Adolygiad llenyddiaeth o’r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli ar ymddygiadau diogelwch tân mewn adeiladau amlbreswyl.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr ymchwil hon oedd deall y dystiolaeth bresennol ar brofiadau preswylwyr o ran sut maent yn ymwneud â diogelwch adeiladau a’u gwybodaeth amdano, a darparu argymhellion ar sut mae ymwneud yn effeithiol â diogelwch adeiladau.
Tynnodd y dystiolaeth sylw at y ffactorau canlynol sy’n peri risg allweddol.
Canfuwyd mai oedran oedd un o'r ffactorau amlycaf a oedd yn peri risg bersonol. Grwpiau oedran hŷn oedd yn wynebu’r risg fwyaf o gael tân mewn cartref. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o gael problemau iechyd a symudedd isel, gan effeithio ar eu gallu i adael adeilad.
Canfuwyd hefyd bod namau corfforol a meddyliol yn chwarae rhan fawr yn ymddygiad pobl yn ystod tân. Roedd namau ar eu clyw yn cael eu trafod amlaf yn y dystiolaeth. Efallai na fydd y rhai sy'n fyddar neu â chlyw cyfyngedig yn cael eu rhybuddio am dân mor gyflym ag eraill. Canfuwyd bod namau symudedd hefyd yn achosi anawsterau o ran eu gallu i adael adeilad.
Roedd y rhai a oedd wedi profi tân mewn adeilad preswyl, yn enwedig pe bai wedi bod mewn adeilad amlbreswyl, yn dueddol o fod yn fwy parod, gan gynnwys cynlluniau gadael adeilad a phrynu cyflenwadau priodol.
