Mae'r ymchwil yn cael ei chynnal i edrych ar y ffactorau sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymchwilio i ffactorau sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref
Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cyfrannu at ymgynghoriad cyhoeddus ar ymyriadau polisi i wella ansawdd gofal cartref trwy effeithio'n gadarnhaol ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref. Bydd yr ymchwil hefyd yn darparu argymhellion, fel y bo'n briodol, ar ofynion ymchwil pellach ac ar sut y gallai Llywodraeth Cymru wella ansawdd gofal cartref trwy bolisi sy'n dylanwadu'n gadarnhaol ar unigolion i ddod yn weithwyr gofal cartref, ac i barhau yn y gwaith hwn.
Adroddiadau

Ymchwilio i ffactorau sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
