Menter a gefnogir gan Lywodraeth y DU yw’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol (NCS). Cafodd y fenter ei threialu yng Nghymru yn hydref 2014.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Fel rhan o’r broses o fonitro rhaglen beilot NCS cafodd ymchwil i raglen beilot NCS ei chomisiynu gan yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru.
Canolbwyntiodd yr ymchwil ar gasglu barn rhanddeiliaid allweddol ym maes gwaith ieuenctid a gwirfoddoli ieuenctid yng Nghymru a barn athrawon y gwnaeth eu disgyblion gyfranogi yn y rhaglen beilot.
Mae’r adroddiad ymchwil yn darparu gwybodaeth gefndir a’r cyd-destun Cymreig ar gyfer rhaglen beilot y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yng Nghymru (2014), crynodeb o werthusiadau yn y gorffennol a’r presennol o NCS ar lefel y DU a chanlyniadau a dadansoddiad o’r ymchwil a gomisiynwyd yn fewnol (barn rhanddeiliaid).
