Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwil gwmpasu hwn yn edrych ar farn rhieni a gweithwyr proffesiynol i lywio’r gwaith o gyflwyno bwndeli babi yn genedlaethol.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys darpar-rieni a rhieni newydd; aelodau o’r gweithlu sydd â diddordeb mewn bwndeli babi, megis bydwragedd ac ymwelwyr iechyd; a sefydliadau rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda rhieni neu sy’n eu cefnogi.

Amcanion yr ymchwil oedd casglu tystiolaeth i lywio’r gwaith o gyflwyno’r cynllun bwndeli babi, nodi’r eitemau hanfodol y dylid eu cynnwys yn y bwndel, a phenderfynu ar faes pwnc a fformat unrhyw wybodaeth a ddarperir i rieni fel rhan o’r bwndel. Bu’r ymchwil hefyd yn archwilio barn ar gofrestru ar gyfer y bwndel a’i gyflwyno, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am y bwndeli babi i ddarpar-rieni.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd rhieni, rhanddeiliaid, a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd yn cefnogi nodau a bwriadau’r prosiect ac yn croesawu’r fenter.
  • Ystyriwyd bod y rhan fwyaf o’r eitemau arfaethedig yn briodol ac fe fyddant yn cael eu defnyddio, ond nodwyd bod rhai eitemau’n anaddas efallai neu’n rhai a allai fynd yn wastraff o bosibl.
  • Roedd rhieni ar y cyfan yn cefnogi’r eitemau y gellir eu hailddefnyddio – dywedodd dros dri chwarter y rhai a holwyd eu bod yn debygol o ddefnyddio padiau bron y gellir eu hailddefnyddio, ac roedd dwy ran o dair yn credu y byddai pecyn cychwyn cewynnau y gellir eu hailddefnyddio yn ddefnyddiol.
  • Roedd y rhan fwyaf o rieni am gael gwybodaeth yn y bwndel ar ffurf copi caled, fel taflenni gwybodaeth.
  • Roedd bron pob un o’r bydwragedd a’r gweithwyr proffesiynol eraill yn credu y dylai rhieni gael gwybod am y bwndeli babi yn ystod apwyntiad gyda’r fydwraig.
  • Hoffai’r rhan fwyaf o rieni gofrestru ar gyfer y bwndel gan ddefnyddio ffurflen ar-lein yn eu hamser eu hunain, ond byddai’n well gan rai wneud hyn gyda bydwraig yn ystod apwyntiad. Roedd y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol yn credu mai’r peth gorau fyddai cynnig y ddau opsiwn i rieni.
  • Roedd y rhan fwyaf o rieni a gweithwyr proffesiynol yn credu mai’r amser gorau ar gyfer cyflwyno bwndel babi fyddai rhwng wythnos 30 ac wythnos 36 o feichiogrwydd.

Adroddiadau

Ymchwil cwmpasu i lywio'r gwaith o gyflwyno bwndeli babi yn genedlaethol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Abigail Ryan

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.