Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau ymchwiliadau cyhoeddus a'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â chanfyddiadau adroddiadau ymchwiliadau cyhoeddus ers 2024 a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru. Gallwch weld ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion, ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran eu gweithredu.
Ar hyn o bryd mae'r dudalen hon yn cynnwys argymhellion adroddiad yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig ar 20 Mai 2024, adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell ar 4 Medi 2024 ac adroddiadau Modiwlau Ymchwiliad Covid-19 sydd wedi'u cyhoeddi.
Mae gan bob ymchwiliad ei ddangosfwrdd ei hun sy'n cynnwys gwybodaeth am yr ymchwiliad hwnnw. Bydd y dangosfyrddau'n edrych ychydig yn wahanol oherwydd natur unigryw pob ymchwiliad a fformat ymateb Llywodraeth Cymru neu, yn achos yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig, y ffaith fod yr wybodaeth a gyflwynir yn ymwneud â'r DU gyfan.
