Nod y gwaith ymchwil hwn oedd diffinio a dechrau datblygu ecosystem wybodaeth newydd sy’n cefnogi’r system ysgolion diwygiedig yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr ymchwil hon oedd diffinio ecosystem data a gwybodaeth addysg newydd i Gymru sy'n gallu cefnogi tair swyddogaeth graidd rhanddeiliaid yn y system ysgolion:
- hunanwerthuso a gwella gwasanaethau, cefnogaeth neu bolisïau ymhob haen
- atebolrwydd a goruchwylio pob haen yn effeithiol
- tryloywder ym mhob rhan o'r system, gan ddangos perfformiad a chynnydd i rieni a gofalwyr, cymunedau a rhanddeiliaid ehangach
Defnyddid dull iteraidd ac addasol wrth wneud yr ymchwil, gan gynnwys adolygu canfyddiadau newydd, llinellau ymholi a dulliau yn rheolaidd, ac addasu er mwyn sicrhau'r ymgysylltu gorau posibl â rhanddeiliaid.
Mae'r canfyddiadau a nodir yn yr adroddiad hwn yn denu ar ymchwil o amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Mae'r canfyddiadau'n canolbwyntio ar y canlynol:
- diffinio nodweddion allweddol yr ecosystem data a gwybodaeth bresennol
- mapio anghenion rhanddeiliaid o ran data a gwybodaeth
- asesu meysydd lle bo angen gwneud newidiadau
- hawliau a chydraddoldeb
Mae'r adroddiad yn gorffen gydag argymhellion manwl i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymateb i’r adroddiad hwn a’i argymhellion.
