Ymchwil sy’n ymchwilio i sut mae lesddaliad yn gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys dosraniad a nodweddion yr eiddo lesddaliad, a barnau a phrofiadau y rhanddeiliaid.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Gwnaeth yr adroddiad bum prif argymhelliad.
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried system sy'n meintioli ac yn cofnodi dosbarthiad cartrefi lesddaliad yng Nghymru yn gywir.
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried adeiladu rhwydwaith o lesddeiliaid i wella gwybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau lesddeiliaid yng Nghymru.
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y diwygiadau ychwanegol i'r gyfraith er mwyn gwella hawliau lesddeiliaid a awgrymir gan y prosiect ymchwil hwn.
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymchwil pellach i ddeall effeithiolrwydd y system bresennol o ddatrys anghydfodau.
- Yn y tymor hwy, dylai Llywodraeth Cymru ystyried diwygiadau mwy radical i lesddaliadau, gan fabwysiadu dull mwy cyfannol a chynaliadwy.
Adroddiadau

Ymchwil i werthu a defnyddio prydlesi yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
PDF
4 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Cyswllt
Hannah Browne Gott
Rhif ffôn: 0300 062 8016
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.