Neidio i'r prif gynnwy

Mae grŵp o bobl ifanc wedi cael eu canmol am eu gwaith ar adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn am brofiadau pobl ifanc a’u hawliau dynol yng Nghymru, gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Adroddiad Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi’i gyd-gynhyrchu gan chwe ymchwilydd gwirfoddol ifanc, a staff o Cymru Ifanc, sy’n fenter gan Plant yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cyflwynodd y grŵp yr adroddiad yn ystod ymweliad â Genefa ar gyfer cyfarfod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd ym mis Chwefror.

Ddoe, gwnaeth yr ymchwilwyr ifanc gwrdd â Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn y Senedd i lansio’r adroddiad yn ffurfiol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Hoffwn ddiolch i’r bobl ifanc hyn a’r staff o Plant yng Nghymru am y gwaith caled y maen nhw wedi’i gyflawni wrth lunio’r adroddiad cynhwysfawr hwn.

Gwnaethant ymgysylltu’n eang â phlant a phobl ifanc ledled Cymru er mwyn gallu rhannu eu barn ar faterion sy’n bwysig iddynt.

Mae’n wych bod y cynrychiolwyr a oedd wedi teithio i Genefa wedi gallu annerch aelodau Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ynghylch hawliau plant yng Nghymru.

Rwyf am ddiolch eto i’r grŵp hwn, sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf, am y ffordd y gwnaethant gynrychioli plant a phobl ifanc eraill o’r un oed â nhw, ac am eu cyfraniad gwerthfawr wrth ein helpu i wneud Cymru yn lle hyfryd i dyfu i fyny.

Mae adroddiad Cymru Ifanc yn seiliedig ar ddata gan 41 o ymgyngoriadau â phobl ifanc a gyflawnwyd gan Cymru Ifanc rhwng 2020 a 2022, gyda mwy na 1000 o bobl ifanc yn cyfrannu atynt.

Ymhlith y meysydd blaenoriaeth presennol ar gyfer pobl ifanc a nodwyd yn yr adroddiad roedd costau byw, iechyd meddwl a lles, a chaethiwed a chamddefnyddio sylweddau.

Dywedodd un o ymchwilwyr gwirfoddol Cymru Ifanc, Arthur:

Mae hawliau’r plentyn yn darparu fframwaith cadarn sy’n arwain pobl ifanc i’r dyfodol gorau posibl. Mae’r broses adolygu gyfnodol wedi cynnig cyfle inni fel gwirfoddolwyr Cymru Ifanc i graffu ar gyflwr hawliau plant yng Nghymru, gan ddefnyddio lleisiau amrywiol plant a phobl ifanc sydd yr un oed â ni, a llunio argymhellion.

Mae cymryd rhan yn y broses hon a chynrychioli pobl ifanc Cymru yn sicr wedi bod yn brofiad unwaith mewn oes. Wrth gymryd cam yn ôl, gallwn werthfawrogi pa mor bell rydym wedi dod, a ble allwn fynd yn y dyfodol.

Ychwanegodd ei gyd-ymchwilydd gwirfoddol o Cymru Ifanc, Ayse:

Cefais brofiad gwych ar y darn o waith hwn a gobeithio bydd ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru.

Mae’n bwysig iawn imi bod gan bobl ifanc lais a bod modd eu clywed.