Ymchwiliad Covid-19 Y DU: Diweddariad ar weithredu Modiwl 1 a Modiwl 2
Dyma'r diweddariad cyntaf ar argymhellion Ymchwiliad Covid-19 y DU a gyhoeddwyd gan Lywodraeth bresennol Cymru yn dilyn etholiad Senedd 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma'r diweddariad cyntaf ar argymhellion Ymchwiliad Covid-19 y DU a gyhoeddwyd gan Lywodraeth bresennol Cymru yn dilyn etholiad Senedd 2026. Yn achos Modiwl 1, dyma'r trydydd diweddariad ar y gwaith gweithredu yn dilyn ymateb cychwynnol Llywodraeth flaenorol Cymru i adroddiad Modiwl 1 yr Ymchwiliad. Yn achos Modiwl 2, dyma'r diweddariad cyntaf ar y gwaith gweithredu yn dilyn ymateb cychwynnol Llywodraeth flaenorol Cymru i adroddiad Modiwl 2 yr Ymchwiliad.
Dylid darllen y diweddariad hwn ar y cyd â'r ymatebion a'r diweddariadau cynharach hynny, sy'n nodi'r ymrwymiadau a wnaed a'r gweithgarwch gweithredu a gyflawnwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru. Mae'r diweddariadau unigol isod yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran cyflawni, gan gynnwys lle mae gwaith a ddechreuwyd o dan y llywodraeth flaenorol yn parhau. Mae cyfeiriadau at ymrwymiadau a wnaed mewn ymatebion neu ddiweddariadau cynharach wedi'u cynnwys er mwyn rhoi'r cyd-destun ar gyfer y gwaith hwnnw ac ni ddylid eu cymryd, ynddynt eu hunain, fel ailddatganiad o'r ymrwymiadau hynny gan y Llywodraeth bresennol.
Bydd Llywodraeth bresennol Cymru yn parhau i ystyried argymhellion yr Ymchwiliad a'r gwaith sy'n deillio ohonynt yng nghyd-destun ei blaenoriaethau a'i chyfrifoldebau ei hun.
Pan fydd gweithgarwch mewn ymateb i argymhellion wedi'i gwblhau a phan fydd argymhellion wedi'u cau mewn diweddariadau blaenorol, nid ydynt wedi'u cynnwys.
Modiwl 1: Gwydnwch a pharodrwydd
Roedd Modiwl 1 yn archwilio gwydnwch a pharodrwydd y DU ar gyfer y pandemig. Roedd yn ystyried a oedd gwaith cynllunio priodol wedi'i wneud ar gyfer y pandemig ac a oedd y DU yn barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw.
Argymhelliad 2: Arweiniad Swyddfa'r Cabinet ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan yn y DU
Dylai llywodraeth y DU wneud y canlynol:
- diddymu’r model lle mae adran o’r llywodraeth yn arwain ar barodrwydd a gwydnwch system gyfan ar gyfer argyfyngau sifil
- ei gwneud yn ofynnol i Swyddfa’r Cabinet arwain y gwaith o baratoi ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan ar draws adrannau llywodraeth y DU a meithrin gwydnwch iddynt, gan gynnwys monitro parodrwydd a gwydnwch adrannau eraill, cefnogi adrannau i gywiro problemau, a chyfeirio materion at y pwyllgor gweinidogol ar lefel Cabinet Llywodraeth y DU a grŵp o uwch-swyddogion fel y nodwyd yn Argymhelliad 1.
Diweddariad ar weithredu
Fel y nodwyd yn y diweddariadau blaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu ei threfniadau ar gyfer rheoli argyfyngau hirfaith, system gyfan.
Mae gwaith ar y model ar gyfer rheoli argyfyngau parhaus hefyd yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i Argymhelliad 12 o adroddiad Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19 y DU. Felly, bydd cynnydd pellach o ran y gwaith hwnnw’n cael ei adrodd fel rhan o’n hymateb i argymhellion Modiwl 2.
Disgwylir i Gysyniad Gweithrediadau Rheoli Argyfwng Llywodraeth Cymru, sy'n nodi ein dull o reoli argyfyngau, gael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2027. Bydd yn darparu fframwaith cyffredin ar gyfer rheoli argyfyngau ac yn cefnogi ymateb cydgysylltieidig, trawslywodraethol i argyfyngau hirfaith a chymhleth.
Gan fod yr argymhelliad hwn yn ymwneud â rôl arwain Swyddfa Gabinet y DU ac nad oedd wedi'i gyfeirio at Lywodraeth Cymru, bydd bellach yn cau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru. Bydd cynnydd o ran trefniadau Cymru ei hun ar gyfer rheoli argyfyngau hirfaith yn parhau i gael ei adrodd o dan Argymhelliad 12 Modiwl 2.
Argymhelliad 3: Dull gwell o asesu risg
Dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gydweithio i ddatblygu dull newydd o asesu risg sy’n symud i ffwrdd o ddibynnu ar senarios achos gwaethaf posibl unigol tuag at ddull:
- sy’n asesu ystod ehangach o senarios sy'n cynrychioli'r risgiau gwahanol ac ystod pob math o risg
- sy’n ystyried atal a lliniaru argyfwng yn ogystal ag ymdrin â'i ganlyniadau
- sy’n darparu dadansoddiad llawn o'r ffyrdd y gall effeithiau cyfunol gwahanol risgiau gymhlethu neu waethygu argyfwng
- sy’n asesu risgiau hirdymor yn ogystal â risgiau tymor byr ac yn ystyried sut y gallant ryngweithio â'i gilydd
- sy’n cynnal asesiad o effaith pob risg ar bobl agored i niwed, ac
- sy’n ystyried capasiti a galluoedd y DU.
Wrth wneud hynny, dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gynnal asesiadau risg sy’n adlewyrchu’r amgylchiadau a’r nodweddion sy’n benodol i Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r DU gyfan.
Diweddariad ar weithredu
Ers ein diweddariad blaenorol, mae gwaith wedi parhau i gynnal a chryfhau'r dystiolaeth a ddefnyddir i asesu risgiau yng Nghymru. Caiff y sail dystiolaeth hon ei defnyddio gan ymatebwyr ac uwch-swyddogion i lywio'r gwaith o flaenoriaethu gweithgarwch cynllunio at argyfyngau a datblygu galluoedd ymateb.
Rydym yn parhau i weithio drwy Bartneriaeth Gwydnwch Cymru i ymgorffori dull mwy cyson ledled Cymru o asesu effeithiau posibl argyfyngau ar bobl agored i niwed a'r rhai ag anghenion penodol. Bwriad y gwaith hwn yw cryfhau'r ystyriaeth a roddir i bobl agored i niwed o fewn prosesau asesu risg lleol a chenedlaethol.
Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid gwydnwch i wella'r defnydd o ddata a gwybodaeth er mwyn nodi grwpiau agored i niwed a grwpiau sy'n wynebu risg. Bydd hyn yn helpu ymatebwyr i dargedu cymorth a blaenoriaethu cymorth i bobl a allai ddioddef fwyaf yn ystod argyfwng.
Mae gwaith yn parhau i wella platfform JIGSO, a gynhelir ar MapDataCymru. Bwriad y gwelliannau arfaethedig yw galluogi ymatebwyr i gael gafael ar ystod eang o wybodaeth berthnasol yn gynt, cryfhau ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd a chefnogi gwaith cydgysylltu amlasiantaethol effeithiol. Rydym yn parhau i weithio gyda darparwyr cyfleustodau i ehangu'r wybodaeth am fregusrwydd sydd ar gael drwy'r platfform, gan gynnwys gwybodaeth am y ffactorau a allai roi aelwydydd mewn mwy o berygl.
Mae'r gwaith ymgysylltu â Fforymau Gwydnwch Lleol hefyd yn parhau. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo'r defnydd o JIGSO, darparu cyfleoedd hyfforddi a sicrhau bod datblygiad parhaus y platfform yn adlewyrchu anghenion gweithredol ymatebwyr ledled Cymru.
Yn unol â'r ymrwymiadau yn Fframwaith Gwydnwch Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth hygyrch ar 13 Hydref 2026 am y risgiau mwyaf perthnasol i Gymru a'r hyn y mae'r llywodraeth a'i phartneriaid yn ei wneud i'w rheoli. Bwriad hyn yw rhoi gwybodaeth awdurdodol a dibynadwy i bobl am y risgiau y mae Cymru yn eu hwynebu a'r camau sy'n cael eu cymryd i'w rheoli. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ei gwybodaeth gyhoeddus am baratoi ar gyfer argyfyngau yn berthnasol ac yn briodol i bobl a chymunedau yng Nghymru.
Er bod prif elfennau'r argymhelliad hwn bellach ar waith, byddwn yn parhau i adolygu a chryfhau ein trefniadau asesu risg wrth i risgiau a'r dystiolaeth sydd ar gael i ni esblygu.
Argymhelliad 5: Data ac ymchwil ar gyfer pandemigau yn y dyfodol
Dylai llywodraeth y DU, gan weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, sefydlu mecanweithiau ar gyfer casglu, dadansoddi, rhannu’n ddiogel a defnyddio data dibynadwy yn amserol er mwyn llywio ymatebion brys, cyn pandemigau yn y dyfodol. Dylid profi systemau data mewn ymarferion pandemig.
Dylai llywodraeth y DU hefyd gomisiynu ystod ehangach o brosiectau ymchwil yn barod i gychwyn os bydd pandemig yn y dyfodol. Gallai'r rhain fod yn astudiaethau 'gaeafgysgu' neu'n astudiaethau presennol sydd wedi'u cynllunio i gael eu haddasu'n gyflym i frigiad newydd o achosion. Dylid annog gwell gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol. Dylai hyn gynnwys prosiectau i:
- ddeall pa mor gyffredin yw feirws newydd
- mesur effeithiolrwydd ystod o wahanol fesurau iechyd y cyhoedd, a
- nodi pa grwpiau o bobl agored i niwed sy'n cael eu taro galetaf gan y pandemig a pham.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gryfhau'r galluoedd data a digidol angenrheidiol i baratoi ar gyfer pandemigau ac argyfyngau iechyd cyhoeddus eraill yn y dyfodol, eu nodi ac ymateb iddynt.
Ers ein diweddariad blaenorol, mae rhagor o gynnydd wedi'i wneud o ran datblygu system ddigidol graidd newydd ar gyfer diogelu iechyd. Cyrhaeddodd y rhaglen garreg filltir bwysig ym mis Gorffennaf 2026, pan gwblhawyd Cam 1 yn llwyddiannus. Sefydlodd hyn y seilwaith craidd sydd ei angen i gefnogi'r gwasanaeth newydd.
Cytunwyd ar achos busnes a fydd yn darparu buddsoddiad cyfalaf o hyd at £4 miliwn yn 2026-27 i gefnogi cam nesaf y broses o ddatblygu'r system. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo yn unol â'r amserlen, gyda fersiwn dechnegol o'r system wedi'i rhyddhau'n llwyddiannus ym mis Hydref 2026, cyn symud ymlaen i'r profion hacio a'r profion derbynioldeb i’r cwsmer a gynlluniwyd wedi hynny. Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol yn y rhaglen a bydd yn ein galluogi i weithio'n llawn gyda defnyddwyr er mwyn sicrhau bod y system yn barod i fynd yn fyw ddechrau mis Chwefror.
Bydd y system newydd yn cryfhau gallu digidol Cymru i reoli digwyddiadau iechyd y cyhoedd a brigiadau. Mae'n cael ei chynllunio fel y gellir cynyddu lefel y gweithgarwch mewn ymateb i bandemig yn y dyfodol.
Bydd defnyddwyr y system Tarian bresennol yn symud i'r platfform newydd maes o law. Bydd rhagor o swyddogaethau’n parhau i gael eu datblygu a’u cyflwyno yn ystod 2027.
Mae'r gwaith o gyflwyno Set Ddata Gofal Brys Cymru (WECDS) wedi symud yn ei flaen, gyda'r Bwrdd Iechyd cyntaf bellach yn cyflwyno data adrannau brys ar ffurf WECDS fel rhan o gynllun peilot. Oherwydd pwysau gweithredol a blaenoriaethau croes, nid oedd modd cadw at yr amserlen wreiddiol ar gyfer cyflwyno'r system ar draws adrannau brys Cymru yn ystod hydref 2026. Yn dilyn asesiad pellach o'r gwaith y mae angen ei wneud, mae'r targed ar gyfer cyflwyno'r system wedi'i newid i ddiwedd Chwarter 2 2027/2028. Mae trefniadau llywodraethu a chyflawni cryfach bellach ar waith, gan gynnwys mwy o ymgysylltu uniongyrchol ag uwch-arweinwyr y Byrddau Iechyd er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r system. Hyd nes bydd y gwaith o gyflwyno'r system wedi'i gwblhau, bydd bylchau sylweddol o hyd yn y wybodaeth glinigol sydd ar gael i asesu effaith pandemig yn y dyfodol ar adrannau brys, gan gynnwys y rhesymau pam y mae cleifion yn mynd i'r adrannau hynny a pha grwpiau o gleifion nad ydynt o bosibl yn defnyddio gwasanaethau. Mae cwblhau'r gwaith cyflwyno felly yn parhau'n flaenoriaeth bwysig er mwyn cryfhau parodrwydd Cymru ar gyfer pandemig a chefnogi argymhellion yr Ymchwiliad.
Mae rhan gyntaf y strategaeth fodelu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi'i chwblhau. Roedd Rhan 1 yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa bresennol a'r ffyrdd o weithio/gydweithio mewn perthynas â modelu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gohiriwyd cyhoeddi'r ail ran oherwydd etholiad y Senedd ym mis Mai 2026 a phenodi Cabinet newydd. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi cyhoeddi y bydd cynllun strategol newydd ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn cael ei ddatblygu, a fydd yn integreiddio'r argymhellion sy'n deillio o'r gwaith ar y strategaeth fodelu. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu prosesau a seilwaith modelu cadarn y gellir eu haddasu er mwyn darparu tystiolaeth amserol o ansawdd uchel ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau mewn argyfwng, gan sicrhau galluedd ar gyfer y dyfodol a chefnogi gwelliant parhaus dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Bydd sefydlu archwiliad o ddata iechyd a gofal Cymru yn helpu i gryfhau'r ddealltwriaeth o'r data sydd gan y GIG a'r sector Gofal Cymdeithasol. Bydd gwell dealltwriaeth o faint o ddata sydd ar gael yng Nghymru ac ansawdd y data hynny yn ein galluogi i wella gwaith modelu gofal iechyd yng Nghymru yn barhaus.
Ynghyd â gwaith yr Uned Data a Thystiolaeth Gwydnwch a Diogelwch Gwladol a gwaith ehangach ar rannu data yn y sector cyhoeddus, bwriad y datblygiadau hyn yw sicrhau bod mwy o dystiolaeth ar gael ac yn cael ei defnyddio yn ystod argyfyngau iechyd cyhoeddus yn y dyfodol.
Argymhelliad 6: Ymarfer ymateb pandemig rheolaidd ledled y DU
Dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gyda’i gilydd gynnal ymarfer ymateb i bandemig ledled y DU o leiaf bob tair blynedd.
Dylai'r ymarfer wneud y canlynol:
- profi’r ymateb trawslywodraethol, cenedlaethol a lleol ledled y DU i bandemig ar bob cam, o’r brigiad cyntaf o achosion i donnau lluosog dros nifer o flynyddoedd
- cynnwys ystod eang o'r rhai sy'n ymwneud â pharodrwydd ac ymateb i bandemig, ac
- ystyried sut y bydd ystod eang o bobl agored i niwed yn cael eu helpu os bydd pandemig.
Diweddariad ar weithredu
Profodd Ymarfer Pegasws y trefniadau ar gyfer parodrwydd i wynebu pandemig ac ymateb iddo ledled y DU. Roedd yr ymarfer yn cynnwys cyfranogiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau partner, Fforymau Gwydnwch Lleol a'r trydydd sector.
Mae ymarfer wedi cael ei werthuso ar lefel y DU ac ar lefel Cymru. Disgwylir i werthusiad y DU, dan arweiniad Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wneud 13 o argymhellion eang yn cwmpasu meysydd gan gynnwys llywodraethu, cydweithio, tystiolaeth, y gweithlu, gallu digidol, cyfathrebu ac ymgysylltu â'r gymuned.
Nododd gwerthusiad Llywodraeth Cymru feysydd lle roedd y parodrwydd yn gryf yn ogystal â heriau a oedd yn codi dro ar ôl tro yn ymwneud â llywodraethu, cyfathrebu, data, gwydnwch y gweithlu a chynllunio ymarferion yn y dyfodol.
Mewn ymateb i'r hyn a ddysgwyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig pedwar argymhelliad trawslywodraethol sy'n cwmpasu:
- Llywodraethu mewn perthynas â phandemigau
- Rheoli cyfathrebu a gwybodaeth
- Galluoedd data a thystiolaeth, a
- Llywodraethu ymarferion yn y dyfodol.
Bydd y gwaith o weithredu'r argymhellion yn cael ei oruchwylio drwy drefniadau llywodraethu sefydledig, gan gynnwys y Bwrdd Parodrwydd ar gyfer Pandemig.
Disgwylir i'r adroddiadau ar gyfer y DU a Chymru gael eu cyhoeddi yn ystod gaeaf 2026. Byddwn yn sicrhau bod yr argymhellion sy'n deillio o Ymarfer Pegasws yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag argymhellion perthnasol o Ymchwiliad Covid-19 y DU a'r Senedd, yn ogystal â'r gwersi eraill a ddysgwyd yng Nghymru.
Bydd hyn yn darparu sail gydgysylltiedig ar gyfer monitro'r gwaith o weithredu'r argymhellion ac ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd yn nhrefniadau Cymru ar gyfer cynllunio at bandemigau a pharatoi ar gyfer argyfyngau yn ehangach.
Rydym hefyd yn datblygu rhaglen newydd o ymarferion i brofi galluedd, y disgwylir iddi fod ar waith erbyn gwanwyn 2027.
Argymhelliad 7: Cyhoeddi canfyddiadau a gwersi o ymarferion argyfwng sifil
Ar gyfer pob ymarfer argyfwng sifil, dylai pob un o lywodraethau’r DU, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon (oni bai bod rhesymau diogelwch gwladol dros beidio â gwneud hynny):
- gyhoeddi adroddiad ymarfer sy'n crynhoi'r canfyddiadau, y gwersi a'r argymhellion, o fewn tri mis i ddiwedd yr ymarfer
- cyhoeddi cynllun gweithredu yn nodi’r camau penodol a fydd yn cael eu cymryd mewn ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, a chan ba endid, o fewn chwe mis i ddiwedd yr ymarfer, a
- chadw adroddiadau ymarfer, cynlluniau gweithredu, a chynlluniau a chanllawiau argyfwng o bob rhan o’r DU mewn un archif ar-lein ar gyfer y DU gyfan, sy’n hygyrch i bawb sy’n ymwneud â pharodrwydd, gwydnwch ac ymateb mewn argyfwng.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i dryloywder a gwelliant parhaus o ran ei pharodrwydd ar gyfer argyfyngau sifil.
Fel y nodir o dan Argymhelliad 6, disgwylir i ganfyddiadau Ymarfer Pegasws gael eu cyhoeddi yn ystod gaeaf 2026. Bydd hyn yn rhoi disgrifiad o'r prif ganfyddiadau a gwersi a nodwyd o'r ymarfer pandemig Haen 1 a gynhaliwyd ledled y DU.
Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyhoeddi canfyddiadau a gwersi o ymarferion argyfwng sifil Haen 1 yn y dyfodol, ac eithrio pan fydd ystyriaethau dilys sy'n ymwneud â diogelwch gwladol neu ddiogelwch y cyhoedd yn atal hynny.
Mae ein trefniadau ar gyfer rheoli gwersi a ddysgwyd hefyd yn darparu modd o gofnodi a monitro'r hyn a ddysgir o ymarferion, digwyddiadau ac ymchwiliadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gwersi'n cael eu hystyried yn systemig a bod camau gweithredu priodol yn cael eu rhoi ar waith.
Gyda'i gilydd, mae'r trefniadau hyn yn darparu dull sefydledig o gyhoeddi canfyddiadau a gwersi o ymarferion argyfwng sifil Haen 1, ac o gofnodi, monitro a gweithredu ar y gwersi a nodwyd. Er y bydd cyhoeddi canfyddiadau ymarferion a rhoi'r gwersi a ddysgwyd ar waith yn parhau i fod yn weithgareddau parhaus, mae'r trefniadau angenrheidiol i roi'r argymhelliad hwn ar waith bellach wedi'u sefydlu. Rydym o'r farn felly bod yr argymhelliad hwn wedi cael sylw, ac mae bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 9: Defnydd rheolaidd o dimau coch
Dylai llywodraethau’r DU, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon gyflwyno’r defnydd o dimau coch yn y Gwasanaeth Sifil i graffu ar yr egwyddorion, y dystiolaeth, y polisïau a’r cyngor sy’n ymwneud â pharodrwydd a gwydnwch ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan. Dylid dod â'r timau coch i mewn o'r tu allan i'r llywodraeth a'r Gwasanaeth Sifil.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu Panel Annibynnol o Ymgynghorwyr Arbenigol ar Wydnwch i roi cyngor annibynnol a thrylwyr, ac i herio trefniadau Cymru ar gyfer argyfyngau sifil.
Bydd gwaith y Panel yn helpu i sicrhau bod gallu Cymru i baratoi ac ymateb yn cadw i fyny â risgiau a bygythiadau newydd sy'n dod i'r amlwg. Bydd yn ategu'r oruchwyliaeth a'r arweinyddiaeth a ddarperir drwy Fforwm Gwydnwch Cymru a Phartneriaeth Gwydnwch Cymru, ochr yn ochr â gwaith pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol Cymru.
Ar ôl ei sefydlu, bydd y Panel yn darparu dull ar gyfer her allanol a chraffu annibynnol gan arbenigwyr ar drefniadau gwydnwch Cymru.
Argymhelliad 10: Corff statudol annibynnol i’ DU gyfan ar gyfer parodrwydd a gwydnwch system gyfan ar gyfer argyfyngau sifil
Dylai llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriad â’r gweinyddiaethau datganoledig, greu corff annibynnol statudol ar gyfer parodrwydd a gwydnwch system gyfan yn wyneb argyfyngau sifil.
Dylai’r corff newydd gael cyfrifoldeb am y canlynol:
- darparu cyngor annibynnol, strategol i lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ar eu cynllunio ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan, eu parodrwydd ar eu cyfer a meithrin gwydnwch iddynt
- ymgynghori â'r sector gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol ar lefel genedlaethol a lleol a chyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd ar amddiffyn pobl agored i niwed mewn argyfyngau sifil system gyfan
- asesu cyflwr y gwaith cynllunio, y parodrwydd a’r gwydnwch ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan ledled y DU, a
- gwneud argymhellion ar y capasiti a’r galluoedd y bydd eu hangen i baratoi ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan a meithrin gwydnwch iddynt.
Fel mesur interim, dylid sefydlu’r corff newydd ar sail anstatudol o fewn 12 mis i’r Adroddiad hwn, fel y gall ddechrau ar ei waith cyn i ddeddfwriaeth gael ei phasio.
Diweddariad ar weithredu
Fel y nodir yn y diweddariad i Argymhelliad 9, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu Panel Annibynnol o Ymgynghorwyr Arbenigol ar Wydnwch i roi cyngor annibynnol a thrylwyr, ac i herio trefniadau Cymru ar gyfer argyfyngau sifil. Bydd y Panel yn helpu i sicrhau bod gallu Cymru i baratoi ac ymateb yn cadw i fyny â risgiau a bygythiadau newydd sy'n dod i'r amlwg, a bydd yn ategu'r oruchwyliaeth a'r arweinyddiaeth a ddarperir drwy'r strwythurau gwydnwch presennol.
Bydd y Panel yn darparu dull herio arbenigol annibynnol wedi'i deilwra i drefniadau gwydnwch Cymru. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Rhaglen Sicrwydd Annibynnol Llywodraeth y DU dan arweiniad Swyddfa'r Cabinet. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar barodrwydd i fynd i'r afael â'r risgiau trychinebus ledled y DU. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y rhaglen hon, lle bo hynny'n briodol.
Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Modiwl 2: Prosesau gwneud penderfyniadau'r llywodraeth
Roedd modiwl 2 yn ystyried y trefniadau llywodraethu gwleidyddol a gweinyddol craidd a'r prosesau gwneud penderfyniadau yn y DU. Edrychodd ar yr ymateb cychwynnol, y penderfyniadau a wnaed gan lywodraeth ganolog, perfformiad gwleidyddol a'r gwasanaeth sifil, yn ogystal â pha mor effeithiol oedd y berthynas â llywodraethau'r gwledydd datganoledig a'r sectorau lleol a gwirfoddol.
Argymhelliad 2: Presenoldeb y gweinyddiaethau datganoledig yng nghyfarfodydd SAGE
Dylai Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth (GO-Science) wahodd llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i enwebu nifer bach o gynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) o ddechrau unrhyw argyfwng yn y dyfodol.
Dylai statws y cynrychiolwyr hynny fel naill ai ‘cyfranogwr’ neu ‘arsylwr’ ddibynnu ar eu harbenigedd a dylai fod yn fater i SAGE benderfynu arno.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod pob un o'r pedair gwlad yn cael eu cynrychioli'n briodol pan fydd SAGE yn cael ei roi ar waith mewn argyfwng yn y dyfodol.
Ar 1 a 2 Gorffennaf 2026, cynhaliodd Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU Ymarfer ACAMAR i brofi'r trefniadau diwygiedig ar gyfer SAGE. Gwahoddwyd Prif Gynghorwyr Gwyddonol y llywodraethau datganoledig i gymryd rhan yng nghyfarfodydd SAGE o ddechrau'r ymarfer.
Roedd cydweithio agos hefyd rhwng Ysgrifenyddiaeth SAGE a Phrif Gynghorwyr Gwyddonol y llywodraeth ddatganoledig drwy gydol yr ymarfer.
Rhoddodd hyn gyfle i brofi'r trefniadau ar gyfer cynnwys y llywodraethau datganoledig yn gynnar ac roedd yn adlewyrchu'r egwyddor y dylai pob un o'r pedair gwlad allu cael cyngor gwyddonol, a chyfrannu ato, yn ystod argyfwng ledled y DU.
Ar y sail bod y trefniadau diwygiedig wedi cael eu profi drwy Ymarfer ACAMAR, rydym o'r farn bod yr argymhelliad hwn wedi'i gyflawni. Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 3: Cofrestr o arbenigwyr
Dylai Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth (GO-Science) ddatblygu a chynnal cofrestr o arbenigwyr ar draws pedair gwlad y DU a fyddai’n fodlon cymryd rhan mewn grwpiau cynghori gwyddonol, yn cwmpasu ystod eang o argyfyngau sifil posibl.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu trefniadau a fydd yn ei gwneud yn bosibl defnyddio arbenigedd gwyddonol a thechnegol o bob cwr o'r DU mewn argyfyngau yn y dyfodol.
Ym mis Mehefin 2026, diweddarwyd Cofrestr Arbenigwyr SAGE i gynnwys arbenigwyr o'r gwledydd datganoledig. Mae SAGE hefyd yn bwriadu cynnal gweithdy i'r rhai sydd ar y gofrestr er mwyn rhoi mwy o eglurder ynghylch rôl yr arbenigwyr sy'n cefnogi ei waith.
Yn ogystal â chymryd rhan yn Ymarfer ACAMAR ym mis Gorffennaf 2026, dechreuodd Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith ar gyfer cydgysylltu a rhannu cyngor gwyddonol ar draws Llywodraeth Cymru yn ystod argyfyngau.
Bydd y fframwaith yn cynnwys rhestr o arbenigwyr posibl a allai ddarparu cyngor technegol a gwyddonol yn ystod argyfwng yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn parhau i fynd rhagddo.
Bydd y trefniadau hyn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i nodi a defnyddio'r arbenigedd priodol ar gyfer Cymru, gan gyfrannu hefyd at y gronfa o arbenigwyr gwyddonol a thechnegol ledled y DU.
Argymhelliad 4: Cyhoeddi cyngor technegol
Yn ystod argyfwng sifil system gyfan, dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig – pob un ohonynt, fel mater o drefn – gyhoeddi cyngor technegol ar faterion gwyddonol, economaidd a chymdeithasol cyn gynted ag y bo modd, yn ogystal â chofnodion grwpiau cynghori arbenigol – ac eithrio pan fo rhesymau da sy’n atal cyhoeddi, megis cyfrinachedd masnachol, diogelwch personol neu ddiogelwch gwladol, neu oherwydd bod braint cyngor cyfreithiol yn gymwys.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig o hyd i sicrhau bod tryloywder wrth wraidd ei dull gweithredu mewn perthynas ag argyfyngau yn y dyfodol.
Fel y nodir yn ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru, yn ystod argyfwng sifil system gyfan yn y dyfodol ein nod fydd sicrhau cymaint o dryloywder â phosibl ynghylch y cyngor gwyddonol, economaidd a chymdeithasol sy'n llywio penderfyniadau.
Yn unol â'r ymrwymiadau yn Fframwaith Gwydnwch Cymru, byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio cyhoeddi cyngor technegol perthnasol a gwybodaeth am gyfarfodydd cyn gynted â phosibl. Byddai angen i benderfyniadau ynghylch cyhoeddi adlewyrchu amgylchiadau a hyd yr argyfwng, natur y cyngor ac unrhyw resymau dilys pam na ddylid datgelu gwybodaeth.
Gallai’r rhain gynnwys cyfrinachedd masnachol, diogelwch personol, diogelwch cenedlaethol neu fraint broffesiynol gyfreithiol. Byddai'r penderfyniad terfynol yn nwylo'r Llywodraeth Cymru a oedd mewn grym ar y pryd, gan gydbwyso tryloywder ac atebolrwydd cyhoeddus yn erbyn y risgiau sy'n gysylltiedig â datgelu gwybodaeth benodol.
Mae'r ymrwymiadau a'r trefniadau a nodwyd yn ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru yn parhau mewn grym. Ar y sail honno, rydym o'r farn bod yr argymhelliad hwn wedi cael sylw. Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 5: Cymorth i gyfranogwyr mewn grwpiau cynghori
Dylai Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth (GO-Science), Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a’r Adran Iechyd (Gogledd Iwerddon) ddatblygu telerau penodi safonol ar gyfer yr holl gyfranogwyr mewn grwpiau cynghori gwyddonol. Dylai'r telerau hyn gynnwys:
- eglurder ynghylch natur rôl unigolyn a maint ei gyfrifoldeb, yn ogystal â’r ymrwymiad amser tebygol
- taliad pan fo’r ymrwymiad amser yn golygu bod rhaid i’r unigolyn dreulio amser i ffwrdd o’i rôl barhaol
- mynediad at wasanaethau cymorth; a mynediad at gyngor ar ddiogelwch personol ac ar-lein, a gweithdrefnau ar gyfer uwchgyfeirio pryderon penodol.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddatblygu telerau penodi safonol ar gyfer cyfranogwyr mewn grwpiau cynghori gwyddonol. Bydd y trefniadau hyn yn darparu mwy o eglurder a chysondeb i arbenigwyr sy'n cefnogi'r llywodraeth yn ystod argyfyngau yn y dyfodol, gan gynnwys ynghylch eu rôl a'r cymorth sydd ar gael iddynt.
Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill, gan gydnabod manteision dull cyson ar draws y pedair gwlad lle bo hynny'n briodol.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi'r argymhelliad hwn fel rhan o raglen weithredu tymor hwy. Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled y DU i adolygu a datblygu'r telerau, yr amodau a'r cymorth sydd ar gael i gyfranogwyr mewn grwpiau cynghori gwyddonol, gan gynnwys SAGE.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfrannu at y gwaith hwn a bydd yn defnyddio'r canlyniadau i lywio trefniadau ar gyfer grwpiau cynghori gwyddonol yng Nghymru.
Argymhelliad 8: Fframwaith ar gyfer ystyried y rhai sy’n wynebu risg mewn argyfwng
Dylai llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gytuno ar fframwaith sy’n nodi pobl a fyddai’n wynebu’r risg fwyaf o gael eu heintio gan glefyd a marw o glefyd, a’r rhai sydd fwyaf tebygol o brofi effaith negyddol yn sgil unrhyw gamau a gymerir i ymateb i bandemig yn y dyfodol. Dylai’r fframwaith nodi’r camau penodol y gellid eu cymryd i liniaru’r risgiau i’r bobl hyn.
Dylai asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb fod yn rhan o’r fframwaith hwn. Pan na fo modd eu cynnal mewn argyfwng gwladol, dylid eu hadfer cyn gynted â phosibl.
Dylai pob llywodraeth gytuno a chyhoeddi yn ei hymateb i’r Adroddiad hwn sut y bydd yn sicrhau bod y fframwaith hwn yn cael ei ymgorffori yn y broses o wneud penderfyniadau mewn argyfwng a phwy fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y materion hyn yn parhau i gael eu hystyried drwy gydol argyfwng gwladol.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sydd o bosibl yn wynebu mwy o risg yn ystod argyfwng yn cael eu nodi a'u hystyried drwy gydol y prosesau paratoi, ymateb ac adfer.
Ers ein hymateb cychwynnol, rydym wedi parhau i weithio i wella'r data a'r systemau sydd ar gael i helpu ymatebwyr i nodi pobl sydd o bosibl yn wynebu mwy o risg ac i ddeall effeithiau argyfwng ar grwpiau a chymunedau gwahanol.
Rydym hefyd yn ymgysylltu â gwaith Llywodraeth y DU i ddatblygu fframwaith pandemig er mwyn nodi ac ystyried y rhai sy'n wynebu mwy o risg yn ystod argyfyngau, gan gynnwys drwy drafodaethau ar gysoni dulliau ledled y DU.
Rydym yn cyflymu'r broses o ddatblygu JIGSO, sef y gallu mapio diogel a ddefnyddir i gefnogi'r gwaith o gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt yng Nghymru. Mae rhaglen waith wedi'i sefydlu i ddatblygu JIGSO o fod yn brawf o gysyniad i fod yn wasanaeth data a mapio gwydnwch cenedlaethol.
Mae'r gwaith hwn yn cynnwys:
- Cryfhau'r trefniadau llywodraethu data
- Ehangu'r ystod o ddata sy'n gysylltiedig â bregusrwydd sydd ar gael
- Gwella ymarferoldeb JIGSO a'i alluoedd ymwybyddiaeth sefyllfaol
- Datblygu hyfforddiant a chymorth i ddefnyddwyr, a
- Sefydlu model gweithredu cynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth.
Bwriad y gwelliannau yw helpu ymatebwyr awdurdodedig i nodi pobl a chartrefi agored i niwed yn fwy effeithiol, deall effeithiau posibl digwyddiad, a thargedu cymorth lle y mae ei angen fwyaf.
Mae Grŵp Cydgysylltu Data Argyfyngau Strategol Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu gweithgor amlasiantaeth i brofi mynediad diogel drwy'r Adnodd Data Cenedlaethol yn ystod pandemig neu argyfwng arall yn y dyfodol.
Bydd y gwaith yn helpu i sefydlu'r trefniadau ymarferol angenrheidiol i alluogi data iechyd perthnasol i gael eu cyrchu a'u rannu'n gyfreithlon ac yn ddiogel. Bydd hyn yn cefnogi ymatebwyr, dadansoddwyr ac ymchwilwyr i nodi pobl sydd o bosibl yn wynebu mwy o risg, ac yn fodd o dargedu cymorth yn effeithiol yn ystod argyfwng.
Mae'r gweithgarwch hwn yn rhan o raglen waith ehangach o dan yr argymhelliad hwn. Mae hyn yn cynnwys adolygu'r gwersi a ddysgwyd o Ymarfer Pegasws, casglu tystiolaeth am anghenion data a bylchau ar draws ystod o argyfyngau, a chryfhau dull Llywodraeth Cymru o asesu'r effaith ar gydraddoldeb.
Byddwn yn parhau i ddatblygu'r trefniadau hyn ac yn ystyried canfyddiadau Ymarfer Pegasws fel rhan o'n gwaith i ymgorffori ystyriaeth i grwpiau sy'n wynebu risg wrth wneud penderfyniadau mewn argyfyngau.
Argymhelliad 10: Strwythurau gwneud penderfyniadau mewn argyfwng sifil
Dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig nodi mewn strategaethau parodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol (gweler Adroddiad Modiwl 1 yr Ymchwiliad, Argymhelliad 4) sut y bydd y broses gwneud penderfyniadau yn gweithio mewn pandemig yn y dyfodol.
Dylai hyn gynnwys darpariaeth i COBR gael ei ddefnyddio’n strwythur ymateb cychwynnol a dylai nodi sut y bydd llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn trosglwyddo o reoli pandemig drwy COBR i’w reoli drwy drefniadau ar wahân ym mhob gwlad pan ddaw’n amlwg y bydd yr argyfwng yn un tymor hwy.
Dylai gynnwys darpariaeth ar gyfer strwythurau gwneud penderfyniadau tymor hwy yn llywodraeth y DU sy’n cynnwys:
- grŵp strategaeth i bennu’r dull gweithredu cyffredinol ar gyfer pob cam o’r pandemig ac i wneud penderfyniadau ar ymyriadau mawr (e.e. gosod a chodi cyfyngiadau symud); a
- grŵp gweithredol i wneud penderfyniadau drwy gydol y pandemig ar weithredu’r strategaeth y cytunwyd arni.
Dylai dyluniad y strwythurau hyn gynnwys amlinelliad o’r gweithdrefnau gwneud penderfyniadau ar gyfer pob grŵp.
Dylai’r strategaeth wneud darpariaeth benodol ar gyfer cynnwys Cabinet y DU ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r grŵp strategaeth a’r grŵp gweithredol.
Dylai hefyd ddarparu mai Cabinetau’r DU, yr Alban a Chymru, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a ddylai wneud penderfyniadau tymor hwy yn bennaf.
Dylai’r grwpiau gwneud penderfyniadau ym mhob gwlad gynnwys gweinidog sy’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau grwpiau agored i niwed. Yn llywodraeth y DU, mae’n bosibl mai’r Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb fyddai’r gweinidog mwyaf priodol yn hyn o beth.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgorffori egwyddorion cydgysylltu effeithiol rhwng y pedair gwlad a phroses ddatganoledig o wneud penderfyniadau drwy ddatblygu ei Chysyniad Gweithrediadau ar gyfer Rheoli Argyfwng.
Mae'r Cysyniad Gweithrediadau yn nodi sut mae trefniadau rheoli argyfwng Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio â COBR, y Ganolfan Sefyllfaoedd Genedlaethol a strwythurau ymateb ehangach y DU yn ystod argyfyngau mawr. Safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylai Gweinidogion a swyddogion Cymru gael eu cynrychioli pryd bynnag y bydd trafodaethau COBR yn arwain at oblygiadau i Gymru, neu'n debygol o arwain at oblygiadau i Gymru. Mae hefyd yn cynnal yr egwyddor sylfaenol mai cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â materion datganoledig.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i gefnogi trefniadau cydgysylltu effeithiol rhwng y pedair gwlad yn ystod argyfyngau system gyfan yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gydweithrediad agos rhwng y pedair gwlad yn ystod argyfyngau. Rhaid i'r cydweithrediad hwnnw barchu cyfrifoldebau pob llywodraeth a chefnogi prosesau gwneud penderfyniadau amserol, tryloyw ac atebol.
Argymhelliad 11: Trefniadau wrth gefn ar gyfer unigolion allweddol
Dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig sefydlu trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgymryd â rolau’r Prif Weinidogion (ac yng Ngogledd Iwerddon, y dirprwy Brif Weinidog) fel y bo’n gymwys yn ystod argyfwng sifil system gyfan, os nad yw’r deiliad yn gallu ymgymryd â’i ddyletswyddau am unrhyw reswm.
Diweddariad ar weithredu
Fel y nodir yn ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu trefniadau cyfansoddiadol ac ymarferol i gynnal parhad arweinyddiaeth os na fydd y Prif Weinidog yn gallu gweithredu dros dro neu'n barhaol.
Mae'r trefniadau hyn yn sicrhau y gall swyddogaethau'r Prif Weinidog gael eu cyflawni dros dro gan unigolyn a ddynodir gan y Llywydd pan fo angen. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd enwebu Prif Weinidog newydd o fewn y cyfnod statudol os na fydd y Prif Weinidog yn gallu parhau yn ei swydd, a hynny'n barhaol.
Mae trefniadau dirprwyo gweinidogol a phrotocolau sefydledig hefyd yn sicrhau y gall y Cabinet, y llywodraeth a'r broses o wneud penderfyniadau hanfodol barhau os nad yw'r Prif Weinidog neu unigolyn allweddol arall ar gael.
Yn dilyn etholiad Senedd 2026, mae'r portffolios Gweinidogol wedi'u pennu, ac mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod trefniadau priodol ar waith i sicrhau parhad arweinyddiaeth a'r broses o wneud penderfyniadau yn ystod argyfwng system gyfan.
Rydym o'r farn felly bod yr argymhelliad hwn wedi'i gwblhau. Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 12: Tasgluoedd
Dylai’r ymateb i argyfwng sifil system gyfan yn y dyfodol gael ei gydgysylltu drwy dasgluoedd canolog, hynny yw tasglu yr un ar gyfer y DU, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Byddai’r rhain yn gyfrifol am gomisiynu a chyfosod cyngor, cydgysylltu un darlun data a hwyluso prosesau gwneud penderfyniadau. Wrth baratoi, dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, yn unigol, ddylunio’r gweithdrefnau gweithredu ar gyfer y tasgluoedd hyn. Dylai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, nodi’r rolau allweddol y mae eu hangen i redeg y tasglu a sut y byddai unigolion yn cael eu penodi i’r rolau hynny.
Dylai llywodraeth y DU hefyd nodi rôl ei thasglu o ran cefnogi gweithdrefnau gwneud penderfyniadau o fewn y strwythurau gwneud penderfyniadau ar strategaeth a gweithredu.
Dylid ymgorffori’r trefniadau hyn mewn strategaethau parodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol (gweler Adroddiad Modiwl 1 yr Ymchwiliad, Argymhelliad 4).
Diweddariad ar weithredu
Ers cyhoeddi ein hymateb cychwynnol, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ddatblygu ei model tasglu ar gyfer rheoli argyfyngau system gyfan hirfaith.
Cafodd y model ei brofi yn ystod Ymarfer Pegasws. Roedd hyn yn cynnwys trefniadau profi ar gyfer:
- Pontio o strwythurau ymateb i argyfyngau acíwt i dasglu parhaus
- Llywodraethu ac atebolrwydd
- Sicrhau a chydgysylltu adnoddau pwrpasol
- Darparu arweinyddiaeth strategol
- Integreiddio ystyriaethau o ran adfer i'r broses o wneud penderfyniadau
- Cefnogi proses effeithiol o wneud penderfyniadau yn ystod argyfwng hirfaith.
Mae'r gwersi a ddysgwyd o Ymarfer Pegasws wedi llywio datblygiad pellach y model tasglu a'i weithdrefnau gweithredu ategol.
Mae'r model yn darparu strwythur ar gyfer tasglu parhaus a phroses ar gyfer trosglwyddo o gyfnod acíwt argyfwng i drefniadau mwy hirdymor. Ei ddiben yw sicrhau y gall Llywodraeth Cymru gynnal ymateb cydgysylltiedig, trawslywodraethol pan fydd argyfwng system gyfan yn dod yn un hirfaith.
Rydym yn parhau i brofi a mireinio'r model yn erbyn ei bedwar prif amcan:
- Darparu adnoddau pwrpasol i gydgysylltu ymateb trawslywodraethol
- Sefydlu trefniadau llywodraethu i gefnogi penderfyniadau ac atebolrwydd trawslywodraethol
- Galluogi arweinyddiaeth strategol effeithiol, ac
- Integreiddio adferiad cymunedau, yr economi a chymdeithas i'r broses o wneud penderfyniadau yn gynnar.
Bydd y model tasglu parhaus cyffredinol yn rhan o Gysyniad Gweithrediadau Rheoli Argyfwng Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi bellach yng ngwanwyn 2027 yn dilyn gwaith datblygu pellach a gweithgarwch sicrwydd. Bydd trefniadau tasglu mwy manwl yn cael eu datblygu drwy gynlluniau a mapiau ffordd sy'n benodol i risgiau, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag ymateb i bandemig. Byddai cyfansoddiad unrhyw dasglu yn cael ei bennu pan gaiff ei roi ar waith, gan adlewyrchu natur a gofynion yr argyfwng penodol.
Argymhelliad 14: Cynlluniau ar gyfer cyfathrebu hygyrch
Dylai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ddatblygu cynlluniau gweithredu sy’n nodi sut yr eir ati i sicrhau bod cyfathrebu’r llywodraeth yn fwy hygyrch yn ystod pandemig.
Fan leiaf, dylai’r rhain gynnwys gwneud darpariaeth i gyfieithu cynadleddau’r llywodraethau i’r wasg i Iaith Arwyddion Prydain (ac i Iaith Arwyddion Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon) a chyfieithu cyhoeddiadau allweddol i’r ieithoedd a siaredir amlaf yn y DU.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfathrebu mewn modd clir, hygyrch a chynhwysol yn ystod pandemigau yn y dyfodol ac argyfyngau system gyfan eraill.
Roedd ein hymateb cychwynnol yn disgrifio'r canllawiau sydd eisoes ar waith i gefnogi cyfathrebu hygyrch, a'r Canllaw Cyfathrebu Cynhwysol, sy'n nodi arferion gorau ac enghreifftiau ymarferol yn seiliedig ar chwe egwyddor cyfathrebu cynhwysol.
Gwnaethom ymrwymo i ychwanegu adran bwrpasol at y Canllaw Cyfathrebu Cynhwysol ar arferion gorau wrth gyfathrebu mewn argyfwng. Cwblhawyd y gwaith hwn ym mis Medi 2026.
Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn darparu sail gryfach ar gyfer sicrhau bod hygyrchedd a chynhwysiant yn cael eu hystyried fel rhan annatod o'r gwaith o gynllunio cyfathrebu yn ystod argyfwng.
Rydym o'r farn felly bod yr ymrwymiad penodol a wnaed yn ein hymateb cychwynnol wedi'i gwblhau. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu adeiladu ar y gwaith hwn yng ngoleuni'r argymhellion a ddisgwylir o Ymarfer Pegasws ynghylch cyfathrebu hygyrch a chynhwysol.
Bydd y gwaith pellach hwn yn sicrhau bod y gwersi perthnasol a ddysgwyd o’r ymarfer yn cael eu hystyried a, lle bo’n briodol, eu hadlewyrchu yn ein trefniadau ar gyfer cyfathrebu mewn argyfwng. Rydym o'r farn felly bod yr argymhelliad hwn wedi'i gwblhau. Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 15: Craffu ar bwerau brys
Dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig sicrhau mai’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yw’r broses safonol ar gyfer deddfu pwerau sylweddol ac eang mewn argyfwng sifil, megis pandemig, o dan ddeddfwriaeth sylfaenol ym maes iechyd y cyhoedd.
Dylai unrhyw amrywiad i’r weithdrefn hon fod yn eithriad, a dylai meini prawf a mesurau diogelu clir fod ar waith i atal osgoi craffu seneddol. Dylai'r mesurau diogelu hyn gynnwys:
- ‘cymalau machlud’ ar gyfer rheoliadau a wneir gan ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, sy’n pennu dyddiad dod i ben clir, sef o fewn deufis fel arfer, a
- dyletswydd ar weinidogion i adrodd i’w deddfwrfeydd priodol bob deufis ar arfer pwerau brys.
Diweddariad ar weithredu
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru o ran yr argymhelliad hwn yn parhau'r un fath â'r hyn a nodwyd yn ein hymateb cychwynnol. Rydym yn parhau i gytuno y dylai deddfwriaeth frys fod yn glir, wedi'i diffinio'n dda ac yn destun goruchwyliaeth a chraffu seneddol priodol. Ers ein diweddariad blaenorol, ni fu unrhyw newidiadau sylweddol i'w hadrodd mewn perthynas â gweithredu'r argymhelliad hwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal y safbwynt a nodwyd yn flaenorol ynghylch y cydbwysedd priodol rhwng ymateb brys effeithiol a chraffu cadarn gan y Senedd.
Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 16: Adolygu cymhwysedd Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ar gyfer argyfyngau sifil yn y dyfodol
Dylai llywodraeth y DU gynnal adolygiad o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 i asesu ei rôl bosibl o ran rheoli argyfyngau sifil yn y dyfodol, gan gynnwys pandemigau, ac a ellid ei ddefnyddio’n fframwaith argyfwng dros dro hyd nes y bydd deddfwriaeth fwy penodol sydd â mesurau diogelu seneddol priodol yn cael ei phasio.
Dylai'r adolygiad:
- archwilio’r amodau y caniateir troi at Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 odanynt mewn argyfwng iechyd y cyhoedd
- ystyried unrhyw addasiadau i fesurau diogelu’r Ddeddf, megis y prawf clo triphlyg neu derfynau amser, a fyddai’n ei gwneud yn fwy addasadwy i bandemig, a
- chynhyrchu canllawiau clir ar gymhwysiad y Ddeddf i’w defnyddio mewn argyfyngau sifil, gan gynnwys pandemigau, i helpu i’w defnyddio fel mesur brys cyn i ddeddfwriaeth benodol – megis bil pandemig pwrpasol – gael ei phasio.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi argymhelliad yr Ymchwiliad y dylid adolygu Rhan 2 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill fel rhan o'r adolygiad parhaus o fframwaith y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Disgwylir i'r adolygiad ddod i ben erbyn mis Mawrth 2027.
Rydym yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu ystyrlon â'r llywodraethau datganoledig drwy gydol yr adolygiad. Dylai unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol gefnogi gwaith cydgysylltu effeithiol ledled y DU gan barchu cyfrifoldebau a phrosesau gwneud penderfyniadau datganoledig.
Rydym hefyd yn parhau i fod o'r farn bod yn rhaid ystyried yn ofalus addasrwydd defnyddio pwerau Rhan 2 ar gyfer argyfyngau iechyd y cyhoedd, gan gymryd i ystyriaeth y ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus bresennol y mae Gweinidogion Cymru yn arfer eu pwerau oddi tani.
Ochr yn ochr â'r adolygiad o'r ddeddfwriaeth, credwn fod achos cryf dros adolygu a diweddaru'r concordat rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Ni ddylai'r gwaith hwnnw gael ei gyfyngu i newidiadau sy'n ymwneud â Rhan 2 o'r Ddeddf yn unig. Dylai ystyried y trefniadau ehangach ar gyfer parodrwydd, ymateb, adfer a chydgysylltu rhynglywodraethol yn ystod argyfyngau system gyfan.
Mae argymhelliad yr Ymchwiliad wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am gynnal yr adolygiad o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu a bydd yn parhau i ymgysylltu â'r adolygiad hwnnw er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru a chyfrifoldebau datganoledig yn cael eu hadlewyrchu'n briodol. Gan fod y gwaith sy'n weddill yn cael ei ddatblygu drwy adolygiad dan arweiniad Llywodraeth y DU, mae'r argymhelliad hwn wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 17: Storfa ganolog ar gyfer cyfyngiadau a chanllawiau
Dylai llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ddatblygu porth ar-lein i’w ddefnyddio mewn argyfyngau sifil yn y dyfodol, lle y gall aelodau’r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth am y cyfyngiadau cyfreithiol sy’n gymwys yn eu hardal ynghyd ag unrhyw ganllawiau cysylltiedig.
Dylai’r porth hwn fod yn hawdd ei gyrraedd a dylai ei gynnwys gael ei ysgrifennu mewn iaith syml a diamwys.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau y gall pobl gael gafael ar wybodaeth glir ac awdurdodol am y cyfyngiadau cyfreithiol a'r canllawiau sy'n gymwys iddynt yn ystod argyfwng.
Fel y nodwyd yn ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru, bydd platfform dwyieithog LLYW.CYMRU yn parhau i fod yn ganolog i'n dull gweithredu. Mae'n darparu un platfform i Lywodraeth Cymru y gellir ei ddefnyddio i gyfleu cyfyngiadau cyfreithiol a chanllawiau ategol yn uniongyrchol i'r cyhoedd yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i wella'r gwaith o gydygysylltu cyfathrebu cyhoeddus yn ystod argyfyngau sifil.
Mae Swyddfa'r Cabinet wedi cadarnhau bod Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig wrthi'n cydweithio i ddatblygu egwyddorion cyfathrebu mewn argyfwng ar y cyd er mwyn cefnogi negeseuon cyhoeddus cydgysylltiedig yn ystod argyfyngau sifil yn y dyfodol.
Mae dull cyfathrebu ar gyfer y pedair gwlad bellach wedi'i ddrafftio. Ei fwriad yw cefnogi cyfathrebu cliriach a mwy cydgysylltiedig ynghylch cyfyngiadau cyfreithiol a chanllawiau, gan gynnwys eglurder ynghylch y wlad, y gwledydd neu'r ardaloedd daearyddol y mae'r wybodaeth yn gymwys iddynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar y dull drafft. Mae trafodaethau’n parhau ar draws y pedair llywodraeth i sicrhau cytundeb ar y cyd ar y dull terfynol.
Yn amodol ar sicrhau cytundeb ar y cyd, bydd y dull yn darparu sail gyffredin ar gyfer cyfleu cyfyngiadau cyfreithiol a chanllawiau yn ystod argyfyngau sifil yn y dyfodol, gan ganiatáu i bob llywodraeth ddarparu gwybodaeth awdurdodol i'r bobl y mae'n gyfrifol amdanynt.
Felly mae'r gwaith o weithredu'r argymhelliad yn mynd rhagddo'n dda.
Argymhelliad 18: Presenoldeb cynrychiolwyr y gweinyddiaethau datganoledig mewn cyfarfodydd COBR
Dylai llywodraeth y DU wahodd y gweinyddiaethau datganoledig, fel mater o arfer safonol, i enwebu gweinidogion a swyddogion perthnasol i fynychu cyfarfodydd COBR mewn achosion o argyfyngau sifil system gyfan perthnasol y mae posibilrwydd y gallent effeithio ar y DU gyfan.
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i gefnogi trefniadau cydgysylltu effeithiol rhwng y pedair gwlad yn ystod argyfyngau.
Mae Cysyniad Gweithrediadau Rheoli Argyfwng Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o eglurder ynghylch ymgysylltu â strwythurau rheoli argyfwng Llywodraeth y DU, gan gynnwys COBR a'r Ganolfan Sefyllfaoedd Genedlaethol.
Mae'n cadarnhau rôl Llywodraeth Cymru o fewn pensaernïaeth COBR yn ystod argyfyngau sy'n effeithio ar Gymru. Caiff Gweinidogion Cymru eu gwahodd i gyfarfodydd COBR perthnasol a bydd uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynd i gyfarfodydd lefel swyddogol yn ôl yr angen, yn unol â threfniadau sefydledig y DU. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfrannu ymwybyddiaeth sefyllfaol a gwybodaeth o Gymru er mwyn cefnogi darlun gweithredol cyffredin ledled y DU.
Mae'r trefniadau hyn wedi parhau i weithredu'n ymarferol. Bu'r Prif Weinidog yn bresennol yng nghyfarfodydd COBR yn ystod y tanau gwyllt yn haf 2026.
Roedd disgwyl yn wreiddiol i'r Cysyniad Gweithrediadau gael ei gyhoeddi yn ystod haf 2026. Yn dilyn gweithgarwch datblygu a sicrwydd pellach, disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2027.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno'r achos dros wahodd Gweinidogion a swyddogion Cymru i gyfarfodydd COBR pryd bynnag y bydd trafodaeth yn arwain at oblygiadau, neu'n debygol o arwain at oblygiadau, i Gymru, cymunedau Cymru, gwasanaethau cyhoeddus, seilwaith neu gyfrifoldebau datganoledig. Mae hyn yn bwysig ni waeth a yw'r risg yn deillio o faes a gedwir yn ôl neu faes datganoledig, gan fod llawer o ganlyniadau argyfyngau mawr yn dod o fewn cyfrifoldebau datganoledig.
Gan mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnull COBR a gwahodd cynrychiolwyr o'r llywodraethau datganoledig, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y trefniadau sy'n berthnasol i'w rôl o dan yr argymhelliad hwn ar waith. Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau at ddibenion adrodd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 19: Strwythur a chysylltiadau rhynglywodraethol
Er y dylai cysylltiadau rhynglywodraethol gael eu hwyluso drwy COBR yn ystod misoedd cyntaf unrhyw bandemig yn y dyfodol, dylai llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig sicrhau bod strwythur pedair gwlad penodol, sy’n ymwneud ag ymateb i’r pandemig, yn cael ei roi ar waith yr un pryd ag y bydd y trefniadau’n cael eu trosglwyddo o COBR i strwythurau penodol pob gwlad ar gyfer gwneud penderfyniadau. Dylai hwn gyfarfod yn rheolaidd yn ystod pandemig a dylai’r holl benaethiaid llywodraethau ei fynychu.
Dylai’r trefniadau ar gyfer y cyfarfodydd pedair gwlad hyn gael eu hymgorffori mewn strategaethau parodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol (gweler Adroddiad Modiwl 1 yr Ymchwiliad, Argymhelliad 4).
Diweddariad ar weithredu
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i sefydlu trefniadau ar gyfer cydgysylltu gweinidogol pedair gwlad yn ystod pandemigau yn y dyfodol ac argyfyngau system gyfan eraill.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Gweinidogion y Pedair Gwlad ym mis Mehefin 2026 a chytunwyd ar gylch gorchwyl y fforwm. Mae cyfarfod arall wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach yn 2026.
Mae sefydlu'r fforwm hwn yn darparu dull ar gyfer trafodaeth strategol rhwng Gweinidogion o'r pedair llywodraeth. Mae'n ategu'r gwaith cydgysylltu cychwynnol a wnaed drwy COBR gan gydnabod ar yr un pryd mai'r llywodraeth ddatganoledig berthnasol sy'n gyfrifol o hyd am benderfyniadau mewn meysydd datganoledig.
Mae Cyfarfod Gweinidogion y Pedair Gwlad yn darparu fforwm lle gellir ystyried trefniadau ar gyfer cydgysylltu rhynglywodraethol tymor hwy, ond nid yw ynddo'i hun yn ffurfio'r strwythur ymateb penodol i bandemig a ragwelwyd gan yr argymhelliad hwn. Felly mae angen gwaith pellach rhwng y pedair gwlad i egluro'r trefniadau cydweithio wrth i argyfwng drosglwyddo o'r cydgysylltu cychwynnol a ddarperir trwy COBR i drefniadau tymor hwy sy'n benodol i bob gwlad. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Tabl camau gweithredu
Modiwl 1: Gwydnwch a pharodrwydd
Argymhelliad 2
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Cyhoeddi'r Cysyniad Gweithrediadau | Gwanwyn 2027 | Carreg filltir wedi'i throsglwyddo i argymhelliad 12 Modiwl 2 |
Argymhelliad 3
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Comisiynu'r gwaith o ddatblygu cofrestr risgiau bwrpasol i Gymru | Hydref 2021 | Cwblhawyd |
| Penodi Prif Gynghorydd Risg | Mis Mawrth 2022 | Cwblhawyd |
| Cyfres o gynhyrchion asesu a rheoli risg newydd sy'n canolbwyntio ar sganio'r gorwel a pharatoi ar gyfer y gaeaf wedi'i datblygu a'i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru | Rhwng hydref 2022 a hydref 2023 ac yn barhaus | Ar waith ac yn cael ei dosbarthu'n rheolaidd i ymatebwyr. Cwblhawyd |
| Cwblhau canllawiau ar reoli risg i Gymru i gefnogi swyddogaethau asesu risg ymatebwyr Categori 1 | Gwanwyn 2024 | Cwblhawyd |
| Ymarfer annibynnol i sicrhau ansawdd methodolegau ac asesiadau risg | Hydref 2024 | Cwblhawyd |
| Cwblhau cofrestr risgiau Cymru | Tachwedd 2024 | Cwblhawyd |
| Cyhoeddi crynodeb o risgiau i'r cyhoedd | 13 Hydref 2026 | Cwblhawyd |
| Adolygu a diweddaru risgiau byrdymor | Mis Mawrth a mis Hydref 2025 ac yn barhaus. | Cwblhawyd |
| Adolygu a diweddaru risgiau hirdymor | Yn barhaus o hydref 2024 ymlaen | Cwblhawyd (argraffiad cyntaf). |
Argymhelliad 5
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Set Ddata Gofal Brys Cymru | Diwedd Ch2 2027/28 | Ar y trywydd cywir |
| Cyflwyno system diogelu iechyd newydd yn lle TARIAN | Gaeaf 2026 | Ar y trywydd cywir |
| Strategaeth fodelu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru | Haf 2027 | Ar y trywydd cywir |
| Uned Data a Thystiolaeth Gwydnwch a Diogelwch Gwladol | Hydref 2025 | Cwblhawyd |
| Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar brosesau casglu data'r sector cyhoeddus yng Nghymru a'i gallu i ryngweithredu | Hydref 2025 | Cwblhawyd |
Argymhelliad 6
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Ymarfer pandemig Haen 1 y DU | Hydref 2026 | Cwblhawyd |
| Diwygio Aur 5 Cymru | Mehefin 2025 | Cwblhawyd |
| Datblygu rhaglen ymarfer gallu newydd | Gwanwyn 2027 | Ar y trywydd cywir |
Argymhelliad 7
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Cyhoeddi canfyddiadau o ymarferion | Yn barhaus | Cwblhawyd |
| Sefydlu system rheoli gwersi | Gwanwyn 2025 | Cwblhawyd |
Argymhelliad 9
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Adolygiad sicrwydd annibynnol o gofrestr risgiau Cymru | Mis Hydref 2024 | Cwblhawyd |
| Sefydlu Panel Annibynnol o Ymgynghorwyr Arbenigol ar Wydnwch | Gwanwyn 2027 | Ar y trywydd cywir |
Modiwl 2: Prosesau gwneud penderfyniadau'r llywodraeth
Argymhelliad 2
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Gweithio gyda Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth, a gyda'r llywodraethau datganoledig eraill, i fireinio a chytuno ar drefniadau diwygiedig ar gyfer sicrhau cynrychiolaeth ddatganoledig yng nghyfarfodydd SAGE | Cwblhawyd |
Argymhelliad 3
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Datblygu cronfa o arbenigwyr posibl i roi cyngor technegol a gwyddonol arbenigol | Rhoi diweddariad erbyn mis Mai 2027 | Ar y trywydd cywir |
Argymhelliad 5
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Datblygu telerau penodi safonol ar gyfer cyfranogwyr mewn grwpiau cynghori gwyddonol | Parhaus – gwaith pellach yn mynd rhagddo gyda Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth – dyddiad i'w gadarnhau | Ar y trywydd cywir |
Argymhelliad 8
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Cynnal adolygiad o Ymarfer Pegasws | Cychwynnol Mawrth 2026, llawn Rhagfyr 2026 | Ar y trywydd cywir |
| Casglu tystiolaeth ar fylchau data ar draws amrywiaeth o argyfyngau | Mawrth 2027 | Ar y trywydd cywir |
Cynllun gweithredu dwy flynedd ar Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb/Cynllun Gwella Effaith ar Gydraddoldeb.
| Tachwedd 2027 | Ar y trywydd cywir |
| Profi mynediad diogel i setiau data iechyd perthnasol drwy'r Adnodd Data Cenedlaethol | Rhagfyr 2026 | Ar y trywydd cywir |
| Gwella llwyfan data JIGSO | Rhoi diweddariad erbyn mis Tachwedd 2026 | Cwblhawyd |
Argymhelliad 10
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Pennu'r portffolios Gweinidogol | Ar ôl etholiad y Senedd | Cwblhawyd |
| Cyhoeddi'r Cysyniad Gweithrediadau ar gyfer Rheoli Argyfwng | Gwanwyn 2027 | Ar y trywydd cywir |
Argymhelliad 11
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Pennu'r portffolios Gweinidogol | Ar ôl etholiad y Senedd | Cwblhawyd |
Argymhelliad 12
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Cyhoeddi'r Cysyniad Gweithrediadau ar gyfer Rheoli Argyfwng | Gwanwyn 2027 | Ar y trywydd cywir |
Argymhelliad 14
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Ychwanegu adran arferion gorau wrth gyfathrebu mewn argyfwng at y Canllaw Cyfathrebu Cynhwysol | Medi 2026 | Cwblhawyd |
Argymhelliad 16
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Cymryd rhan yn adolygiad y DU o Ran 2 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 | Mawrth 2027 | Cwblhawyd |
| Gweithio gyda Llywodraeth y DU i adolygu a diweddaru'r concordat rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru | Ar ôl etholiad y Senedd | Yn barhaus |
Argymhelliad 17
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i gydgynhyrchu cyfres newydd o egwyddorion ar gyfer cyfathrebu sy'n ymwneud â chyfyngiadau cyfreithiol a chanllawiau yn ystod argyfyngau sifil | Rhagfyr 2026 | Ar y trywydd cywir |
Argymhelliad 19
| Cam gweithredu | Erbyn pryd | Sylwadau |
|---|---|---|
| Datblygu trefniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd ar gyfer strwythurau arfaethedig | Mawrth 2027 | Ar y trywydd cywir |
