Deall yr hyn y mae mynediad effeithiol yn ei olygu i’r cyhoedd mewn perthynas â fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth y GIG, a gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru yw’r dull gweithredu cytûn ar gyfer gwireddu’r weledigaeth yn Cymru Iachach, y cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y rheswm dros gynnal yr astudiaeth hon yn seiliedig ar ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 i “Ddarparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill”. Mae’n adeiladu ar astudiaeth yn 2019 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir mewn lleoliadau Practisau Cyffredinol, a nododd yr astudiaeth honno fod bwlch mewn gwybodaeth o ran mynediad at feysydd gofal sylfaenol eraill.
Cafodd ymchwil ei wneud i ddeall beth mae mynediad effeithiol yn ei olygu i’r cyhoedd mewn perthynas â’r gwasanaethau gofal sylfaenol canlynol: fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth y GIG, a gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd.
Mae’r adroddiad terfynol yn cyflwyno casgliadau sy’n ymwneud â’r amcanion canlynol:
- Nodi’r prif rwystrau sy’n atal mynediad at ofal sylfaenol ar draws fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth y GIG, a gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd, a’r ffactorau sy’n gallu hwyluso mynediad at y gwasanaethau hynny.
- Edrych ar yr hyn y mae mynediad effeithiol yn ei olygu a’r disgwyliadau sy’n gysylltiedig â chael mynediad o’r fath at y gwasanaethau hyn.
- Edrych ar ganfyddiadau pobl o ran ffonio’n gyntaf ac ymgynghoriadau / brysbennu dros y ffôn.
- Edrych ar ganfyddiadau o ran apwyntiadau wyneb-yn-wyneb o’u cymharu â defnyddio technoleg.
- Nodi pa mor ymwybodol yw pobl o’r opsiynau sydd ar gael, megis GIG 111, y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, Fy Iechyd ar-lein, ac Ap GIG Cymru.
Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer y tri maes gofal sylfaenol y dylid eu hystyried er mwyn gwella mynediad.
Adroddiadau
Ymchwil i fynediad effeithiol at fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth y GIG, a gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 717 KB
Ymchwil i fynediad effeithiol at fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth y GIG, a gwasanaethau proffesiynol perthynol i iechyd: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 295 KB
Cyswllt
Laura Entwistle
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.