Neidio i'r prif gynnwy

Prif nod y gwaith hwn oedd deall y rolau, y cyfrifoldebau a'r tasgau y gofynnwyd i staff cymorth ystafell ddosbarth sy'n gweithio mewn ysgolion cynradd eu cyflawni.

Canfyddiadau allweddol

  • Prif gymhellion staff cymorth wrth ymgymryd â’u rôl yw cael cyfrannu i ddysgu disgyblion ac mae ysgolion yn rhoi gwerth mawr ar hyn.
  • Staff cymorth yn elfen fawr o’r gweithlu yn yr ysgolion cynradd. Rhan fwyaf o’r staff wedi’u cyflogi yn yr un ysgol am gyfnod cymharol fawr o amser, gyda'r rhan fwyaf  gweithio am bum mlynedd neu fwy yn eu hysgol bresennol. Fodd bynnag mae dibyniaeth fawr o hyd ar gyllido drwy grantiau er mwyn cyflogi’r gweithlu hwn.
  • Cydnabuwyd pwysigrwydd mynediad parhaus i gyfleoedd dysgu proffesiynol yn eang.
  • Er i lefel y cymwysterau sydd gan staff cymorth wella dros amser, mae’r ymchwil yn dangos bod llawer o’r staff heb y cymwysterau ar lefelau digon uchel ar gyfer y rolau y maen nhw’n eu gwneud.
  • Mae cydnabyddiaeth bod staff cymorth yn cael effaith bositif o ran lleihau baich gwaith yr athrawon, cefnogi a datblygu lles a sgiliau cymdeithasol disgyblion a chysylltiadau â’r gymuned
  • Mae cydnabyddiaeth hefyd bod staff cymorth yn chwarae rôl bwysig wrth ddatblygu ‘sgiliau meddalach’ mewn disgyblion.  Mae hyn yn cynnwys hunanhyder, datblygu sgiliau cymdeithasol disgyblion, cyfoethogi profiad disgyblion yn yr ysgol a chefnogi disgyblion ag anghenion penodol neu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Cafodd yr effeithiau hyn eu gwerthfawrogi'n fawr mewn ysgolion.

Adroddiadau

Ymchwil i leoli a defnyddio staff cymorth ysgolion cynradd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Roberts

Rhif ffôn: 0300 062 5485

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.