros yn gostwng yn gyson.

Mae amseroedd aros 2 flynedd wedi gostwng i'w lefelau isaf ers mis Mehefin 2021 ac roedden nhw fwy na 26% yn is o'i gymharu â'r mis blaenorol.

Mae nifer y llwybrau sy'n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel cleifion allanol wedi gostwng am y trydydd mis yn olynol ac mae bron 28% yn is na'r brig ym mis Awst 2022.

Roedd nifer y llwybrau cleifion sy'n aros 36 wythnos a'r amser aros ar gyfartaledd am driniaeth yn is na'r mis blaenorol.

Mae gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng ledled Cymru yn parhau i fod yn hynod o brysur.

Ym mis Mawrth roedd bron 5,400 o alwadau ‘coch’ lle'r oedd bywyd yn y fantol i'r gwasanaeth ambiwlans, 9% yn uwch na'r lefel uchaf blaenorol o alw ar gyfer mis Mawrth.

Serch hynny, roedd yr amser ymateb cyfartalog yn llai nag 8 munud a chafwyd ymateb i dros 80% o alwadau o fewn 15 munud.

Gostyngodd nifer y llwybrau cleifion sy'n aros am wasanaethau diagnostig o'i gymharu â'r mis blaenorol, ac roedd gwelliant mewn perfformiad hefyd yn erbyn yr amser aros hiraf targed ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapïau.

Fe wellodd perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod o ran canser ym mis Tachwedd, gan gynyddu i 60%, tra dechreuodd 1,800 o bobl driniaeth canser a chafodd dros 13,000 o bobl y newyddion da nad oedd ganddyn nhw ganser.

Cyflawnwyd gwelliant sylweddol ym mis Mawrth o ran lleihau cyfanswm nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty gyda gostyngiad o 114 oedi dros y mis blaenorol.

Dyma oedd y ffigur oedi isaf dros y flwyddyn ddiwethaf a'r isaf ond un yn gyffredinol ers inni ddechrau adrodd am hyn 2 flynedd yn ôl.