Neidio i'r prif gynnwy

Y materion

1. Cynhelir Etholiad Cyffredinol y DU ar 12 Rhagfyr 2019. Dechreuodd y cyfnod cyn etholiad Llywodraeth y DU funud wedi hanner nos ar 6 Tachwedd.  

2. Safbwynt y Cabinet ar ymddygiad yn ystod etholiad cyffredinol y DU yw na ddylid, fel mater o egwyddor, newid yr ystod o weithgareddau swyddogol a gynhelir gan Weinidogion Cymru yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, ac y dylai swyddogion barhau i ddarparu cymorth yn unol â hynny. Felly, ni ddylai etholiad Senedd y DU effeithio’n ddiangen ar fusnes arferol Llywodraeth Cymru sydd eisoes wedi’i gynllunio. Yr eithriad i’r rheol hon yw na chynhelir hysbysiadau, ymgyngoriadau ac ni ryddheir cyhoeddiadau ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

3. Yn amlwg, ni fydd Gweinidogion yn cael eu cyfyngu i’r fath raddau ag y’u cyfyngwyd yn ystod etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Fodd bynnag, rhaid inni fod yn sensitif wrth ymdrin â’r cynnydd yn y gweithgareddau gwleidyddol sy’n gysylltiedig ag ymgyrchoedd yr etholiad. Mae Cod y Gweinidogion yn ei gwneud yn ofynnol inni gadw ein rolau etholaethol/gwleidyddiaeth plaid ar wahân. Bydd hyn yn arbennig o bwysig os bydd unrhyw un o aelodau’r Cabinet yn penderfynu ymgymryd â gwaith sy’n cefnogi unrhyw ymgeisydd yn etholiad cyffredinol y DU. Gallai peidio â gwahanu’r rolau hyn yn ddigon clir arwain at honiadau o gamddefnyddio adnoddau cyhoeddus at ddibenion plaid, neu o wario’n anghyfreithlon ar ran ymgeisydd.  

4. Bydd ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn fater arwyddocaol yn yr etholiad a bydd Gweinidogion Cymru am hyrwyddo safbwynt cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Nid yw Gweinidogion Cymru yn cael eu hatal rhag siarad am y mater hwn nac am unrhyw fater arall, fel yr hyn a gyflawnwyd gan Lywodraeth y DU, yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, boed hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol.

5. Er y bydd gan y Gweinidogion ryddid i weithredu yn unol â’u capasiti gwleidyddol, bydd rhaid i swyddogion lynu’n agos wrth safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Brexit, er mwyn osgoi cael eu tynnu i faes sy’n anorfod o wleidyddol.

Ymddygiad y gweinidogion

Rôl swyddogion

6. Er y bydd swyddogion yn parhau i gefnogi Gweinidogion yn y ffordd arferol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, rhaid inni sicrhau na ellir dehongli cymorth o’r fath fel ffordd o gyfrannu at ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgyrchu. Rhaid sicrhau hefyd y cynhelir amhleidioldeb gwleidyddol y gwasanaeth sifil. Yn unol â hyn, rhaid inni fod yn ofalus iawn:

  • nad yw swyddogion (gan gynnwys swyddogion swyddfa breifat) yn ymuno â ni ar ymrwymiadau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth plaid neu ymgyrchu
  • nad yw staff plaid, yn yr un modd, yn ymuno â ni ar ymrwymiadau swyddogol
  • nad ydym yn gofyn i swyddogion ein briffio ar gyfer ymrwymiadau gwleidyddiaeth plaid neu ymgyrchu, ar wahân i ddarparu gwybodaeth ffeithiol y byddent yn ei chyhoeddi i unrhyw blaid neu ymgeisydd
  • na ddefnyddir ceir swyddogol i gludo Gweinidogion rhwng ymrwymiadau ymgyrchu; ac, i’r perwyl hwn, dylai Gweinidogion osgoi ymgymryd ag ymrwymiadau ymgyrchu ar yr un pryd ag ymrwymiadau swyddogol
  • na ddefnyddir lleoliadau Llywodraeth Cymru at ddibenion ymgyrchu 

Yr unig eithriad y dylid ei gael i’r egwyddorion hyn yw y gall ysgrifenyddion dyddiadur barhau i gofnodi ymrwymiadau gwleidyddiaeth plaid yn ein calendrau swyddogol. Yn unol â chanllawiau blaenorol, bydd yr holl Ymgeiswyr Seneddol yn cael ymatebion gan Weinidogion i ohebiaeth.

Y wasg a chyhoeddusrwydd  

7. Bydd rhaid inni barhau i gyhoeddi a chyflwyno ein polisïau i’r cyhoedd yn ystod yr ymgyrch. Fodd bynnag, unwaith eto, ni ddylid caniatáu i’r gwaith hwn gael ei ddadansoddi fel gwaith gwleidyddiaeth plaid. Felly, mae’n bwysig iawn bod y rheolau arferol sy’n rheoli gwaith cyhoeddusrwydd yn cael eu dilyn.

Ymysg y rheolau hyn mae rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob darn o gyhoeddusrwydd fod:

  • yn berthnasol i’n cyfrifoldebau swyddogol
  • yn wrthrychol ac yn esboniadol
  • a heb fod yn atebol i gael ei gamddehongli fel cyhoeddusrwydd gwleidyddol.

8. Rydym yn glynu wrth y rheolau hyn fel mater o arfer, ond dylid bod yn hynod ofalus nad yw unrhyw ddatganiadau i’r wasg nac unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd arall yn torri’r rheolau hyn ac nad oes modd eu dehongli fel eu bod yn gwneud hynny, yn fwriadol nac mewn unrhyw ffordd arall.

9. Nid oes rheidrwydd arnom i ohirio gweithgareddau cyhoeddusrwydd dilys. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus os yw cyhoeddiadau yn debygol o effeithio ar etholaeth benodol neu dynnu sylw ati, yn enwedig os yw hi’n etholaeth ymylol.

Areithiau a datganiadau

10. Yn unol â Chod y Gweinidogion, ni ddylid gofyn i swyddogion lunio areithiau na datganiadau “gwleidyddol”, i’w defnyddio yn fewnol nac yn unrhyw le arall. Dylem osgoi bod yn agored i gael ein cyhuddo o ddefnyddio ymrwymiadau swyddogol fel cyfleoedd i ymgyrchu. Wedi dweud hynny, nid oes unrhyw beth yn ein hatal ni rhag gwneud sylwadau gwleidyddol yn ôl yr arfer yn ein hareithiau a’n datganiadau cyhoeddus.

Ymddygiad swyddogion

11. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael canllawiau (Atodiad 1) ynghylch sut y dylent ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad yn unol â’r egwyddor gyffredinol o fusnes fel arfer. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar y fewnrwyd maes o law. Maent yn seiliedig ar ganllawiau a luniwyd ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU 2017 ac maent yn ystyried y canllawiau blaenorol a gyhoeddodd Swyddfa’r Cabinet i’r Gwasanaeth Sifil. Rydym yn aros am ganllawiau drafft y DU a byddwn yn diweddaru ein canllawiau os bydd angen. Mae canllawiau ategol wedi’u llunio ar gyfer swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu a’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, a amlinellir mewn Atodiadau ar wahân.

Ymddygiad cynghorwyr arbennig

12. Mae’r canllawiau hefyd yn rhoi cyngor i Gynghorwyr Arbennig ar sut i ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Gofynion cyllid a goblygiadau llywodraethu

13. Nid yw’r papur Cabinet hwn yn arwain at oblygiadau newydd o ran cyllid na llywodraethu. Gellir talu am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o lunio’r canllawiau hyn o fewn y cyllidebau costau gweinyddol presennol ac arfaethedig. Rhif clirio Tîm Gweithrediadau’r Gwasanaeth Canolog (CSOT): CSOT(19/20)-MA156. Rhif clirio Cyllidebu Strategol: SB0728/5.

14. Gan nad oes unrhyw faterion o ran rheoleidd-dra na phriodoldeb, ac nid yw’r cynigion yn cael eu hystyried yn rhai newydd na chynhennus, nid oes rhaid i’r cais hwn gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan yr Uned Llywodraethu Corfforaethol.

Cyfathrebu

15. Bydd y canllawiau sydd ynghlwm wrth y papur Cabinet hwn yn cael eu cyhoeddi ar y fewnrwyd ynghyd ag eitem newyddion ar hafan mewnrwyd Llywodraeth Cymru.

Argymhellion

16. Gofynnir i Aelodau’r Cabinet nodi’r dull gweithredu y dylid ei ddilyn yn ystod y cyfnod cyn etholiad Llywodraeth y DU a’r canllawiau ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd ynghlwm yn Atodiad 1, a chydymffurfio â nhw.

Gweithio ar y cyd

17. Wrth lunio’r papur hwn, dyma’r sefydliadau a’r adrannau o Lywodraeth Cymru yr ymgynghorwyd â nhw:

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Y Prif Ystadegydd a’r Prif Swyddog Ymchwil Cymdeithasol
  • Adnoddau Dynol
  • Y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu
  • Cyllidebu Strategol
  • Gwasanaethau Cyfreithiol