Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant

Awdur(on):

Stuart Harries, Jennifer Lane, Kara Stedman a Lois Roberts, Ymchwil Arad

Adroddiad Ymchwil Llawn: Harries, S et al., Lane, J., Stedman, K., Roberts, L. (2024) Ymchwil i Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, adroddiad GSR rhif 14/2024.

Safbwyntiau’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Enw: Dr Jack Watkins

Is-adran: Yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: +44 300 025 1719

E-bost: ymchwil.plantatheuluoedd@llyw.cymru

Geirfa

AGC - Arolygiaeth Gofal Cymru yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Mae'n cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru.

CSCA - Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

CWLWM - Childcare Wales Learning & Working Mutually / Gofal Plant Cymru'n Dysgu a Gweithio ar y Cyd: Consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, sy'n darparu gwasanaeth integredig dwyieithog a fydd yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ledled Cymru.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yw cynllun 10 mlynedd sy'n nodi'r camau gweithredu a'r targedau i gynyddu'r ddarpariaeth a'r sgiliau Cymraeg yn y system addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cynnig Gofal Plant - Hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi'u hariannu gan y llywodraeth i rieni/gofalwyr cymwys sydd â phlant tair a phedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Dechrau'n Deg - Rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n darparu cymorth mewn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru i blant (0-3 oed) a'u teuluoedd. Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn cynnwys 12.5 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu, am 39 wythnos, i gefnogi datblygiad plant dwy i dair oed sy'n gymwys i gael cymorth. Mae elfen gofal plant y rhaglen hon yn cael ei hehangu ledled Cymru ar hyn o bryd. 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd - Mae gan bob awdurdod lleol Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sy'n gallu rhoi cyngor ar: ofal plant; cymorth gyda phlant a theuluoedd; a chymorth ar faterion yn ymwneud â theuluoedd.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol - Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn amlinellu’r gofynion ar gyfer gofal plant a reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Maent yn cefnogi darparwyr i fodloni'r gofynion rheoliadol sy'n gysylltiedig â'u darpariaeth.

SASS - Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth: Mae'n ofynnol o dan y gyfraith i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth mewn perthynas â monitro a chydymffurfio â gwasanaethau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Caiff y datganiad ei gwblhau ar-lein.

1. Cyflwyniad

1.1 Mae Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant (ADGPau) yn rhan o ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu a oes digon o gyfleoedd gofal plant ar gael i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio yn yr ardal. Ym mis Medi 2022, cyflwynodd awdurdodau lleol eu hasesiadau diweddaraf i Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o farn swyddogion Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol ar y prosesau sy’n gysylltiedig â chwblhau’r ADGPau, yr heriau wrth eu cwblhau, defnyddioldeb canfyddedig y dogfennau ADGP ac awgrymiadau ar gyfer datblygu ADGP yn y dyfodol. 

Cefndir

1.2 O dan Reoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016 (y Rheoliadau) mae’n ofynnol i awdurdodau lleol asesu’r galw am ofal plant ac argaeledd gofal plant yn eu hardal bob pum mlynedd.[1] Gelwir hwn yn Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) ac fe’i pasiwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gofal Plant 2006. Mae’r Ddeddf yn egluro’r rhan hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae fel arweinwyr strategol wrth ddarparu gofal plant yn lleol. Mae’n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, bod darpariaeth gofal plant digonol ar gael i fodloni gofynion rhieni/gofalwyr yn eu hardal er mwyn eu galluogi i ddechrau gweithio neu aros mewn gwaith; neu ymgymryd â chyrsiau addysg neu hyfforddiant y gellid yn rhesymol disgwyl iddynt eu cynorthwyo i gael gwaith.

1.3 Nod y Ddeddf yw ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â’r sectorau preifat, gwirfoddol, cymunedol a’r sector a gynhelir[2] i lunio darpariaeth gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg a sicrhau bod y ddarpariaeth honno ar gael. 

1.4 Nod yr ADGP yw ymchwilio i'r opsiynau gofal plant sydd ar gael ar hyn o bryd a nodi meysydd y mae angen eu datblygu drwy amlygu bylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Mae ADGPau yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol drwy asesu’r cyflenwad (darpariaeth gofal plant) a’r galw am ofal plant (anghenion rhieni/gofalwyr yn y dyfodol) yn eu hardal leol fel y gellir mynd i’r afael â bylchau yn y ddarpariaeth.

1.5 Wrth gyflawni eu dyletswydd i sicrhau gofal plant digonol, rhaid i awdurdodau lleol fodloni gofynion rheoliadol ystyried Canllawiau Statudol Gofal Plant (2016) Llywodraeth Cymru (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel y canllawiau statudol) sy’n amlinellu’r fframwaith deddfwriaethol sy’n sail i’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol, a’r gofyniad i sicrhau bod gofal plant digonol ar gael yn eu hardal, ac asesu'r gofal hwnnw.[3] Yng ngoleuni’r pandemig COVID-19, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau atodol hefyd i awdurdodau lleol mewn perthynas â’r ADGPau ar gyfer 2022 (gweler hefyd adran 3 isod am ragor o fanylion).[4]

[1] Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016 (legislation.gov.uk)

[2] Ysgolion meithrin a gynhelir yw ysgolion dan reolaeth yr awdurdod lleol yw'r rhain ar gyfer plant sydd heb gyrraedd oedran ysgol gorfodol eto.

[3] Gofal plant: canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol (llyw.cymru)

[4] Asesiad o ddigonolrwydd gofal plant 2022: canllawiau ategol i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU

2. Methodoleg

2.1 Mae'r adran hon yn manylu ar nodau ac amcanion yr ymchwil ac yn amlinellu'r fethodoleg a fabwysiadwyd.

Nodau ac amcanion yr ymchwil

2.2 Roedd nodau ac amcanion yr ymchwil fel a ganlyn: 

  • Ymgymryd â gwaith ymchwil sylfaenol i ganfod sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r ADGPau wrth iddynt gynllunio a darparu cymorth i rieni a phlant. 
  • Crynhoi unrhyw heriau a wynebir gan awdurdodau lleol wrth gwblhau’r broses ADGP, argaeledd data a’r defnydd ohonynt fel sail i ADGPau, a sut y mae ADGPau yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol gan gynnwys sut y maent yn dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau. 
  • Dod i gasgliadau ynghylch addasrwydd fformat presennol ADGPau a nodi argymhellion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys sut y gellir cefnogi awdurdodau lleol yn well i gynnal eu hasesiadau yn y dyfodol. 

Trosolwg o'r fethodoleg 

2.3 Mabwysiadwyd dull ansoddol o gynnal yr ymchwil a oedd yn cynnwys cyfweliadau un-i-un a thrafodaethau grŵp gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid ac arweinwyr gofal plant awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig ag ADGPau. 

Gwaith maes gydag awdurdodau lleol

2.4 Cynhaliwyd cyfuniad o gyfweliadau unigol a thrafodaethau grŵp gydag awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth a barn ynghylch:

  • Sut y mae ADGPau ac adroddiadau cynnydd yn cael eu cwblhau e.e., pa ffynonellau data a ddefnyddiwyd.
  • Sut y mae'r ALl yn defnyddio ADGPau a Chynlluniau Gweithredu i lywio'r gwaith o gynllunio darpariaeth gofal plant.
  • Y canllawiau statudol a manwl a'r templedi/dulliau gweithredu sydd ar gael.
  • Yr heriau o ran cwblhau ADGPau a sut y gellir eu goresgyn.
  • A ellid symleiddio'r broses o gwblhau ADGP.
  • Materion i'w hystyried ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cwblhau adroddiadau cynnydd blynyddol.

2.5 Mae'r canllaw trafod a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfweliadau/trafodaethau grŵp hyn i'w weld yn Atodiad 1.

2.6 Y dull y bwriadwyd ei fabwysiadu ar gyfer ymgynghori ag awdurdodau lleol oedd cynnal cyfweliadau un-i-un gyda swyddogion o saith awdurdod lleol a threfnu dwy drafodaeth grŵp yn cynnwys y swyddogion o 15 awdurdod lleol arall. Dewiswyd y saith awdurdod lleol ar gyfer cyfweliadau un-i-un ar y sail bod gan rai fwy o brofiad o gynhyrchu ADGPau nag eraill. Roedd yr awdurdodau lleol hyn hefyd wedi’u lleoli ar draws ardal ddaearyddol amrywiol. Gwahoddwyd gweddill yr awdurdodau lleol i drafodaethau grŵp, gyda’r nod o gael un grŵp yn cynnwys awdurdodau mwy profiadol, ac un arall yn cynnwys awdurdodau llai profiadol. Roedd categoreiddio awdurdodau lleol yn ôl lefelau eu profiad o ymwneud ag ADGP yn seiliedig ar wybodaeth a chanllawiau a ddarparwyd gan y cleient (Llywodraeth Cymru). 

2.7 Bu'n rhaid gwneud rhai addasiadau i'r trefniadau hyn yn sgil argaeledd rhai cynrychiolwyr awdurdodau lleol i fynychu sesiynau grŵp. O ganlyniad, cynhaliodd Arad dri grŵp trafod, yn hytrach na'r ddau a gynlluniwyd yn wreiddiol, ac roedd gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol a fynychodd y grwpiau hyn lefelau gwahanol o brofiad o gynhyrchu dogfennau ADGP. Hefyd, nid oedd tri awdurdod lleol yn gallu bod yn bresennol yn unrhyw un o’r trafodaethau grŵp ac felly cynhaliwyd cyfweliadau un-i-un ychwanegol i ddarparu ar gyfer y rhain. O ganlyniad, cynhaliwyd deg cyfweliad un-i-un yn hytrach na’r saith a gynlluniwyd. Fodd bynnag, sicrhaodd y broses gyfweld fod cynrychiolwyr o bob un o’r 22 awdurdod lleol yn cymryd rhan mewn cyfweliadau un-i-un neu gyfweliadau ar ffurf trafodaeth grŵp. 

Swyddogion Llywodraeth Cymru

2.8 Cyfwelwyd â phump o swyddogion Llywodraeth Cymru i gael dealltwriaeth o’r defnydd presennol o ADGPau a’r defnydd posibl ohonynt yn y dyfodol o safbwynt Llywodraeth Cymru o ran cynllunio a llywio datblygiad polisi; ac unrhyw newidiadau disgwyliedig i'r gofynion yn y dyfodol. Mae'r canllaw trafod ar gyfer y cyfweliadau hyn i'w weld yn Atodiad 1.

Rhanddeiliaid

2.9 Cynhaliwyd trafodaeth grŵp gyda phartneriaid CWLWM i gasglu eu barn ar y pynciau canlynol:

  • Eu hymwneud ag ADGPau e.e. rhannu data a chyfraniadau. 
  • Sut ac i ba raddau y mae ADGPau a Chynlluniau Gweithredu yn effeithio ar eu gwaith - e.e., sut y maent yn dylanwadu ar eu polisïau a'u blaenoriaethau cynllunio.
  • I ba raddau y mae ADGPau yn dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau eraill ar lefel leol a chenedlaethol.
  • Sut, os o gwbl, y gellid gwella'r broses bresennol o gynhyrchu ADGPau.
  • A ellid gwneud gwell defnydd o ADGPau i gefnogi cynllunio gofal plant ac, os felly, sut?

2.10 Mae Tabl 2.1 yn rhoi trosolwg o wahanol elfennau'r ymchwil ansoddol. Er mwyn sicrhau bod barn yr holl unigolion sy'n ymwneud â'r broses ADGP yn cael ei chasglu, cymerodd mwy nag un cynrychiolydd o rai awdurdodau lleol ran yn y cyfweliad. Roedd hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod dau neu fwy o aelodau’r tîm gofal plant neu chwarae wedi bod yn rhan o’r gwaith o ysgrifennu’r ADGPau mewn rhai awdurdodau lleol, ac mewn eraill roedd rolau unigolion wedi newid ers ysgrifennu’r ADGPau ac felly cyfwelwyd ag arweinwyr gofal plant blaenorol yn ogystal ag arweinwyr gofal plant presennol. Cyfwelwyd â chyfanswm o 32 o gynrychiolwyr ar draws y 22 awdurdod lleol.

Tabl 2.1. Trosolwg o'r fethodoleg

Trosolwg o'r fethodoleg
CyfranogwrDullNifer y cyfranogwyrDyddiad y gwaith maes
Swyddogion Llywodraeth CymruCyfweliadau drwy gyfrwng fideo5Gorffennaf - Hydref 2023
Awdurdodau lleol3 trafodaeth grŵp drwy gyfrwn fideo14*Gorffennaf - Hydref 2023
Awdurdodau lleol 10 cyfweliad fideo un-i-un18*Gorffennaf - Hydref 2023
Partneriaid CWLWM1 trafodaeth grŵp12Hydref 2023

*Ar gyfer rhai awdurdodau lleol, cymerodd mwy nag un cynrychiolydd ran mewn ymgynghoriadau

3. Y cyd-destun

Canllawiau Statudol 

3.1 Fel y nodir yn Adran 1, mae'n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i baratoi asesiadau o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant (Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant) yn eu hardal bob pum mlynedd ac adolygu hynny'n barhaus. Gosodir y ddyletswydd statudol gan Reoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesu Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016[5] sydd hefyd yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei gynnwys yn eu hasesiadau. I gefnogi awdurdodau lleol gyda'u hasesiadau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau yn 2016[6]. Mae’r canllawiau’n cynnwys rhestr o bynciau neu feysydd y mae angen i bob awdurdod lleol eu cynnwys yn eu hasesiad ac adrodd arnynt yn y ddogfen ADGP er mwyn bodloni gofynion y Rheoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • y galw am ofal plant ar gyfer pob math o ddarpariaeth gofal plant
  • cyflenwad gofal plant ar gyfer pob math o ofal plant

3.2 Wrth asesu'r galw a'r cyflenwad mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Nifer y lleoedd gofal plant sydd eu hangen ac sydd ar gael i blant hyd at 18 oed, yn ôl ystod oedran a math o ddarpariaeth.
  • Nifer y lleoedd gofal plant sydd eu hangen ac sydd ar gael yn ôl (ymhlith pethau eraill): 
    - darpariaeth amser llawn a rhan-amser. 
    - darpariaeth y gellir ei chyllido gan ddefnyddio elfen gofal plant y credyd treth gwaith a chredyd cynhwysol.
    - darpariaeth ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (y cyfeirir atynt fel Anghenion Addysgol Arbennig yn nogfen 2016).
    - Darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
    - darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar.

3.3 Mae’r canllawiau hefyd yn amlinellu’r angen i awdurdodau lleol gynnal dadansoddiad o’r bwlch rhwng y galw a’r cyflenwad yn ogystal â nodi rhwystrau i ofal plant. Hefyd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys dadansoddiad o ddosbarthiad daearyddol y ddarpariaeth yn eu hasesiad yn ogystal â chynaliadwyedd y farchnad gofal plant gan gynnwys asesiad o ddatblygiad y gweithlu ac anghenion hyfforddi'r sector gofal plant. Mae’r canllawiau’n amlinellu’r angen i asesu’r ddarpariaeth gofal plant a’r nifer sy’n manteisio arni ar draws ffiniau awdurdodau lleol yn ogystal â throsolwg o ddemograffeg y boblogaeth leol gan gynnwys ffactorau a thueddiadau sy’n dylanwadu ar y galw am ofal plant.

3.4 Mae dogfen ganllaw 2016 hefyd yn cyfeirio at yr angen i awdurdodau lleol gasglu cyfraniadau gan ystod o bartneriaid a sefydliadau, yn ogystal ag o feysydd polisi a chyflawni perthnasol eraill awdurdodau lleol e.e. addysg, blynyddoedd cynnar, chwarae, cynllunio, tai, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol. Mae’r canllawiau hefyd yn amlinellu ffynonellau data y dylai’r awdurdod lleol edrych arnynt a’u dadansoddi er mwyn asesu’r galw a'r cyflenwad o ofal plant yn eu hardal. 

3.5 Mae'r dogfennau ADGP dilynol a gynhyrchir gan bob awdurdod lleol sy'n cynnwys yr holl wybodaeth a'r dadansoddiadau uchod yn amrywio o ddogfennau 100 tudalen i fwy na 300 tudalen. Mae cynhyrchu'r adroddiadau hyn yn gofyn am swm sylweddol o amser ac adnoddau – gweler yr adran 'Yr Amser a'r Adnoddau sydd eu Hangen,' isod.

3.6 At hynny, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynllun gweithredu sy'n manylu ar 'y camau gweithredu, y blaenoriaethau a'r cerrig milltir i gynnal y cryfderau a datrys y diffygion a nodwyd yn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant'[7] yn ogystal ag adroddiadau cynnydd blynyddol sy'n manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu, y blaenoriaethau a'r cerrig milltir yn y cynllun gweithredu. 

3.7 Ers cyhoeddi’r canllawiau ar ADGP ar gyfer awdurdodau lleol yn 2016, gwnaed newidiadau polisi sylweddol gan gynnwys cyflwyno Cynnig Gofal Plant Cymru. Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu argaeledd gofal plant a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer plant dwy oed drwy'r ehangu'r rhaglen Dechrau’n Deg. Mae'r newidiadau polisi hyn wedi cael effaith sylweddol ar y galw a'r cyflenwad o ddarpariaeth gofal plant y mae angen eu hadlewyrchu yn yr ADGPau. Cafodd y pandemig COVID-19 hefyd effaith sylweddol ar y farchnad gofal plant, ac ysgogodd hyn Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau atodol i awdurdodau lleol yn 2021[8]. Roedd y canllawiau atodol yn rhoi gofyniad ar awdurdodau lleol i adrodd ar sut y mae COVID-19 wedi effeithio ar y cyflenwad o ofal plant, y galw am ofal plant a chynaliadwyedd darparwyr gofal plant presennol, yn ogystal â sut yr eir i’r afael â’r effeithiau hyn. Roedd y canllawiau atodol hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau), casglu data ac adrodd arno a Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 (y chynllun nanis) yn eu hasesiadau[9]. 

[5] Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016 (legislation.gov.uk)

[6] https://www.llyw.cymru/gofal-plant-canllawiau-statudol-ar-gyfer-awdurdodau-lleol

[7]https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-06/gofal-plant-canllawiau-statudol-ar-gyfer-awdurdodau-lleol.pdf

[8] Asesiad o ddigonolrwydd gofal plant 2022: canllawiau ategol i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU

[9] Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant Cartref (Cymru) 2021 | Arolygiaeth Gofal Cymru

4. Canfyddiadau

4.1 Mae’r adran hon yn amlinellu canfyddiadau ymgyngoriadau ag awdurdodau lleol, swyddogion Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid.

Barn ar y canllawiau a gyhoeddwyd

4.2 Nododd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach a fynegodd farn ar ganllawiau 2016 fod y ddogfen yn rhoi amlinelliad clir o’r hyn sydd ei angen i gynnal yr asesiad, gan gynnwys y ffynonellau data y dylid eu defnyddio fel sail i’r broses a sut y dylai’r data hyn gael eu cyflwyno yn y ddogfen ADGP. Fodd bynnag, er bod llawer o awdurdodau lleol o’r farn bod cael rhyw fath o ganllawiau yn bwysig ac yn ddefnyddiol, roedd y rhan fwyaf hefyd yn teimlo bod y canllawiau statudol presennol yn rhy hir ac yn rhy ragnodol, a bod cadw at bob agwedd arnynt yn arwain at gynhyrchu dogfen ADGP fawr iawn nad yw'n hawdd ei deall.

Mae’r canllawiau'n rhagnodol iawn ac maent dros 50 tudalen o hyd – mae dilyn pob agwedd ar y canllawiau hyn yn sicr o arwain at greu anghenfil o ddogfen ADGP. (Awdurdod lleol)

Nid oes angen iddynt [y canllawiau] fod mor fawr. Maen nhw'n rhy eang. Yn rhy fawr a byth yn mynd i roi’r atebion i’r cwestiynau y mae [Llywodraeth Cymru] yn ceisio cael atebion ar eu cyfer. (Awdurdod lleol)

4.3 Wrth wneud sylwadau ar gynnwys y canllawiau, esboniodd un awdurdod lleol ei bod yn hen ddogfen ac er mwyn gwella ei defnyddioldeb o ran rhoi arweiniad i awdurdodau lleol ar lunio ADGP, mae angen diwygio’r ddogfen er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu’r amgylchedd polisi gofal plant presennol yn well.

Mae angen ei hailwampio'n llwyr. Mae'n hen. Mae cymaint wedi digwydd a chymaint wedi newid, felly nid yw’n teimlo’n berthnasol o gwbl. (Awdurdod lleol)

4.4 Ym marn bron yr holl awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach, mae swm yr wybodaeth a’r data sydd eu hangen er mwyn dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd a maint y dogfennau ADGP a gynhyrchir i gyflwyno’r holl wybodaeth hon yn rhy fawr. Mae maint y data a gyflwynir ym mhob dogfen ADGP yn ei gwneud hi'n anodd i unrhyw un sy'n cael mynediad iddynt gael trosolwg hawdd i weld a oes digon o ofal plant ar gael mewn unrhyw ardal. O ganlyniad, mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn dangos nad yw dogfennau ADGP a gynhyrchwyd hyd yma yn cael eu defnyddio'n helaeth (gweler hefyd 'Sut y caiff ADGPau eu defnyddio' yn adran 4.37). 

4.5 Awgrymodd rhai cynrychiolwyr awdurdodau lleol, yn hytrach nag adrodd yn fanwl ar yr holl ffactorau sy’n dylanwadu ar ddigonolrwydd gofal plant yn eu hardal, y gallai dogfennau ADGP fod yn fwy gwerthfawr neu ddefnyddiol pe baent yn canolbwyntio’n bennaf ar themâu digonolrwydd gofal plant penodol sy’n arbennig o berthnasol i’r amser pan gaiff yr asesiadau eu cynhyrchu. Byddai hyn, yn eu barn nhw, yn arwain at gynhyrchu dogfen ADGP fwy cryno a pherthnasol, a fyddai'n fwy tebygol o gael ei defnyddio, er enghraifft byddai awdurdodau lleol yn fwy tebygol o'i defnyddio ar gyfer eu gwaith cynllunio gofal plant parhaus. Byddai llunio ADGPau thematig o’r natur hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gynhyrchu canllawiau diwygiedig ar gyfer ADGP cyn pob rownd. Fel y nodir uchod, cyhoeddwyd canllawiau atodol yn 2022 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar effaith datblygiadau diweddar gan gynnwys COVID-19, CSCAau a'r Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021 (y chynllun nanis). Fodd bynnag, teimlai awdurdodau lleol fod y rhain yn themâu ychwanegol yr oedd yn ofynnol iddynt adrodd arnynt yn hytrach na themâu penodol neu annibynnol.

4.6 Dylid nodi bod y canllawiau yn adlewyrchu gofynion y Rheoliadau. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid o’r farn y dylid adolygu’r canllawiau ADGP cyfredol i’w gwneud yn llai rhagnodol. Roedd consensws y dylai’r canllawiau gynnwys set graidd o themâu neu ffactorau digonolrwydd gofal plant y dylai fod yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd arnynt. Fodd bynnag, teimlwyd hefyd, y tu hwnt i’r themâu craidd hyn, y dylid caniatáu’r hyblygrwydd i awdurdodau lleol adrodd ar feysydd allweddol y maent yn eu hystyried yn flaenoriaethau o ran digonolrwydd gofal plant yn eu hardal nhw. 

Asesu'r cyflenwad a'r galw am ofal plant o ffynonellau data

4.7 Mae'r prosesau allweddol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu'r dogfennau ADGP yn cynnwys coladu a dadansoddi data sy'n ymwneud â'r cyflenwad o ofal plant a'r galw amdano. Mae’r adrannau a ganlyn yn amlinellu’r dulliau a’r ffynonellau data y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i asesu'r cyflenwad a'r galw.

Asesu'r cyflenwad o ofal plant

4.8 Y brif ffynhonnell ddata y mae awdurdodau lleol yn ei defnyddio i asesu’r cyflenwad o ofal plant yw data’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS). Ffurflen ar-lein yw hon y mae'n ofynnol i "Bersonau Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol ei chwblhau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth gwasanaeth".[10] Cesglir y data gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn flynyddol a chaiff awdurdodau lleol weld y data hyn wrth ysgrifennu eu hasesiadau. Mae data SASS a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i ddangos y cyflenwad fel arfer yn cynnwys nifer y darparwyr gofal plant cofrestredig ar draws ardal yr awdurdod lleol. Fel arfer cyflwynir y data fel nifer y lleoliadau yn ôl y math o ddarpariaeth (e.e. gwarchodwr plant, gofal dydd sesiynol, gofal dydd llawn, etc.) a nifer y lleoedd sydd ar gael, ar lefel ward ac awdurdod lleol.

4.9 Teimlai awdurdodau lleol fod y data hyn yn ddefnyddiol ac yn eu galluogi i gael darlun manwl o'r cyflenwad gofal plant yn eu hardaloedd. Dywedodd sawl awdurdod lleol fod y data hyn hefyd wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf gyda lleoliadau gofal plant yn darparu ymatebion mwy cywir i’r arolwg, sy’n golygu bod data mwy dibynadwy yn cael eu casglu. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, yn ogystal â rhai rhanddeiliaid yn dal i amau dibynadwyedd a dilysrwydd data SASS am nifer o resymau.

4.10 Dywedodd llawer o awdurdodau lleol eu bod wedi cael gwybodaeth anghywir drwy SASS, o bosibl oherwydd bod darparwyr wedi camddeall y cwestiynau neu ddiffyg amser i ymateb iddynt yn gywir. Cynigiodd sawl awdurdod lleol sesiynau cymorth i ddarparwyr i’w hannog neu eu galluogi i gwblhau’r SASS, ond canfuwyd eu bod wedi derbyn gwybodaeth anghywir o hyd. Eglurodd rhai awdurdodau lleol eu bod yn gallu nodi gwallau yn y data a gwneud addasiadau i’r data ar sail eu gwybodaeth eu hunain neu drwy gael rhagor o wybodaeth yn uniongyrchol gan ddarparwyr yn eu hardal. Fodd bynnag, nodwyd ei bod yn anoddach i awdurdodau lleol wneud hyn lle roedd nifer fwy o ddarparwyr yn gweithredu.

Gwraidd y broblem yw ein bod ni'n dibynnu ar ddarparwyr am y data. Nid ydym yn cael hynny (mae data ar goll, mae'n hen, nid yw'n ddigon cadarn, neu mae'n hollol anghywir). Felly mae ansawdd y data yn effeithio ar ddilysrwydd y casgliadau, ac nid ni sy'n rheoli ansawdd y data hynny. (Awdurdod lleol)

4.11 Dywedodd awdurdodau lleol a rhanddeiliaid fod data SASS yn anghyflawn hefyd ac nad yw’n casglu gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant anghofrestredig, yr awgrymodd rhai y gallai gyfrif am gyfran sylweddol o'r sector gofal plant. O ganlyniad, nid yw data SASS yn rhoi darlun llawn o ddarpariaeth gofal plant lleol. Awgrymodd sawl awdurdod lleol fod angen gwneud mwy i annog darparwyr cofrestredig i gwblhau’r arolwg SASS, gan gynnwys rhyw fath o gosb i’r rhai nad ydynt yn ei gwblhau.

4.12 Nid yw’r data SASS a rennir ag awdurdodau lleol yn cynnwys gwybodaeth a all ddatgelu enwau darparwyr unigol. Mae hyn, yn ôl awdurdodau lleol, yn cyfyngu ar y graddau y gellir eu defnyddio i asesu digonolrwydd y ddarpariaeth ar lefel ward neu Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is. Mae hefyd yn cyfyngu ar eu gallu i nodi pa ddarparwyr nad ydynt wedi cwblhau'r SASS ac felly eu gallu i gysylltu â'r darparwyr hyn i gael y wybodaeth sydd ei hangen er mwyn llenwi unrhyw fylchau yn nata SASS. 

4.13 Cyflwynwyd y wybodaeth SASS a rannwyd ag awdurdodau lleol hefyd fel data crai, heb eu dadansoddi mewn taenlenni Excel mawr. Dywedodd rhai awdurdodau lleol eu bod yn ei chael hi'n anodd dehongli a deall data a gyflwynir yn y ffordd hon, ac roedd hyn yn ychwanegu at y rhwystredigaeth o wybod bod y data yn cynnwys bylchau a gwybodaeth anghywir. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r data'n cael eu dadansoddi neu eu cyflwyno mewn fformat haws ei ddefnyddio cyn ei anfon at awdurdodau lleol.

Mae’n cymryd gormod o amser i fynd drwy’r data [SASS], nid ydynt yn cael eu cyflwyno mewn ffordd braf na chyfeillgar. (Awdurdod lleol) 

4.14 Ers hynny mae AGC wedi cynhyrchu a chyhoeddi offeryn delweddu data rhyngweithiol i edrych ar ddata SASS. Nid oedd hwn ar gael pan oedd ADGPau 2022 yn cael eu cynhyrchu.

4.15 Pwysleisiodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a rhanddeiliaid sut y mae data SASS (yn ogystal â’r rhan fwyaf o ddata eraill a ddefnyddir mewn ADGPau) yn dyddio y funud y cânt eu cyhoeddi, gan gynnig yr hyn y cyfeiriwyd ato gan rai fel dim ond “cipolwg ar gyfnod.” Mae proffil darpariaeth gofal plant yn aml yn newid dros amser, felly mae cyfeirio at ddata o un adeg benodol yn cyfyngu ar y graddau y gall y dogfennau ADGP fod yn sail i gynllunio cymorth gofal plant yn barhaus. Cyfeiriodd awdurdodau lleol felly at yr angen i gael mynediad i ddata sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd er mwyn cynllunio a chefnogi camau gweithredu i fynd i’r afael â bylchau mewn digonolrwydd gofal plant yn gywir. 

4.16 Roedd rhai awdurdodau lleol hefyd yn defnyddio ffynonellau data eraill i asesu'r cyflenwad gofal plant yn eu hardal. Mae hyn yn unol â chanllawiau statudol sy'n dweud ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio nifer o ffynonellau data cynradd ac eilaidd i gael dealltwriaeth o natur y farchnad gofal plant. Cynhaliodd rhai eu harolygon eu hunain o ddarparwyr neu ddefnyddio gwybodaeth leol a'r wybodaeth a gedwir yn yr awdurdod lleol i asesu'r cyflenwad sydd ar gael. Defnyddiwyd y ffynonellau gwybodaeth a data eraill hyn yn aml hefyd i helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nata SASS. 

Asesu'r galw am ofal plant

4.17 Gall asesu’r galw am ofal plant fod yn fwy heriol nag asesu’r cyflenwad. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio ffynonellau data amrywiol i archwilio lefelau'r galw am ofal plant yn eu hardal, gan gynnwys rhestrau aros darparwyr, data cyfrifiad poblogaeth, datblygiadau tai lleol ac arolygon rhieni.

4.18 Cesglir data cyfrifiad poblogaeth unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n cyfrif yr holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae'r data hyn yn cynnig gwybodaeth ddemograffig yn ôl ardal ddaearyddol a elwir yn Ardaloedd Cynnyrch sy'n cael eu creu o unedau cod post ac sy'n cynrychioli clwstwr o aelwydydd.[11] Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf ym mis Mawrth 2021. Fodd bynnag, nid oedd data o’r cyfrifiad hwn ar gael pan oedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gwblhau eu dogfen ADGP ddiweddaraf yn 2022. Felly, bu’n rhaid i awdurdodau lleol ddibynnu ar ddata cyfrifiad 2011, a nododd llawer ei fod yn 10 mlwydd oed ac felly nad oedd yn ddefnyddiol iawn fel ffynhonnell tystiolaeth i asesu’r galw presennol am ofal plant. Nododd llawer o awdurdodau lleol fod y data ar ddatblygiadau tai lleol yn rhoi mesur mwy defnyddiol iddynt o’r galw posibl am ofal plant yn y dyfodol, yn enwedig o fewn ardaloedd daearyddol penodol. Data sydd fel arfer yn cael ei gadw gan adrannau awdurdodau lleol yw hyn ac felly mae’n weddol hawdd i dimau gofal plant sy’n gyfrifol am gynnal y ADGP gael mynediad atynt. 

4.19 Mae'r her o asesu'r galw am ofal plant ar lefel leol hefyd wedi'i nodi mewn peth llenyddiaeth academaidd. Yn ôl Langford et al. (2019) mae’r dull o ddefnyddio data sy’n dibynnu ar ffiniau daearyddol i fesur y galw am ofal plant yn ddiffygiol gan nad oes unrhyw berthynas rhwng ffiniau gweinyddol mympwyol â gwir ymddygiad pobl sy’n ceisio cael mynediad i wasanaethau. Dywed Langford et al., wrth chwilio am wasanaethau gofal plant, efallai nad dim ond y gwasanaethau hynny sydd o fewn y ffiniau gweinyddol lle y maent yn byw y bydd pobl yn eu hystyried. Ymhellach dadleuodd Langford et al. fod data'r cyfrifiad ond yn cynrychioli'r dyfaliad gorau o’r galw gwirioneddol mewn unrhyw ardal benodol.[12] Mae'r canllawiau ADGP yn nodi bod yn rhaid i'r asesiadau ystyried anghenion rhieni sy'n defnyddio gofal plant y tu allan i'w hardal yn ogystal â'r rhai sy'n teithio i'r ardal i ddefnyddio gofal plant. Mae’r heriau sy’n gysylltiedig ag ystyried y galw hwn yn cael eu hadlewyrchu yn yr adborth a gafwyd gan lawer o awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai sy’n ffinio â nifer o ardaloedd awdurdodau lleol eraill, a nododd fod hwn yn rhan o’r asesiad y maent yn aml yn ei chael hi'n anodd ei gwblhau. 

4.20 O ran data arall ar y boblogaeth, soniodd nifer bach o awdurdodau lleol hefyd eu bod yn gallu defnyddio data iechyd (e.e. genedigaethau byw), fodd bynnag, dywedodd eraill nad oeddent yn gallu cael mynediad i'r data hyn gan eu bod yn cael eu cadw gan y bwrdd iechyd lleol yn hytrach na’r awdurdod lleol.

4.21 Esboniodd un awdurdod lleol:

Nid yw'n bosibl casglu'r data a fyddai fwyaf defnyddiol e.e. faint sy'n defnyddio gofal cofleidiol ar unrhyw ddiwrnod penodol, byddai diweddariad byw ar nifer y plant sy'n mynychu lleoliadau yn ddefnyddiol - mae gan leoliadau Dechrau'n Deg gytundeb lefel gwasanaeth ac mae'n rhaid iddynt adrodd am y wybodaeth hon, nid oes gan leoliadau eraill gytundebau o'r fath - felly os nad yw lleoliadau'n ymwneud â Dechrau'n Deg, yna ni fyddai ganddynt y data hyn. (Awdurdod lleol)

4.22 Yn 2022, cafodd awdurdodau lleol gymorth gan Lywodraeth Cymru i gasglu data'n ymwneud â’r galw am ofal plant drwy arolwg rhieni a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru ddarparu’r cymorth hwn ac mae hynny'n adlewyrchu ei chydnabyddiaeth o’r amser a’r adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi’u buddsoddi mewn casglu data tebyg yn ystod rowndiau ADGP blaenorol. 

Mae’n anodd ennyn diddordeb rhieni. Mae’n gofyn am gryn dipyn o adnoddau, felly roedd yr arolwg rhieni yn ffordd o helpu’r awdurdodau lleol i wneud hyn. (Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru)

4.23 Gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol i gynhyrchu’r arolwg hwn a oedd yn cynnwys set o gwestiynau craidd. Y nod oedd lleihau rhywfaint o'r baich ar awdurdodau lleol a chynhyrchu set gyson o ddata ledled Cymru. Er bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysebu’r arolwg rhieni ar y cyfryngau cymdeithasol, cyfrifoldeb awdurdodau lleol oedd dosbarthu a hyrwyddo’r arolwg ar ôl iddo gael ei lansio.

4.24 Yn gyffredinol, roedd awdurdodau lleol yn croesawu’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chynnal yr arolwg rhieni, a nododd llawer fod y cymorth yn lleihau’r baich arnynt ac yn darparu dull cyson o gasglu data ar y galw gan rieni.

Roedd y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr arolwg rhieni yn wych. Fe wnaeth leihau rhywfaint ar y pwysau a oedd arnom ni. (Awdurdod lleol)

4.25 Dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru fod cymysgedd o gyfraddau ymateb i’r arolwg ar draws gwahanol awdurdodau lleol, gyda chyfraddau ymateb da mewn rhai ardaloedd a chyfraddau ymateb llai mewn ardaloedd eraill. Roedd hyn yn adlewyrchu i raddau helaeth i ba raddau yr oedd awdurdodau lleol yn hyrwyddo’r arolwg ac yn annog rhieni yn eu hardal i’w gwblhau. 

4.26 At ei gilydd, teimlai awdurdodau lleol ei bod yn ddefnyddiol cael arolwg cenedlaethol i rieni a oedd yn cynnwys set o gwestiynau safonol y gellid eu cymharu ledled Cymru. Nododd y rhan fwyaf y byddent yn croesawu’r cyfle i gael yr un gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Nododd un arweinydd awdurdod lleol “mae [yr arolwg rhieni] yn ddefnyddiol yn yr ystyr ei fod yn ein helpu ni i ysgrifennu'r ADGP ac mae'n rhoi cipolwg i ni o'r galw”. 

4.27 Fodd bynnag, roedd rhai awdurdodau lleol yn feirniadol o'r arolwg. Teimlai rhai fod yr arolwg yn rhy hir i rieni ei ateb, ac nad oedd ar agor am gyfnod digon hir i alluogi nifer digonol o rieni i'w gwblhau. Dywedodd eraill fod mwyafrif y rhieni a benderfynodd dreulio amser yn cwblhau'r arolwg wedi gwneud hynny “oherwydd bod ganddyn nhw rywbeth i gwyno amdano”, ac felly roedd y canlyniadau'n tueddu i fod yn negyddol. Roedd achosion hefyd o rieni a oedd wedi ateb yr arolwg yn anghywir. Er enghraifft, nododd un awdurdod lleol ddryswch gan rieni ynghylch cwestiynau’n ymwneud â chymorth di-dreth.

4.28 Teimlai’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol fod y gyfradd ymateb i'r arolwg yn isel iawn ac felly ei bod yn anodd rhagweld y galw a seilio argymhellion a chynlluniau gweithredu ar y ffynhonnell ddata hon yn unig. Amlinellodd rhai awdurdodau lleol fod dewis rhieni o ofal plant yn aml yn gymhleth, yn cael ei effeithio gan heriau logistaidd, megis cyfyngiadau amser yn deillio o batrymau gwaith rhieni. Gall fod yn anodd nodi'r cymhlethdodau hyn mewn arolwg rhieni, ac felly yn aml nid yw'r ymatebion a gesglir yn rhoi 'gwir' ddarlun o'r galw. O ganlyniad, teimlai nifer bach o awdurdodau lleol nad oedd yr ymatebion i'r arolwg rhieni o reidrwydd yn adlewyrchu eu gofynion gwirioneddol. Er enghraifft, pe bai rhieni wedi nodi yn eu hymatebion i’r arolwg yr hoffent gael mynediad i fathau penodol o ofal plant yn yr ardal, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddent yn defnyddio’r mathau hyn o ofal plant yn y dyfodol, gan ei gwneud yn anodd llunio camau gweithredu ystyrlon ar sail y data.

4.29 Cynhaliodd llawer o awdurdodau lleol arolygon cyflogwyr hefyd er mwyn asesu’r galw am ofal plant. Fodd bynnag, dywedodd rhai awdurdodau lleol mai dim ond cyfradd ymateb isel a gafwyd i'r arolwg hwn ac nad oedd hynny'n ddefnyddiol iawn. Rhoddir sylw manylach i ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid eraill yn yr adran 'Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid'. 

4.30 Yn gyffredinol, mae asesu'r galw yn gymhleth ac yn heriol. Mae gofal plant yn aml yn cael ei arwain gan y cyflenwad a rhieni'n manteisio ar y ddarpariaeth sydd ar gael, gan ei gwneud yn anodd asesu'r galw am fathau penodol o ofal plant os nad yw'r gofal plant hwnnw ar gael eisoes. At hynny, mae rhieni nad ydynt yn gweithio oherwydd nad oes ganddynt fynediad i ofal plant yn aml yn cael eu hanwybyddu pan fydd y ddarpariaeth yn cael ei harwain gan y cyflenwad. Mae natur heriol asesu'r galw yn codi’r cwestiwn a oes angen cynnwys cymorth pellach yn nogfennau'r ADGP i helpu awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r gofyniad hwn.

Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid

4.31 Fel y noda canllawiau’r ADGP: 

Bydd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau cyfraniad digonol gan amrywiaeth o bartneriaid a sefydliadau, wrth gyflawni eu dyletswydd i asesu, cynllunio a sicrhau darpariaeth gofal plant ddigonol yn eu hardal. 

4.32 Mae hyn yn golygu, yn ogystal â chael gafael ar ddata gan Lywodraeth Cymru ac AGC fel y trafodir uchod, ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol gael barn partneriaid gofal plant, cyflogwyr, ysgolion a sefydliadau eraill yn eu hardal sy’n ymwneud â gofal plant, yn ogystal â gweithio gyda nhw i gael mynediad i ddata neu unrhyw wybodaeth ddefnyddiol arall wrth gwblhau'r ADGP. 

4.33 Roedd awdurdodau lleol yn cydnabod y gallai ymgynghori â rhanddeiliaid ehangach helpu i greu darlun llawnach o ofal plant ac anghenion gofal plant yn eu hardal. Er enghraifft, roedd rhai yn cydnabod bod ymgynghori â chyflogwyr a chanolfannau gwaith yn bwysig er mwyn casglu barn ynghylch a oedd digon o ofal plant ar gael i'r rhai sy'n gweithio neu'n dilyn hyfforddiant neu'r rhai sy'n chwilio am waith neu hyfforddiant. Fodd bynnag, roedd lefelau ymgysylltu'r rhanddeiliaid ehangach hyn yn isel ar draws yr awdurdodau lleol, gyda rhai yn methu â chael dim ymateb neu'n cael ychydig iawn o ymateb i arolygon cyflogwyr, arolygon ysgolion a dulliau ymgynghori eraill â rhanddeiliaid. Yn aml, dywedodd y rhai a gafodd ymateb gan randdeiliaid fod yr ymatebion yn rhai lefel uchel a bod diffyg gwybodaeth fanwl ac ystyrlon i gael unrhyw effaith ar yr ADGP. Felly cwestiynodd sawl awdurdod lleol a oedd y rhan hon o ofynion yr ADGP yn angenrheidiol, yn enwedig o ystyried y ffaith bod y broses ymgynghori'n dreth ar amser ac nad oes fawr ddim yn deillio ohono. Cwestiynodd y rhai a oedd yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid a oedd ffordd o allu casglu mwy o ymatebion yn y dyfodol. Awgrymodd un awdurdod lleol y gallai Llywodraeth Cymru lunio a chynnal arolygon, mewn ffordd debyg i'r arolwg rhieni, ond ar gyfer yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid e.e. cyflogwyr ac ysgolion y disgwylir i awdurdodau lleol ymgynghori â nhw fel rhan o'r ADGP. 

4.34 Mae awdurdodau lleol hefyd yn ymgysylltu â phartneriaid megis CWLWM a fforymau Cynllunio Cymraeg mewn Addysg fel rhan o’r broses o lunio ADGP. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n nodi sut y maent yn bwriadu gwella cynllunio a safonau'r Gymraeg mewn addysg yn ardal yr awdurdod lleol. Er iddynt gael eu datblygu gan awdurdodau lleol, cânt eu seilio ar weithgaredd ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach o fewn fforwm. Mae rhanddeiliaid fforwm Cynllunio Cymraeg mewn Addysg fel arfer yn cynnwys darparwyr addysg, Mudiad Meithrin a sefydliadau'r trydydd sector fel Mentrau Iaith, RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg) a’r Urdd. Edrychir yn fanylach ar ymgysylltu â CSCA yn adran 4.46, 'Llywio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg'. Nododd rhai awdurdodau lleol fod ganddynt berthynas glos â'r partneriaid hyn a bod hynny'n arbennig o ddefnyddiol wrth gwblhau'r ADGPau gan eu galluogi i gael barn bwysig a data defnyddiol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, roedd yr ymgysylltu â phartneriaid yn anghyson am nifer o resymau. 

4.35 Teimlai sawl awdurdod lleol fod cymorth gan bartneriaid yn gyfyngedig ac nad oedd yn cael effaith sylweddol ar yr ADGP. Cafwyd beirniadaeth gan rai nad oedd partneriaid yn gallu darparu data penodol iddynt a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer eu hasesiad, neu nad oedd y data'n ddigon manwl. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod partneriaid weithiau wedi'u cyfyngu gan reoliadau diogelu data, neu o leiaf eu dehongliad o’r rheoliadau hyn, wrth rannu’r holl ddata sydd ar gael ag awdurdodau lleol. Yn ogystal â hyn, roedd awdurdodau lleol hefyd yn cydnabod nad oes gan bartneriaid y wybodaeth leol bob amser i allu darparu gwybodaeth ddefnyddiol neu farn yn ymwneud ag ardaloedd daearyddol penodol gan eu bod yn gweithredu ar lefel Cymru gyfan. 

4.36 O safbwynt partneriaid, teimlai rhai mai un o’r prif heriau y maent yn eu hwynebu o ran cyfrannu at y broses o lunio ADGP yw eu bod yn gweithredu ar draws Cymru gyfan, ac felly’n ei chael hi'n anodd dod o hyd i’r amser a’r adnoddau i gyfrannu at bob un o’r 22 ADGP. Nododd partneriaid eraill nad oes ganddynt gynrychiolaeth ym mhob rhan o Gymru felly nid oes ganddynt unrhyw ddata y gallant eu darparu i awdurdodau lleol nad ydynt yn gweithredu yn eu hardaloedd. Nododd rhai partneriaid hefyd eu bod yn derbyn ceisiadau am wybodaeth a data mewn fformatau gwahanol gan wahanol awdurdodau lleol. Nododd y partneriaid hyn y byddai dull cyson o ymdrin â cheisiadau am wybodaeth a data yn gwneud y broses o gefnogi ADGPau unigol yn llawer haws. 

4.37 I grynhoi, roedd awdurdodau lleol yn cydnabod manteision ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithio gyda phartneriaid fel rhan o’u proses asesu. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod diffyg ymateb i geisiadau am wybodaeth gan rai rhanddeiliaid, a / neu anallu rhai partneriaid i ddarparu’r holl wybodaeth angenrheidiol i awdurdodau, yn gosod rhai cyfyngiadau ar ba mor ddefnyddiol fu’r data a gasglwyd o’r ffynonellau hyn hyd yma. Fe wnaeth partneriaid ac awdurdodau lleol gwestiynu a fyddai gosod llai o ofyniad ar yr angen i ymgynghori mor eang fel rhan o'r broses o lunio ADGP yn lleihau'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ac yn lleihau maint y ddogfen ADGP a gynhyrchir.

Sut y mae ADGPau yn cael eu defnyddio 

4.38 Mae gan yr ADGPau y potensial i gyflawni dau brif ddiben: galluogi awdurdodau lleol i nodi unrhyw ddiffygion yn y ddarpariaeth gofal plant yn eu hardal; a rhoi trosolwg i Lywodraeth Cymru o ddigonolrwydd gofal plant ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd dirnadaeth gymysg ymhlith y rhai a gyfwelwyd ynghylch pwrpas neu ddefnydd yr ADGP, a pheth amheuaeth ynghylch a oedd y dogfennau'n llwyddo i gyflawni'r naill nod na'r llall. 

4.39 Nododd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru fod ADGPau yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni’r ddyletswydd sydd arnynt i asesu’r cyflenwad a’r galw am ofal plant mewn ardaloedd awdurdodau lleol unigol. Ategwyd y farn hon gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill a gyfwelwyd a oedd yn cydnabod pwysigrwydd cael dogfennau ADGP fel ffynonellau tystiolaeth i gyfeirio atynt er mwyn llywio a dylanwadu ar ddyrannu'r adnoddau sydd eu hangen i’w galluogi i gyflawni’r ddyletswydd gofal plant statudol a osodwyd arnynt. 

4.40 Nododd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru y gall tystiolaeth sydd wedi’i chynnwys mewn dogfennau ADGP eu helpu’n aml i asesu a yw cais awdurdodau lleol am gyllid cyfalaf yn cyd-fynd â'r bylchau gofal plant penodol a nodwyd yn eu hasesiad. Nododd awdurdodau lleol hefyd fod gan ADGPau rôl i’w chwarae o ran nodi a llywio penderfyniadau ar lefel strategol ar draws awdurdodau lleol. Yn aml, cyfeirir at dystiolaeth benodol a gynhwysir mewn ADGPau i gefnogi’r achos dros gymorth gofal plant mewn dogfennau cynllunio strategol amrywiol awdurdodau lleol (e.e. cynlluniau corfforaethol) a / neu fel tystiolaeth i gefnogi amrywiol geisiadau am gyllid. Cynigiwyd enghreifftiau hefyd o ffyrdd y mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr asesiadau wedi'i defnyddio i lywio CSCAau ac i lywio'r gwaith o ehangu Dechrau'n Deg. 

4.41 Er bod yr enghreifftiau y cyfeirir atynt uchod yn amlinellu ffyrdd y defnyddir dogfennau ADGP i lywio a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel strategol, ychydig iawn o wybodaeth, os o gwbl, a gynigiwyd gan y rhai a gyfwelwyd ynghylch sut y defnyddir y dogfennau hyn i ddylanwadu ar benderfyniadau ar lefel weithredol. Ystyrir bod cynlluniau gweithredu a ddatblygwyd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fel rhan o'r ADGP yn offer defnyddiol ar gyfer cynllunio gweithredol. Fodd bynnag, roedd llawer o awdurdodau lleol o’r farn y gallent lunio’r cynlluniau gweithredu hyn heb orfod cynhyrchu adroddiad tystiolaeth ADGP hirfaith yn gyntaf. At ei gilydd, roedd bron pob awdurdod lleol o’r farn bod dogfennau ADGP yn rhywbeth yr oedd yn rhaid iddynt ei gynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn hytrach na sylfaen dystiolaeth werthfawr a oedd yn cefnogi eu hanghenion cynllunio eu hunain.

4.42 Nododd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru hefyd fod eu defnydd o'r dogfennau hyn wedi’i gyfyngu i’r enghreifftiau a nodir uchod ac fel modd o sicrhau bod awdurdodau lleol wedi cyflawni eu rhwymedigaethau statudol. Nododd rhai cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru fod gan y dogfennau ADGP y potensial i fod yn ffynhonnell y gallai swyddogion ei defnyddio i gael trosolwg cyflym o’r gofal plant sydd ar gael o fewn awdurdod lleol unigol a lle mae bylchau neu ddiffygion yn y ddarpariaeth mewn perthynas â’r galw. Fodd bynnag, mae'r dogfennau mor fawr nes ei bod yn anodd eu defnyddio at y diben hwn. Wrth ddisgrifio’r hyn yr hoffent i ddogfen ADGP ei gynnwys neu ei gynnig, rhoddodd un cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yr ymateb a ganlyn:

[Hoffwn…] allu edrych ar un [dogfen ADGP] a deall yn hawdd faint o leoliadau gofal plant sydd ganddyn nhw, pa fathau o leoliadau sydd ganddyn nhw, beth maen nhw'n ei gynnig, faint o leoedd gwahanol fesul grŵp oedran, y lledaeniad gofal plant ar draws y sir, faint o wasanaethau a ariennir sy'n cael eu darparu (e.e. Dechrau’n Deg – a oes capasiti ar gyfer mwy ai peidio?), rhywbeth ynghylch y cyfraddau a godir, a pha systemau cymorth sydd ar waith i fod yn fwy cynhwysol, a rhywbeth yn ymwneud â’r boblogaeth. Hoffwn i gael darlun cyflym iawn o'r sefyllfa. (Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru)

4.43 Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth a nodir yn y dyfyniad uchod ar gael drwy ddata SASS. Nododd rhai o swyddogion Llywodraeth Cymru mai SASS yw’r ffynhonnell ddata y maent yn ei defnyddio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sector gofal plant yng Nghymru – nid dogfennau'r ADGP. 

4.44 Datgelodd trafodaethau gyda phartneriaid CWLWM hefyd nad oedd yn ymddangos bod dogfennau'r ADGP yn cael eu defnyddio i lywio eu cynlluniau hwy na chynlluniau’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli. Soniodd rhai partneriaid am gyfeirio darparwyr newydd posibl at y dogfennau ADGP i nodi a oes angen darpariaeth newydd ac ymhle, ond roeddent yn ansicr a gafodd y darparwyr hyn y wybodaeth angenrheidiol drwy wneud hyn.

4.45 Felly yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ill dau yn cytuno bod yr ADGP yn ffordd o gyflawni'r ddyletswydd a roddir ar awdurdodau lleol i asesu gofal plant yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru o’r farn bod y dogfennau ADGP a gynhyrchwyd yn rhywbeth sy’n ddefnyddiol i awdurdodau lleol, tra bod awdurdodau lleol yn cwestiynu diben yr asesiad ac yn ei weld yn rhywbeth y mae’n rhaid iddynt ei wneud i Lywodraeth Cymru. Er y nodwyd rhai ffyrdd ymarferol o'u defnyddio, a bod y cynllun gweithredu yn cael ei weld fel allbwn defnyddiol, roedd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cytuno nad yw’r dogfennau ADGP yn eu fformat presennol yn cael eu defnyddio’n eang ganddynt hwy na phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach. Ychydig iawn o enghreifftiau, os o gwbl, a gynigiwyd gan awdurdodau lleol o sut y defnyddir y dogfennau ADGP i lywio neu arwain eu gwaith cynllunio darpariaeth gofal plant ar lefel weithredol.

Llywio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) 

4.46 Yn dilyn yr adolygiad cyflym o’r CSCAau a gynhaliwyd yn 2017, sefydlwyd Bwrdd Cynghori CSCA ym mis Mai 2018 i ystyried yr argymhellion. Daeth y Bwrdd i’r casgliad bod angen diwygio’r is-ddeddfwriaeth (Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013) a daeth Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 i rym ar 1 Ionawr 2020. Un o’r darpariaethau yn y rheoliadau yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol nodi yn eu CSCA 10-mlynedd sut y byddant yn defnyddio data sy’n deillio o’u hadolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant yn eu hardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o’r Ddeddf Gofal Plant 2006 (Asesu Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016) i lywio cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r rheoliadau hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i nodi yn eu CSCA (a) sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am argaeledd a math y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir; (b) sut y bydd yn darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr sy’n datgan bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bobl waeth beth fo’u cefndir ieithyddol a (c) sut y bydd yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth am y manteision a ddaw yn sgil dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. 

4.47 Mewn ymateb i hynny, ffurfiodd llawer o fforymau Cynllunio Cymraeg mewn Addysg o fewn awdurdodau lleol is-grwpiau yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg blynyddoedd cynnar fel rhan o’u CSCA (Deilliant 1 yn y CSCA). Er mwyn cefnogi CASCAau i gynyddu eu ffocws ar ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar, roedd canllawiau atodol ar ADGP a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022 yn cynnwys gofyniad i dimau ADGP awdurdodau lleol weithio’n agos ag arweinwyr CSCA mewn awdurdodau lleol i’w cefnogi gyda gwybodaeth a data sy’n ymwneud â darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Yn gyfnewid am hynny, gallai timau CSCA yr awdurdodau lleol helpu i lywio'r ADGPau o ran darpariaeth Gymraeg ac felly cefnogi'r gwaith o gynllunio darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol. 

4.48 Nododd llawer o gynrychiolwyr timau ADGP awdurdodau lleol, o ganlyniad i’r canllawiau atodol hyn, eu bod wedi datblygu perthynas waith agosach â sefydliadau partner o fewn fforymau Cynllunio Cymraeg mewn Addysg a, lle yr oeddent wedi'u sefydlu, is-grwpiau blynyddoedd cynnar CSCA. Nododd cynrychiolwyr ADGP hefyd fod eu cynrychiolaeth ar fforymau Cynllunio’r Gymraeg mewn Addysg a / neu bresenoldeb yng nghyfarfodydd CSCA awdurdodau lleol hefyd wedi ehangu a bod hyn hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i lywio gweithgarwch CSCA a chael eu llywio gan y gweithgarwch hwnnw. 

4.49 Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod y gofyniad a roddwyd ar dimau ADGP lleol i weithio’n agosach gyda chydweithwyr o fewn yr awdurdod lleol sy’n arwain ar CSCA yn ogystal â grwpiau CSCA lleol wedi arwain mewn llawer o achosion, ond nid ym mhob achos, at berthnasoedd gwaith agosach, at gyfnewid mwy o wybodaeth a mwy o gysondeb rhwng yr asesiadau a CSCAau. Fodd bynnag, mae'n ymddangos hefyd bod llawer o'r gweithgaredd cyfnewid gwybodaeth hwn yn digwydd yn ystod sgyrsiau a chyfarfodydd a gafwyd o ganlyniad i'r broses ADGP, yn hytrach na data a gwybodaeth sydd wedi'u cynnwys a'u rhannu yn y dogfennau ADGP gynhyrchwyd. 

Yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i gwblhau ADGP

4.50 Dywedodd pob awdurdod lleol fod cynhyrchu ADGP yn broses lafurus a chostus, a all gymryd hyd at 9 mis i'w chwblhau. Cwblhaodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol eu hasesiad yn fewnol, tra bod eraill (bron i hanner) wedi comisiynu cwmnïau allanol i gynnal eu hasesiad hwy.

4.51 Eglurodd y rhai a gynhyrchodd eu hasesiad yn fewnol fod y baich yn bennaf ar y swyddog arweiniol yn nhîm gofal plant yr awdurdod lleol. Nododd swyddogion arweiniol, yn ystod y cyfnod pan oeddent yn cynhyrchu dogfennau'r ADGP, eu bod yn cael eu tynnu oddi wrth eu rolau o ddydd i ddydd yn yr awdurdod lleol. Roedd hyn yn ei dro yn cael sgil-effeithiau ar lwythi gwaith cydweithwyr a oedd yn aml yn gorfod cyflawni'r dyletswyddau na allai'r swyddog arweiniol eu cyflawni yn ystod y cyfnod hwn. 

4.52 Yn 2022, cynigiodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol (£10,000) i awdurdodau lleol i dalu o leiaf rai o’r costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu'r dogfennau ADGP. Defnyddiodd rhai awdurdodau lleol y cyllid hwn i gomisiynu sefydliadau allanol i gynhyrchu’r dogfennau ar eu rhan. Nododd yr awdurdodau lleol hyn mai diffyg amser ac adnoddau yn fewnol i gynnal yr ADGP eu hunain oedd y prif reswm dros wneud hyn. Fodd bynnag, nododd llawer o’r awdurdodau lleol a gomisiynodd sefydliadau allanol fod angen iddynt ymroi cryn dipyn o’u hamser o hyd er mwyn cefnogi’r broses. Nododd llawer ei bod yn dal yn ofynnol iddynt ddarparu'r data a'r 'wybodaeth leol' angenrheidiol i sefydliadau allanol, yn ogystal â goruchwylio a sicrhau ansawdd allbynnau'r adroddiad a gynhyrchwyd. Felly, teimlai llawer o awdurdodau lleol nad oedd comisiynu cwmnïau allanol i gwblhau’r ADGP o reidrwydd yn arbed amser iddynt. O ganlyniad, penderfynodd rhai o’r awdurdodau hyn beidio â chomisiynu sefydliad allanol i gwblhau eu hasesiad yn ystod y rownd ddiweddaraf yn 2022. 

Gwariodd [yr awdurdod lleol] £12,000 ar wneud hyn [comisiynu'n allanol] yn y gorffennol ond roedd yn fwy o waith! Rhaid iddyn nhw [y sefydliad a gomisiynwyd] ofyn i chi am ddata a chyfarwyddiadau drwy'r amser - yn y bôn rydych chi'n casglu'r holl wybodaeth ac mae'r cwmni'n ysgrifennu'r adroddiad. Dim bai ar y cwmni o gwbl, ond bu’n rhaid i ni ymroi swm sylweddol o amser i'r broses. (Awdurdod lleol)

4.53 O ganlyniad, cwestiynodd rhai awdurdodau lleol ddefnyddioldeb defnyddio’r cyllid at y diben hwn. Dywedodd awdurdodau lleol eraill y gellid cynyddu'r cyllid o ystyried faint o waith sydd ei angen er mwyn cwblhau'r ADGP. Eglurodd un awdurdod lleol, er ei fod yn croesawu’r cymorth ariannol o £10,000, “mae'n costio £5,000 dim ond i gyfieithu'r ddogfen”. 

4.54 Fodd bynnag, un fantais a nodwyd o ddefnyddio sefydliad allanol oedd bod rhai awdurdodau lleol wedi canfod bod darparwyr gofal plant yn fwy tebygol o ymateb yn gadarnhaol i geisiadau am wybodaeth gan sefydliadau allanol nag y maent gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol. 

Canllawiau adrodd pellach ar gyfer ADGP 

4.55 Mae adrannau blaenorol yr adroddiad hwn (gweler er enghraifft adrannau 4.2 – 4.6) yn amlinellu bod llawer o awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach wedi awgrymu y dylai’r canllawiau ar ADGP a roddir i awdurdodau lleol fod yn llai rhagnodol a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol o ran sut y maent yn cynnal eu prosesau asesu. Fodd bynnag, nododd rhai awdurdodau lleol hefyd y byddent yn croesawu mwy o ganllawiau o ran sut i gyflwyno a strwythuro’r ddogfen ADGP, o bosibl drwy ddefnyddio templed. Er enghraifft, nododd un awdurdod lleol y byddai’n ddefnyddiol pe bai templed adroddiad ar gael a fyddai’n amlinellu’r math o fanylion a lefel y manylion sy’n ofynnol o dan bob pennawd yn yr adroddiad. Nododd eraill y byddai templed strwythur adroddiad yn cael ei groesawu, ar yr amod nad oedd yn rhy anhyblyg, gan y byddai hyn yn annog mwy o gysondeb ar draws dogfennau ADGP awdurdodau lleol ac yn galluogi cymariaethau uniongyrchol rhyngddynt. 

4.56 Roedd y rhai a oedd yn croesawu’r syniad o dempled adroddiad ar gyfer ADGP yn credu y dylai’r templed gael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru fel bod awdurdodau lleol yn cynhyrchu’r wybodaeth 'y mae Llywodraeth Cymru ei heisiau.' 

Os oes unrhyw beth yr hoffai Llywodraeth Cymru i ni i gyd ei wneud, rhowch dempled i ni. (Awdurdod lleol). 

4.57 Cyn ADGP 2022, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag AWARE[13] a chynrychiolwyr awdurdodau lleol eraill i ddarparu templed ar gyfer adroddiadau ADGP 2022; mae'r ddogfen ganllaw statudol hefyd yn cynnwys atodlenni gyda thempledi y gall awdurdodau lleol eu defnyddio neu eu llenwi os dymunant. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod rhai awdurdodau lleol yn parhau i ofyn am dempled adroddiad yn awgrymu nad yw pob un ohonynt yn ymwybodol bod y templedi hyn yn bodoli. 

4.58 Yn 2018, cyhoeddodd Maer Llundain dempled adroddiad ADGP ar gyfer bwrdeistrefi Llundain[14]. Mae'r canllawiau'n seiliedig ar themâu tebyg i'r rhai a gynhwysir mewn ADGPau yng Nghymru h.y., y galw a'r cyflenwad o ofal plant, addysg gynnar a ariennir, pris lleoedd gofal plant, ansawdd y ddarpariaeth a barn rhieni. Mae templed bwrdeistref Llundain yn nodi bod iddo ddau brif ddiben - ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i awdurdodau lleol gynhyrchu eu hasesiadau a gwella cysondeb ledled Llundain. Mae templed a chanllawiau Llundain yn cynnwys adrannau sydd wedi'u categoreiddio'n ofynion 'craidd', 'a argymhellir' a 'dewisol'. Mae hyn yn galluogi bwrdeistrefi Llundain i fabwysiadu rhywfaint o hyblygrwydd yn y broses o gynnal eu hasesiadau ac adrodd arnynt. 

Adborth ar ddogfennau ADGP 

4.59 Pwynt neu bryder cyffredin a godwyd gan awdurdodau lleol oedd nad ydynt yn cael unrhyw adborth gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â’r dogfennau ADGP y maent yn eu cynhyrchu. Cyfeiriodd rhai at hyn fel 'gorfod cyflwyno gwaith cartref nad yw'n cael ei farcio'. Byddai’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol felly’n croesawu rhywfaint o adborth gan Lywodraeth Cymru o leiaf o ran a ydynt yn cynnwys yr holl ddata gofynnol, a ydynt wedi bodloni eu rhwymedigaethau statudol, ac a ydynt wedi llunio ‘ADGP da'. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu adborth ar yr ADGP 2022 a gynhyrchwyd; fodd bynnag, nid oedd wedi gweithredu ar yr adborth hwn pan gynhaliwyd ymgyngoriadau â chynrychiolwyr awdurdodau lleol yn 2023. 

4.60 Mae’r safbwyntiau hyn yn adlewyrchu ymhellach y ffaith bod llawer o awdurdodau lleol yn teimlo eu bod yn cynhyrchu’r dogfennau ADGP er mwyn i Lywodraeth Cymru roi trosolwg i swyddogion y llywodraeth o ddigonolrwydd gofal plant ledled Cymru. Ymddengys fod hyn yn groes i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn brif ddiben dogfennau ADGP, sef llywio ac arwain camau gweithredu i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth o fewn ardaloedd awdurdodau lleol unigol. Fel y nodir yn adrannau 4.38 i 4.45 nid yw’n ymddangos bod y dogfennau ADGP yn eu fformat presennol yn cael eu defnyddio at y naill ddiben na'r llall.

4.61 Nododd partneriaid CWLWM hefyd y byddent yn croesawu mwy o adborth gan awdurdodau lleol yn ymwneud â’r ADGPau – nid o reidrwydd mewn perthynas â’r dogfennau ADGP eu hunain, ond y cynlluniau gweithredu a’r adroddiadau cynnydd sy’n dilyn. Nododd partneriaid CWLWM eu bod yn aml yn cael cais i gyfrannu gwybodaeth a data i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu’r dogfennau ADGP yn ystod pob rownd ond nad ydynt bob amser yn cael gwybod am y camau gweithredu sy’n cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i hynny. I ryw raddau gall hyn adlewyrchu'r diffyg cysylltiad ymddangosiadol rhwng y dogfennau ADGP eu hunain a'r cynlluniau gweithredu a'r arferion cymorth gofal plant a gyflawnir ar lefel weithredol.
 

[10] Mae Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) 2023 bellach yn fyw | Arolygiaeth Gofal Cymru

[11] Daearyddiaethau Cyfrifiad 2021 - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) (Saesneg yn Unig)

[12] Langford, M., Higgs, G., & Dallimore, D. J. (2019). Investigating spatial variations in access to childcare provision using network‐based Geographic Information System models. Social Policy & Administration53(5), 661-677 [Saesneg yn unig] 

[13] AWARE yw Cymdeithas Cynrychiolwyr y Blynyddoedd Cynnar Cymru Gyfan, sy’n cynnwys cynrychiolwyr arweinwyr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru, sy’n cydweithio ar faterion amrywiol yn ymwneud â chynllunio gofal plant.

[14] Dogfen Ganllaw Templed Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant i'w ddefnyddio gan Fwrdeistrefi Llundain (Saesneg yn unig) (2018) Maer Llundain. 

5. Casgliadau ac argymhellion

5.1 Yn gyffredinol, mae gosod rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol, fel rhan o Ddeddf 2006, i asesu a sicrhau bod digon o ofal plant ar gael i gefnogi teuluoedd yn eu hardal yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gofal plant yn cael y flaenoriaeth sydd ei angen o ran polisi a chyllid ar lefel leol a chenedlaethol. Yn hynny o beth, mae gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i gynhyrchu dogfen yn cyflwyno asesiad i weld a oes digon o ofal plant ar gael ym mhob awdurdod lleol hefyd yn cael ei ystyried yn hanfodol. Fodd bynnag, mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn awgrymu bod cytundeb unfrydol bron nad yw’r dogfennau asesiad digonolrwydd gofal plant (ADGP) presennol, a gynhyrchir bob pum mlynedd, yn addas at y diben ac nad yw’r amser, yr ymdrech a’r adnoddau sydd eu hangen i’w cynhyrchu yn gyfystyr â gwerth da am arian. 

Y broses o gynhyrchu ADGPau

5.2 Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn amlinellu, bron ym mhob achos, bod cynhyrchu dogfen ADGP yn ei fformat presennol yn broses lafurus a chostus, a all, i lawer o awdurdodau lleol, gymryd hyd at naw mis i’w chwblhau. 

5.3 Neges allweddol, gytûn sy’n dod i’r amlwg o’r dystiolaeth a gasglwyd o gyfweliadau â rhanddeiliaid yw bod dogfennau'r ADGP yn eu fformat presennol yn rhy fawr a bod y costau a’r amser sydd eu hangen i’w cynhyrchu yn ormodol. Roedd y newidiadau a awgrymwyd ar gyfer y dyfodol a gynigiwyd gan y rhai yr ymgynghorwyd â nhw yn canolbwyntio’n bennaf ar leihau maint y dogfennau ADGP yn ogystal â sicrhau bod y broses ADGP ei hun yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar awdurdodau lleol a rhanddeiliaid a phartneriaid eraill i gynllunio’n effeithiol ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion a nodwyd yn y ddarpariaeth. 

5.4 Roedd llawer o awdurdodau lleol o’r farn bod yr amser a’r ymdrech sydd eu hangen i gynhyrchu’r ddogfen yn adlewyrchu’r hyn y mae llawer yn ei ystyried yn natur hirfaith a rhagnodol canllawiau 2016 a chanllawiau atodol 2016 (2022) ar yr ADGP (sy’n adlewyrchu gofynion y rheoliad) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd llawer o awdurdodau lleol yn cwestiynu a oedd angen y gofynion yn y canllawiau i gasglu gwybodaeth o’r holl ffynonellau data ac o'r ymgynghoriadau â'r holl grwpiau rhanddeiliaid. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn dangos y gallai canllawiau mwy hyblyg, yn seiliedig ar ddulliau gweithredu a argymhellir neu ddulliau dewisol fod yn fwy priodol, neu o leiaf gael eu croesawu’n fwy cynnes gan awdurdodau lleol yn y dyfodol. Dylai hyn sicrhau bod gan ADGPau ffocws a'u bod yn dal i fod yn berthnasol gan leihau'r gost a'r ymdrech sy'n gysylltiedig â nhw.

5.5 Yn 2022, cynigiodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i awdurdodau lleol i dalu o leiaf rai o’r costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu'r dogfennau hyn. Defnyddiodd rhai awdurdodau lleol y cyllid hwn i gomisiynu sefydliadau allanol i gynhyrchu’r dogfennau ar eu rhan. Fodd bynnag, nododd llawer o’r awdurdodau lleol hyn fod angen iddynt ymroi cryn dipyn o’u hamser o hyd er mwyn goruchwylio a chefnogi sefydliadau allanol gyda'r broses hon. Mae hyn yn cynnwys darparu'r 'wybodaeth leol' sydd ei hangen ar sefydliadau a gomisiynir i gwblhau'r adroddiadau, yn ogystal â sicrhau ansawdd allbynnau'r adroddiad a gynhyrchir. Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau lleol wedi canfod bod darparwyr gofal plant yn fwy tebygol o ymateb yn gadarnhaol i geisiadau am wybodaeth gan sefydliadau allanol nag y maent gan gynrychiolwyr yr awdurdodau lleol. 

Ffynonellau data

5.6 Un o'r prosesau allweddol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu dogfennau'r ADGP yw coladu a dadansoddi data sy'n ymwneud â'r cyflenwad o ofal plant a'r galw amdano. Fodd bynnag, mae llawer o awdurdodau lleol yn ystyried bod agweddau ar y broses hon yn heriol. 

5.7 Mae cymorth i gael gafael ar ddata ar y math o ddarpariaeth gofal plant sydd ar gael (drwy SASS) a lefel a natur y galw am leoedd gofal plant (drwy’r arolwg rhieni cenedlaethol a gydlynir gan Lywodraeth Cymru) wedi’i groesawu gan awdurdodau lleol, a hoffai’r rhan fwyaf weld cymorth data tebyg yn cael ei gynnig yn y dyfodol. Nododd un awdurdod lleol hefyd y byddai’n croesawu cymorth tebyg gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i gasglu adborth gan randdeiliaid eraill gan gynnwys cyflogwyr ac ysgolion. 

5.8 Fodd bynnag, nododd awdurdodau lleol rai cyfyngiadau i ddata'r SASS sydd ar gael – e.e. bylchau yn y data ac (oherwydd pryderon ynghylch diogelwch data) i ba raddau y gellir nodi darparwyr unigol ac felly i ba raddau y gall awdurdodau lleol briodoli’r data i ddarpariaeth o fewn wardiau neu Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is. Hefyd, cyflwynwyd y data SASS a ddarparwyd yn 2022 i awdurdodau lleol ar ffurf data crai yr oedd llawer yn ei chael hi'n anodd eu dadansoddi a’u dehongli. Awgrymwyd mai un o’r ffyrdd y gallai awdurdodau lleol gael eu cefnogi ymhellach yn ystod cylch nesaf ADGP, fyddai i Lywodraeth Cymru ac AGC rannu data SASS ag awdurdodau lleol mewn fformat mwy hygyrch. Er enghraifft, i gyd-fynd â'r data crai, gellid cyflwyno tablau o ddata wedi'u dadansoddi yn amlinellu'r ddarpariaeth sydd ar gael yn ôl nifer y lleoliadau a'u math a nifer y lleoedd sydd ar gael.

5.9 Mae’r canfyddiadau’n amlinellu rhai cyfyngiadau o ran y graddau yr oedd y data a gynhyrchwyd o’r arolwg rhieni wedi galluogi awdurdodau lleol i asesu’r galw am ofal plant ar lefel leol. Roedd hyn yn aml oherwydd bod y cyfraddau ymateb yn isel, ac mewn rhai achosion, ymatebion annibynadwy i rai o gwestiynau’r arolwg. Mae ffynonellau data eraill gan gynnwys ffigurau rhagolygon poblogaeth leol a chynlluniau datblygu tai hefyd wedi cael eu defnyddio i amcangyfrif y galw am ofal plant yn y dyfodol mewn ardal leol. Fodd bynnag, nododd rhai awdurdodau lleol nad oedd ganddynt fynediad i beth o'r data a fyddai’n eu helpu ymhellach i amcangyfrif y galw yn y dyfodol. Er enghraifft, byrddau iechyd lleol sy’n cadw data ar enedigaethau byw ar lefel ward neu Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, sef data a fyddai’n helpu awdurdodau lleol i asesu’r galw posibl am ofal plant yn y dyfodol, ac nid yw'r data hynny o reidrwydd yn hygyrch i awdurdodau lleol. Felly byddai awdurdodau lleol yn croesawu rhagor o gymorth i gael gafael ar ddata o'r math hwn. 

5.10 Yn ogystal â’r math o ddata sydd ar gael, nododd awdurdodau lleol, er mwyn llywio cynlluniau gweithredu ac adroddiadau cynnydd yn ymwneud â digonolrwydd gofal plant yn eu hardal yn barhaus, fod angen iddynt hefyd gael mynediad at ddata sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd. Un feirniadaeth o'r data sydd wedi'u cynnwys yn nogfennau'r ADGP yw eu bod yn dyddio'n gyflym ac felly mai cyfyngedig yw eu defnydd o ran llywio unrhyw gamau gweithredu parhaus. 

5.11 Mae AGC eisoes yn cynnig offeryn data rhyngweithiol sy'n darparu gwybodaeth sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd ar nifer y lleoliadau gofal plant cofrestredig yn ôl y math o leoliad o fewn ardal pob awdurdod lleol. Fodd bynnag, nododd cynrychiolwyr awdurdodau lleol eu bod angen i'r data hyn gael eu cyflwyno ar lefel ward neu Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is yn ddelfrydol. Byddai creu platfform tebyg, neu addasu offeryn rhyngweithiol presennol AGC, i gynnig data sy'n ymwneud â’r ddarpariaeth gofal plant sydd ar gael mewn ardal ddaearyddol lai, felly yn ychwanegiad i’w groesawu at y ffynonellau data sydd eisoes ar gael.

Sut y mae ADGPau yn cael eu defnyddio 

5.12 Mae gan y dogfennau ADGP y potensial i nodi a rhoi arweiniad i awdurdodau lleol ar sut i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion yn y ddarpariaeth gofal plant yn eu hardal, yn ogystal â rhoi trosolwg i Lywodraeth Cymru o ddigonolrwydd gofal plant ledled Cymru. Fodd bynnag, yn eu fformat presennol, nid yw'n ymddangos bod yr ADGPau yn cyflawni'r un o'r ddau ddiben hyn yn llwyr. 

5.13 Roedd llawer o awdurdodau lleol yn ystyried bod cynhyrchu'r ddogfen ADGP yn rhywbeth yr oedd yn 'rhaid ei wneud i Lywodraeth Cymru', yn hytrach na dogfen y maent yn ei chynhyrchu i gefnogi eu gwaith cynllunio lleol eu hunain. Pwynt cyffredin a godwyd gan awdurdodau lleol oedd eu bod yn cyflwyno eu dogfennau i Lywodraeth Cymru ond nad ydynt yn cael unrhyw adborth arnynt yn gyfnewid am hynny. Cymharodd rhai awdurdodau lleol y broses fel 'gorfod gwneud gwaith cartref sydd ddim yn cael ei farcio.' Fodd bynnag, rhoddodd Llywodraeth Cymru adborth i awdurdodau lleol ar eu hasesiadau diweddaraf (2022) ym mis Tachwedd 2023.

5.14 Ychydig iawn o enghreifftiau a ganfuwyd gan yr ymchwil o sut y defnyddiwyd y dogfennau ADGP a gynhyrchwyd yn ymarferol fel canllaw i lywio cynlluniau cymorth gofal plant ar lefel weithredol o fewn awdurdodau lleol. Roedd awdurdodau lleol i raddau helaeth o'r farn y gellid cynhyrchu eu cynlluniau gweithredu heb orfod cynhyrchu'r ddogfen ADGP. 

5.15 Mae'n ymddangos nad yw CWLWM yn gwneud defnydd eang o'r dogfennau ADGP i lywio eu cynlluniau hwy na chynlluniau’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli. Fodd bynnag, yn aml disgwylir i bartneriaid CWLWM gyfrannu data a gwybodaeth i lywio’r asesiadau ac maent yn cefnogi awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau gweithredu ADGP. Mae rhai partneriaid CWLWM hefyd wedi atgyfeirio darparwyr gofal plant newydd posibl at ddogfennau ADGP lleol fel ffynhonnell wybodaeth i nodi lle y gallai fod angen darpariaeth newydd. Fodd bynnag, mae'n ansicr a yw'r darparwyr hyn yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt o'u hadolygiad o'r dogfennau hyn.

5.16 Nid yw'n ymddangos bod y dogfennau ADGP yn eu fformat presennol yn cael eu defnyddio i arwain neu lywio camau gweithredu neu bolisïau ar lefel Cymru gyfan ychwaith. 

5.17 Mae gan ADGPau rôl i’w chwarae o ran nodi a llywio penderfyniadau ar lefel strategol ar draws awdurdodau lleol. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r ymchwil hwn yn dangos bod cyfeiriadau at ADGPau yn cael eu gwneud i gefnogi'r achos dros ofal plant mewn dogfennau cynllunio amrywiol awdurdodau lleol e.e. cynlluniau corfforaethol, a / neu o fewn ceisiadau am gyllid e.e. ceisiadau am gyllid cyfalaf. Nododd Llywodraeth Cymru hefyd ei bod yn aml yn croesgyfeirio ceisiadau am gyllid gofal plant yn erbyn tystiolaeth o angen a nodwyd mewn ADGPau lleol. 

5.18 Mae'r ADGPau yn cynnwys data a gwybodaeth sy'n werthfawr, fodd bynnag, mae hyn yn aml yn cael ei golli neu mae'n anodd dod o hyd iddo yng nghanol yr holl wybodaeth arall sydd hefyd wedi'i chynnwys yn y dogfennau. At hynny, dim ond ciplun y mae'r data a gynhwysir yn yr ADGPau yn ei roi o'r nifer a'r math o ddarparwyr a lleoedd gofal plant a oedd ar gael ar yr adeg y casglwyd y data; mae'r data hyn yn aml wedi dyddio hyd yn oed cyn i'r ADGPau gael eu cyhoeddi.

5.19 Data cyfredol a chyfoes sy’n ymwneud â’r galw a’r cyflenwad o ofal plant y mae awdurdodau lleol yn dibynnu’n bennaf arnynt i gynllunio eu camau gweithredu parhaus mewn perthynas â digonolrwydd gofal plant. Er bod y data hyn wedi'u cynnwys yn y dogfennau ADGP, maent yn dyddio'n gyflym iawn ac felly dim ond am gyfnod penodol y mae gwerth i ddogfennau'r ADGP fel canllaw cynllunio gweithredol. 

5.20 Gall yr amgylchedd polisi ac economaidd sy'n dylanwadu ar y sector gofal plant hefyd newid yn gyflym ac yn aml rhwng cylchoedd ADGP. Mewn llawer o achosion, mae cyfyngiad amser hefyd i'r cyd-destun a'r cefndir ar gyfer cynhyrchu dogfennau'r asesiad yn ystod pob cylch. 

Cefnogi darpariaeth Gymraeg

5.21 Roedd canllawiau atodol gan Lywodraeth Cymru yn 2021 yn cynnwys gofyniad i dimau ADGP awdurdodau lleol weithio’n agos ag arweinwyr CSCAau mewn awdurdodau lleol i’w cefnogi gyda gwybodaeth a data sy’n ymwneud â darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Yn ogystal â hynny, mae canllawiau’r CSCA yn nodi bod yn rhaid i ALlau edrych ar ddogfennau ADGP i lywio eu gwaith cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n ymddangos bod y gofynion hyn wedi arwain at drefniadau gweithio agosach a mwy o gyfnewid gwybodaeth rhwng arweinwyr gofal plant awdurdodau lleol a grwpiau CSCA. Fodd bynnag, cafodd llawer o'r wybodaeth ei chyfnewid yn ystod sgyrsiau a chyfarfodydd a gafwyd o ganlyniad i'r broses ADGP, yn hytrach na data a gwybodaeth sydd wedi'u cynnwys a'u rhannu yn y dogfennau ADGP gynhyrchwyd. 

Argymhellion yn ymwneud â fformat dogfennau ADGP yn y dyfodol.

5.22 Mae'r adran hon yn amlinellu argymhellion cyffredinol yn ymwneud â fformat dogfennau ADGP yn y dyfodol. Mae'r rhain yn seiliedig ar y canfyddiadau a gyflwynir ym mhrif gorff yr adroddiad hwn a barn y rhai yr ymgynghorwyd â nhw. 

5.23 Roedd bron pob un o’r awdurdodau lleol a’r rhanddeiliaid ehangach o’r farn bod angen i ddogfennau ADGP fod yn adroddiadau byrrach a mwy cryno sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno’r meysydd gwybodaeth allweddol a ganlyn:

  • Nifer y lleoliadau gofal plant sydd ar gael, yn ôl math o leoliad a'r hyn y maent yn ei gynnig.
  • Nifer y lleoedd fesul grŵp oedran sydd ar gael yn y lleoliadau hyn.
  • Manylion y gwasanaethau a ariennir sy'n cael eu darparu.
  • Y galw presennol a'r galw yn y dyfodol am ofal plant yn seiliedig ar farn rhieni a data poblogaeth.
  • Rhwystrau a wynebir gan rieni o ran cael mynediad i ofal plant. 

5.24 Dylid cyflwyno'r data hyn ar lefel ward ym mhob awdurdod lleol. Dylai dehongli a dadansoddi'r data nodi bylchau yn y ddarpariaeth. Law yn llaw â'r dadansoddiad, dylid llunio crynodeb o'r blaenoriaethau strategol y mae'r awdurdod lleol yn ceisio mynd ar eu trywydd i lenwi unrhyw fylchau a nodwyd. Efallai y bydd angen i awdurdodau lleol gasglu gwybodaeth ehangach i lywio eu blaenoriaethau gofal plant eu hunain. Fodd bynnag, dylai'r awdurdod lleol dan sylw benderfynu a ddylid cynnwys hyn yn yr ADGP. 

5.25 Bydd cynhyrchu dogfennau ADGP byrrach, hawdd eu defnyddio nid yn unig yn lleihau’r amser, yr ymdrech a’r adnoddau sydd eu hangen i’w cynhyrchu, ond hefyd yn sicrhau eu bod yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach ac felly’n fwy tebygol o fod yn fwy o werth ymarferol o ran bod yn sail i arferion a chynlluniau gweithredol.

5.26 Nododd rhai awdurdodau lleol y byddent yn croesawu templed adroddiad y gallent ei ddefnyddio i strwythuro eu dogfen ADGP. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi llunio templed adroddiad gyda’r nod o ddarparu cymorth o’r natur hwn. Mae galwad am fwy o gefnogaeth o’r math hwn gan rai awdurdodau lleol felly yn awgrymu y gallai fod diffyg ymwybyddiaeth o’r templed hwn ac y gallai fod angen hyrwyddo ei fodolaeth a’i ddefnydd posibl ymhellach. 

Cam Gweithredu a Argymhellir – Dylai Llywodraeth Cymru ystyried adolygu rheoliadau a chanllawiau cyfredol ADGP. Dylai canllawiau diwygiedig gynnwys set o ofynion craidd y dylai pob awdurdod lleol eu cynnwys yn eu hasesiadau. Law yn llaw â'r rhain, dylid cyflwyno 'gofynion a argymhellir (ond nid hanfodol)' yn ogystal â 'gofynion dewisol'. 

Cam Gweithredu a Argymhellir - Dylai awdurdodau lleol barhau i gynnal prosesau asesu trylwyr sy’n adolygu pob agwedd ar y galw a’r cyflenwad am ofal plant yn eu hardal yn ystod rowndiau ADGP yn y dyfodol. Fodd bynnag, dylid ystyried cyfyngu’r wybodaeth a gyflwynir yn nogfennau’r ADGP i grynodeb o’r bylchau digonolrwydd a nodwyd drwy'r broses ADGP a’r prif gamau a gaiff eu cymryd i fynd i’r afael â nhw. 

Cam Gweithredu a Argymhellir – Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno templed adroddiad i awdurdodau lleol ei ddefnyddio i gyflwyno canfyddiadau eu hasesiad. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru hyrwyddo hyn yn fwy cyson ar draws awdurdodau lleol.

Argymhellion yn ymwneud â'r defnydd o ddata a mynediad i ddata yn y dyfodol.

5.27 Mae awdurdodau lleol yn dibynnu'n fawr ar amrywiaeth o ffynonellau data wrth gynnal eu hasesiadau gofal plant. Mae angen i awdurdodau lleol gael eu cefnogi ymhellach yn ystod rowndiau ADGP yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr holl ddata sydd eu hangen arnynt i adolygu'r galw a'r cyflenwad o ofal plant yn eu hardal yn gywir. 

Cam Gweithredu a Argymhellir – Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gydlynu a dosbarthu arolwg rhieni fel rhan o gylchoedd ADGP yn y dyfodol. Mae angen i awdurdodau lleol unigol fynd ati i hyrwyddo'r arolwg a chodi ymwybyddiaeth ohono i sicrhau eu bod yn cael y cyfraddau ymateb sydd eu hangen arnynt yn eu hardal i ddarparu canfyddiadau ystyrlon a chadarn. 

Cam Gweithredu a Argymhellir – Dylai AGC a Llywodraeth Cymru barhau i rannu data SASS ag awdurdodau lleol yn ystod cylchoedd ADGP yn y dyfodol. Dylid ystyried cyflwyno’r data hyn i awdurdodau lleol mewn fformat mwy hylaw – o bosibl ar ffurf tablau cryno o ddata wedi’u dadansoddi. 

5.28 Mae amcangyfrif y galw posibl am ofal plant yn y dyfodol yn her i bob awdurdod lleol. Cynyddir yr her hon ymhellach pan nad oes gan awdurdodau lleol fynediad i'r holl ffynonellau data a allai lywio'r amcangyfrifon hyn. 

Cam Gweithredu a Argymhellir – Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnig cymorth pellach i awdurdodau lleol gael gafael ar ddata perthnasol o ffynonellau nad ydynt ar gael iddynt ar hyn o bryd – e.e. data genedigaethau byw a gedwir gan fyrddau iechyd lleol. Byddai angen i Lywodraeth Cymru gyd-dafod ag awdurdodau lleol i ganfod y data sydd eu hangen arnynt. Byddai angen i Lywodraeth Cymru gyd-drafod hefyd â’r sefydliadau sy’n cadw'r data gofynnol i ganfod pa ddata y gellid eu rhannu a sut.

5.29 Mae angen mynediad i ddata a gwybodaeth gyfredol ar awdurdodau lleol i gefnogi eu cynlluniau gweithredu digonolrwydd gofal plant. Mae gan ddata a gesglir ac a gyflwynir yn yr ADGPau oes silff gyfyngedig ac felly mae angen ffynonellau data eraill rhwng rowndiau ADGP.

Cam Gweithredu a Argymhellir – Dylai AGC a Llywodraeth Cymru, gan weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, adolygu’r data sydd ar gael ar hyn o bryd ar wefan Offer Data AGC i ystyried a ellid cyflwyno data tebyg ar lefel ddaearyddol is (lefel ward neu Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is). 

Atodiad 1

Canllaw Trafod ar gyfer cyfweliadau ag awdurdodau lleol a thrafodaethau grŵp

Nod y pynciau ar gyfer y cyfweliadau/grwpiau ffocws a amlinellir isod yw rhoi arweiniad i ymchwilwyr yn ystod trafodaethau grŵp ac un i un gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynhyrchu a chynllunio camau gweithredu yn seiliedig ar yr ADGP. 

Cyflwyniad

[Testun wedi'i anelu'n uniongyrchol at y rhai sy'n cymryd rhan mewn cyfweliad] 

Comisiynwyd Arad i wneud gwaith ymchwil i Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yng Nghymru. Nod yr ymchwil yw cael gwell dealltwriaeth o'r prosesau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu'r dogfennau ADGP a sut y mae'r wybodaeth y maent yn ei chynnwys yn cael ei defnyddio i lywio polisi a chamau gweithredu sy'n ymwneud â gofal plant ym mhob ardal awdurdod lleol. 

Nod y cyfweliad/trafodaeth grŵp hwn yw casglu eich barn a'ch profiadau am gynhyrchu a defnyddio eich ADGP. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael rhagor o fanylion ynghylch pa wybodaeth a data a ddefnyddir fel sail i'r ADGP, sut y caiff hyn ei gasglu, a'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen i'w gasglu. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn deall i ba raddau y mae'r wybodaeth a'r data a gesglir yn gallu cael eu defnyddio i arwain eich polisi a'ch arferion gofal plant. 

Bydd canfyddiadau’r ymchwil a gasglwyd yn cael eu defnyddio i lywio argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ymwneud â sut y gellid mynd i’r afael â’r broses o ddatblygu ADGPau yn y dyfodol o ran cynorthwyo Awdurdodau Lleol i gwblhau a defnyddio’r ADGPau fel sail i Gynlluniau Gweithredu lleol. 

Bydd y farn a fynegir gennych yn cael ei defnyddio i lywio ein hadroddiad a’n hargymhellion. Fodd bynnag, bydd eich barn yn ddienw, ac ni fydd unrhyw bwyntiau neu ddyfyniadau a gynhwysir yn yr adroddiad yn cael eu priodoli i unrhyw unigolion neu ardaloedd awdurdodau lleol penodol. 

A oes gennych unrhyw gwestiynau?

Ydych chi'n hapus i fwrw ymlaen â'r cyfweliad?

Cwestiynau 

Cefndir
  • Beth yw eich rôl yn eich awdurdod lleol? 
  • Beth yw eich rôl o ran yr ADGP? Er enghraifft, casglu'r data gofynnol, cynhyrchu'r ddogfen / Cynllun Gweithredu - goruchwylio gweithrediad Cynllun Gweithredu'r ADGP? 
Proses
  • A allech roi trosolwg o'r dull a ddefnyddiwyd gan eich ALl wrth gwblhau'r ADGP?
    • Ydych chi'n defnyddio cyrff allanol i'w gwblhau neu a yw'n cael ei wneud yn fewnol? Beth yw manteision ac anfanteision y dull hwn? 

Os defnyddiwyd contractwr allanol:

  • Beth oedd sail eich penderfyniad i gomisiynu trydydd parti neu beidio i ysgrifennu’r ADGP?
  • A oeddech yn dal i allu ysgrifennu'r camau gweithredu o'r ADGP er na wnaethoch fynd drwy'r broses o'i ysgrifennu eich hun.
     
  • A oes unrhyw dempledi adrodd ar gael i chi eu dilyn? 
    • Os oes, a ydych yn defnyddio'r rhain? 
    • Ydy'r rhain yn ddefnyddiol / addas at y diben? 
       
  • Pa ffynonellau data ydych chi / allwch chi eu defnyddio i gynhyrchu eich ADGP? 
    • Beth yw cryfderau neu gyfyngiadau'r data sydd ar gael i chi? 
      • e.e. data anghyflawn – ddim ar gael ar lefel ddaearyddol ddigon bach? 
      • Methu cael mynediad at yr holl ffynonellau data e.e. data sydd ar gael ar DEWIS? 
         
  • Pa mor ddefnyddiol fu argaeledd data SASS a'r Arolwg rhieni o ran eich cefnogi i gynhyrchu eich ADGP? 
    • A oes unrhyw ddata neu wybodaeth ychwanegol / arall a fyddai hefyd yn ddefnyddiol?
    • A ellid cyflwyno'r data mewn ffordd wahanol? – rhowch wybod sut, a sut y byddai hyn yn helpu. 
       
  • Sut yr ydych yn gweithio gyda phartneriaid e.e. partneriaid CWLWM, sefydliadau eraill Achub y Plant i helpu i gasglu data neu rannu gwybodaeth? 
    • Pa ddata y mae'r sefydliadau hyn yn eu darparu? 
    • A oes unrhyw ddata a gesglir sy'n cael eu dyblygu ar draws sefydliadau?
    • Pa mor fanwl gywir allwch chi asesu'r galw / pa mor gadarn yw'r data hyn? 
    • I ba raddau y mae'r data hyn yn adlewyrchu'r galw gwirioneddol am ofal plant? 
  • Sut ydych chi'n asesu'r galw am ofal plant? (Nodyn i'r cyfwelydd - chwiliwch am enghreifftiau gan gynnwys asesu'r galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg) 
     
  • Sut y gellid gwella'r broses o asesu'r galw am ofal plant?
    • e.e. data wedi'i gyfeirio at weithgaredd un digwyddiad / mathau o ddarpariaeth? 
       
  • Pa agweddau ar gynhyrchu'r ADGP sydd fwyaf heriol? 
    • E.e., casglu data, dehongli, neu ddadansoddi data crai – ysgrifennu adroddiad yr ADGP 
       
  • Pa agwedd ar gynhyrchu'r ADGP sy'n weddol syml? 
     
  • Faint o amser y mae'n ei gymryd i gynhyrchu'r ADGP?
     
  • Faint mae'n ei gostio / faint o adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu'r ADGP?
    • A yw hyn yn ddefnydd effeithiol o adnoddau? 
    • Os nad yw, a oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gellir gwella hyn? 
Defnyddio'r ADGPau
  • Sut y mae'r ADGPau yn cael eu defnyddio'n ymarferol / sut ydych chi'n defnyddio'r ADGPau i gynllunio a darparu cymorth i rieni a phlant?
     
  • A yw'r ADGP yn eich galluogi i nodi bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant? Os felly, a allwch wedyn fynd i'r afael â'r bylchau hyn?
  • Ydych chi'n meddwl bod yr ADGP yn adlewyrchu gwasgariad daearyddol y ddarpariaeth gofal plant yn ardal eich awdurdod lleol?
     
  • Ydych chi'n meddwl bod yr ADGP yn adlewyrchu profiad rhieni sy'n chwilio am ddarpariaeth gofal plant yn ardal eich awdurdod lleol?
     
  • A ydych wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu yn dilyn ADGP 2022?. 
    • Os nad ydych – beth yw'r rheswm am hynny – e.e. amser, adnoddau, dim digon o wybodaeth yn yr ADGP i gynhyrchu cynllun – rheswm arall.
    • Os ydych (neu drwy gyfeirio at Gynlluniau Gweithredu blaenorol) A yw / a gafodd y Cynllun Gweithredu ei lywio'n uniongyrchol gan / yn adlewyrchiad o'r canfyddiadau a gyflwynwyd yn yr ADGP - neu a yw / a oedd yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth arall? 
      • A fyddai modd cynhyrchu'r Cynllun Gweithredu heb yr ADGP? – os felly, beth fyddai'r cyfyngiadau? 
         
  • Pa mor effeithiol yw'r Cynllun Gweithredu? 
    • A yw'r camau gweithredu perthnasol sydd yn y cynllun wedi'u rhoi ar waith?
    • A yw'r Cynllun Gweithredu yn dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau? A oes gennych unrhyw enghreifftiau o hyn? 
    • Ydych chi'n olrhain cynnydd yn erbyn targedau / nodau sydd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Gweithredu'r ADGP – rhowch enghreifftiau. 
       
  • Sut ydych chi’n sicrhau cyfatebiaeth rhwng yr ADGP â’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau)
     
  • A oes unrhyw rannau o'r ADGP sy'n llai defnyddiol / diangen? 
     
  • A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch yr hyn a allai newid i wneud yr ADGPau yn haws eu gweithredu / yn fwy defnyddiol?
Y prif heriau
  • Yn gyffredinol, beth yw'r prif heriau sy'n eich wynebu wrth gwblhau eich ADGP a / neu ei ddefnyddio fel sail i ddarpariaeth gofal plant yn eich ardal chi? 
     
  • A oes unrhyw oblygiadau posibl i asesu a oes digon o ofal plant ar gael ac wrth ystyried y camau sydd eu hangen i gefnogi unrhyw fylchau neu ddiffygion, a allai ddod i’r amlwg yn sgil ehangu gofal plant a gyhoeddwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu a’r Rhaglen Lywodraethu? 
     
  • A oes gennych unrhyw sylwadau eraill yn ymwneud ag unrhyw heriau sy'n gysylltiedig â chwblhau ADGPau e.e. cwblhau adroddiadau cynnydd blynyddol / defnyddio ADGPau yn y dyfodol? 
Cymorth 
  • Sut y gellid ei gwneud yn haws cwblhau ADGP?
     
  • Pa mor ddefnyddiol yw'r canllawiau statudol sydd ar gael i ALlau? 
    • Unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella?
       
  • Pa adborth/cymorth arall gan Lywodraeth Cymru ydych chi'n ei gael wrth ymgymryd â'r ADGP?
     
  • A yw’n glir i chi a yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a gasglwyd, ac os felly sut, a sut y mae’n dylanwadu ar bolisi cenedlaethol? 
     
  • Pa wybodaeth, adborth neu gymorth pellach y byddech yn ei groesawu gan Lywodraeth Cymru? 
     
  • A oes unrhyw gymorth arall a fyddai'n ddefnyddiol i chi wrth gwblhau'r ADGP? E.e. templedi strwythuredig ac ati. 
     
  • A oes gennych unrhyw sylwadau eraill? 

Diolch / Thanks 

Canllaw Trafod ar gyfer trafodaeth grŵp rhanddeiliaid – partneriaid CWLWM.

Nod y pynciau trafod a amlinellir isod yw rhoi arweiniad i ymchwilwyr yn ystod cyfweliadau â rhanddeiliaid. 

Cyflwyniad

[Testun wedi'i anelu'n uniongyrchol at y rhai sy'n cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp] 

Comisiynwyd Arad i wneud gwaith ymchwil i Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yng Nghymru. Nod yr ymchwil yw cael gwell dealltwriaeth o'r prosesau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu'r dogfennau ADGP a sut y mae'r wybodaeth y maent yn ei chynnwys yn cael ei defnyddio i lywio polisi a chamau gweithredu sy'n ymwneud â gofal plant ar lefel genedlaethol yn ogystal â lleol. 

Nod y drafodaeth hon yw casglu eich barn a'ch profiadau o gefnogi / cyfrannu at gynhyrchu a defnyddio ADGPau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael rhagor o fanylion am i ba raddau y mae partneriaid CWLWM yn ymwneud â datblygu ADGPau, pa mor dda y mae hyn yn gweithio’n ymarferol, pa mor ddefnyddiol yw ADGPau i bartneriaid, a ydynt yn dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau a sut, ac unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella'r ADGPau. 

Cwestiynau 

Cefndir
  • Beth yw eich rôl o fewn eich sefydliad a sut y mae hyn yn berthnasol i'r ADGPau?
Proses a chefnogaeth
  • I ba raddau yr ydych chi/eich sefydliad yn ymwneud â chefnogi datblygiad ADGPau? 
     
  • Beth mae hyn yn ei olygu'n ymarferol ? h.y.… 
    • A yw'r ymwneud hwn yr un peth ar draws pob ALl neu a yw'n amrywio fesul ALl? 
    • A yw ALlau yn dod atoch am gymorth neu i ofyn am ddata/gwybodaeth?
       
  • A yw'r broses hon yn gweithio'n dda i chi fel sefydliad?
     
  • A ydych yn teimlo bod gennych ddigon o fewnbwn i ddatblygiad ADGPau? A fyddai'n well gennych gael mwy/llai o fewnbwn? 
     
  • A ydych yn cael unrhyw gymorth/gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am eich rôl o ran cefnogi datblygiad ADGPau? 
    • A yw hyn yn glir/yn ddefnyddiol? 
Nodau ADGPau a'r defnydd ohonynt
  • Beth, yn eich barn chi, yw diben(ion) ADGPau (ar gyfer ALlau unigol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach)?
     
  • I ba raddau yr ydych yn teimlo bod yr ADGPau a gynhyrchir yn gallu cyflawni'r nodau hyn / a yw'r ADGPau yn addas at y diben? – esboniwch eich ateb cymaint â phosibl? 
    • Beth yw prif gryfderau a gwendidau'r ADGPau a gynhyrchwyd yn ddiweddar? 
       
  • Sut ac i ba raddau yr ydych yn adolygu ADGPau i gael darlun o'r galw am ofal plant?
     
  • Sut ac i ba raddau y mae ADGPau a Chynlluniau Gweithredu yn effeithio ar eich gwaith - e.e., sut y maent yn dylanwadu ar eich polisïau a'ch blaenoriaethau cynllunio?
     
  • I ba raddau y mae ADGPau yn dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau eraill ar lefel leol a chenedlaethol?
     
  • Beth arall (os o gwbl) sydd ei angen i sicrhau bod yr ADGPau a gynhyrchir yn cyflawni eu nodau a'u dibenion bwriadedig - Beth yw ADGP da?
    • A oes unrhyw rannau o'r ADGPau diweddar a gynhyrchwyd yn enghreifftiau da o'r hyn sydd ei angen mewn ADGP - beth sy'n gwneud i chi ddweud hynny? 
    • A oes unrhyw rai o'r ADGPau diweddar a gynhyrchwyd sydd ddim yn gyfystyr ag ADGP da - pam ydych chi'n dweud hynny? 
       
  • A oes unrhyw feysydd o'r ADGPau sy'n llai defnyddiol / diangen? 
     
  • A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch beth allai newid i wneud yr ADGPau yn haws eu gweithredu / yn fwy defnyddiol i gefnogi'r broses o gynllunio gofal plant yn well?
Barn gyffredinol
  • A yw’r ADGPau a luniwyd yn galluogi ALlau a rhanddeiliaid eraill (e.e. partneriaid CWLWM Llywodraeth Cymru) i:
    • nodi bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant ac os felly
    • mynd i'r afael â'r bylchau hyn?
       
  • Beth (os o gwbl) sydd angen ei newid ym mhroses, cynnwys neu gyflwyniad yr ADGP?
     
  • Sut y gellir cefnogi ALlau i wneud hyn? 
     
  • A oes gennych unrhyw sylwadau eraill? 

Diolch / Thanks 

Canllaw Trafod ar gyfer cyfweliadau Llywodraeth Cymru.

Nod y pynciau trafod a amlinellir isod yw rhoi arweiniad i ymchwilwyr yn ystod cyfweliadau â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. 

Cyflwyniad

[Testun wedi'i anelu'n uniongyrchol at y rhai sy'n cymryd rhan mewn cyfweliad] 

Comisiynwyd Arad i wneud gwaith ymchwil i Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yng Nghymru. Nod yr ymchwil yw cael gwell dealltwriaeth o'r prosesau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu'r dogfennau ADGP a sut y mae'r wybodaeth y maent yn ei chynnwys yn cael ei defnyddio i lywio polisi a chamau gweithredu sy'n ymwneud â gofal plant ar lefel genedlaethol yn ogystal â lleol. 

Nod y cyfweliad hwn yw casglu eich barn a'ch profiadau o gefnogi / cyfrannu at gynhyrchu a defnyddio ADGPau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael rhagor o fanylion am yr arweiniad a'r cymorth a gynigir i ALlau i'w helpu i lunio ADGPau; canllawiau pellach y gallai fod eu hangen ar ALlau; sut/i ba raddau y defnyddir yr ADGPau i arwain polisïau a chamau gweithredu gofal plant lleol a chenedlaethol. 

[Nodyn i'r cyfwelydd – ni fydd pob un o’r cwestiynau hyn yn berthnasol i bob unigolyn a gyfwelir – efallai y bydd angen canolbwyntio ar y cwestiynau sydd fwyaf perthnasol i rôl a chyfrifoldeb y cyfwelai] 

Cwestiynau 

Cefndir
  • Beth yw eich rôl o fewn Llywodraeth Cymru a sut y mae hyn yn berthnasol i'r ADGPau? 
Nodau ADGPau
  • Beth, yn eich barn chi, yw diben(ion) bwriadedig ADGPau (ar gyfer ALlau unigol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ehangach)?
     
  • I ba raddau yr ydych yn teimlo bod yr ADGPau a gynhyrchir yn gallu cyflawni'r nodau hyn / a yw'r ADGPau yn addas at y diben? – esboniwch eich ateb cymaint â phosibl? 
    • Beth yw prif gryfderau a gwendidau'r ADGPau a gynhyrchwyd yn ddiweddar? 
       
  • Beth arall (os o gwbl) sydd ei angen i sicrhau bod yr ADGPau a gynhyrchir yn cyflawni eu nodau a'u dibenion bwriadedig - Beth yw ADGP da?
    • A oes unrhyw rai o'r ADGPau diweddar a gynhyrchwyd yn enghreifftiau da o'r hyn sydd ei angen mewn ADGP - beth sy'n gwneud i chi ddweud hynny? 
    • A oes unrhyw rai o'r ADGPau diweddar a gynhyrchwyd sydd ddim yn gyfystyr ag ADGP da - pam ydych chi'n dweud hynny? 
       
  • A yw'r ADGPau a gynhyrchir gan ALlau unigol yn amrywio o ran cynnwys, arddull, manylder, ffocws, ansawdd ac ati?
    • Os ydynt, beth yw'r rheswm am hynny? 
    • A yw amrywiadau yn y cynnwys a’r arddull yn bryder – pam ydych chi’n dweud hynny? 
    • Sut y gellir mynd i'r afael ag unrhyw bryderon yn y dyfodol? 
       
  • I ba raddau yr ydych chi’n teimlo bod yr ADGP a gynhyrchir gan ALlau:
    • yn adlewyrchu gwasgariad daearyddol y ddarpariaeth gofal plant yn ardal eich awdurdod lleol?
    • yn adlewyrchu profiad rhieni sy'n chwilio am ddarpariaeth gofal plant yn ardal eich awdurdod lleol?
Defnyddio'r ADGPau
  • Sut y mae ADGPau yn cael eu defnyddio'n ymarferol?
  • Sut y mae / a yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio ADGP i arwain ei pholisïau gofal plant ei hun - rhowch enghreifftiau lle bo modd.
  • Sut y mae / a yw ALl yn alinio’r ADGP â’u Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau)
  • I ba raddau y gall/y mae’r ADGPau presennol yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i lywio, arwain a chynllunio i ddarparu ar gyfer / cyflawni’r ymrwymiad i ehangu argaeledd gofal plant a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer plant dwy oed ac ehangu arfaethedig y rhaglen Dechrau’n Deg?
  • A oes unrhyw feysydd o'r ADGPau sy'n llai defnyddiol / diangen? 
  • A ydych yn gweld newidiadau yn arferion awdurdodau lleol o ganlyniad i ADGPau? 
    • Os ydych, a allwch roi rhai enghreifftiau?
    • Os nad ydych, beth yw'r rheswm am hynny yn eich barn chi? 
  • A oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch yr hyn a allai newid i wneud yr ADGPau yn haws eu gweithredu / yn fwy defnyddiol?
Proses a chefnogaeth
  • Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i’w galluogi i lunio eu ADGPau?
     
  • Pa ymateb / adborth yr ydych wedi'i gael gan ALlau mewn perthynas â'r cymorth a ddarparwyd?
     
  • A yw ALlau wedi ceisio / gofyn am unrhyw gymorth ychwanegol? – rhowch fanylion lle bo modd. 
     
  • Pa gymorth arall y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu yn y dyfodol?
    • E.e. mwy o ddata / data gwahanol - cyflwyniad / cynnwys / canllawiau arddull - cyllid / adnoddau eraill?
Barn gyffredinol
  • A yw’r ADGPau a luniwyd yn galluogi ALlau a rhanddeiliaid eraill (e.e. partneriaid CWLWM Llywodraeth Cymru) i:
    • nodi bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant ac os felly
    • mynd i'r afael â'r bylchau hyn?
       
  • Beth (os o gwbl) sydd angen ei newid ym mhroses, cynnwys neu gyflwyniad yr ADGP?
     
  • Sut y gellir cefnogi ALlau i wneud hyn? 
     
  • A oes gennych unrhyw sylwadau eraill? 

Diolch / Thanks