Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er gwaethaf y galw sylweddol ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a rhywfaint o darfu yn sgil gweithredu diwydiannol, mae staff y GIG wedi gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal o ansawdd uchel a pharhau i leihau’r amseroedd aros hir.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod chwech o’r saith bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targed i sicrhau bod 97% o’r holl arosiadau yn llai na 104 o wythnosau. Mae nifer y llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd wedi gostwng eto - am y 23ain mis yn olynol. Yr amser aros cyfartalog am driniaeth erbyn hyn yw oddeutu 21 wythnos.

Gostyngodd y nifer a oedd yn aros yn hir am apwyntiad diagnostig i'r lefel isaf ers mis Mawrth 2022. Dim ond mewn pedwar mis arall y bu'r nifer hwn yn is ers mis Ebrill 2020.

Ym mis Chwefror, cafodd mwy na 14,000 o bobl y newyddion da nad oes ganddynt ganser. Ond ym maes canser yn gyffredinol, rwy'n siomedig iawn bod perfformiad wedi gostwng yn erbyn y targed y mis hwn.

Mae’n siomedig hefyd gweld bod y rhestr aros gyffredinol wedi cynyddu o ran maint ar ôl tair cwymp yn olynol, ond nid yw hyn yn syndod o ystyried y streic ym mis Chwefror.

Mae llawer iawn o waith i’w wneud o hyd i wella amseroedd aros a pherfformiad y GIG. Rhaid i ni ganolbwyntio ar wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn y GIG - mae angen i rai byrddau iechyd wneud yn well.

Mae hwn yn faes y bydd fy swyddogion a Gweithrediaeth y GIG yn canolbwyntio arno. Rwyf hefyd eisiau gwella mynediad y cyhoedd at wybodaeth fel y gallant graffu ar berfformiad eu bwrdd iechyd lleol.

Mae'r galw ar y gwasanaethau brys yn parhau i fod yn sylweddol. Ym mis Mawrth, roedd nifer y galwadau i’r gwasanaeth ambiwlans lle roedd bywyd yn y fantol y pedwerydd uchaf a gofnodwyd erioed. Ond er hyn, roedd yr amser ymateb cyfartalog i alwadau coch yn gyflymach na'r un cyfnod y llynedd a cafodd 80.3% o alwadau coch ymateb o fewn 15 munud.

Roedd nifer o bobl a aeth i'r adrannau achosion brys ar ei uchaf erioed ym mis Mawrth a gwelwyd cynnydd o 10% yn y derbyniadau i’r ysbyty o’r adrannau achosion brys hefyd.

Rwy'n siomedig i weld bod cynnydd wedi bod yn yr arosiadau hir mewn adrannau achosion brys. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd ganolbwyntio o'r newydd ar leihau arosiadau hir mewn adrannau achosion brys, yn enwedig ar gyfer pobl eiddil ac oedrannus.