Neidio i'r prif gynnwy

Nodau yr ymchwil a methodoleg

Comisiynwyd Miller Research, ar y cyd ag Old Bell 3 a Meurig Roberts, i gyflawni ymchwil i archwilio’r defnydd o asesiadau yn y  Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion.

Diben yr ymchwil yw archwilio effaith asesu, gan gynnwys Proffil y Cyfnod Sylfaen a’r asesiadau personol mewn Darllen a Rhifedd (Gweithdrefnol), ar addysgu a dysgu yn ystod y Cyfnod Sylfaen, a’r graddau y caiff y dulliau asesu hyn eu integreiddio ag arferion gwaith. Trwy archwilio’r hyn roedd gan ymarferwyr i’w ddweud ar gwestiynau allweddol ynghylch asesu, bwriad yr ymchwil yw galluogi Llywodraeth Cymru i elwa ar brofiad yr ymarferwyr a gyfwelwyd wrth lunio penderfyniadau ac o bosibl adnabod meysydd lle mae angen mwy o gefnogaeth ac adnoddau.

Cynhwyswyd 20 o ysgolion astudiaethau achos i gyflawni gwaith maes. Dewiswyd ysgolion ar sail amrywiaeth helaeth o ffactorau, gan gynnwys lleoliad daearyddol, iaith, maint, a’r nifer o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM).

Cyfwelwyd cyfanswm o 76 o ymarferwyr addysg a rhiant-lywodraethwyr, yn ogystal â’r 18 o randdeiliaid a gyfwelwyd fel rhan o gyfnod cwmpasu’r ymchwil.

Prif ganfyddiadau

Arferion asesu yn y Cyfnod Sylfaen

Cydnawsedd ag Egwyddorion Addysgegol y Cyfnod Sylfaen

Roedd ymarferwyr ag agwedd gadarnhaol tuag at y cysondeb rhwng Proffil y Cyfnod Sylfaen ac egwyddorion addysgegol y Cyfnod Sylfaen. Roedd hyn yn bennaf oherwydd: gellid cyflawni’r asesiadau sylfaenol a diwedd-cyfnod yn bennaf trwy arsylwi. Roedd, fodd bynnag, llawer o enghreifftiau yn y mwyafrif o ysgolion o ymarferwyr yn disgrifio gorfod paratoi tasgau penodol, weithiau wrth ddesg, er mwyn asesu sgiliau penodol na ellid eu harsylwi mor rhwydd trwy chwarae. Y ffactorau allweddol a oedd gyrru ymarferwyr i ddefnyddio tasgau penodol oedd cymhlethdod a natur y sgìl a aseswyd, gyda hyn yn dod yn fwy o anhawster mewn blynyddoedd hŷn yn y Cyfnod Sylfaen, a phwysau amser ar ymarferwyr.

Y graddau y defnyddir Proffil y Cyfnod Sylfaen

Y tu hwnt i gyfnod statudol ei ddefnyddio yn chwe wythnos gyntaf y flwyddyn derbyn, defnyddiwyd Proffil y Cyfnod Syflaen gan chwarter o’r ysgolion astudiaethau achos (pump). Roedd pum ysgol wedi datblygu eu systemau asesu mewnol eu hunain, gyda’r deg a oedd yn weddill yn defnyddio pecynnau meddalwedd eraill.

Er nad oedd y mwyafrif o’r ysgolion yn defnyddio’r Proffil y tu hwnt i’r flwyddyn derbyn, nid ymddengys fod hyn yn adlewyrchiad o ansawdd y Proffil ond ei fod i raddau helaeth o ganlyniad i’r graddau mae pecynnau eraill ar gael, sy’n cynnig llwyfan hygyrch y gellir ei gyrraedd trwy ddyfeisiadau symudol.

Roedd mwyafrif y systemau a ddatblygwyd yn fewnol a ddefnyddid gan ysgolion yn seiliedig ar Broffil y Cyfnod Sylfaen, gydag ymarferwyr yn disgrifio’r ffordd roeddent wedi gwneud nifer o newidiadau i’w gwneud yn fwy addas ar gyfer eu hanghenion, a oedd yn cynnwys:

  • torri’r lefelau canlyniadau’n gamau cynyddrannol llai
  • canolbwyntio mwy ar ymagwedd at ddysgu yn hytrach nag ar sgiliau yn unig

Yn gyffredinol, roedd darlun cymysg ynghylch y tueddiadau i ddefnyddio Proffil y Cyfnod Sylfaen o fewn yr ysgolion, gyda dwy ysgol yn ddiweddar wedi symud oddi wrth ddefnyddio pecynnau meddalwedd amgen, y naill ar sail awgrym awdurdod lleol a’r llall ar sail awgrym consortiwm rhanbarthol, gydag un wedi dychwelyd at ddefnyddio’r Proffil, a’r llall wedi datblygu eu system eu hunain.

Ansawdd a defnyddioldeb Proffil y Cyfnod Sylfaen

Roedd ymarferwyr yn gyffedinol ag agwedd gadarnhaol tuag at ansawdd Proffil y Cyfnod Sylfaen, gan nodi bod y Proffil Cryno yn rhoi cyfrif da o allu cyffredinol dysgwyr, a’i fod yn cynnwys amrywiaeth ddigon helaeth o sgiliau i’w harsylwi a’u hasesu. Cafodd ei ddisgrifio fel rhywbeth defnyddiol ar gyfer gosod targedau ac adnabod y camau nesaf.

Roedd y Proffil Cryno yn fwy addas ar gyfer asesu rhai meysydd na’i gilydd, gyda mwy o alluoedd “du a gwyn” yn haws eu hasesu na meysydd mwy “goddrychol”, megis y rheini o fewn y grisiau Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Llesiant ac Amrywiaeth Ddiwylliannol.

Roedd y mân feirniadaethau mwyaf cyffredin a godwyd ynghylch Proffil y Cyfnod Sylfaen yn cynnwys ei fod yn cymryd gormod o amser, ei fod yn ormod o broses ticio blychau, ac nad oedd wedi ei deilwra’n ddigonol ar gyfer y dysgwr unigol.

Adnabod dysgwyr sydd ag anghenion dysgu arbennig neu ychwanegol

Er nad ydyw wedi cael ei ddatblygu i helpu adnabod problemau datblygiadol mewn plant unigol, gallai Proffil y Cyfnod Sylfaen helpu adnabod dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fe’i defnyddir yn helaeth i gasglu tystiolaeth ar broblemau datblygiadol posibl ochr yn ochr ag amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i ymarferwyr. Cafodd y Proffil ei ddigrifio felly fel man gychwyn da, a dull defnyddiol ar gyfer olrhain anawsterau. Y ffactor a oedd yn cyfyngu ar ei allu i adnabod anawsterau dysgu oedd bod datganiadau o fewn Proffil y Cyfnod Sylfaen mewn rhai achosion yn rhy eang ac amwys. 

Proffil y Cyfnod Sylfaen ac iaith

Roedd dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg o gartrefi a oedd yn bennaf Saesneg eu hiaith yn profi rhywfaint o anawsterau iaith, gydag ymarferwyr yn nodi y gall canlyniadau asesu sylfaenol fod yn is yn sgil bod yn anghyfarwydd â’r iaith addysgu. 

Roedd pryder gan nifer bach o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog y gallai hyn effeithio ar ganfyddiadau rhieni o’u penderfyniad i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, ond canfu eraill fod rheini yn deall unwaith yr esboniwyd y mater hwn iddynt.

Cyfleu asesiadau Proffil y Cyfnod Sylfaen i rieni

Roedd saith ysgol yn adrodd canlyniadau sylfaenol i rieni, fel arfer trwy adroddiadau diwedd blwyddyn a nosweithiau rhieni. O’r ysgolion a oedd yn weddill, roedd y mwyafrif yn defnyddio canlyniadau sylfaenol ar gyfer defnydd mewnol yn unig.

Arferion asesu yn y Cwricwlwm newydd i Gymru

Roedd ymarferwyr yn gyffredinol ag agwedd gadarnhaol at y Cwricwlwm newydd i Gymru; fodd bynnag, codwyd nifer o bryderon ynghylch asesiadau. Roedd y rhain yn cynnwys ehangder y Camau Cynnydd, yr angen am fwy o ddeunydd canllawiau ar gyfer asesu a fframwaith asesu cyffredin, a’r potensial am rwystrau rhag cydweithio a chydweithredu rhwng ysgolion. 

Er na fwriedir i ddysgwyr gael eu hasesu ar sail camau cynnydd o dan o cwricwlwm newydd, siaradodd nifer o ymarferwyr ynghylch asesu ar sail camau cynnydd.

Asesiadau personol ar-lein

Canllawiau ar gyfer asesiadau personol

Un o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil yw nad yw mwyafrif yr ysgolion o angenrheidrwydd wedi llwyr ddilyn y canllawiau sy’n mynd gyda’r asesiadau personol, gyda llawer heb gymryd mantais o’r hyblygrwydd a gynigir.

Cymysg yw’r graddau mae ymarferwyr yn integreiddio asesiadau personol ag arferion y Cyfnod Sylfaen, gyda rhai agweddau o’r canllawiau a roddir i ymarferwyr yn cael eu derbyn, ac eraill yn cael eu dilyn yn llai manwl. Roedd y pwyntiau allweddol ynghylch glynu at y canllawiau fel a ganlyn:

Glynu at y canllawiau:

  • roedd mwyafrif llethol yr ymarferwyr yn dilyn canllawiau ar annog dysgwyr i gymryd seibiant yn ystod yr asesiadau (pob ysgol ond un)
  • roedd bron i hanner yr ysgolion a gyfwelwyd wedi defnyddio, neu’n bwriadu defnyddio, asesiadau personol ddwywaith o fewn y flwyddyn academaidd i sefydlu llinell sylfaen ar gyfer y dysgwyr a deall newid dros amser trwy gyflawni ail asesiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn

Peidio â chadw at y canllawiau

  • Roedd darlun cymysg gyda nifer bach o ysgolion yn dewis cyflawni asesiadau personol mewn amgylchiadau a oedd yn ymdebygu i amodau prawf, sy’n ymddangos fel parhad o weithredu profion ar bapur.
  • Roedd darlun cymysg hefyd ynghylch pa bryd roedd ysgolion yn dewis trefnu asesiadau personol gyda thua hanner yr ysgolion yn dal i drefnu asesiadau o fewn ffenestri cul, fel arfer o ganlyniad i arferion amserlennu’r ysgol, sy’n ymddangos fel pe bai’n parhau â’r arfer o lynu at ofynion y profion ar bapur.
  • Roedd tua hanner yr ysgolion yn dal i fwriadu defnyddio’r asesiadau unwaith yn unig yn y flwyddyn academaidd, gan nodi diffyg gwerth y data canlyniadau, ac effeithiau ar lesiant dysgwyr fel rhesymau.  

Y defnydd o asesiadau personol gan ymarferwyr

Roedd cydberthynas rhwng ysgolion a oedd yn defnyddio’r asesiadau personol ar-lein mewn modd mwy hyblyg a pha mor gadarnhaol oedd eu teimladau tuag at yr asesiadau.

Ymddengys fod rhai o ysgolion yr astudiaethau achos wedi integreiddio asesu personol yn effeithiol gydag arferion y Cyfnod Sylfaen, gyda’r ysgolion hyn yn defnyddio’r asesiadau fel y bwriadwyd ac fel y nodwyd yn y canllawiau, gan olygu bod:

  • yr asesiadau wedi cael eu defnyddio’n hyblyg gan naill ai grwpiau bach neu unigolion
  • dysgwyr yn gallu defnyddio dyfeisiadau llechi’r oeddent yn gyfarwydd â hwy
  • dysgwyr yn cael seibiannau rheolaidd i dorri’r cyfnod asesu
  • yr ysgolion yn cyflawni neu’n bwriadu cyflawni’r asesiadau ddwywaith y flwyddyn

Nid oedd mwyafrif yr ysgolion fodd bynnag, er bod hyn i raddau amrywiol, wedi llwyr gofleidio’r canllawiau a’r hyblygrwydd a gynigir gan yr asesiadau personol.

Cymysg hefyd yw’r darlun ynghylch y defnydd o ganlyniadau asesu. Roedd y mwyafrif o ysgolion yn mynegi amheuon ynghylch gwerth yr adborth a’r adroddiadau, yn trafod anghysondebau rhwng data canlyniadau a’u barn o rai dysgwyr penodol (er enghraifft, lle’r oeddent yn barnu y gallau dysgwyr fod wedi cyflawni canlyniadau ‘drwy lwc’ wrth ddewis atebion ar hap).

Roedd ymarferwyr o’r farn fod data asesu yn fwyaf defnyddiol wrth adnabod bylchau sgiliau ar draws dosbarthiadau fel cyfanrwydd, gwybodaeth a ddefnyddid gan ymarferwyr wedyn i gynllunio addysgu ar gyfer cohortau yn y dyfodol. 

Codwyd rhai amheuon gan ymarferwyr ynghylch ymarferoldeb cyflawni’r asesiadau personol, gan gynnwys y canlynol.

  • Roedd nifer bach o achosion lle’r oedd dysgwyr yn ei chael yn anodd defnyddio caledwedd TG (llygoden cyfrifiadur) (anogir ysgolion i ganiatáu defnyddwyr i gymryd yr asesiadau personol gan ddefnyddio pa bynnag ddyfais maent fwyaf cysurus ag ef, ee dyfeisiadau llechi neu liniaduron, ac felly nid yw defnyddio llygoden yn ofynnol o angenrheidrwydd.)
  • Tynnwyd sylw at heriau gyda chymhwysedd TG dysgwyr gan naw o ymarferwyr ar draws chwe ysgol, yn enwedig ynghylch darllen asesiadau personol, gyda’r angen i symud rhwng ffenestri i ddarllen testun ac wedyn ateb cwestiynau. Dywedwyd bod hyn yn anodd i rai dysgwyr.
  • Roedd sgiliau llythrennedd nifer o ddysgwyr yn rhy isel i’w galluogi i ddeall rhai cwestiynau yn yr asesiadau personol rhifedd gweithdrefnol. Roedd ymarferwyr yn codi’r pwynt y byddai opsiwn o wrando ar y cwestiynau yn helpu dysgwyr.

Roedd ymarferwyr fodd bynnag yn gadarnhaol eu hagwedd tuag at y lleihad mewn marcio gyda’r symudiad o brofion papur at asesiadau personol.

Rhwystrau rhag gweithredu: newid diwylliannol

Mae’n amlwg o’r cyfweliadau a gyflawnwyd bod rhwystrau’n parhau rhag cadarnhau canllawiau ac ethos asesiadau personol o fewn y mwyafrif o ysgolion, gyda llawer o ysgolion yn dal heb wneud y newid diwylliannol oddi wrth yr arferion a sefydlwyd yn flaenorol trwy brofi ar bapur tuag at ddull mwy hyblyg ac anffurfiol a gynigir gan yr asesiadau personol.

Roedd rhwystrau rhag defnyddio’r asesiadau personol yn fwy hyblyg yn cael eu hachosi mewn rhai achosion gan arferion amserlennu a ddefnyddir gan ysgolion er mwyn trefnu profion ac asesiadau, gyda phenderfyniadau ynghylch amserlennu yn cael eu gwneud yn ganolog gan reolwyr.

Roedd ysgolion eraill yn parhau i gynnal asesiadau yn ystod yr un cyfnod â’r hen brofion papurau ym mis Mai ar sail arferiad.

Cyfleu asesiadau personol i rieni

Er mwyn osgoi gosod pwysau ar ddysgwyr, roedd yn gyffredin i ysgolion beidio â rhannu amserlenni asesiadau personol gyda rhieni a gwarcheidwaid y dysgwyr. Nid oedd yn ofynnol i ysgolion hysbysu rhieni o’r amserlennu.

Roedd canlyniadau o asesiadau personol yn parhau i raddau helaeth i fod ar gyfer defnydd personol, ond roedd nifer bach o ddysgwyr wedi rhannu data canlyniadau gyda rhieni. Mae’n ofynnol i ysgolion rannu adborth a chynnydd yn yr asesiadau personol gyda rhieni a gofalwyr.

Defnyddio adborth a data asesiadau

Roedd llawer o ymarferwyr a gyfwelwyd yn amheus ynghylch addasrwydd asesiadau personol ar-lein fel modd o fesur gallu dysgwr Cyfnod Sylfaen yn gywir.

Roedd yr amheuon y tynnwyd sylw atynt gan ymarferwyr yn cynnwys problemau gyda llythrennedd rhai dysgwyr yn effeithio ar eu gallu i ddarllen cwestiynau o fewn yr asesiad rhifedd gweithdrefnol, gan arwain at rai canlyniadau a sgoriau yn ymddangos fel pe baent yn gwyro oddi wrth ddisgwyliadau athrawon. Roedd mwy na chwarter yr ymarferwyr o’r farn fod yr asesiadau yn ychwanegiad diangen at asesu parhaus gan athrawon.

Rhoddwyd enghreifftiau lle mae’r data o’r asesiadau wedi cael ei ddefnyddio mewn modd cadarnhaol ar gyfer dysgwyr unigol a dosbarthiadau yn eu cyfanrwydd. Y farn oedd fodd bynnag fod y data fwyaf defnyddiol mewn achosion lle mae canlyniadau’n tynnu sylw at faterion yn ymwneud â’r dosbarth fel cyfanrwydd wrth adnabod yr elfennau’r oedd fwyaf o angen eu datblygu.

Asesiadau personol ar-lein a llesiant dysgwyr

Teimlai ymarferwyr ar y cyfan fod yr asesiadau personol ar-lein yn well i lesiant dysgwyr na phrofion ar bapur. Roedd nifer bach o ymarferwyr yn cyfeirio mewn modd cadarnhaol hefyd at y ffaith fod yr asesiadau’n gadael i ddysgwyr symud ar eu cyflymder eu hunain.

Roedd y defnydd o gyfrifiaduron a llechi yn caniatáu athrawon i gyflwyno’r asesiadau fel “cwis” yn hytrach na “phrawf”. Roedd fodd bynnag nifer bach o ddysgwyr ar draws naw ysgol a oedd yn cael anawsterau gyda gofynion TG yr asesiad, naill ai yn sgil anawsterau wrth ddefnyddio llygoden neu fysellfwrdd, neu anawsterau wrth symud rhwng ffenestri ar y sgrin yn ystod yr asesiad darllen personol.

Er bod natur ymaddasol yr asesiadau personol ar-lein wedi arwain at brofiad cadarnhaol i’r mwyafrif o ddysgwyr, mae wedi arwain at effaith negyddol ar lesiant rhai dysgwyr, gyda dysgwyr sy’n cyflawni’n uwch yn fwy tebygol o ddioddef straen yn sgil wynebu cwestiynau heriol, weithiau gan ymdrin â phynciau yn tu hwn i’r rheini yr ymdrinir â hwy yn yr ystafell ddosbarth. Roedd ymarferwyr yn esbonio eu bod yn lled-fychanu’r asesiadau wrth ddysgwyr er mwyn osgoi achosi straen neu bryder. Mae’r canllawiau sy’n ymwneud ag asesiadau personol yn annog ymarferwyr i esbonio i ddysgwyr y byddant yn wynebu rhai cwestiynau heriol.  

Er bod y mwyafrif o ysgolion yn caniatáu seibiannau, roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn adrodd am achosion o ddysgwyr yn treulio cyfnodau hir yn cyflawni’r asesiadau. Mae’r canllawiau yn annog ymarferwyr i ddefnyddio eu doethineb wrth ddod ag asesiadau i ben gyda dysgwyr sy’n cymryd amser hir.  

Roedd y defnydd o asesiadau personol yn y Cyfnod Sylfaen yn cael ei weld hefyd gan y mwyafrif o ymarferwyr fel rhywbeth nad oedd o anghenrheidrwydd yn gyson ag egwyddorion addysgegol y Cyfnod Sylfaen, gyda nifer bach yn dweud bod unrhyw asesu ffurfiol yn anghydnaws.

Manylion cyswllt

Awduron: Dr Nick Morgan, Tom Bajjada, Geof Andrews, Nick Miller, Kerry KilBride / Miller Research (UK) Ltd. 
Nia Bryer, Heledd Bebb / OB3
Meurig Roberts
Karen Lawrence

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 49/2022
ISBN digidol 978-1-80364-500-1

Image
GSR logo