Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid inni fanteisio ar bob cyfle i arddangos bwyd a diod o ansawdd o Gymru, yn y wlad hon a thu hwnt - Lesley Griffiths

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae siopwyr o Gymru yn cydnabod bod bwyd a diod Cymru o ansawdd uchel ac o gael y cyfle, byddai'n well ganddynt brynu cynnyrch o Gymru.  Dyna ddywed ymchwil newydd fydd yn cael sylw yn sioe BlasCymru ddiwedd y mis. 

Yn ôl ffigurau'r arolwg cyntaf o "Werth Cymreictod":

  • Mae 85% o siopwyr Cymru'n credu bod bwyd a diod o Gymru o Ansawdd Gwych ac mae 80% yn credu eu bod yn Blasu'n Wych
  • Dywedodd wyth o bob deg siopwr y bydden nhw'n prynu cynnyrch o Gymru pe bai'r pris yn iawn a dywedodd 44% y bydden nhw'n fodlon talu mwy 
  • Mae siopwyr y tu allan i Gymru'n credu bod Cymru'n adnabyddus am ansawdd ei bwyd a'i diod a'u bod am gefnogi'r sector; a
  • Mae 29% y siopwyr o'r tu allan i Gymru am weld mwy o fwyd a diod o Gymru yn eu siopau

Wrth ymateb i'r ffigurau newydd, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, bod yn rhaid inni, wrth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, fanteisio ar bob cyfle i arddangos ein bwyd a'n diod o ansawdd, yn y wlad hon a thu hwnt.

Ar 21 a 22 Mawrth, bydd dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn cwrdd â thros 150 o brynwyr - traean ohonyn nhw o rannau eraill y byd - yn ffair BlasCymru / TasteWales yn y Celtic Manor, Casnewydd. Cafodd busnesau bwyd a diod o Gymru werth £16 miliwn o gontractau newydd yn ffair ddiwethaf BlasCymru yn 2017.

Meddai'r Gweinidog:

"Mae ein diwydiant bwyd a diod yn enwog trwy'r byd ac yn stori o lwyddiant yng Nghymru. Mae pobl am wybod o ble mae eu bwyd yn dod ac mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos eu bod nhw eisiau prynu cynnyrch o Gymru.

"Mewn prin 29 diwrnod, mae perygl y cawn Brexit anhrefnus o'r Undeb Ewropeaidd. Gyda'r holl gythrwfl yn San Steffan yn creu ansicrwydd economaidd, mae'n bwysicach nag erioed ei bod yn gwneud yn fawr o lwyddiannau'r sector ac yn manteisio ar bob cyfle i arddangos bwyd a diod o ansawdd o Gymru, yn y wlad hon a thu hwnt. 

"Rydyn ni eisoes wedi bod yn gweithio eleni â'r diwydiant i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor yn ffair Gulfood yn Dubai - ffair fwyd flynyddol fwya'r byd. A diwedd y mis, bydd y Celtic Manon unwaith eto'n croesawu ffair ddwyflynyddol BlasCymru. Mae ffeiriau fel y rhain wedi helpu i gynnal twf aruthrol y sector ac maen nhw'n amhrisiadwy, yn enwedig yn y dyddiau anodd hyn.

"Trwy weithio gyda'r sector, rhaid inni hyrwyddo brand Cymru gymaint ag y medrwn a gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru'n llwyddo ar ôl Brexit."

I ddathlu Gŵyl Ddewi, mae teithwyr yng ngorsaf Paddington, Llundain wedi bod yn cael eu swyno gan gôr o Gymru ac wedi cael cyfle hefyd i flasu bwyd a diod o Gymru. Ar y diwrnod mawr ei hun, bydd yna fwyd a diod o Gymru yn y Borough Market yn Llundain ac yng ngorsaf Piccadilly Manceinion lle bydd y Gweinidog yn cwrdd â chynhyrchwyr fydd yn hyrwyddo eu cynhyrchion i deithwyr.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Mae hi wedi tyfu'n ychydig o draddodiad i arddangos y bwyd a diod gorau y gall Cymru eu cynnig yng ngorsaf Paddington ar ddydd Gŵyl Ddewi. Eleni, bydd teithwyr yn Piccadilly Manceinion hefyd yn cael bod yn rhan o'r dathlu a chael blasu amrywiaeth o gynnyrch llwyddiannus gan gynnwys Wisgi o Gymru, caws Black Bomber, Bara Brith - a hyd yn oed cardiau post bwytadwy wedi'u gwneud o siocled. Rwy'n disgwyl ymlaen at fy ymweliad heddiw a chael siarad â rhai o'r cynhyrchwyr i glywed sut mae digwyddiadau fel y rhain yn helpu eu busnesau i dyfu."

Un o'r cynhyrchwyr fydd yn arddangos ei gynnyrch yn y ngorsaf Paddington, Llundain ac yn ffair BlasCymru yw Aberfalls Distillery.

Dywedodd James Wright, Pennaeth Aber Falls Whisky Distillery:

“Mae’n braf iawn cael cynrychioli’n gwlad yn Llundain wythnos yma, i ddathlu dydd Gŵyl Ddewi. Mae yna don lewyrchus newydd o fwyd a diod wrthi’n dod o Gymru ac mae hwn yn gyfle gwych i gynhyrchwyr o’r wlad gwrdd â chynulleidfa a marchnadoedd newydd gan greu, gobeithio, hyd yn oed bosibiliadau gwell i’r sector.

“Hefyd, â ninnau ar drothwy Brexit, rhaid inni barhau i fod yn uchelgeisiol dros Gymru trwy greu economi gref a ffyniannus yn y tymor hir.  Gydag enw da Cyrmu’n ddiogel, mae gennym sylfeini cryf i dyfu arnyn nhw er lles pawb.”