Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwil defnyddwyr newydd wedi canfod mwyafrif o bobl o blaid yr egwyddor y dylai twristiaid gyfrannu tuag at gostau cynnal y cyrchfannau y maent yn aros ynddynt, a chostau buddsoddi yn y cyrchfannau hynny.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn cadarnhau bod cynlluniau ar gyfer ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn mynd rhagddynt ac y bydd deddfwriaeth a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd yn mynd gerbron y Senedd yn nhymor y llywodraeth hon.

Tâl bach fydd yr ardoll a godir ar bobl sy’n aros dros nos mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol. Mae taliadau tebyg yn gyffredin o amgylch y byd, gan gael eu defnyddio mewn dros 40 o gyrchfannau gan gynnwys Gwlad Groeg, Frankfurt, Amsterdam a Chatalwnia. Penderfyniad i awdurdodau lleol fydd cyflwyno ardoll ai peidio a bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio er budd ardaloedd lleol.

Cafwyd dros fil o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus am y ffordd orau o weithredu ardoll. Daeth yr ymgynghoriad i ben fis Rhagfyr diwethaf. Mae ei ganfyddiadau wedi’u cyhoeddi heddiw, ynghyd ag adroddiad ymchwil defnyddwyr sy’n archwilio barn y cyhoedd am ardoll ymwelwyr.

Drwy’r ymgynghoriad cafwyd adborth gan fusnesau, awdurdodau lleol a’r cyhoedd yn ehangach. Roedd yna gefnogaeth gan y mwyafrif o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, ond daeth llawer o ymatebion gan gynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth ac roedd llawer yn anghytuno ag egwyddor ardoll ymwelwyr.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad, edrychodd yr ymchwil defnyddwyr yn benodol ar farn preswylwyr yng Nghymru a phobl yn y Deyrnas Unedig sy’n mynd ar wyliau domestig. Mae canfyddiadau allweddol o’r ymchwil yn cynnwys:

  • Roedd y rhai a holwyd ar y cyfan yn cefnogi egwyddor ardoll ymwelwyr. Roedd mwyafrif (58%) o ymatebwyr yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu tuag at gostau cynnal y cyrchfannau y maent yn aros ynddynt, a chostau buddsoddi yn y cyrchfannau hynny, gan gynyddu ymysg pobl mewn ardaloedd â llawer o dwristiaeth – yng Nghymru (66%) a’r DU (72%) gyda dim ond 13% yn anghytuno.
  • Roedd y gefnogaeth gryfaf dros ardoll mewn ardaloedd sy’n denu’r mwyaf o dwristiaid. Canfu’r arolwg fod dau o bob tri o bobl yng Nghymru a ddywedodd eu bod yn byw mewn ardaloedd â llawer o dwristiaeth yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr.
  • Roedd ymatebwyr i’r arolwg yn fwy cadarnhaol na negyddol pan gyflwynwyd iddynt y cysyniad o ardoll ymwelwyr mewn ardal y maent yn mynd ar wyliau iddi neu yn eu hardal nhw. Roedd 45% yn gadarnhaol, a 25% yn negyddol ac roedd y ganran a oedd yn gadarnhaol yn uwch ymysg pobl â llawer o dwristiaeth yn eu hardal.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Wrth i wyliau’r Pasg ddynesu, gyda sawl rhan o Gymru yn paratoi at groesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn mynd ati i greu sector twristiaeth cynaliadwy sydd hefyd yn cefnogi cymunedau lleol. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau, llywodraeth leol a’n holl bartneriaid i gynllunio ardoll a fydd yn rhoi pŵer yn nwylo cymunedau lleol.”

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Rydym yn deall bod gan rai busnesau amheuon am ardoll ymwelwyr ac rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’i amser i ymateb i’r ymgynghoriad. Bydd yr ymatebion hyn yn cael eu hystyried yn ofalus wrth inni barhau i ddatblygu ein cynlluniau penodol ar gyfer ardoll. Mae llawer o lefydd o amgylch y byd yn defnyddio ardoll ymwelwyr i roi grym a hwb i’w hardaloedd lleol er budd ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd – hyderaf y bydd yn gwneud hynny yma yng Nghymru.”

Mae cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr wedi’u datblygu drwy Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru.

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru Cefin Campbell:

“Rydym am i sector twristiaeth Cymru ffynnu a bod yn gynaliadwy. Bydd yr ardoll ymwelwyr yn helpu i sicrhau hynny. Ein nod yw datblygu twristiaeth gyfrifol sy’n gweithio ar gyfer ymwelwyr a’r cymunedau maen nhw’n ymweld â nhw. Bydd awdurdodau lleol yn gallu cyflwyno cyfraniad bach gan ymwelwyr sy’n mwynhau eu hardal i helpu i ddatblygu a diogelu gwasanaethau a seilwaith lleol."