Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno adolygiad o'r dystiolaeth sy'n gysylltiedig â phennu a monitro lefelau diogel o staff nyrsio.

Mae hefyd yn cynnwys dadansoddiad o'r canfyddiadau sy'n ymwneud â datblygu dealltwriaeth well o'r data am staff nyrsio sydd ar gael ar wardiau meddygol a llawfeddygol yng Nghymru, a sut i ddefnyddio’r data hynny.

Mae'r adolygiad o'r dystiolaeth ar lefelau diogel o staff nyrsio yn cynnwys, er enghraifft, cymarebau rhwng nyrsys a chleifion, yr amrywiaeth o sgiliau, rôl lefelau staff nyrsio o ran yr effaith ar ddiogelwch cleifion, effeithiau anfwriadol lefelau gorfodol o staff nyrsio, a'r defnydd o offer ar gyfer lefelau staff nyrsio.

Daw'r data perthnasol sydd ar gael i'w defnyddio o'r Cofnod Staff Electronig, data GIG Cymru sydd ar gael yn gyhoeddus am staff, data ar gyfer sicrhau ansawdd o gronfa ddata system y Cofnod Staff Electronig, a data o ffynonellau posibl eraill. Yn ychwanegol, amlinellir ymgyrch i gaffael data ar y cyd â Byrddau Iechyd, gan nodi'r dulliau, sut i sicrhau ansawdd data, canfyddiadau gan ddadansoddiad cychwynnol o'r data a ddychwelwyd, a gwersi a ddysgwyd i'w dilyn yn y dyfodol.

Adroddiadau

Ymchwil i lefelau staff nyrsio yng Nghymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymchwil i lefelau staff nyrsio yng Nghymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 653 KB

PDF
653 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Chris Roberts

Rhif ffôn: 0300 025 6543

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.