Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (ar y pryd) i Estyn am gyngor ar ymddygiad dysgwyr mewn colegau addysg bellach yn y llythyr cylch gwaith blynyddol at Estyn ar gyfer 2024 i 2025. 

Bwriad hyn oedd ategu cais am gyngor ar ymddygiad dysgwyr mewn ysgolion. Bwriad yr adolygiad oedd dod o hyd i enghreifftiau o ymddygiad cadarnhaol a negyddol gan ddysgwyr, a gweld sut mae colegau yn ymateb.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddygiadau cadarnhaol a negyddol, yn ogystal â'r amrywiadau mewn ymddygiad ar draws gwahanol grwpiau dysgwyr a rhaglenni dysgu. Mae'r adroddiad yn ystyried sut mae colegau yn hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol ac yn rheoli ymddygiadau negyddol, ochr yn ochr â'r cymorth a'r arweiniad sydd ar gael i ddysgwyr a staff. Mae'n amlygu heriau cyfredol fel effaith barhaus pandemig COVID-19, ynghyd â'r cynnydd mewn camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a fepio.

Argymhellion

Argymhellion ar gyfer colegau addysg bellach

Argymhelliad 1

Cydweithio i sicrhau bod y rhai sydd â dulliau rheoli ymddygiad llai datblygedig yn gallu dysgu gan y rhai sydd â systemau a phrosesau mwy sefydledig, gan eu galluogi i wella a mireinio’u harferion eu hunain.

Argymhelliad 2

Sicrhau bod arweiniad clir ar gael i ddysgwyr ar ddefnydd cyfrifol o gyfryngau cymdeithasol a rhoi strategaethau targedig ar waith i reoli camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol trwy addysgu a dysgu, a phrosesau rheoli ymddygiad.

Argymhelliad 3

Nodi staff a allai fod yn profi straen cynyddol a sefydlu systemau cymorth ychwanegol, i fynd i’r afael â’u lles, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n nodweddiadol yn gweithio gyda dysgwyr mwy aflonyddgar.

Argymhelliad 4

Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith dysgwyr a staff am argaeledd timau a gwasanaethau cymorth ymddygiad arbenigol, gan sicrhau sianelau cyfathrebu clir a chyfeirio gweladwy ar draws amgylchedd y coleg.

Argymhelliad 5

Datblygu cymorth teilwredig a chynhwysol ymhellach ar gyfer dysgwyr sy’n teimlo’n fwy bregus o ganlyniad i’w nodweddion gwarchodedig, gan sicrhau bod systemau cymorth ymddygiadol yn diwallu eu hanghenion unigryw.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae argymhellion 1 i 5 ar gyfer colegau addysg bellach, ac mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'u cynnwys. Rydym wedi gofyn i Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, weithio gyda cholegau addysg bellach i helpu i roi'r argymhellion hyn ar waith.

Argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 6

Arwain ar ddatblygu strategaeth genedlaethol unedig i fynd i’r afael â fepio mewn lleoliadau addysgol, gan gydweithio â cholegau i weithredu polisïau clir, gorfodaeth gyson, ac ymgyrchoedd addysg ar risgiau iechyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y broblem o fepio ymhlith dysgwyr o ddifri. Mae hyn yn cyd-fynd â rhaglen ehangach Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad dysgwyr mewn ysgolion a cholegau addysg bellach, sy'n cynnwys uwchgynhadledd ymddygiad a digwyddiadau bord gron sydd ar y gweill. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda chydweithwyr yn y maes Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Medr a cholegau addysg bellach i ystyried canllawiau ac ymgyrchoedd addysgol.

Argymhelliad ar gyfer Medr

Argymhelliad 7

Ystyried sut gall methodolegau cyllido AB alluogi cyllid hirdymor ar gyfer colegau AB i gynnal systemau rheoli ymddygiad effeithiol a chynorthwyo i gadw staff medrus.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r argymhelliad hwn ar gyfer Medr, ac mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'i gynnwys. Byddwn yn gweithio gyda Medr i gefnogi eu cynllunio hirdymor yn y maes hwn.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar 1 Mai 2025.