Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynwyd Ymchwil OB3, ar y cyd â Miller Research, gan Lywodraeth Cymru i ymgymryd â gwaith ymchwil i lywio'r gwerthusiad o Ddiwygiadau Diamond i gyllid myfyrwyr yng Nghymru.

Bwriad Diwygiadau Diamond oedd ehangu mynediad i addysg uwch (AU), a chyfranogiad yn y maes, a chryfhau'r ddarpariaeth ran-amser ac ôl-raddedig ledled Cymru. O'r flwyddyn academaidd 2018/19 ymlaen, cyflwynodd Diwygiadau Diamond newidiadau i'r pecyn cymorth ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd â'u domisil yng Nghymru.

Disgwyliwyd y byddai'r ymchwil yn darparu tystiolaeth yn ymwneud â thri amcan cyntaf y diwygiadau:

  • ehangu mynediad i AU
  • cryfhau'r ddarpariaeth ran-amser
  • cryfhau'r ddarpariaeth ôl-raddedig. 

Roedd y rhaglen waith ar gyfer yr ymchwil yn cwmpasu'r canlynol:

  • cam cychwynnol 
  • adolygiad desg o bolisi cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru, a data cyhoeddedig ar gyfer myfyrwyr sydd â'u domisil yng Nghymru
  • adolygiad llenyddiaeth ar ganfyddiad y cyhoedd o AU ac amharodrwydd i ysgwyddo dyled benthyciad myfyrwyr
  • datblygu offer ymchwil, gan gynnwys offer arolwg a chanllawiau trafod 
  • gwaith maes gyda dysgwyr Blwyddyn 12 a 13, rhieni a gwarcheidwaid dysgwyr Blwyddyn 12 a 13, myfyrwyr AU rhan-amser, a myfyrwyr AU ôl-raddedig o Gymru
  • gwaith maes gyda rhanddeiliaid a chynrychiolwyr Darparwyr Addysg Uwch (Darparwyr AU) yng Nghymru

Canfyddiadau

Canfyddiadau'r adolygiad desg o niferoedd y myfyrwyr mewn addysg uwch sydd â'u domisil yng Nghymru

Canfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth yn ymwneud â'r farn ynghylch gwerth AU, amharodrwydd i ysgwyddo dyled benthyciad myfyrwyr ac ymwybyddiaeth o gymorth i fyfyrwyr

  • Mae myfyrwyr a graddedigion yn parhau i ystyried bod AU yn werthfawr, ac mae'r rhan fwyaf o raddedigion yn credu bod eu gradd yn werth y buddsoddiad o ran amser ac arian. Fodd bynnag, mae'r hyn a ystyrir yn bremiwm enillion i raddedigion wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd bod enillion y rhai nad ydynt yn raddedigion wedi cynyddu. Mae'r canfyddiadau o werth yn cael eu dylanwadu nid yn unig gan gostau, ond hefyd gan ansawdd yr addysgu, y ffordd y mae cyrsiau'n cael eu trefnu, a digonolrwydd y cymorth ariannol. 
  • Mae pryderon ynghylch dyled myfyrwyr yn parhau i fod yn ffactor arwyddocaol wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig i'r rhai o gefndiroedd incwm isel. Er mai myfyrwyr sydd â'u domisil yng Nghymru sydd wedi gweld y cynnydd cyfrannol mwyaf mewn dyled gyfartalog graddedigion yn y DU (£14,000 mewn 5 mlynedd o 2018 i 2023 yn ôl data Cyllid Myfyrwyr Cymru), cyfyngedig yw'r dystiolaeth bod hyn wedi lleihau cyfranogiad mewn AU yn uniongyrchol. Mae amharodrwydd i ysgwyddo dyled yn fwy amlwg ymhlith grwpiau dan anfantais, ond mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ystyried benthyciadau fel llwybr angenrheidiol i AU.
  • Yn aml ceir dealltwriaeth gyfyngedig o gyllid myfyrwyr a thelerau ad-dalu, yn enwedig ymhlith darpar fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel. Gall camddealltwriaeth ynghylch sut y mae benthyciadau'n gweithio gynyddu'r amharodrwydd i ysgwyddo dyled a lleihau'r bwriad i gymryd rhan mewn AU. Ceir mynediad anghyfartal at wybodaeth a chanllawiau cywir, ac mae dysgwyr dan anfantais yn llai tebygol o gael cyngor cyson. 
  • Mae cyfranogiad mewn AU yn parhau i fod yn is ymhlith myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, myfyrwyr anabl, a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod yn amharod i ysgwyddo dyled ac yn llai hyderus ynghylch yr enillion ariannol sy'n gysylltiedig ag AU. Er y gall cymorth ariannol a bugeiliol wedi'i dargedu helpu, mae materion ehangach yn ymwneud â pherthyn a chynhwysiant hefyd yn dylanwadu ar y canfyddiadau o werth AU a chyfranogi mewn AU.
  • Prin oedd y dystiolaeth uniongyrchol a ganfu'r adolygiad llenyddiaeth ar effaith benodol Diwygiadau Diamond ar gyfranogiad neu ganfyddiadau o AU yng Nghymru, sy'n golygu bod maint eu dylanwad yn parhau i fod yn ansicr. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y gwerthusiad o ran mynd i'r afael â rhai o'r bylchau hyn a deall sut y mae system cymorth i fyfyrwyr Cymru yn dylanwadu ar benderfyniadau.

Canfyddiadau'r gwaith ymchwil cynradd yn ymwneud ag ehangu mynediad i AU

  • Roedd y rhan fwyaf o'r bobl ifanc a gyfrannodd at yr ymchwil yn bwriadu mynd i'r brifysgol. Eu cymhellion oedd diddordeb mewn pwnc penodol, uchelgais gyrfa a disgwyliad y byddai'r brifysgol yn arwain at dwf personol, annibyniaeth a chyfleoedd ehangach. 
  • Roedd dysgwyr benywaidd yn fwy tebygol na dysgwyr gwrywaidd o fwriadu mynd i'r brifysgol ac o werthfawrogi AU, tra bod dysgwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o fod yn ansicr neu'n penderfynu yn erbyn hynny oherwydd pwysau ariannol. Roedd dysgwyr mewn colegau hefyd yn fwy tebygol na'u cymheiriaid mewn ysgolion o fwriadu mynd i'r brifysgol ac i roi gwerth ar AU.
  • Roedd y rhai a oedd yn ansicr neu wedi penderfynu peidio â mynd i'r brifysgol yn pryderu am gost AU ac yn amau a oedd gradd yn fuddsoddiad gwerth chweil. Roedd dysgwyr a oedd heb benderfynu yn amharod i fynd i'r brifysgol oni bai bod modd eu hargyhoeddi o fanteision pendant gwneud hynny a'u bod yn cael sicrwydd y byddent yn cael swydd neu yrfa ar ei ddiwedd.
  • Yn gyffredinol, roedd rhieni a gwarcheidwaid ag incwm uwch yn gefnogol i'w plant fynd i'r brifysgol, ond roedd y rhai o aelwydydd incwm isel yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar y goblygiadau ariannol ag yn annog eu plant i ddilyn llwybrau mwy ymarferol fel cael swydd neu brentisiaeth. Roedd dysgwyr nad oedd eu rhieni neu eu gwarcheidwaid wedi mynd i'r brifysgol eu hunain yn fwy tebygol o fod yn ansicr neu o ystyried opsiynau eraill fel gwaith neu hyfforddiant galwedigaethol.
  • Cost astudio oedd un o'r prif bryderon a chanfuwyd bod hynny'n dylanwadu ar wneud penderfyniadau, gan gynnwys yr hyn y mae dysgwyr yn dewis ei astudio ac ymhle. Fodd bynnag, fel y canfuwyd mewn gwaith ymchwil arall, er bod dyled myfyrwyr yn destun pryder, nid oedd yn atal y rhan fwyaf rhag cyfranogi mewn AU. 
  • Roedd pobl ifanc yn ogystal â rhieni a gwarcheidwaid, yn enwedig y rhai o aelwydydd incwm isel, o'r farn bod cyllid myfyrwyr yn gymhleth ac yn anodd ei ddeall ac y byddent yn elwa o gael gwybodaeth gliriach a haws ei deall. 
  • Roedd dysgwyr o deuluoedd ag incwm uwch neu'r rhai a oedd yn hyderus ynghylch eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol yn fwy tebygol o ystyried bod benthyciadau myfyrwyr yn rhywbeth y gallent ymdopi ag ef, tra bo'r rhai o gartrefi incwm isel neu â llai o gymorth ariannol yn tueddu i weld dyled mewn goleuni mwy negyddol, gan ei ystyried yn faich yn hytrach na rhywbeth a oedd yn rhoi cyfle iddynt. 
  • Tynnodd rhanddeiliaid a Darparwyr AU sylw at effaith rhwystrau systemig a strwythurol i gofrestru ar gyfer AU, gan gynnwys lefelau presenoldeb isel yn yr ysgol sy'n cael effaith negyddol ar gyflawniad academaidd a gallu myfyrwyr i fodloni gofynion mynediad prifysgolion; cynnydd yn nifer y dysgwyr ar Lefel UG nad ydynt yn mynd ymlaen i astudio cymwysterau Safon Uwch, cynnydd mewn problemau ymddygiad a llesiant ymhlith pobl ifanc, a chynnydd yn y niferoedd sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref.

Canfyddiadau'r gwaith ymchwil cynradd yn ymwneud â chryfhau'r ddarpariaeth ran-amser

  • Yn aml, mae myfyrwyr yn dewis astudiaethau israddedig rhan-amser o anghenraid oherwydd gwaith ac amgylchiadau personol. O'r herwydd, mae hyblygrwydd darpariaeth ran-amser yn hollbwysig ac yn caniatáu i fyfyrwyr astudio o amgylch eu cyfrifoldebau personol. 
  • Roedd barn y myfyrwyr am ansawdd y ddarpariaeth ran-amser yn gadarnhaol, gyda phrofiadau'n aml yn cael eu disgrifio fel rhai gwerth chweil ond heriol. Roedd teimlo'n ynysig yn thema a gododd droeon, yn enwedig ymysg y rhai a oedd yn dysgu o bell sydd â chyswllt cyfyngedig â'u cyfoedion.
  • Roedd pwysau ariannol yn her i fyfyrwyr rhan-amser ac roedd y cynnydd mewn costau cartref a'r argyfwng costau byw ehangach yn gwaethygu'r straen ariannol hyd yn oed i'r rhai a oedd yn gweithio.
  • Cododd myfyrwyr rhan-amser faterion yn ymwneud ag annhegwch y cymorth o'i gymharu â'r hyn a oedd ar gael i fyfyrwyr llawnamser ac roeddent o'r farn bod y system, yn anfwriadol, yn atal myfyrwyr rhag gwneud cynnydd cyflymach gyda'u hastudiaethau. 
  • Nid oedd amharodrwydd i ysgwyddo dyled ynddo'i hun yn atal myfyrwyr rhag cyfranogi mewn astudiaethau rhan-amser, ond canfuwyd ei fod yn dylanwadu ar sut a ble mae myfyrwyr yn dewis astudio.
  • Dywedodd Darparwyr AU fod Diwygiadau Diamond wedi cefnogi twf mewn astudiaethau rhan-amser ymhlith myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr sy'n gweithio, sy'n gyrsiau a ddarperir yn bennaf gan y Brifysgol Agored, yn ogystal â chynyddu'r galw am ddarpariaeth hyblyg, sy'n cyd-fynd â diwydiant.
  • Mae ehangu darpariaeth ran-amser ar draws Darparwyr AU yn parhau i gael ei gyfyngu gan bwysau ariannol a gweithredol, ynghyd â model cyllido cymhleth nad yw Darparwyr AU o'r farn ei fod yn talu'r costau uwch sy'n gysylltiedig â darparu cyrsiau.
  • Dywedodd Darparwyr AU fod uchafswm is y benthyciadau ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sydd â'u domisil yng Nghymru ac sy'n astudio yng Nghymru yn cyfyngu ar y gallu i bennu ffioedd a chynhyrchu refeniw, er gwaethaf y ffaith bod grant ychwanegol ar gael gan Medr.

Canfyddiadau'r gwaith ymchwil cynradd yn ymwneud â chryfhau'r ddarpariaeth ôl-raddedig

  • Y cymhelliant pennaf dros ddilyn astudiaethau ôl-raddedig yw datblygiad gyrfa, newid cyfeiriad, datblygiad personol, a dyheadau am yrfa academaidd. 
  • Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi cael profiadau cadarnhaol o AU ac roeddent yn ystyried bod eu cyrsiau'n ddiddorol, yn ysgogol ac wedi'u haddysgu'n dda. Roedd yr heriau'n cynnwys llwythi gwaith trwm a chyrsiau a oedd yn symud yn gyflym. Byddai myfyrwyr yn croesawu mwy o addysgu rhyngweithiol a phrofiad ymarferol.
  • Roedd ystyriaethau ariannol yn ffactor pwysig a oedd yn dylanwadu ar brofiad myfyrwyr ôl-raddedig ac roedd y farn am ddyled myfyrwyr yn dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch hyd y cwrs, y pwnc a'r lleoliad. Er y crybwyllwyd ffioedd dysgu a chostau byw fel rhwystrau i astudio, nid oedd dyled myfyrwyr yn rhwystr.
  • Pwysau ariannol oedd yr her a grybwyllwyd amlaf a oedd yn wynebu myfyrwyr ôl-raddedig, ac roedd benthyciadau i ôl-raddedigion yn aml yn annigonol i dalu ffioedd dysgu a chostau byw. Adroddodd rhai eu bod wedi profi caledi ariannol a effeithiodd ar eu hanghenion sylfaenol, fel bwyd a thai.
  • Adroddodd Darparwyr AU fod Diwygiadau Diamond wedi cael effaith gadarnhaol, os yn anwastad, ar y cyfan ar y ddarpariaeth o gyrsiau meistr ôl-raddedig a addysgir. Roeddent yn ei chael hi'n anodd gwahanu effaith y diwygiadau oddi wrth ffactorau allanol ehangach fel twf cyn y diwygiadau a thueddiadau'n gysylltiedig â'r pandemig.
  • Teimlai Darparwyr AU fod dileu grantiau ôl-raddedig o 2024/25 wedi arwain at effeithiau cymysg. Ni welodd rhai unrhyw ostyngiad amlwg yn y galw, tra bod eraill wedi dweud y bu gostyngiad. 
  • Dywedodd Darparwyr AU mai myfyrwyr cartref a rhyngwladol llawnamser yw'r mwyafrif sy'n manteisio ar ddarpariaeth ôl-raddedig o hyd. Mae'r model ariannol ar gyfer addysgu ôl-raddedig yn parhau i fod dan bwysau, ac mae'n dibynnu'n fawr ar ffioedd dysgu, gan gynnwys incwm gan fyfyrwyr rhyngwladol, a chaiff ei ategu gan swm cymharol fach o gyllid wedi'i dargedu gan Medr.
  • Yn ôl y Darparwyr AU, roedd y rhwystrau allweddol i gynyddu’r ddarpariaeth ôl-raddedig yn cynnwys anwadalrwydd yn y maes recriwtio rhyngwladol, cost uchel rhedeg rhaglenni arbenigol neu ddwys, a system gyllido nad yw'n addas i gefnogi dulliau astudio carlam neu hyblyg.

Argymhellion

Mae'r argymhellion canlynol yn rhai i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Argymhelliad 1

Mewn partneriaeth â Chyllid Myfyrwyr Cymru, Medr, UCAS, Colegau Cymru, Prifysgolion Cymru a'r sector AU, dylid ystyried sut y gellid gwella'r ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth o'r cymorth cyllid myfyrwyr sydd ar gael i fyfyrwyr sydd â'u domisil yng Nghymru.

Argymhelliad 2

Mewn partneriaeth â'r sector AU a rhanddeiliaid allweddol, dylid ystyried sut y gall gwybodaeth a deunydd cyfathrebu a roddir i ddarpar fyfyrwyr ddangos gwerth AU yn well a'r canlyniadau cyflogaeth cadarnhaol i raddedigion sydd â'u domisil yng Nghymru. Dylai hyn gynnwys nid yn unig dystiolaeth am gyflogaeth ac enillion, ond hefyd y manteision personol, cymdeithasol a llesiant ehangach sy'n gysylltiedig â chymryd rhan mewn addysg uwch. Mae dadl dros ymestyn a chryfhau gweithgareddau ymgysylltu, fel eu bod yn cyrraedd ystod ehangach o ddarpar ddysgwyr, nid dim ond y rhai sy'n cael eu targedu ar hyn o bryd drwy fentrau ehangu mynediad.

Argymhelliad 3

Mewn partneriaeth ag eraill, dylid parhau i fynd i'r afael â'r ffactorau systemig a strwythurol sylfaenol sy'n gyfrifol am gyfranogiad isel mewn AU ymhlith pobl 18 oed. Mae dadl gref dros gyflwyno ymyrraeth barhaus i fynd i'r afael â materion fel lefelau presenoldeb isel yn yr ysgol, y cynnydd yn y niferoedd sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref, heriau cynyddol yn ymwneud ag ymddygiad a llesiant, perfformiad academaidd gwan, a llai o fyfyrwyr yn symud ymlaen o astudio cymwysterau UG i Safon Uwch.

Argymhelliad 4

Dylid adolygu'r trothwyon incwm aelwydydd a lefelau'r grant cynhaliaeth ar gyfer cyllid myfyrwyr, gan fod y rhain wedi aros yn eu hunfan ers Diwygiadau Diamond.

Argymhelliad 5

Mewn perthynas ag astudiaethau ôl-raddedig, dylid archwilio dichonoldeb sicrhau bod pecyn cymorth presennol y radd meistr ôl-raddedig yn efelychu'r system israddedig, gyda chyfraniadau cyllido ar wahân ar gael ar gyfer ffioedd dysgu a chostau byw, gan gynnwys Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu rhan o'r ffioedd dysgu yn uniongyrchol i brifysgolion.

Argymhelliad 6

Dylid ymchwilio i ffyrdd o symleiddio cymorth cyllid myfyrwyr i fyfyrwyr AU a'i wneud yn fwy hyblyg, er mwyn ymateb yn well i'r duedd gynyddol i ymgysylltu ag AU mewn ffordd fwy hyblyg dros oes unigolyn. Gallai hyn gynnwys gwella hyblygrwydd ar gyfer llwybrau astudio rhan-amser, modiwlaidd, dysgu o bell a llwybrau astudio carlam, gan sicrhau bod y system gyllido yn cefnogi'n ddigonol batrymau cyfranogi mwy amrywiol.

Argymhelliad 7

O ystyried bod Darparwyr AU o'r farn bod effaith Diwygiadau Diamond ar strwythurau cyllido AU ehangach wedi bod yn gyfyngedig, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i sut y gellid gweithredu'n llawn y cynigion yn Niwygiadau Diamond i ailwampio cyllid AU er mwyn cael model cyllido mwy cynaliadwy ar gyfer AU yng Nghymru.

Argymhelliad 8

Dylid ehangu cwmpas yr ymchwil i lywio'r adolygiad o Ddiwygiadau Diamond y tu hwnt i'r tair elfen sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Mae angen ailedrych ar drefniadau cyllido AU a mynd i'r afael â'r bwlch mewn cyfranogiad sy'n ehangu rhwng Cymru a gweddill y DU drwy ddull gweithredu ehangach ar lefel system.

Manylion cyswllt

Awduron: Nia Bryer, Heledd Bebb, Tanwen Grover, Kerry KilBride, Sophie Wheeler a Mariana Fikry

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Ymchwil Addysg a Sgiliau
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 16/2026
ISBN digidol: 978-1-83745-117-3

Image
GSR logo