Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru yn gwneud cynnydd da ar godi proffil menywod ym maes ffermio, yn enwedig mewn rolau arweinyddiaeth, ond gall y diwydiant wneud rhagor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Lesley Griffiths wedi herio diwydiant amaeth Cymru i gynyddu ymdrechion i hyrwyddo ffermio fel gyrfa foddhaus a chynaliadwy i fenywod drwy ddatblygu eu sgiliau, eu profiad a'u hyder. 

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad ar ôl cyfarfod ag aelodau o dri grŵp rhanbarthol Merched mewn Amaeth, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn fuan ar ôl i'r DU bleidleisio i adael yr UE. Cyflwynodd y grwpiau, wedi'u cefnogi gan raglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio, bapur i Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru.

Daeth llawer o'r menywod at ei gilydd gyntaf yn fforwm ‘Merched mewn Amaeth’ Cyswllt Ffermio y llynedd, pan wahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet y cynrychiolwyr i sefydlu eu fforymau rhanbarthol eu hunain a rhoi eu safbwynt ar faterion allweddol sy'n wynebu'r diwydiant.     

Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru, drwy Cyswllt Ffermio, wedi cynorthwyo 35 o grwpiau menywod yn unig drwy Agrisgôp ac mae 60 o ddigwyddiadau wedi'u cynnal yn benodol i ferched mewn amaeth.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet hefyd bwysleisio pwysigrwydd gwella hyder menywod i wneud cais am swyddi uwch mewn sefydliadau ffermio cenedlaethol. 

Yn gynharach eleni, penododd Ysgrifennydd y Cabinet ddeg aelod newydd i Fwrdd Hybu Cig Cymru. Cafodd yr hysbyseb ei eirio'n ofalus i annog ceisiadau gan fenywod ac yn dilyn hyn roedd pump yn llwyddiannus wrth gael swyddi ar y bwrdd. Ymhellach, mae dwy ohonynt yn gyn-aelodau o raglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, a lwyddodd i sicrhau cymhareb 2:1 o fenywod i ddynion y llynedd. 

Meddai Lesley Griffiths:

“Mae menywod yn chwarae rôl hanfodol o ran datblygiad a chynaliadwyedd busnesau amaethyddol. Fodd bynnag, mae gan lawer ohonynt gyfrifoldebau ychwanegol fel gofalu am blant neu berthnasau oedrannus. Dim ond ychydig ohonynt, felly, sy'n cael cyflog ac yn aml nid yw eu cyfraniad yn cael ei gydnabod. Yn wir, nhw yw arwyr di-glod y diwydiant.

“Mae angen i hyn newid. Fel llywodraeth, mae gennym rôl i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth perthnasol yn eu lle i roi'r hyder i fenywod wneud cais am rolau arweinyddiaeth.  Rhaid inni hefyd eirio hysbysebion ar gyfer swyddi uwch mewn ffordd sy'n annog mwy o fenywod i wneud cais. Yn wir, mae hyn yn berthnasol yn gyffredinol – nid dim ond ym maes amaethyddiaeth. Roedd hwn yn ddull a fabwysiadwyd gennym wrth recriwtio i aelodau o fwrdd Hybu Cig Cymru ac roeddwn yn falch o fynd ati i benodi bwrdd a oedd yn niwtral o ran y rhywiau. 

“Yn ogystal rydym wedi sefydlu nifer o fforymau i fenywod er mwyn iddynt ysbrydoli, ysgogi a chynorthwyo ei gilydd ac mae'n galonogol gweld nifer cynyddol o fenywod mewn grwpiau pobl ifanc a sefydlwyd gan gyrff y diwydiant fel FUW ac NFU Cymru. Fy her nawr i'r diwydiant ehangach yw adeiladu ar y datblygiadau cadarnhaol hyn a gwneud mwy i godi proffil merched mewn amaeth.   

“Mae hynny oherwydd bod amrywiaeth yn gryfder. Wrth inni wynebu dyfodol y tu allan i’r UE rhaid inni gyd-dynnu a defnyddio cronfa o dalent mor eang â phosibl. Dyma sut y gallwn fynd ati yn y ffordd orau i gyflawni ein gweledigaeth a rennir o ddiwydiant amaeth ffyniannus, cryf sy'n hyrwyddo llesiant Cymru yn awr ac yn y dyfodol.”

Pwysleisiodd Alice Lampard, sy'n arweinydd Agrisgôp, yn hyfforddwraig, cyfryngwraig a ffermwraig, bwysigrwydd grymuso ac annog merched i sicrhau bod eu lleisiau a'u barn yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi:  

“Cydnabyddir bod gan fenywod rôl ddylanwadol iawn mewn llawer o fusnesau fferm.   Yn aml mae disgwyl iddynt reoli ymrwymiadau ffermio a gwaith ochr yn ochr â dyletswyddau teulu. Ni fu erioed amser pwysicach inni ddod at ein gilydd a lleisio barn.”