Bydd y prosiect yn darparu tystiolaeth ansoddol o farnau defnyddwyr gwasanaethau, eu gofalwyr ac ymarferwyr ynghylch gweithredu pob un o bedair rhan y Mesur.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymchwil i gefnogi'r Ddyletswydd i Adolygu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Pum adroddiad sydd yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ansoddol a gynhaliwyd. Mae’r Adroddiad Cryno yn cyflwyno’r prif ganfyddiadau ar gyfer holl rannau’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) gydag adroddiadau ar wahân yn darparu’r canfyddiadau manwl a’r adborth ar gyfer pob rhan o’r Mesur.
Roedd y fethodoleg yn cwmpasu grwpiau ffocws a chyfweliadau unigol wyneb-yn-wyneb a chyfweliadau dros y ffôn gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar draws bob rhan o’r Mesur.
Dyma’r niferoedd a gymerodd rhan trwy Gymru:
- Rhan 1: 38 defnyddiwr gwasanaeth; 2 ofalwr
- Rhan 2: 60 defnyddiwr gwasanaeth; 39 gofalwr
- Rhan 3: 29 defnyddiwr gwasanaeth; 2 ofalwr
- Rhan 4: 14 defnyddiwr gwasanaeth; 2 ofalwr
Cynhaliwyd grwpiau ffocws a chyfweliadau hefyd gyda 70 ymarferydd iechyd meddwl o’r sector statudol; 40 ymarferydd o’r trydydd sector a 36 staff o naw practis meddyg teulu ledled Gymru.
