Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi cyhoeddi £120 miliwn i ariannu cynllun i ddileu amseroedd aros hir a lleihau maint y rhestr aros eleni.
Nid oes gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe na Bwrdd Iechyd Powys unrhyw lwybrau sy'n aros mwy na 2 flynedd ac nid oes neb yn aros blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf yno. Mae gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan lai na 300 o lwybrau cleifion sy'n aros mwy na 2 flynedd am driniaeth, sef llai nag 1% o'r bobl ar eu rhestrau aros.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r nifer uchaf o lwybrau sy'n aros mwy na 2 flynedd am driniaeth yng Nghymru.
Mae data perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (19 Mehefin 2025), yn cwmpasu gofal a gynlluniwyd tan ddiwedd mis Ebrill, ac yn cynnwys cyfnod gwyliau'r Pasg.
Er bod twf yn nifer y bobl sy'n aros mwy na 2 flynedd am driniaeth o'i gymharu â ffigurau mis Mawrth, mae amseroedd aros hir bellach 86% yn is na phan oedd yr amseroedd ar eu hiraf. Ffigur mis Ebrill yw'r ail isaf ers mis Ebrill 2021.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Siomedig yw gweld y twf mewn amseroedd aros hir ym mis Ebrill ar ôl yr holl gynnydd y mae byrddau iechyd wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf.
Er hynny, rydyn ni'n gweld y tuedd yma bob mis Ebrill yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Dyma pam rydyn ni'n gwneud newidiadau i'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn darparu gofal wedi'i gynllunio ac yn buddsoddi £120 miliwn i leihau amseroedd aros eleni.
Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella mynediad at ofal, gan ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl gael triniaeth cyn gynted â phosibl.
Bydd y cyllid newydd hwn yn golygu mwy o apwyntiadau, profion a thriniaethau cyflymach dros y flwyddyn nesaf.
Rydyn ni'n gofyn i bobl wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd drwy fynd i'w hapwyntiad a gwneud yn siŵr eu bod yn iach ac yn barod i gael triniaeth.
Dechreuodd bron i 2,000 o bobl eu triniaeth ar gyfer canser a chafodd ychydig o dan 15,000 o bobl y newyddion da nad oedd ganddynt ganser ym mis Ebrill. Mae'r 2 ffigur hyn yn cynrychioli cynnydd ers mis Mawrth.
Mae gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng yn parhau i weld nifer mawr o bobl. Dyma'r mis Mai prysuraf erioed i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda'r nifer uchaf o alwadau coch, lle'r oedd bywyd yn y fantol ar gofnod. Serch hynny, roedd yr amser ymateb canolrifol yn union 8 munud a chafwyd ymateb i dros 80% o alwadau o fewn 15 munud.
Mae perfformiad adrannau achosion brys yn parhau i fod yn sefydlog a'r amser cyfartalog ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion oedd 2 awr a 46 munud ar draws yr holl gyfleusterau gofal argyfwng.
Mae pobl yn cael eu hannog i ffonio GIG 111 am gyngor i sicrhau eu bod yn cael y gofal cywir, a hynny gan y gwasanaeth GIG cywir ar gyfer eu hanghenion.
